BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 Rhif 3231 (Cy.311)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033231w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3231 (Cy.311)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 9 Rhagfyr 2003 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dirymu
    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r rheoliadau canlynol  - 

Dehongli
     3. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Sesiynau ysgol
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhennir pob diwrnod y mae ysgol yn cyfarfod yn ddwy sesiwn a wahenir gan egwyl yng nghanol y dydd oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn peri nad yw hyn yn ddymunol.

    (2) Rhaid cynnal o leiaf 380 o sesiynau mewn ysgol yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol ond er hynny nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddosbarth meithrin gyfarfod am y nifer hwnnw o sesiynau.

    (3) Pan rwystrir ysgol ar unrhyw adeg rhag cyfarfod am un neu fwy o sesiynau y bwriadwyd iddi gyfarfod, ac nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud trefniadau iddi gyfarfod ar adeg wahanol ar gyfer y sesiynau hynny, ymdrinnir â'r ysgol at ddibenion paragraff (2) fel pe bai wedi cyfarfod yn unol â'r bwriad.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ar bob diwrnod y bydd ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin yn cyfarfod rhaid darparu o leiaf deirawr o weithgareddau addas.

    (5) Mae'n ddigonol darparu gweithgareddau addas am awr a hanner i ddisgybl ar ddiwrnod pan fydd y disgybl  - 

    (6) Mewn ysgol sy'n cyfarfod ar chwe diwrnod o'r wythnos gall fod un sesiwn yn unig ar ddau o'r dyddiau hynny.

    
5.  - (1) Pan fydd sesiwn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2003 - 2004 wedi'i neilltuo'n llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 4 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.

    (2) Pan fydd sesiwn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2004 - 2005 wedi'i neilltuo'n llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 4 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.

    (3) Pan fydd sesiwn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2005 - 2006 wedi'i neilltuo'n llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 4 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.

    (4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys ond mewn perthynas â sesiynau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2004 ac nid oes dim ym mharagraffau (1), (2) a (3) i fod yn effeithiol mewn perthynas â mwy na dwy sesiwn ysgol ym mhob blwyddyn ysgol.

    (5) Mae paragraff (1) yn gymwys i hyfforddiant sy'n ymwneud â datblygu trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i'r cyfnod allweddol cyntaf a throsi rhwng y cyfnodau allweddol ac ar gyfer cynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 fel y'i diwygiwyd.

Mae Rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyd y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol.

Mae Rheoliad 5 yn darparu na cheir trin mwy na dwy sesiwn ysgol a neilltuwyd ar gyfer hyfforddi athrawon mewn datblygu trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i'r cyfnod allweddol cyntaf a throsi rhwng y cyfnodau allweddol ac ar gyfer cynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm ym mhob un o'r blynyddoedd ysgol 2003 - 2004, 2004 - 2005 a 2005 - 2006 fel sesiynau pan gyfarfu'r ysgol.


Notes:

[1] 1996 p.56; mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). I gael ystyr "regulations" a "prescribed" gweler adran 579(1).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2000/1323 (Cy.101).back

[4] O.S. 2001/2499 (Cy. 202).back

[5] O.S. 2002/107 (Cy. 12).back

[6] O.S. 2002/1556 (Cy. 153).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090828 7


 
© Crown copyright 2003
Prepared 16 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033231w.html