BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 Rhif 3234 (Cy.314)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033234w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3234 (Cy.314)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 9 Rhagfyr 2003 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2004 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 157(1) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud yn Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

     3. Y gofynion a osodir yn yr Atodlen yw'r safonau ysgol annibynnol at ddibenion Pennod 1 o Ran 10 o Ddeddf 2002.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003



ATODLEN
Rheoliad 3


SAFONAU YSGOL ANNIBYNNOL


Ansawdd yr addysg a ddarperir
     1.  - (1) Mae ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol yn bodloni'r safon os bodlonir y gofynion yn is-baragraffau (2) i (5).

    (2) Rhaid i'r ysgol lunio polisi ysgrifenedig ar y cwricwlwm, ei ategu â chynlluniau a chynlluniau gwaith priodol, a'i weithredu'n effeithiol; bydd y polisi'n darparu ar gyfer y canlynol  - 

    (3) Rhaid i'r addysg yn yr ysgol  - 

    (4) Rhaid bod gan yr ysgol fframwaith i werthuso perfformiad y disgyblion, naill ai yn ôl amcanion yr ysgol ei hun fel y'u disgrifiwyd i'r rhieni, neu yn ôl y safonau cenedlaethol arferol, neu yn ôl y ddau.

    (5) Rhaid i'r ysgol ddarparu addysg effeithiol i bob disgybl mewn dosbarth er mwyn iddynt ddatblygu, gan gynnwys disgyblion â datganiadau a'r rhai y mae'r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.

Datblygu disgyblion yn ysbrydol, moesegol, cymdeithasol a diwylliannol
     2. Mae datblygiad ysbrydol, moesegol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn yr ysgol yn bodloni'r safon os bydd yr ysgol yn hyrwyddo egwyddorion sy'n: - 

Llesiant, iechyd a diogelwch disgyblion
     3.  - (1) Mae llesiant, iechyd a diogelwch disgyblion yn yr ysgol yn bodloni'r safon os bodlonir y gofynion yn is-baragraffau (2) i (9).

    (2) Rhaid i'r ysgol lunio polisi ysgrifenedig, a'i weithredu'n effeithiol, er mwyn  - 

    (3) Os bydd ysgol yn darparu llety byrddio, wrth ddarparu'r llety hwnnw rhaid ystyried y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Byrddio 2003[7] neu, os yw'n briodol, y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl 2003[8].

    (4) Rhaid i'r ysgol ystyried unrhyw ganllawiau gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfrifoldebau a phwerau ysgolion ym maes iechyd a diogelwch.

    (5) Rhaid i'r ysgol fod yn foddhaol o ran diogelwch rhag tân, a bod hyn wedi'i gydnabod yn  - 

    (6) Rhaid bod gan yr ysgol bolisi Cymorth Cyntaf boddhaol a rhaid iddi ei roi ar waith yn effeithiol.

    (7) Rhaid trefnu bod staff yr ysgol yn sicrhau bod y disgyblion yn cael eu goruchwylio yn briodol ac yn effeithiol.

    (8) Rhaid i'r ysgol gadw cofnodion ysgrifenedig o'r cosbau a roddwyd i ddisgyblion am dramgwyddau disgyblaeth difrifol.

    (9) Rhaid i'r ysgol gadw cofrestr derbyn a chofrestr presenoldeb yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995 [11].

Addasrwydd perchnogion a'r staff
     4. Mae'r perchnogion a'r staff yn addas ac yn bodloni'r safon  - 

Tir, adeiladau a llety byrddio ysgolion
     5. Mae tir, adeiladau a llety byrddio yn bodloni'r safon  - 

Darparu gwybodaeth
     6.  - (1) Mae'r ysgol yn bodloni'r safon o ran darparu gwybodaeth os yw'r gofynion ym mharagraffau (2) i (9) wedi eu bodloni.

    (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (10), rhaid i'r ysgol roi i'r rhieni, ac os gwneir cais, i'r Prif Arolygydd, i'r Cynulliad Cenedlaethol, neu i gorff sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 163(1)(b) o Ddeddf 2002  - 

    (3) Yn sgil arolygiad a wnaed o dan adran 163(1) o Ddeddf 2002, mae'n rhaid i'r ysgol anfon y canlynol at rieni pob disgybl a gofrestrwyd, erbyn dyddiad a bennir gan y corff a gyflawnodd yr arolygiad  - 

    (4) Os anfonwyd crynodeb o'r adroddiad yn unol â pharagraff 3(a), rhaid i'r ysgol wneud trefniadau i rieni gael gweld yr adroddiad llawn os byddant yn gofyn amdano.

    (5) Rhaid i'r ysgol roi adroddiad ysgrifenedig i rieni pob plentyn a gofrestrir am ei ddatblygiad a'i gyraeddiadau ym mhob prif bwnc a ddysgir.

    (6) Rhaid i'r ysgol roi i unrhyw gorff sy'n gwneud arolygiad o dan adran 163 o Ddeddf 2002 - 

    (7) Os yw disgybl sy'n cael ei ariannu yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr awdurdod lleol wedi ei gofrestru yn yr ysgol, rhaid rhoi cyfrif blynyddol wedi ei archwilio o'r incwm a gafwyd a'r gwariant a wnaed gan yr ysgol i'r Awdurdod Addysg Lleol ac i'r Cynulliad Cenedlaethol os gofynnir amdano.

    (8) Os oes disgybl sydd â datganiad wedi ei gofrestru yn yr ysgol, rhaid i'r ysgol roi i'r awdurdod addysg lleol yr wybodaeth y gellid yn rhesymol ofyn amdani at ddibenion adolygiad blynyddol o'r datganiad.

    (9) Rhaid darparu copi o'r asesiad risgiau y cyfeirir ato ym mharagraff 3(5)(a) o'r Atodlen hon os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano.

    (10) Mewn perthynas â pharagraffau (e) i (ng) o is-baragraff (2), ar yr amod bod yr ysgol yn sicrhau bod rhieni disgyblion a darpar ddisygblon yn ymwybodol bod yr wybodaeth honno ar gael, nid oes rhaid iddi ei darparu iddynt ond os ydynt yn gofyn amdani.

Sut i ymdrin â chwynion
     7. Mae'r ffordd y mae'r ysgol yn ymdrin â chwynion yn bodloni'r safon os oes ganddi drefn gwyno sy'n  - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y Safonau Ysgol Annibynnol ("y safonau") y bydd ysgol annibynnol yn cael eu harolygu yn unol â hwy o dan adrannau 160(4) a 163(2) o Ddeddf Addysg 2002 ("Deddf 2002"). Bydd y person sy'n gwneud yr arolygiad yn rhoi adroddiad o dan adran 163(3) o Ddeddf 2002 a fydd yn asesu i ba raddau y bodlonir y safonau.

Bydd yr awdurdod cofrestru yn ystyried adroddiad yr arolygiad ac unrhyw dystiolaeth arall wrth benderfynu a ddylai'r ysgol fod yn gofrestredig, neu a ddylai barhau i fod yn gofrestredig o dan adran 161 o Ddeddf 2002.

Mae'r Atodlen yn nodi manylion y safonau.


Notes:

[1] 2002 p.32; gweler adran 212(1) am y diffiniad o "regulations" yn ei rinwedd mae'r Rheoliadau hyn a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gymwys i Gymru'n unig. Mae adran 212(1) yn diffinio "prescribed" hefyd.back

[2] 1996 p.56.back

[3] 2002 p.32.back

[4] O.S. 1999/2002.back

[5] 1947 p.41.back

[6] 1998 p.38.back

[7] ISBN 0 7504 3077 X ar gael ar http://www.wales.gov.uk/subisocialpolicycarestandards/content/regulationsfinal-e.html.back

[8] ISBN 0 7504 3076 1 ar gael ar http://www.wales.gov.uk/subisocialpolicycarestandards/content/regulationsfinal-e.html.back

[9] O.S. 1999/3242.back

[10] O.S. 1997/1840, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1877.back

[11] O.S. 1995/2089, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/2624.back

[12] Mae'r gofyniad hwn yn cael ei ragnodi gan adran 28D o Ddeddf Discrimineiddio Anabledd 1995 p.50, a oedd ei hun wedi ei fewnosod gan adran 14(1) o Ddeddf Anghenion Addysgol ac Anabledd 2001 a pharagraff 26 o Atodlen 1 o Ddeddf Addysg 2002, p.32.back

[13] O.S. 2003/2531.back

[14] O.S. 1995/2089.back



English version



ISBN 0 11090843 0


 
© Crown copyright 2003
Prepared 19 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033234w.html