BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040254w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif254 (Cy.29)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 4 Chwefror 2004 
  Yn dod i rym 9 Chwefror 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(2) a (4), a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 9 Chwefror 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau am grant a wnaed ar neu ar ôl 9 Chwefror 2004 i awdurdodau tai lleol yng Nghymru[
2].

Diwygiadau
     2. Mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996[3] yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliadau canlynol.

Rheoliad 2
     3. Yn lle rheoliad 2 (ffurflenni cais am grant) rhowch  - 

Yr Atodlen
    
4. Mae'r ffurflen a welir yn yr Atodlen yn cael ei diwygio yn y modd a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Chwefror 2004



YR ATODLEN
Rheoliad 4


DIWYGIO'R FFURFLEN RAGNODEDIG


     1. Yn lle pennawd y ffurflen ac yn lle'r cyfan o'r testun sy'n dod o flaen Rhan 1 rhowch  - 

     2. Yn y testun mewn italig o flaen cwestiwn 1.1, hepgorwch y geiriau o "Throughout" i "in the Act".

     3. Yng nghwestiynau 1.2A, 1.3, 1.5 ac 1.9 yn lle "property" rhowch "premises".

     4. Yn lle cwestiwn 1.7 a'r pennawd o'i flaen rhowch  - 

     5. Hepgorwch gwestiynnau 1.8 ac 1.18.

     6. Yng nghwestiwn 1.10 and 1.11 yn lle "this property" rhowch "these premises."

     7. Yn lle Rhan 2 (yn cynnwys Rhannau 2 i 2C) rhowch  - 



     8. Ar ddechrau Rhan 3, yn lle'r testun mewn italig o flaen cwestiwn 3.1 rhowch  - 

Note 47A

     9. Yng nghwestiwn 3.1 ar ôl "income support" mewnosodwch ", guarantee credit".

     10. Yng nghwestiwn 3.9 hepgorwch yr eitem ynglyn â chredyd treth person anabl.

     11. Yng nghwestiynau 3.9, 3.12, 3.13, 3.29 a 3.30 yn lle "invalid care" (pryd bynnag y mae'r geiriau hyn yn ymddangos) rhowch "carer's".

     12. Yng nghwestiwn 3.26  - 

     13. Yng nghwestiwn 3.29  - 

     14. Yn Rhan 4, yn lle paragraff 4.1(c) rhowch  - 

     15. Yn Nodyn 1, yn lle "the property" rhowch "the premises" ac yn lle "at that property" rhowch "there".

     16. Yn lle Nodyn 4 rhowch  - 

     17. Ar ôl Nodyn 5 mewnosodwch  - 

     18. Hepgorwch Nodiadau 6, 14, 15, 22 i 26, 28 i 30, 32, 33, 39, 41 i 47 a 54A.

     19. Yn Nodyn 12 yn lle "Where the application is for disabled facilities grant, the" rhowch "The".

     20. Yn Nodyn 13 hepgorwch y darn o "Section 29 does" hyd at y diwedd.

     21. For Notes 16 to19 substitute  - 

     22. Yn lle Nodyn 31 rhowch  - 

     23. For Note 34 substitute  - 

     24. Yn Nodiadau 35 a 36 hepgorwch "relating to an application for disabled facilities grant" (yn y ddau le).

     25. Ar ôl Nodyn 36 mewnosodwch  - 

     26. Yn Nodyn 37 hepgorwch "for the purposes of disabled facilities grant".

     27. Yn Nodyn 40 hepgorwch "disabled facilities".

     28. Ar ddiwedd Nodyn 47A[
5] ychwanegwch  - 

     29. Ar ddiwedd Nodyn 48 ychwanegwch  - 

     30. Yn Nodyn 55(a), yn lle "invalid care" rhowch "carer's".

     31. Ar ôl Nodyn 73 mewnosodwch  - 

     32. Yn lle Nodyn 84B[6] rhowch  - 

     33. Yn Nodyn 93 ar ôl "maternity leave" mewnosodwch "paternity leave or adoption leave".

     34. Yn Nodyn 95(1)(a) hepgorwch "disabled person's tax credit (previously known as disability working allowance)".



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflen a welir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996 (O.S. 1996/2891). Y ffurflen ragnodedig ar gyfer ceisiadau am grant o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ("y Ddeddf") yw'r ffurflen. Mae'r cwestiynau a'r nodiadau sydd wedi'u cynnwys yn y ffurflen ragnodedig yn adlewyrchu'r rheolau prawf moddion ar gyfer ceisiadau am grant sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890) ("Rheoliadau 1996").

Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau am grant sy'n cael eu gwneud ar neu ar ôl 9 Chwefror 2004 i awdurdodau tai lleol yng Nghymru. Maent yn ganlyniad i newidiadau a wnaed i'r Ddeddf gan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) Lloegr a Chymru 2002 (O.S. 2002/1860) ("Deddf 2002") a chan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/) ("Rheoliadau 2004").

O ganlyniad i'r newidiadau a wnaed gan Orchymyn 2002 a Rheoliadau 2004, mae'r ffurflen ragnodedig yn cael ei diwygio gan y Rheoliadau hyn fel y bo'n gymwys yn unig i geisiadau (heblaw cais landlord) am grant tuag at gostau gwaith y mae ei angen i ddarparu cyfleusterau ar gyfer personau anabl.

Yn rhinwedd y newidiadau a wnaed i'r Ddeddf gan Orchymyn 2002, gall ceisiadau am grant gael eu gwneud bellach gan feddianwyr cychod preswyl cymwys a chartrefi parc cymwys ac mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflen ragnodedig i adlewyrchu hyn. Ymhlith newidiadau eraill sy'n ganlyniad i Reoliadau 2004, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflen ragnodedig i gymryd i ystyriaeth gredydau treth newydd a gyflwynwyd drwy Ddeddf Credydau Treth 2002 a Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002.


Notes:

[1] 1996 p.53. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Gweler yr eitem yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.back

[2] I gael y diffiniad o "grant", gweler adran 1 o'r Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan baragraff 2 o Atodlen 3 i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Lloegr a Chymru) 2002 (O.S. 2002/1860) ("Gorchymyn 2002").back

[3] O.S. 1996/2891, a ddiwygiwyd gan O.S.1996/3119, O.S. 1997/978, O.S. 1998/809, O.S. 1999/1607, O.S. 1999/3470 (Cy.56), O.S. 2000/1735 (Cy.119), O.S. 2001/2071(Cy.143), O.S. 2001/4006 (Cy.332) ac O.S. 2002/2799 (Cy.267).back

[4] 1998 p.38.back

[5] Mewnosodwyd Nodyn 47A gan O.S. 1997/978.back

[6] Mewnosodwyd Nodyn 84B gan O.S. 1999/3470.back



English version



ISBN 0 11090861 9


  © Crown copyright 2004

Prepared 11 February 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040254w.html