BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig)(Sir Gaerfyrddin) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040104w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif104 (Cy.11)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig)(Sir Gaerfyrddin) 2004

  Wedi'i wneud 20 Ionawr 2004 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2004 

GAN FOD Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi gwneud cais i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") wneud Gorchymyn o dan baragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991[1] mewn perthynas â'r sir honno a'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymghynghori â Phrif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys yn unol â gofynion paragraff 1(3) a 2(3) o'r Atodlen honno a Chyngor y Tribiwnlysoedd yn unol â gofynion adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992[2];

     YN AWR, GAN HYNNY, mae'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraffau 1(1), 2(1) a 3(3) o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 a phob pwcirc er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw[3], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig)(Sir Gaerfyrddin) 2004, ac mae'n dod i rym ar 1 Chwefror 2004.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn:

Dynodi ardal barcio a ganiateir ac ardal barcio arbennig
     3. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn dynodi'r ardal barcio  - 

Addasu a chymhwyso Rhan II o Ddeddf 1991
    
4. Mae adrannau 66, 69 i 74, 78, 79 ac 82 o Ddeddf 1991 ac Atodlen 6 iddi yn gymwys mewn perthynas â'r ardal barcio ac yn ôl y cymhwysiad hwnnw mae'n effeithiol yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

Addasu Deddf 1984
    
5. Addesir Deddf 1984 mewn perthynas â'r ardal barcio fel a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Ionawr 2004



ATODLEN 1
Erthygl 4


ADDASIADAU I DDARPARIAETHAU RHAN II O DEDDF TRAFFIG FFYRDD 1991 A GYMHWYSIR MEWN PERTHYNAS Â'R ARDAL BARCIO


     1.  - (1) Addesir adran 66 fel a ganlyn.

    (2) Yn is-adran (1) hepgorer y geiriau "in a designated parking place".

    (3) Hepgorer is-adran (2).

    (4) Yn is-adran (3) - 

    (5) Hepgorer is-adran (4).

    (6) Yn is-adran (5) yn lle paragraff (b) rhodder - 

     2.  - (1) Addesir adran 69 fel a ganlyn.

    (2) Yn lle is-adran (1) rhodder - 

    (3) Yn lle is-adran (8) rhodder - 

     3.  - (1) Addesir adran 71 fel a ganlyn.

    (2) Yn is-adran (1) yn lle'r geiriau "a London authority" rhodder "the parking authority".

    (3) Yn lle is-adran (4) rhodder - 

     4.  - (1) Addesir adran 73 fel a ganlyn - 

    (2) Yn lle is-adrannau (1) i (3) rhodder - 

    (3) Yn is-adran (5) yn lle'r geiriau "the appointing authorities" rhodder "the parking authority".

    (4) Hepgorer is-adrannau (8) i (10).

    (5) Yn is-adran (11) yn lle'r geiriau " The Secretary of State" rhodder "The National Assembly for Wales".

    (6) Ar ôl is-adran (12) rhodder yr is-adran ganlynol  - 

    (7) Yn is-adran (18) am y geiriau "the Secretary of State for Wales" rhodder " the National Assembly for Wales".

     5. Yn lle adran 74 rhodder y canlynol - 

     6.  - (1) Addesir adran 78 fel a ganlyn.

    (2) Ar ôl is-adran (7), rhodder yr is-adran ganlynol - 

     7.  - (1) Addesir adran 82 fel a ganlyn.

    (2) Yn lle is-adran (1) rhodder - 

    (3) Hepgorer is-adrannau (1A), (1B) a (1C).

    (4) Yn is-adran (5) yn lle'r geiriau "the London authority concerned" rhodder "the parking authority".

    (5) Hepgorer (6) y geiriau "on a Minister of the Crown".

    (6) Yn is-adran (7) ar ôl y geiriau "Any statutory instrument made" mewnosoder "by the Lord Chancellor."

     8.  - (1) Addesir Atodlen 6 fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 1(1) yn lle'r geiriau "the London authority concerned" rhodder "the parking authority".

    (3) Ym mharagraff 1(3) yn lle'r geiriau "The Secretary of State" rhodder "The National Assembly for Wales".

    (4) Ym mharagraff 2 - 

    (5) Ym mharagraff 3 yn lle'r geiriau "the London authority concerned" yn y ddau le y maent yn digwydd rhodder "the parking authority".

    (6) Ym mharagraff 4 yn lle'r geiriau "the London authority concerned" ac yn lle'r geiriau "the authority" rhodder "the parking authority".

    (7) ym mharagraff 5 - 

    (8) Ym mharagraff 6 - 

    (9) Ym mharagraff 7, yn lle'r geiriau "the authority concerned" rhodder "the parking authority".

    (10) ym mharagraff 8 - 



ATODLEN 2
Erthygl 5


ADDASIADAU YN NEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984


     1.  - (1) Addesir adran 46 fel a ganlyn.

    (2) Hepgorer is-adran (1).

    (3) Yn is-adran (1A) yn lle "Greater London" rhodder "the parking area".

     2.  - (1) Diwygir adran 55 fel a ganlyn - 

    (2) Yn lle is-adran (1) rhodder - 

    (3) Hepgorer is-adrannau (3A) a (3B).

     3. Yn adran 63A(4)  - 

     4.  - (1) Addesir adran 101 fel a ganlyn.

    (2) Hepgorer is-adran (4).

    (3) Yn is-adran (4A) yn lle'r geiriau "Greater London" rhodder "the parking area".

    (4) Hepgorer is-adran (5).

    (5) Yn is-adran (5A) yn lle'r geiriau "Greater London" rhodder "the parking area".

     5.  - (1) Addesir adran 102 fel a ganlyn.

    (2) Yn lle is-adran (1) rhodder - 

    (3) Hepgorer is-adran (2).

    (4) Yn is-adran (4) rhodder  - 

    (5) Hepgorer is-adran (7).

    (6) Yn is-adran (8) hepgorer y diffiniad o "appropriate authority".

     6. Yn adran 142(1) cyn y diffiniad o "parking meter" rhodder - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi Sir Gaerfyrddin yn ardal barcio a ganiateir yn ogystal ag ardal barcio arbennig yn unol ag Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 ac mae'n cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodedig o Ran II o'r Ddeddf honno i'r ardal a ddynodir (y cyfeirir ati yn y Gorchymyn fel "yr ardal barcio"). Mae'r Gorchymyn hefyd yn addasu Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 mewn perthynas â'r ardal honno (Atodlen 2).


Notes:

[1] 1991 p. 40. Diwygiwyd Atodlen 3 gan Orchymyn Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (Diwygio Atodlen 3)(Cymru a Lloegr) 1996 (O.S.1996/500), gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), Atodlen 7, paragraff 43 a Deddf Llywodraeth Leol etc. (yr Alban) 1994 (p.39), Atodlen 13, paragraff 171.back

[2] 1992 p.53.back

[3] Trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] 1984 p.27. Diwygiwyd adran 32(4) (a), ac amnewidiwyd adran 45(1), gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8, paragraffau 39 a 44. Mewnosodwyd adrannau 46(1A), 63A a 101(4A) a (5A) gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991, adrannau 64(2), 44(1) a 67(4) a (6). Diwygiwyd adran 102(8) gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991, adran 68(3).back

[5] 1998 p.38.back

[6] 1972 p. 70.back

[7] O.S. 2004/104 (Cy.11).back

[8] 1988 p.53.back



English version



ISBN 0 11090857 0


  © Crown copyright 2004

Prepared 29 January 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040104w.html