BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 Rhif 3230 (Cy.310)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033230w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3230 (Cy.310)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 9 Rhagfyr 2003 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2004 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 160(1) a 168 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau at berson a gyflogir mewn ysgol yn gyfeiriad at berson sy'n cyflawni gwaith y mae adran 142 o Ddeddf 2002 yn gymwys iddo.

Cais am gofrestru ysgol annibynnol
     3. Rhaid i bob cais - 

Cyflwyno ffurflen cyn pen y tri mis cyntaf o weithredu
    
4. Rhaid i berchennog ysgol gofrestredig gyflwyno i'r awdurdod cofrestru cyn pen tri mis ar ôl derbyn disgyblion, neu un disgybl os yw'r disgybl hwnnw o fewn adran 463(1)(b) o Ddeddf 1996, ffurflen ysgrifenedig rhaid ei bod yn cynnwys  - 

Ffurflen flynyddol
    
5.  - (1) Ym mhob blwyddyn ysgol rhaid i berchennog ysgol gofrestredig gyflwyno i'r awdurdod cofrestru ffurflen flynyddol ar gyfer yr ysgol honno cyn pen mis ar ôl i'r awdurdod cofrestru ofyn amdani.

    (2) Rhaid i bob ffurflen flynyddol  - 

Adroddiadau ar gamymddwyn
    
6. Rhaid i berchennog ysgol gofrestredig, cyn pen pymtheng niwrnod i gais, roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wybodaeth y mae'n gofyn amdani ac y mae'n ei hystyried yn berthnasol i'r swyddogaethau y mae'n eu harfer neu swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002, ac nad yw eisoes wedi cael ei rhoi iddo o dan Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003[3].

Tynnu ysgol o'r gofrestr
     7. Os yw'r awdurdod cofrestru wedi'i fodloni bod perchennog ysgol wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir yn rheoliadau 4, 5 neu 6, caiff dynnu'r ysgol honno o'r gofrestr.

Tramgwydd
    
8. Os bydd perchennog ysgol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion a bennir yn rheoliadau 4, 5 neu 6 bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Uchafswm ar gyfer ysgolion sydd eisoes yn bodoli
    
9. Mewn perthynas ag unrhyw ysgol a gofrestrwyd cyn 1 Ionawr 2004, mae "uchafswm y disgyblion" at ddibenion adran 162 o Ddeddf 2002 i droi, ar y dyddiad hyd ato y mae ffurflen flynyddol 2004 yn cael ei llenwi, yn nifer y disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw.

Dirymu
    
10. Mae Rheoliadau Addysg (Manylion Ysgolion Annibynnol) 1997[4] yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003



YR ATODLEN
Rheoliadau 3, 4 a 5



RHAN 1

CYFLWYNIAD

     1. Yn yr Atodlen hon  - 



RHAN 2

GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN CAIS

     2.  - (1) Enw llawn y perchennog, ac unrhyw enwau blaenorol a fu ganddo.

    (2) Naill ai  - 

    (3) Enw a chyfeiriad yr ysgol, ei chyfeiriad e-bost, ei Rhif ffôn a'i Rhif ffacs.

    (4) Os oes gan yr ysgol gorff llywodraethu, enw llawn a chyfeiriad preswyl arferol a Rhif ffôn Cadeirydd y corff hwnnw.

     3.  - (1) Ystod oedran arfaethedig y disgyblion.

    (2) Uchafswm arfaethedig y disgyblion.

    (3) P'un a yw'r ysgol ar gyfer disgyblion gwrywaidd, neu ddisgyblion benywaidd neu'r ddau.

    (4) P'un a yw'r ysgol yn darparu llety byrddio ar gyfer disgyblion.

    (5) P'un a yw'r ysgol yn derbyn disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

    (6) P'un a fydd yr ysgol yn darparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig a'r math o anhawster dysgu y darperir ar ei gyfer.

    (7) P'un a fydd yr ysgol yn darparu gofal dydd o fewn ystyr paragraff 1(2) o Atodlen 9A i Ddeddf Plant 1989[7] ar gyfer unrhyw blentyn y gofalir amdano yn yr ysgol.

    (8) Plan yn dangos gweddlun y tir a'r adeiladau a'r llety.

    (9) Cynlluniau cwricwlwm manwl, cynlluniau gwaith a gweithdrefnau asesu disgyblion.

    (10) Copïau o'r polisïau ysgrifenedig sy'n ofynnol gan reoliad 3(2) o'r Atodlen i Reoliadau Ysgol Annibynnol (Safonau) (Cymru) 2003[8].

    (11) Copi o'r drefn gwyno y mae paragraff 7 o'r Atodlen i Reoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 yn ei gwneud yn ofynnol.

    (12) P'un a yw'r perchennog yn bwriadu darparu llety byrddio i unrhyw blentyn yn yr ysgol (neu yn rhywle arall yn unol â threfniadau a wnaed ganddo) am fwy na 295 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn.

    (13) Anian grefyddol yr ysgol, os oes un.

    (14) P'un a yw tir ac adeiladau'r ysgol, gan gynnwys llety byrddio, mewn dau leoliad neu fwy, ac os felly, cyfeiriad pob un o'r lleoliadau.

    (15) Os yw'r ysgol yn elusen, neu'n cael ei rhedeg gan elusen, enw'r elusen honno a'i Rhif cofrestru.

    (16) Copi o'r Dystysgrif Ddatgelu ar y lefel briodol a ddyroddir gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cadarnhau bod y perchennog yn addas i weithio gyda phlant.

    (17) Copi o asesiad risgiau'r ysgol o dan reoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999[9] i'r graddau y mae'n berthnasol i rwymedigaethau o dan Ran II o Reoliadau Rhagofalon Tân (y Gweithle) 1997[10]).



RHAN 3

GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN YN Y FFURFLEN SYDD I'W CHYFLWYNO CYN PEN Y TRI MIS CYNTAF AR ÔL DERBYN DISGYBLION

     4.  - (1) Nifer y disgyblion ym mhob grwcircp blwyddyn perthnasol.

    (2) Yn achos ysgol â llety byrddio  - 

    (3) Yn achos ysgol sydd hefyd yn darparu addysg ran-amser, rhaid rhoi'r niferoedd y mae is-baragraff (1) yn eu gwneud yn ofynnol ar wahân ar gyfer disgyblion sy'n cael addysg ran-amser a'r rhai sy'n cael addysg lawn amser.

    (4) Yn achos ysgol gydaddysgol, rhaid rhoi'r niferoedd sy'n ofynnol gan y paragraff hwn ar wahân ar gyfer bechgyn a merched.

     5.  - (1) Nifer y disgyblion yn yr ysgol y mae'r awdurdod addysg lleol yn cynnal datganiad o achos anghenion addysgol arbennig yn unol ag adran 324 o Ddeddf 1996 mewn perthynas â hwy; ac mewn perthynas â phob un o'r disgyblion hynny  - 

    (2) Nifer y disgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn dod o dan is-baragraff (1), ond y dynodwyd bod ganddynt anghenion addysgol arbennig.

     6. Yr wybodaeth ganlynol ynghylch athrawon a gyflogir yn yr ysgol (a rhoddir niferoedd ar wahân ar gyfer dynion a merched)  - 

     7. Yr wybodaeth ganlynol ynghylch pob person a gyflogir yn yr ysgol  - 

     8.  - (1) Swm y ffioedd hyfforddi a ffioedd eraill (ac eithrio ffioedd llety byrddio) sy'n daladwy mewn perthynas â disgybl yn yr ysgol ac y mae eu talu yn un o amodau mynychu'r ysgol.

    (2) Yn achos ysgol sy'n darparu llety byrddio i ddisgyblion, swm y ffioedd byrddio blynyddol sy'n daladwy mewn perthynas â disgybl byrddio.



RHAN 4

GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN FFURFLEN FLYNYDDOL

     9. Yr holl wybodaeth a bennir gan Ran 2 a 3 o'r Atodlen hon ac eithrio'r hyn a bennir ym mharagraffau 3(6) i 3(10), 3(13) a 7.

     10. Ar gyfer pob person a ddechreuodd gael ei gyflogi yn yr ysgol neu y daeth ei gyflogaeth i ben ers dyddiad y ffurflen ddiwethaf at yr awdurdod cofrestru - 

     11. Yn y ddwy flynedd cyn dyddiad dychwelyd y ffurflen, ac eithrio yn achos y ffurflen flynyddol gyntaf, nifer y plant sy'n mynychu'r ysgol ac y darparwyd llety iddynt yno (neu yn rhywle arall yn unol â threfniadau a wnaed gan y perchennog) am fwy na 295 diwrnod yn y flwyddyn honno.

     12.  - (1) Nifer y disgyblion ym mhob grwcircp blwyddyn disgyblion 15, 16, 17 a 18 oed sy'n dilyn cyrsiau ar gyfer arholiadau.

    (2) Nifer y disgyblion ym mhob grwcircp blwyddyn o ddisgyblion 15, 16, 17 a 18 oed sydd wedi cwblhau cyrsiau ar gyfer arholiad Tystysgrif Addysg Gyffredinol (Safon Uwch neu Safon Uwch Gyfrannol), neu Dystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch (TAAU), ond sy'n aros yn yr ysgol at ddiben heblaw dilyn unrhyw gwrs pellach o'r natur honno.

    (3) Nifer y disgyblion ym mhob grwcircp blwyddyn o ddisgyblion 15, 16, 17 a 18 oed (ac eithrio'r rhai sydd yng nghategori'r disgyblion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)) sy'n mynychu'r ysgol at ddiben heblaw dilyn cyrsiau ar gyfer arholiad perthnasol.

    (4) Rhaid datgan y nifer a bennir yn y ffurflen flynyddol o dan is-baragraff (1) a (2) ar wahân ar gyfer  - 

     13. Os bu newid ar dir yr ysgol neu yn ei hadeiladau neu'i llety byrddio ers y dyddiad hyd ato y llanwyd y ffurflen flynyddol yn uniongyrchol o'i blaen (neu, yn achos y ffurflen flynyddol gyntaf, ers y dyddiad hyd ato y llanwyd yr wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais i gofrestru'r ysgol), manylion y newid hwnnw.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli Rheoliadau Addysg (Manylion Ysgolion Annibynnol) 1997 mewn perthynas â Chymru. Maent yn ymwneud â cheisiadau i gofrestru ysgolion annibynnol o dan adran 160(1) o Ddeddf Addysg 2002 ac â'r wybodaeth sydd i'w darparu'n achlysurol gan berchenogion ysgolion annibynnol o dan adran 168 o'r Ddeddf honno.


Notes:

[1] 2002 p.32. Gweler adran 212(1) ar gyfer y diffiniad o "regulations", yn eu rhinwedd hwy y mae'rheoliadau hyn a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig. Mae adran 212(1) yn diffinio "prescribed" hefyd.back

[2] 1996 p.56.back

[3] O.S. 2003/542 (Cy. 76)back

[4] O.S. 1997/2918.back

[5] 1998 p.38.back

[6] 1993 p.10.back

[7] 1989 p.41.back

[8] O.S. 2003/3234 (Cy.314).back

[9] O.S. 1999/3242.back

[10] (ch) O.S. 1997/1840; diwygiwyd gan O.S. 1999/1877.back



English version



ISBN 0 11090845 7


 
© Crown copyright 2003
Prepared 19 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033230w.html