BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040681w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif681 (Cy.69)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 9 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddo gan adran 35(5) o Ddeddf Landlord a Thenant[1] ac Atodlen 12 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[2] ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Tribiwnlysoedd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2004.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais a wneir, neu achos a drosglwyddir o lys, i dribiwnlys prisio lesddaliadau[
3] mewn perthynas â thir ac adeiladau yng Nghymru ar 31 Mawrth 2004 neu ar ôl hynny.

Dehongli
     2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Manylion ceisiadau
     3.  - (1) Dyma'r manylion y mae'n rhaid eu cynnwys ynghyd â chais  - 

    (2) Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 (rhyddfreinio a lesoedd estynedig) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 ynghyd â'r cais.

    (3) Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 (taliadau gwasanaeth, taliadau gweinyddol a thaliadau ystad) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ynghyd â'r cais.

    (4) Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 3 o Atodlen 1 (cynlluniau rheoli ystadau) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 3 o Atodlen 2 ynghyd â'r cais.

    (5) Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 4 o Atodlen 1 (hawl i reoli) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 4 o Atodlen 2 ynghyd â'r cais.

    (6) Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 5 o Atodlen 1 (penodi rheolwr) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 5 o Atodlen 2 ynghyd â'r cais.

    (7) Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 6 o Atodlen 1 (amrywio lesoedd) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 ynghyd â'r cais.

    (8) Mae caniatâd i hepgor unrhyw un o'r gofynion yn y paragraffau uchod neu eu llacio os yw'r tribiwnlys yn fodlon bod  - 

Hysbysu cais o dan Ran 4 o Ddeddf 1987
    
4.  - (1) Rhaid i'r ceisydd roi hysbysiad o gais o dan Ran 4 o Ddeddf 1987 (amrywio lesddaliadau) i'r atebydd ac i unrhyw berson y mae'r ceisydd yn gwybod, neu sydd â rheswm dros gredu, ei bod yn debygol o gael ei effeithio gan unrhyw amrywiad a bennir yn y cais.

    (2) Wrth gael hysbysiad o dan baragraff (1) rhaid i'r atebydd roi hysbysiad o'r cais i unrhyw berson nad yw eisoes wedi'i hysbysu o dan y paragraff hwnnw, y mae'r atebydd yn gwybod, neu y mae ganddo reswm dros gredu, ei fod yn debygol o gael ei effeithio gan unrhyw amrywiad a bennir yn y cais.

Hysbysu cais gan dribiwnlys
    
5.  - (1) Wrth dderbyn cais, heblaw cais a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf 1987, rhaid i'r tribiwnlys anfon copi o'r cais a phob un o'r dogfennau sy'n mynd gydag ef at bob person a enwir ynddo yn atebydd.

    (2) Wrth dderbyn cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 (taliadau gwasanaeth, taliadau gweinyddol a thaliadau ystad), rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad o'r cais at  - 

    (3) Wrth dderbyn cais caiff y tribiwnlys roi hysbysiad i unrhyw berson arall y mae o'r farn ei fod yn briodol.

    (4) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir o dan baragraff (2) neu (3) gynnwys datganiad bod caniatâd i unrhyw berson wneud cais i'r tribiwnlys o dan reoliad 6 i gael ymuno fel parti â'r achos ynghyd â manylion am sut y gellir gofyn am hynny.

    (5) Mae caniatâd i roi unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) neu (3) drwy hysbyseb leol.

    (6) Yn y rheoliad hwn, ystyr "hysbyseb leol" yw hysbysiad a gyhoeddir mewn dau bapur newydd (dylai o leiaf un ohonynt fod yn bapur newydd a ddosberthir yn rhad ac am ddim) sy'n cylchredeg yn yr ardal lle mae'r tir a'r adeiladau y mae'r cais yn ymwneud â hwy.

Cais i gael ei drin fel ceisydd neu atebydd
    
6.  - (1) Caiff unrhyw berson ofyn i'r tribiwnlys am gael ymuno fel parti â'r achos.

    (2) Os gofynir am rhywbeth o dan baragraff (1)  - 

    (3) Caiff y tribiwnlys ganiatáu neu wrthod i berson ymuno fel parti â'r achos o dan baragraff (1).

    (4) Cyn gynted â phosibl wedi iddo ddod i benderfyniad ar ganiatáu i berson ymuno fel parti â'r achos o dan baragraff (1), rhaid i'r tribiwnlys  - 

    (5) Rhaid trin unrhyw berson y caniateir iddo ymuno fel parti â'r achos o dan baragraff (1) fel ceisydd neu atebydd at ddibenion rheoliadau 8 i 18, 20 a 24.

    (6) Yn y rheoliadau a grybwyllir ym mharagraff (5) rhaid i unrhyw gyfeiriad at  - 

gael eu dehongli fel petaent yn cynnwys person a drinnir felly o dan y rheoliad hwn a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at barti fel petai'n cynnwys person o'r fath.

Peidio â thalu ffioedd
    
7.  - (1) Mewn unrhyw achos pan na thelir ffi sy'n daladwy o dan reoliad 4 neu 5 o Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliad (Ffioedd) (Cymru) 2004[7] yn unol â'r Rheoliadau hynny, rhaid i'r tribiwnlys beidio â mynd ymhellach â'r cais y mae'r ffi yn ymwneud ag ef hyd nes telir y ffi.

    (2) Pan fydd ffi heb ei thalu am gyfnod o fis ar ôl y dyddiad pryd y mae'n ddyledus, rhaid trin y cais fel petai wedi'i dynnu yn ôl oni bai bod y tribiwnlys yn fodlon bod sail resymol dros beidio â gwneud hynny.

Ceisiadau cynrychioladol a darpariaethau eraill i sicrhau cysondeb.
     8.  - (1) Pan ymddengys i dribiwnlys fod nifer o geisiadau  - 

caiff y tribiwnlys gynnig penderfynu ar ddim ond un o'r ceisiadau hynny ("y cais cynrychioladol") i gynrychioli'r holl geisiadau am y materion hynny sydd yr yn peth neu'n sylweddol yr yn peth ("y materion cyffredin"), a rhaid iddo roi hysbysiad o'r cynnig i bartïon pob un o'r ceisiadau hynny.

    (2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)  - 

    (3) Os na ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw  - 

    (4) Pan ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw  - 

Ceisiadau dilynol pan roddir hysbysiad o'r cais cynrychioladol
    
9.  - (1) Os, ar ôl penderfynu ar gais cynrychioliadol, y mae cais dilynol yn cael ei wneud sy'n cynnwys unrhyw un o'r materion cyffredin y penderfynodd y tribiwnlys arno wrth benderfynu ar y cais cynrychioliadol, ac os yw'r ceisydd yn berson y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 8(1), rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad i'r partïon i'r cais dilynol o  - 

    (2) Os na ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw  - 

    (3) Pan ddaw gwrthwynebiad i gynnig y tribiwnlys ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw  - 

Ceisiadau dilynol pan na roddir hysbysiad o gais cynrychioladol
    
10.  - (1) Os, ar ôl penderfynu ar gais cynrychioliadol, y mae cais dilynol yn cael ei wneud sy'n cynnwys unrhyw un o'r materion cyffredin y mae'r tribiwnlys wedi penderfynu arno wrth benderfynu ar y cais cynrychioliadol, ac os nad yw'r ceisydd yn berson y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 8(1), rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad i'r partïon i'r cais dilynol o  - 

    (2) Os na ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw  - 

    (3) Pan ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbyseb neu cyn y dyddiad hwnnw rhaid i'r tribiwnlys benderfynu ar y cais yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Gwrthod ceisiadau gwacsaw etc.
    
11.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2),  - 

caiff y tribiwnlys wrthod y cais, yn gyfan neu'n rhannol.

    (2) Cyn gwrthod cais o dan baragraff (1) rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad i'r ceisydd yn unol â pharagraff (3).

    (3) Rhaid i unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) ddatgan  - 

    (4) Ni chaniateir gwrthod cais  - 

Adolygiad cyn treial
    
12.  - (1) Caiff tribiwnlys, naill ai o'i ben a'i bastwn ei hun neu os yw parti yn gofyn am hynny, gynnal adolygiad cyn treial mewn perthynas â chais.

    (2) Rhaid i'r tribiwnlys roi i'r partïon nid llai na 14 o ddiwrnodau o hysbysiad (neu hysbysiad llai os yw'r partïon yn gytûn ar hynny) o ddyddiad, amser a lle'r adolygiad cyn treial.

    (3) Yn yr adolygiad cyn treial rhaid i'r tribiwnlys  - 

    (4) Mae caniatâd i unrhyw aelod unigol o'r panel y darperir ar ei gyfer yn Atodlen 10 o Ddeddf Renti 1977[8] arfer swyddogaethau'r tribiwnlys mewn perthynas ag adolygiad cyn treial neu yn ystod adolygiad cyn treial sy'n gymwys i'w harfer[9].

Penderfynu heb wrandawiad
     13.  - (1) Caiff tribiwnlys benderfynu ar gais heb wrandawiad llafar, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn  - 

    (2) Rhaid i'r tribiwnlys  - 

    (3) Ar unryw adeg cyn penderfynu ar y cais  - 

    (4) Pan ofynnir am rhywbeth o dan baragraff (3) neu pan roddir hysbysiad o dano, rhaid penderfynu ar y cais yn unol â rheoliad 14.

    (5) Mae caniatâd i arfer swyddogaethau'r tribiwnlys mewn perthynas â chais sydd i'w benderfynu heb wrandawiad llafar gan aelod unigol o'r panel y darperir ar ei gyfer yn Atodlen 10 i Ddeddf Renti 1977, os penodwyd ef i'r panel hwnnw gan yr Arglwydd Ganghellor.

Gwrandawiadau
    
14.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 8(3), 9(2) a 10(2), rhaid i wrandawiad gael ei gynnal ar y dyddiad ac ar yr amser ac yn y lle a benodwyd gan y tribiwnlys.

    (2) Rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r partïon am y dyddiad, yr amser a'r lle a benodwyd ar gyfer y gwrandawiad.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid hysbysu o dan baragraff (2) nid llai na 21 o ddiwrnodau (neu gyfnod llai y mae'r partïon yn gytûn arno) cyn y dyddiad a benodwyd.

    (4) O dan amgylchiadau eithriadol caiff y tribiwnlys, heb gytundeb y partïon, hysbysu dyddiad, amser a lle'r gwrandawiad nid llai na 21 o ddiwrnodau cyn y dyddiad benodwyd; ond rhaid i'r hysbysiad hwnnw gael ei roi cyn gynted â phosibl a benodwyd a rhaid i'r hysbysiad bennu beth yw'r amgylchiadau eithriadol.

    (5) Caiff y tribiwnlys drefnu i gais gael ei wrando ynghyd ag un neu ragor o geisiadau eraill.

    (6) Rhaid i wrandawiad fod yn gyhoeddus oni bai, o dan amgylchiadau arbennig yr achos, bod y tribiwnlys yn penderfynu bod rhaid i wrandawiad neu ran o wrandawiad gael ei gynnal yn breifat.

    (7) Yn ystod y gwrandawiad  - 

    (8) Os nad yw parti yn ymddangos mewn gwrandawiad, caiff y tribiwnlys fynd â'r gwrandawiad yn ei flaen os yw'n fodlon bod hysbysiad wedi'i roi i'r parti hwnnw yn unol â'r Rheoliadau hynny.

Gohirio
    
15.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff y tribiwnlys ohirio (boed cyn, neu ar ôl iddo gychwyn) gwrandawiad neu adolygiad cyn-treial o'i ben a'i bastwn ei hun neu os yw parti yn gofyn am hynny.

    (2) Pan ofynnir am ohirio (boed cyn, neu ar ôl iddo gychwyn) gwrandawiad rhaid i'r tribiwnlys beidio â'i ohirio ac eithrio pan fydd o'r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny gan ystyried  - 

    (3) Rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad rhesymol o unrhyw wrandawiad sydd wedi'i ohirio naill ai cyn iddo ddechrau neu ar ôl iddo ddechrau i'r partïon.

Dogfennau
    
16.  - (1) Cyn dyddiad y gwrandawiad, rhaid i'r tribiwnlys gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y rhoddir i bob un o'r partïon  - 

    (2) Mewn gwrandawiad, os nad yw parti eisoes wedi cael dogfen berthnasol neu gopi o ddogfen berthnasol, neu ddigon o ddarnau ohono neu ddigon o fanylion amdani, yna oni bai  - 

rhaid i'r tribiwnlys ohirio'r gwrandawiad am gyfnod y mae'n ei farnu y bydd yn rhoi digon o gyfle i'r person drin y materion hynny.

Archwilio
    
17.  - (1) Caiff triwbiwnlys archwilio  - 

    (2) Yn ddarostyngedig i baragarff (3), rhaid i'r tribiwnlys roi cyfle i'r partïon fod yn bresennol mewn archwiliad.

    (3) Er mwyn cynnal archwiliad, neu fod yn bresennol mewn archwiliad, rhaid cael unrhyw gydsyniad sy'n angenrheidiol.

    (4) Pan fydd archwiliad i'w gynnal yn achos cais sydd i'w benderfynu o dan reoliad 13, rhaid i'r tribiwynlys roi hysbysiad i'r partïon.

    (5) Pan fydd archwiliad i'w gynnal cyn gwrandawiad, rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad i'r partïon.

    (6) Pan fydd archwiliad i'w gynnal yn ystod gwrandawiad neu ar ôl diwedd gwrandawiad, rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad i'r partïon yn ystod y gwrandawiad.

    (7) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (4), (5) neu (6)  - 

    (8) Pan gynhelir archwiliad ar ôl diwedd gwrandawiad, caiff y tribiwnlys ailagor y gwrandawiad ar sail unrhyw fater sy'n codi o'r archwiliad.

    (9) Rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad rhesymol o ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad a ailagorir i'r partïon.

    (10) Mae caniatâd i hepgor neu lacio unrhyw un o'r gofynion hysbysu yn y paragraffau uchod  - 

Penderfyniadau
    
18.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad ar gais gan  - 

    (2) Os cynhaliwyd gwrandawiad, mae caniatâd i roi'r penderfyniad yn llafar ar ddiwedd y gwrandawiad.

    (3) Ym mhob achos, rhaid i benderfyniad gael ei gofnodi mewn dogfen cyn gynted â phosibl ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud.

    (4) Nid oes angen i benderfyniad a roddwyd neu a gofnodwyd yn unol â pharagraff (2) neu (3) gofnodi'r rhesymau dros y penderfyniad.

    (5) Pan na fydd y ddogfen a grybwyllir ym mharagraff (3) yn cofnodi'r rheysmau dros y penderfyniad, rhaid eu cofnodi mewn dogfen ar wahân ar ôl i'r penderfyniad gael ei gofnodi.

    (6) Rhaid i ddogfen sy'n cofnodi penderfyniad, neu'r rhesymau dros benderfyniad, gael ei llofnodi a'i dyddio gan berson priodol.

    (7) Caiff person priodol, drwy gyfrwng tystysgrif a lofnodwyd ac a ddyddiwyd gan y person hwnnw, gywiro unrhyw gamgymeriadau clerigol mewn dogfen neu unrhyw wallau ynddi a achoswyd gan lithriad neu esgeulustod.

    (8) Yn y rheoliad hwn, ystyr "person priodol" yw  - 

    (9) Rhaid anfon copi o unrhyw ddogfen sy'n cofnodi penderfyniad, neu'r rhesymau dros benderfyniad, a chopi o unrhyw gywiriad a ardystir o dan baragraff (7) at bob parti.

Gorfodi
    
19. Caniateir i unrhyw un o benderfyniadau'r tribiwnlys, gyda chaniatâd y llys sirol, gael ei orfodi yn yr un ffordd â gorchmynion llys sirol.

Caniatâd i apelio
    
20. Pan fydd parti yn gwneud cais i dribiwnlys ar gyfer caniatâd i apelio i'r Tribiwnlys Tiroedd  - 

Presenoldeb aelod ar Gyngor Tribiwnlysoedd
    
21. Caiff aelod o'r Cyngor Tribiwnlysoedd sy'n gweithio yn rhinwedd y swydd honno  - 

Gwybodaeth sy'n ofynnol gan dribiwnlys
    
22. Pan fydd tribiwnlys yn cyflwyno hysbysiad sy'n gwneud rhoi gwybodaeth yn ofynnol o dan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf 2002, rhaid i'r hysbysiad gynnwys datganiad i'r perwyl bod unrhyw berson sy'n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â'r hysbysiad, yn cyflawni tramgwydd ac bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddiryw nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Hysbysiadau
    
23. Pan fydd yn ofynnol i'r tribiwnlys roi neu anfon unrhyw hysbysiad neu unrhyw ddogfen arall o dan y Rheoliadau hyn at berson, cydymffurfir â'r gofyniad yn ddigonol  - 

    (2) Mae caniatâd i anfon hysbysiad neu ddogfen arall fel a grybwyllir ym mharagraffau (1) (b) neu (c)(ii) dim ond os yw'r person hwnnw neu asiant y person hwnnw wedi cydsynio i hynny.

    (3) Rhaid ystyried hysbysiad neu unrhyw ddogfen arall a grybwyllir ym mharagraffau (1)(b) neu (c)(ii) fel petai wedi'i anfon pan fydd ei destun yn dod i law mewn ffurf ddarllenadwy.

    (4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys - 

    (5) Pan fydd paragraff (4) yn gymwys, caiff y tribiwnlys  - 

Caniatáu rhagor o amser
    
24.  - (1) Mewn achos penodol, caiff y tribiwnlys estyn unrhyw gyfnod a ragnodir gan y Rheoliadau hyn, neu a ragnodir gan hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn, y mae'n ofynnol gwneud unrhyw beth ynddo neu yr awdurdodir gwneud unrhywbeth ynddo.

    (2) Caiff parti ofyn i'r tribiwnlys estyn unrhyw un o'r cyfnodau hynny ond rhaid iddo wneud hynny cyn i'r cyfnod ddod i ben.

Dirymu ac arbed
    
25.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) dirymir Rheoliadau'r Pwyllgor Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau) 1993[10]("Rheoliadau 1993") mewn perthynas â Chymru.

    (2) Nid yw'r dirymiad ym mharagraff (1) yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw gais a wneir, neu achos a drosglwyddir o lys, i dribiwnlys cyn 31 Mawrth 2004.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mawrth 2004



ATODLEN 1
Rheoliad 3


Disgrifiad o'r Ceisiadau


Rhyddfreinio ac estyn lesoedd
     1. Ceisiadau o dan  - 

Taliadau gwasanaeth, taliadau gweinyddol a thaliadau ystad
     2. Ceisiadau o dan  - 

Cynlluniau rheoli ystadau
     3. Ceisiadau o dan Bennod 4 o Ran 1 i Ddeddf 1993.

Hawl i reoli
     4. Ceisiadau o dan  - 

Penodi rheolwr
     5. Ceisiadau o dan  - 

Amrywio lesoedd
     6. Ceisiadau o dan Ran 4 o Ddeddf 1987.

Cost achosion
     7. Ceisiadau o dan adran 20C o Ddeddf 1985.



ATODLEN 2
Rheoliad 3


Manylion Ceisiadau


Rhyddfreinio ac estyn lesoedd
     1.  - (1) Copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynir mewn perthynas â'r rhyddfraint.

    (2) Enw a chyfeiriad y rhydd-ddeiliad ac unrhyw landlord canol.

    (3) Enw a chyfeiriad unrhyw berson sydd â morgais neu unrhyw arwystl arall dros fuddiant yn y tir a'r adeiladau sy'n destun y cais ac a ddelir gan y rhydd-ddeiliad neu unrhyw landlord arall.

    (4) Pan wneir cais o dan adran 21(2) o'r Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967[
16], enw a chyfeiriad yr is-denant, a chopi o unrhyw gytundeb ar gyfer yr is-denantiaeth.

    (5) Pan wneir cais o dan adran 13 o Ddeddf 1987[17], y dyddiad pryd cafodd y landlord yr eiddo a thelerau'r caffael gan gynnwys unrhyw symiau a dalwyd.

Taliadau gwasanaeth, taliadau gweinyddol a thaliadau ystad
     2.  - (1) Pan wneir cais o dan adran 27A o Ddeddf 1985, enw a chyfeiriad ysgrifennydd unrhyw gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.

    (2) Pan wneir cais o dan baragraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf 2002, drafft o'r amrywiad arfaethedig.

    (3) Copi o'r les neu, pan fydd yn briodol, copi o'r cynllun rheoli ystad.

Taliadau o dan gynlluniau rheoli ystadau
     3.  - (1) Copi o unrhyw gytundeb rheoli ystâd neu'r cynllun rheoli ystad arfaethedig.

    (2) Datganiad bod y ceisydd naill ai  - 

    (3) Pan wneir cais o dan adran 70 o Ddeddf 1993, copi o'r hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan adran 70(4) o'r Ddeddf honno.

    (4) Os digwydd y canlynol - 

disgrifiad o ardal  - 

    (5) Pan wneir cais o dan adran 70 o Ddeddf 1993, copi o unrhyw gydsyniad a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 72(1) o'r Ddeddf honno.

Hawl i reoli
     4.  - (1) Enw a chyfeiriad ar gyfer cyflwyno i'r cwmni Hawl i Reoli (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2002)[18].

    (2) Enw a chyfeiriad y rhydd-ddeiliad, unrhyw landlord canol ac unrhyw reolwr.

    (3) Copi o femoradwm ac erthyglau cymdeithasiad y cwmni Hawl i Reoli.

    (4) Pan wneir cais o dan adran 84(3) o Ddeddf 2002, copi o'r hysbysiad hawlio a chopi o'r gwrth-hysbysiad sy'n dod i law.

    (5) Pan wneir cais o dan adran 85(2) o Ddeddf 2002  - 

    (6) Pan wneir cais o dan adran 94(3) o Ddeddf 2002, amcangyfrif o swm y taliadau gwasanaeth sydd heb eu neilltuo sydd wedi cronni.

    (7) Pan wneir cais o dan adran 99(1) o Ddeddf 2002, disgrifiad o'r gymeradwyaeth a chopi o'r les berthnasol.

    (8) Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf 2002, y dyddiad a'r amgylchiadau pryd peidiodd yr hawl i arfer yr hawl i reoli o fewn y pedair blynedd ddiwethaf.

Penodi rheolwr
     5.  - (1) Ac eithrio pan wneir cais o dan adran 22(3) o Ddeddf 1987, copi o'r hysbysiad a gyflwynir o dan adran 22 o'r Ddeddf honno.

    (2) Pan wneir cais o dan adran 24(9) o'r Ddeddf honno, copi o'r gorchymyn rheoli.

Amrywio lesoedd
     6.  - (1) Enwau a chyfeiriadau unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol â Rheoliad 4 o'r rheoliadau hyn.

    (2) Drafft o'r amrywiad a geisir.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rheoleiddio'r drefn y mae'n rhaid ei dilyn o ran ceisiadau sy'n cael eu gwneud i dribiwnlys prisio lesddaliadau . Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Maent yn disodli, gyda diwygiadau, Reoliadau Pwyllgor Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Tribiwnlys Prisio Lesddaliad) 1993, (i'r graddau y maent yn perthyn i Gymru) a ddirymir, yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth arbed yn rheoliad 25.

Mae rheoliad 3 yn darparu i fanylion cyffredinol gael eu cynnwys gyda phob cais ac i fanylion penodedig gael eu cynnwys gyda cheisiadau penodedig fel a nodir yn yr Atodlenni.

Mae rheoliad 4 yn darparu i hysbysiad gael ei roi gan geisydd ac atebydd pan wneir cais o dan Ran 4 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987, tra mae rheoliad 5 yn darparu i hysbysiad gael ei roi gan y tribiwnlys yn achos ceisiadau eraill.

Mae rheoliad 5 yn rhoi disgresiwn i'r tribiwnlys roi hysbysiad drwy hysbysebu'n lleol hefyd.

Mae rheoliad 6 yn darparu'r weithdrefn sydd i gael ei dilyn pan fydd person yn gofyn am gael ymuno fel parti â'r achos.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod caniatâd i drin cais fel cais sydd wedi'i dynnu yn ôl os nad oes ffi wedi'i thalu am gyfnod o fis wedi iddi fod yn daladwy.

Mae rheoliadau 8-10 yn darparu ar gyfer sicrhau cysondeb pan fydd ceisiadau niferus yn cael eu gwneud neu o bosibl yn cael eu gwneud o ran yr un materion neu faterion sydd yr un peth yn y bôn.

Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer gwrthod ceisiadau sy'n wacsaw, blinderus neu'n gamddefnydd arall o broses y tribiwnlys.

Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer adolygiadau cyn treial ac sy'n caniatáu i'r tribiwnlys roi unrhyw gyfarwyddiadau sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal yr achos yn hwylus ac yn ddarbodus.

Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer penderfynu ar gais heb wrandawiad llafar ac mae'n caniatáu i aelod unigol o'r panel a ddarperir ar ei gyfer yn Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977, ac a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor, wneud hynny.

Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer gwrandawiadau, mae'n caniatáu i'r tribiwnlys benderfynu'r weithdrefn ac yn rhoi i'r triwbiwnlys y disgresiwn i roi llai na 21 o ddiwrnodau o hysbysiad o'r gwrandawiad o dan amgylchiadau eithriadol.

Mae rheoliad 15 yn darparu i wrandawiad nad yw wedi dechrau neu wrandawiad sydd ar ei ganol gael ei ohirio.

Mae rheoliad 16 yn sicrhau bod y partïon yn cael copïau o'r dogfennau angenrheidiol.

Mae rheoliad 17 yn darparu ar gyfer archwilio tycirc, tir ac adeiladau neu ardal sy'n destun cais neu unrhyw dycirc, tir ac adeiladau neu ardal debyg.

Mae rheoliad 18 yn darparu ar gyfer cofnodi penderfyniadau sy'n gysylltiedig â cheisiadau ac mae'n galluogi cofnodi'r rhesymau dros benderfyniad mewn dogfen ar wahân ar ôl i'r penderfyniad gael ei gofnodi. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cywiro dogfen sy'n cofnodi penderfyniad neu resymau.

Mae rheoliad 19 yn darparu bod caniatâd i benderfyniad gan y tribiwnlys, gyda chaniatâd y llys sirol, gael ei orfodi yn yr un ffordd â gorchmynion llys sirol.

Mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer ceisio caniatâd i apelio i'r Tribiwnlys Tiroedd.

Mae rheoliad 21 yn darparu i aelod o'r Cyngor Tribiwnlysoedd fod yn bresennol mewn unrhyw wrandawiad neu archwiliad.

Mae rheoliad 22 yn darparu bod rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir gan y tribiwnlys o dan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ("Deddf 2002"), gynnwys datganiad bod unrhyw berson sy'n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â'r hysbysiad, yn cyflawni tramgwydd ac mae'n agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill. Mae'n caniatáu rhoi'r hysbysiadau a dogfennau o'r fath yn electronig gyda chydsyniad y derbynnydd.

Mae rheoliad 24 yn rhoi disgresiwn i dribiwnlys estyn unrhyw gyfnod o amser a osodir yn y Rheoliadau neu a osodir mewn hysbysiad a anfonir o dan y Rheoliadau.

Mae Atodlen 1 yn disgrifio'r ceisiadau sydd dan lywodraeth y rheoliadau hyn. Mae'n cynnwys ceisiadau o dan adran 20ZA sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ymgynghori â thenantiaid ynghylch gwaith o fath arbennig, ceisiadau sy'n ymwneud â thaliadau gweinyddol a cheisiadau sy'n ymwneud â'r hawl i reoli. Cyflwynwyd y ceisiadau hyn gan Ddeddf 2002.

Mae Atodlen 2 yn rhestru'r manylion a'r dogfennau y mae'n ofynnol eu cynnwys ynghyd â chais.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).


Notes:

[1] 1987 p.31; adran 35(5) a ddiwygiwyd gan adran 163(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) ("Deddf 2002"). Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 35(5) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). O dan adran 177 o Ddeddf 2002, mae cyfeiriadau yn Neddf 1987 yn O.S. 1999/672 i'w trin fel cyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd gan ran 2 o Ddeddf 2002.back

[2] 2002 p.15; gweler adran 179(1) am y diffiniad o "the appropriate national authority" o ran Cymru.back

[3] Gweler adran 173 o Ddeddf 2002.back

[4] Diwygiwyd gan baragraff 10 o Atodlen 2 i Ddeddf Landlord a Thenant 1987.back

[5] 1985 p.70.back

[6] 1993 p.28.back

[7] O.S. 2004/683 (Cy.71).back

[8] 1977 p.42; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r rheoliadau hyn.back

[9] I gael gwybod pwy sy'n gymwys, gweler paragraff 5(3) o Atodlen 12 i Ddeddf 2002.back

[10] O.S. 1993/2408 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/2305, O.S. 1997/74 ac O.S. 1997/1854.back

[11] 1998 p.38.back

[12] 1967 p.88back

[13] Mewnosodwyd gan adran 151 o Ddeddf 2002 o 30 Mawrth 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).back

[14] Mewnosodwyd gan adran 155 o Ddeddf 2002 o 30 Mawrth 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).back

[15] Diwygiwyd gan adran 180 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 14 iddi o 30 Mawrth 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).back

[16] Diwygiwyd gan adran 142 o Ddeddf Tai 1980 ac Atodlen 22 iddi.back

[17] Mewnosodwyd gan adran 92(1) ac Atodlen 6 i Ddeddf Tai 1996 (p. 52).back

[18] Gweler adran 73 o Ddeddf 2002.back



English version



ISBN 0 11090889 9


  © Crown copyright 2004

Prepared 23 March 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040681w.html