BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040684w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif684 (Cy.72)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 9 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 20(4) a (5) a 20ZA(3) i (6) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Gwasanaethau (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo landlord - 

Dehongli
     2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) At ddibenion unrhyw amcangyfrif sydd i'w roi gan y landlord ac y mae unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn yn ei wneud yn ofynnol - 

Cytundebau nad ydynt yn gytundebau hir-dymor cymwys
     3.  - (1) Nid yw cytundeb yn gytundeb hir-dymor cymwys[13] - 

    (2) Nid yw cytundeb yr ymrwymir iddo gan neu ar ran y landlord neu uwch-landlord - 

yn gytundeb hir-dymor cymwys, er bod mwy na deuddeng mis o'r cyfnod yn dal yn weddill pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.

    (3) Nid yw cytundeb am dymor o fwy na deuddeng mis, yr ymrwymir iddo, gan neu ar ran y landlord neu uwch-landlord, ac sy'n darparu ar gyfer cyflawni gwaith cymwys y rhoddwyd hysbysiad cyhoeddus ohono cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, yn gytundeb hir-dymor cymwys.

    (4) Ym mharagraff (1) - 

Cymhwyso adran 20 i gytundebau hir-dymor cymwys
     4.  - (1) Bydd adran 20 yn gymwys i gytundebau hir-dymor cymwys os bydd costau perthnasol[19] a dynnir o dan y cytundeb mewn unrhyw gyfnod cyfrifydda yn fwy na swm sy'n peri bod cyfraniad perthnasol unrhyw denant, mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw, yn fwy na £100.

    (2) Ym mharagraff (1), ystyr "cyfnod cyfrifydda" yw cyfnod - 

    (3) Yn achos y cyfnod cyfrifydda cyntaf, y dyddiad perthnasol yw - 

    (4) Yn achos cyfnodau cyfrifydda canlynol, y dyddiad perthnasol yw'r dyddiad sy'n dod yn union ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifydda blaenorol.

Y gofynion ymgynghori: cytundebau hir-dymor cymwys
     5.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mewn perthynas â chytundebau hir-dymor cymwys y mae adran 20 yn gymwys iddynt, y gofynion ymgynghori at ddibenion yr adran honno ac adran 20ZA yw'r gofynion a bennir yn Atodlen 1.

    (2) Os oes angen rhoi hysbysiad cyhoeddus o'r materion perthnasol y mae a wnelo'r cytundeb hir-dymor cymwys â hwy, y gofynion ymgynghori at ddibenion adrannau 20 a 20ZA, o ran y cytundeb, yw'r gofynion a bennir yn Atodlen 2.

    (3) Mewn perthynas â thenant RTB ac a chytundeb hir-dymor cymwys penodol, nid oes dim ym mharagraff (1) neu (2) yn ei gwneud yn ofynnol i landlord gydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion ymgynghori sy'n gymwys i'r cytundeb hwnnw ac sy'n codi cyn yr unfed dydd ar ddeg ar hugain o'r denantiaeth RTB.

Cymhwyso adran 20 i waith cymwys
    
6. At ddibenion is-adran (3) o adran 20 y swm priodol yw swm sy'n peri bod cyfraniad perthnasol unrhyw denant yn fwy na £250.

Y gofynion ymgynghori: gwaith cymwys
    
7.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw gwaith cymwys (pa un ai wrth ei hun neu ynghyd â materion eraill) yn destun cytundeb hir-dymor cymwys y mae adran 20 yn gymwys iddo, y gofynion ymgynghori at ddibenion yr adran honno ac adran 20ZA, mewn cysylltiad â'r gwaith hwnnw, yw'r gofynion a bennir yn Atodlen 3.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn achos y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, y gofynion ymgynghori at ddibenion adran 20 ac adran 20ZA, mewn cysylltiad â gwaith cymwys y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, yw'r rhai a bennir yn Atodlen 3.

    (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys - 

    (4) Ac eithrio mewn achos y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, ac yn ddarostyngedig i baragraff (5), os nad yw gwaith cymwys yn destun cytundeb hir-dymor cymwys y mae adran 20 yn gymwys iddo, y gofynion ymgynghori at ddibenion yr adran honno ac adran 20ZA, mewn cysylltiad â'r gwaith hwnnw yw - 

    (5) Mewn perthynas â thenant RTB a gwaith cymwys penodol, nid oes dim ym mharagraff (1), (2) neu (4) sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlord gydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion ymgynghori sy'n gymwys i'r cytundeb hwnnw ac sy'n codi cyn yr unfed dydd ar ddeg ar hugain o'r denantiaeth RTB.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
20]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mawrth 2004



ATODLEN 1
Rheoliad 5(1)


GOFYNION YMGYNGHORI AR GYFER CYTUNDEBAU HIR-DYMOR CYMWYS AC EITHRIO'R RHEINI Y MAE ANGEN RHOI HYSBYSIAD CYHOEDDUS OHONYNT


Hysbysiad o fwriad

     1.  - (1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i ymrwymo i'r cytundeb - 

    (2) Rhaid i'r hysbysiad - 

    (3) Rhaid hefyd i'r hysbysiad wahodd pob tenant a'r gymdeithas (os o gwbl) i gynnig, o fewn y cyfnod perthnasol, enw person y dylai'r landlord geisio cael ganddo amcangyfrif mewn cysylltiad â'r materion perthnasol.

Archwilio'r disgrifiad o faterion perthnasol

     2.  - (1) Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 yn pennu lle ac amser ar gyfer archwilio - 

    (2) Os nad oes cyfleusterau ar gael i wneud copïau ar yr adegau y gellir archwilio'r disgrifiad, yna os gofynna'r tenant am gopi, rhaid i'r landlord ei ddarparu ar ei gyfer yn rhad ac am ddim.

Dyletswydd i ystyried sylwadau mewn perthynas â chytundeb arfaethedig

     3. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn cysylltiad â'r cytundeb arfaethedig, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.

Amcangyfrifon

     4.  - (1) Os ceir un enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig (pa un a geir enwebiad gan unrhyw denant ai peidio), a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif gan y person a enwebwyd.

    (2) Os ceir un enwebiad gan un o'r tenantiaid yn unig (pa un a geir enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig ai peidio) a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcamgyfrif gan y person a enwebwyd.

    (3) Os ceir un enwebiad gan fwy nag un tenant (pa un a geir enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig ai peidio) a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif - 

    (4) Os ceir mwy nag un enwebiad gan unrhyw denant a mwy nag un enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif - 

     5.  - (1) Rhaid i'r landlord baratoi, yn unol â darpariaethau canlynol y paragraff hwn, o leiaf ddau gynnig mewn cysylltiad â'r materion perthnasol.

    (2) Rhaid i o leiaf un o'r cynigion gynnig bod y nwyddau neu'r gwasanaethau'n cael eu darparu, neu fod y gwaith yn cael ei wneud (yn ôl y digwydd), gan berson nad oes ganddo unrhyw gysylltiad o gwbl â'r landlord.

    (3) Os cafwyd amcangyfrif gan berson a enwebwyd, rhaid i'r landlord baratoi cynnig ar sail yr amcangyfrif hwnnw.

    (4) Rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad o'r materion perthnasol.

    (5) Rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad, mewn cysylltiad â phob parti i'r cytundeb arfaethedig ac eithrio'r landlord - 

    (6) At ddibenion is-baragraff (2) ac is-baragraff (5)(b), rhaid tybio bod cysylltiad rhwng parti (yn ôl y digwydd) a'r landlord - 

    (7) Os yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord amcangyfrif, o ran uned breswyl pob tenant a'r materion perthnasol, y cyfraniad perthnasol y gellir ei briodoli i'r materion perthnasol y mae a wnelo'r cytundeb arfaethedig â hwy, rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r cyfraniad amcangyfrifedig hwnnw.

    (8) Os - 

rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r gwariant amcangyfrifedig hwnnw.

    (9) Os - 

rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r gost neu'r gyfradd honno.

    (10) Os cynnig i benodi asiant gan y landlord yw'r materion perthnasol neu os yw'r materion perthnasol yn cynnwys hynny a bod yr asiant i gyflawni rhwymedigaethau'r landlord at y tenantiaid sy'n gysylltiedig â rheoli gan y landlord dir ac adeiladau y mae a wnelo'r cytundeb â hwy, rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad - 

    (11) Rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r darpariaethau (os oes rhai) a wneir ar gyfer amrywio unrhyw swm a bennir sydd yn y cytundeb arfaethedig neu sydd i'w benderfynu oddi tano.

    (12) Rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi pa mor hir y bwriedir i'r cytundeb barhau.

    (13) Os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord eu hystyried (yn unol â pharagraff 3), rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn rhoi crynodeb o'r sylwadau ac yn nodi ymateb y landlord iddynt.

Hysbysiad o gynigion y landlord

     6.  - (1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o'r cynigion a baratowyd o dan baragraff 5 - 

    (2) O ran yr hysbysiad - 

    (3) Bydd paragraff 2 yn gymwys i gynigion a fydd ar gael i'w harchwilio o dan y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i ddisgrifiad o'r materion perthnasol a fydd ar gael i'w harchwilio o dan y paragraff hwnnw.

Dyletswydd i ystyried sylwadau mewn perthynas â chynigion

     7. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn perthynas â chynigion y landlord, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.

Dyletswydd wrth ymrwymo i gytundeb

     8.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), os yw'r landlord yn ymrwymo i gytundeb y mae a wnelo â materion perthnasol, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i ymrwymo i'r cytundeb, drwy hysbysiad ysgrifenedig at bob tenant a chymdeithas tenantiaid gydnabyddedig (os o gwbl) - 

    (2) Nid yw gofynion is-baragraff (1) yn gymwys os yw person y gwnaed y cytundeb gydag ef yn berson a enwebwyd neu os yw wedi cyflwyno'r amcangyfrif isaf.

    (3) Bydd paragraff 2 yn gymwys i ddatganiad, crynodeb ac ymateb a fydd ar gael i'w harchwilio o dan y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i ddisgrifiad o'r materion perthnasol a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwnnw.



ATODLEN 2
Rheoliad 5(2)


GOFYNION YMGYNGHORI AR GYFER CYTUNDEBAU HIR-DYMOR CYMWYS Y MAE ANGEN RHOI HYSBYSIAD CYHOEDDUS OHONYNT


Hysbysiad o fwriad

     1.  - (1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i ymrwymo i'r cytundeb - 

    (2) Rhaid i'r hysbysiad - 

     2.  - (1) Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 yn pennu lle ac amser ar gyfer archwilio - 

    (2) Os nad oes cyfleusterau ar gael i wneud copïau ar yr adegau y gellir archwilio'r disgrifiad, yna os gofynna'r tenant am gopi, rhaid i'r landlord ei ddarparu ar ei gyfer yn rhad ac am ddim.

Dyletswydd i ystyried sylwadau sy'n ymwneud â materion perthnasol

     3. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn cysylltiad â'r materion perthnasol, a hynny o o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.

Paratoi cynnig y landlord

     4.  - (1) Rhaid i'r landlord baratoi cynnig mewn cysylltiad â'r cytundeb arfaethedig, yn unol â darpariaethau canlynol y paragraff hwn.

    (2) Rhaid i'r cynnig gynnwys datganiad - 

    (3) At ddiben is-baragraff (2)(b), rhaid tybio bod cysylltiad rhwng parti a'r landlord - 

    (4) Os yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord amcangyfrif, o ran uned breswyl pob tenant, y cyfraniad perthnasol sydd i'w dynnu gan y tenant, ac y gellir ei briodoli i'r materion perthnasol y mae a wnelo'r cytundeb arfaethedig â hwy, rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r cyfraniad hwnnw.

    (5) Os - 

rhaid i'r cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r gwariant amcangyfrifedig hwnnw.

    (6) Os - 

rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi'r gost neu'r gyfradd honno.

    (7) Os nad yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord roi'r amcangyfrif a grybwyllir yn is-baragraff (6)(b), rhaid i'r cynnig gynnwys datganiad o'r rhesymau pam na all y landlord gydymffurfio, a nodi'r dyddiad y mae'r landlord yn disgwyl y bydd yn gallu darparu amcangyfrif, cost neu gyfradd.

    (8) Os cynnig i benodi asiant gan y landlord yw'r materion perthnasol neu os yw'r materion perthnasol yn cynnwys hynny a bod yr asiant i gyflawni rhwymedigaethau'r landlord at y tenantiaid, sy'n gysylltiedig â rheoli gan y landlord dir ac adeiladau y mae a wnelo'r cytundeb â hwy, rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad  - 

    (9) Rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn nodi pa mor hir y bwriedir i'r cytundeb barhau.

    (10) Os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord eu hystyried (yn unol â pharagraff 3), rhaid i bob cynnig gynnwys datganiad yn rhoi crynodeb o'r sylwadau ac yn nodi ymateb y landlord iddynt.

Hysbysiad o gynnig y landlord

     5.  - (1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o'r cynnig sydd wedi'i baratoi o dan baragraff 4 - 

    (2) O ran yr hysbysiad - 

    (3) Bydd paragraff 2 yn gymwys i gynnig a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i ddisgrifiad a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwnnw.

Dyletswydd i ystyried sylwadau mewn perthynas â chynigion

     6. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn perthynas â chynnig y landlord, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.

Ymateb y landlord i sylwadau

     7. Os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord (yn unol â pharagraff 6) eu hystyried, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i'w derbyn, ddatgan ymateb y landlord i'r sylwadau a hynny mewn hysbysiad ysgrifenedig i'r person a wnaeth y sylwadau.

Gwybodaeth atodol

     8. Os yw cynnig a baratowyd o dan baragraff 4 yn cynnwys datganiad o'r math a grybwyllir yn is-baragraff (7) o'r paragraff hwnnw, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i dderbyn digon o wybodaeth i alluogi'r landlord i amcangyfrif y swm, y gost neu'r gyfradd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4), (5) neu (6) o'r paragraff hwnnw, roi hysbysiad ysgrifenedig o'r swm, y gost neu'r gyfradd - 



ATODLEN 3
Rheoliad 7(1) a (2)


GOFYNION YMGYNGHORI AR GYFER GWAITH CYMWYS O DAN GYTUNDEBAU HIR-DYMOR CYMWYS A CHYTUNDEBAU Y MAE RHEOLIAD 7(3) YN GYMWYS IDDYNT


Hysbysiad o fwriad

     1.  - (1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i gyflawni gwaith cymwys  - 

    (2) Rhaid i'r hysbysiad - 

     2.  - (1) Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 yn pennu lle ac amser ar gyfer archwilio - 

    (2) Os nad oes cyfleusterau ar gael i wneud copïau ar yr adegau y gellir archwilio'r disgrifiad, yna os gofynna'r tenant am gopi, rhaid i'r landlord ei ddarparu ar ei gyfer yn rhad ac am ddim.

Dyletswydd i ystyried sylwadau mewn perthynas â'r gwaith a'r gwariant amcangyfrifedig arfaethedig

     3. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn cysylltiad â'r gwaith arfaethedig neu â gwariant amcangyfrifedig y landlord, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.

Ymateb y landlord i sylwadau

     4. Os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord (yn unol â pharagraff 3) eu hystyried, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i'w derbyn, ddatgan ymateb y landlord i'r sylwadau, a hynny mewn hysbysiad ysgrifenedig i'r person a wnaeth y sylwadau.



ATODLEN 4
Rheoliad 7(4)


GOFYNION YMGYNGHORI AR GYFER GWAITH CYMWYS AC EITHRIO GWAITH O DAN GYTUNDEBAU HIR-DYMOR CYMWYS NEU GYTUNDEBAU Y MAE RHEOLIAD 7(3) YN GYMWYS IDDYNT




RHAN 1

GOFYNION YMGYNGHORI AR GYFER GWAITH CYMWYS Y MAE ANGEN RHOI HYSBYSIAD CYHOEDDUS OHONYNT

Hysbysiad o fwriad

     1.  - (1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i gyflawni gwaith cymwys  - 

    (2) Rhaid i'r hysbysiad - 

     2.  - (1) Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 yn pennu lle ac amser ar gyfer archwilio - 

    (2) Os nad oes cyfleusterau ar gael i wneud copïau ar yr adegau y gellir archwilio'r disgrifiad, yna os gofynna'r tenant am gopi o'r disgrifiad, rhaid i'r landlord ei ddarparu ar ei gyfer yn rhad ac am ddim.

Dyletswydd i ystyried sylwadau mewn perthynas â'r gwaith arfaethedig

     3. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn cysylltiad â'r gwaith arfaethedig, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.

Paratoi datganiad contract y landlord

     4.  - (1) Rhaid i'r landlord baratoi, yn unol â darpariaethau canlynol y paragraff hwn, ddatganiad mewn perthynas â'r contract arfaethedig y cyflawnir y gwaith arfaethedig oddi tano.

    (2) Rhaid i'r datganiad nodi - 

    (3) At ddiben is-baragraff (2)(b), rhaid tybio bod cysylltiad rhwng person a'r landlord - 

    (4) Os yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord amcangyfrif, o ran uned breswyl pob tenant, swm y cyfraniad perthnasol sydd i'w dynnu gan y tenant ac sydd i'w briodoli i'r gwaith y mae a wnelo'r contract arfaethedig ag ef, rhaid pennu'r swm amcangyfrifedig hwnnw yn y datganiad.

    (5) Os - 

rhaid pennu'r swm amcangyfrifedig hwnnw yn y datganiad.

    (6) Os - 

rhaid pennu'r gost neu'r gyfradd honno yn y datganiad.

    (7) Os nad yw'n rhesymol ymarferol i'r landlord roi'r amcangyfrif a grybwyllir yn is-baragraff (6)(b), rhaid nodi yn y datganiad y rhesymau pam na all y landlord gydymffurfio ynghyd â'r dyddiad y mae'r landlord yn disgwyl y bydd yn gallu darparu swm, cost neu gyfradd amcangyfrifedig.

    (8) Os gwneir sylwadau y mae'n ofynnol i'r landlord eu hystyried (yn unol â pharagraff 3), rhaid i'r datganiad gynnwys crynodeb o'r sylwadau a nodi ymateb y landlord iddynt.

Hysbysiad o gontract arfaethedig

     5.  - (1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i ymrwymo i'r contract arfaethedig - 

    (2) O ran yr hysbysiad - 

    (3) Pan sicrheir bod datganiad paragraff 4 ar gael i'w archwilio, rhaid i baragraff 2 fod yn gymwys mewn perthynas â'r datganiad hwnnw fel y mae'n gymwys mewn perthynas â disgrifiad o'r gwaith arfaethedig sydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwnnw.

Ymateb y landlord i sylwadau

     6. Os gwneir sylwadau yn ymateb i'r gwahoddiad yn yr hysbysiad o dan baragraff 5, rhaid i'r landlord ddatgan ymateb y landlord i'r sylwadau, a hynny o fewn 21 diwrnod i'w derbyn ac mewn hysbysiad ysgrifenedig at y person a wnaeth y sylwadau.

Gwybodaeth atodol

     7. Os yw datganiad a gaiff ei baratoi o dan baragraff 4(7) yn pennu rhesymau'r landlord dros fethu cydymffurfio ag is-baragraff (6) o'r paragraff hwnnw, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i dderbyn digon o wybodaeth i'w alluogi i amcangyfrif y swm, y gost neu'r gyfradd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4), (5) neu (6) o'r paragraff hwnnw, roi hysbysiad ysgrifenedig o'r swm, y gost neu'r gyfradd amcangyfrifedig (yn ôl y digwydd) - 



RHAN 2

GOFYNION YMGYNGHORI AR GYFER GWAITH CYMWYS NAD OES ANGEN RHOI HYSBYSIAD CYHOEDDUS OHONYNT

Hysbysiad o fwriad

     1.  - (1) Rhaid i'r landlord roi hysbysiad ysgrifenedig o fwriad i gyflawni gwaith cymwys  - 

    (2) Rhaid i'r hysbysiad - 

    (3) Rhaid hefyd i'r hysbysiad wahodd pob tenant a'r gymdeithas (os oes un) i gynnig, o fewn y cyfnod perthnasol, enw person y dylai'r landlord geisio cael ganddo amcangyfrif mewn cysylltiad â chyflawni'r gwaith arfaethedig .

Archwilio disgrifiad o waith arfaethedig

     2.  - (1) Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 yn pennu lle ac amser ar gyfer archwilio - 

    (2) Os nad oes cyfleusterau ar gael i wneud copïau ar yr adegau y gellir archwilio'r disgrifiad, yna os gofynna'r tenant am gopi, rhaid i'r landlord ei ddarparu ar ei gyfer yn rhad ac am ddim.

Dyletswydd i ystyried sylwadau mewn perthynas â'r gwaith arfaethedig

     3. Os gwneir sylwadau gan unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig mewn cysylltiad â'r gwaith arfaethedig, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.

Amcangyfrifon ac ymateb i sylwadau

     4.  - (1) Os ceir enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig (pa un a geir enwebiad gan unrhyw denant ai peidio), a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif gan y person a enwebwyd.

    (2) Os ceir enwebiad gan un o'r tenantiaid yn unig (pa un a geir enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig ai peidio), a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif gan y person a enwebwyd.

    (3) Os ceir un enwebiad gan fwy nag un tenant (pa un a geir enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig ai peidio), a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif - 

    (4) Os ceir mwy nag un enwebiad gan unrhyw denant a mwy nag un enwebiad gan gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord geisio cael amcangyfrif - 

    (5) Rhaid i'r landlord, yn unol â'r is-baragraff hwn ac is-baragraffau (6) i (9) - 

    (6) Rhaid i o leiaf un o'r amcangyfrifon fod yn amcangyfrif gan berson nad oes cysylltiad o gwbl rhyngddo a'r landlord.

    (7) At ddiben paragraff (6), rhaid tybio bod cysylltiad rhwng person a'r landlord - 

    (8) Os yw'r landlord wedi cael amcangyfrif gan berson a enwebwyd, rhaid i'r amcangyfrif hwnnw fod yn un o'r rhai y mae a wnelo datganiad paragraff (b) â hwy.

    (9) Rhaid rhoi datganiad paragraff (b) i'r canlynol a sicrhau bod yr amcangyfrifon ar gael i'w harchwilio ganddynt - 

    (10) Rhaid i'r landlord, drwy hysbysiad ysgrifenedig a anfonir at bob tenant ac at y gymdeithas (os oes un) - 

    (11) Bydd paragraff 2 yn gymwys i amcangyfrifon a fydd ar gael i'w harchwilio o dan y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i ddisgrifiad o waith arfaethedig a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwnnw.

Dyletswydd i ystyried sylwadau mewn perthynas ag amcangyfrifon

     5. Os bydd unrhyw denant neu gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig yn gwneud sylwadau mewn cysylltiad â'r amcangyfrifon, a hynny o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i'r landlord ystyried y sylwadau hynny.

Dyletswydd wrth ymrwymo i gontract

     6. Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), os bydd y landlord yn ymrwymo i gontract ar gyfer cyflawni gwaith cymwys, rhaid i'r landlord, o fewn 21 diwrnod i ymrwymo i'r contract, drwy hysbysiad ysgrifenedig at bob tenant a chymdeithas tenantiaid gydnabyddedig (os oes un) - 

    (2) Nid yw gofynion is-baragraff (1) yn gymwys os yw person yr ymrwymwyd i'r contract gydag ef yn berson a enwebwyd neu os yw wedi cyflwyno'r amcangyfrif isaf.

    (3) Bydd paragraff 2 yn gymwys i ddatganiad a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwn fel y mae'n gymwys i ddisgrifiad o waith cymwys a fydd ar gael i'w archwilio o dan y paragraff hwnnw.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig, yn ymwneud â'r swm y gellir gofyn i denantiaid ei gyfrannu, trwy dalu taliadau gwasanaeth, ac â'r costau perthnasol a dynnir gan landlordiaid wrth gyflawni gwaith neu o dan gytundebau penodol. Onid yw landlord yn cydymffurfio â gofynion ymgynghori rhagnodedig neu'n cael gollyngiad gan dribiwnlys prisio lesddaliadau o dan adran 20(9) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 o ran pob un neu unrhyw un o'r gofynion hynny, mae cyfraniadau a wneir gan denantiaid fel taliadau gwasanaeth yn gyfyngedig.

Mae rheoliad 3(1) yn esemptio'r canlynol o'r gofynion ymgynghori sy'n gymwys i gytundebau sydd am gyfnod o fwy na 12 mis ("cytunebau hir-dymor cymwys"):

Mae rheoliad 3(2) yn darparu nad yw cytundeb yr ymrwymir iddo cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym yn gytundeb hir-dymor cymwys hyd yn oed os oes mwy na 12 mis o gyfnod y cytundeb yn weddill pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.

Mae rheoliad 3(3) yn darparu nad yw cytundeb am gyfnod o fwy na 12 mis yn gytundeb hir-dymor cymwys os yw'n darparu ar gyfer cyflawni gwaith ar adeilad neu ar unrhyw dir ac adeiladau eraill ("gwaith cymwys") y cyhoeddwyd hysbysiad yn eu cylch yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (" y Cyfnodolyn Swyddogol") (i gydymffurfio â rheolau caffael yr UE) cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Mae rheoliad 4 yn gosod terfyn o £100 mewn unrhyw gyfnod cyfrifydda (fel y'i diffinnir yn rheoliad 4(2)) mewn perthynas â thaliadau gwasanaeth y gellir eu priodoli i ddarparu nwyddau neu wasanaethau, neu i gyflawni gwaith, o dan gytundeb hir-dymor cymwys. Bydd y terfyn hwnnw'n gymwys onid yw'r landlord yn cydymffurfio â'r gofynion ymgynghori a ragnodir gan reoliad 5 neu'n cael gollyngiad gan dribiwnlys prisio lesddaliadau mewn perthynas â phob un neu unrhyw rai o'r gofynion hynny.

Mae rheoliad 5 yn ymdrin â'r gofynion ymgynghori sy'n gymwys i gytundebau hir-dymor cymwys. Ac eithrio yn yr achosion a grybwyllir isod, y gofynion ymgynghori yw'r rhai a bennir yn Atodlen 1. Pan fydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym neu ar ôl hynny, os (i gydymffurfio â rheolau caffael yr UE) bydd yn ofynnol cyhoeddi yn y Cyfnodolyn Swyddogol hysbysiad ynghylch nwyddau neu wasanaethau sydd i'w darparu neu waith sydd i'w gyflawni o dan y cytundeb, y gofynion ymgynghori yw'r rhai a nodir yn Atodlen 2. Os bydd person yn mynd yn denant o ganlyniad i arfer yr hawl i gael les hir o dan adran 138 o Ddeddf Tai 1985 (hawl i brynu) (gan gynnwys yr adran honno fel y'i cymhwysir mewn perthynas â'r hawl i brynu sydd wedi'i chadw o dan adran 171A o'r Ddeddf honno neu â'r hawl i gaffael o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996) dim ond y gofynion ymgynghori hynny sy'n gymwys i'r cytundeb ac sydd, ar ôl y degfed diwrnod ar hugain o denantiaeth y person hwnnw, yn dal yn ofynion na chydymffurfiwyd eisoes â hwy, y mae'n ofynnol i landlord gydymffurfio â hwy.

Mae rheoliad 6 yn gosod terfyn o £250 ar gyfraniad tenant mewn perthynas â thaliadau gwasanaeth sydd wedi'u priodoli i waith cymwys. Bydd y terfyn hwnnw'n gymwys onid yw'r landlord yn cydymffurfio â'r gofynion ymgynghori a ragnodir gan reoliad 7 neu'n cael gollyngiad gan dribiwnlys prisio lesddaliadau mewn perthynas â phob un neu unrhyw rai o'r gofynion hynny.

Mae rheoliad 7 yn ymdrin â'r gofynion ymgynghori sy'n berthnasol i waith cymwys o'r math a ddisgrifir yn y rheoliad hwnnw. Mewn perthynas â gwaith cymwys arall, mae gofynion ymgynghori o dan adran 20 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, fel yr oedd yn union cyn yr amnewid a wnaed gan adran 151 o Ddeddf Cyd-ddeiliadaeth a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn Deddf Cyd-ddeiliadaeth a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).

Mae paragraff (1) o reoliad 7 yn ymwneud â gwaith cymwys sy'n destun cytundeb hir-dymor cymwys. Yn ddarostyngedig i eithriad y mae paragraff (5) yn darparu ar ei gyfer ("eithriad paragraff (5)"), y gofynion ymgynghori yw'r rhai a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau.

Mae paragraffau (2) at (4) yn ymwneud â gwaith cymwys nad yw'n destun cytundeb hir-dymor cymwys.

Mae paragraff (2) yn ymwneud â'r gofynion ymgynghori mewn achos y mae paragraff (3) yn gymwys iddo. Yn ddarostyngedig i eithriad paragraff (5), y gofynion ymgynghori mewn achos o'r fath yw'r rhai a nodir yn Atodlen 3 (yr un gofynion ag sy'n gymwys i waith cymwys o dan gytundebau hir-dymor cymwys).

Mae paragraff (3) yn gymwys os yw gwaith cymwys yn cael ei gyflawni:

Mae paragraff (4) yn gymwys i achosion nad yw paragraff (3) yn gymwys iddynt. Pan yw'n ofynnol cyhoeddi hysbysiad o'r gwaith cymwys yn y Cyfnodolyn Swyddogol (er mwyn cydymffurfio â rheolau caffael yr UE), ac yn ddarostyngedig i eithriad paragraff (5), y gofynion ymgynghori yw'r rhai sydd wedi'u nodi yn Rhan 1 o Atodlen 4. Pan nad yw'n ofynnol cyhoeddi hysbysiad yn y Cyfnodolyn Swyddogol, ac yn ddarostyngedig i eithriad paragraff (5), y gofynion ymgynghori yw'r rhai a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 4.

Mae eithriad paragraff (5) yn gymwys pan yw person yn mynd yn denant o ganlyniad i arfer yr hawl i gael les hir wedi'i roi iddo o dan adran 138 o Ddeddf Tai 1985 (gan gynnwys yr adran honno fel y'i cymhwysir mewn perthynas â hawl i brynu a gadwyd o dan adran 171A o'r Ddeddf honno neu'r hawl i gaffael o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996). Yn yr achos hwnnw, ac mewn perthynas â'r person hwnnw ac â'r gwaith cymwys penodol hwnnw, dim ond y gofynion ymgynghori hynny, sy'n gymwys i'r gwaith hwnnw ac sydd, ar ôl y degfed dydd ar hugain o denantiaeth y person hwnnw, yn dal yn ofynion na chydymffurfiwyd â hwy eisoes, y mae'n ofynnol i landlord gydymffurfio â hwy.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).


Notes:

[1] 1985 p.70. Amnewidiwyd adran 20, a mewnosodwyd adran 20ZA, gan adran 151 o Ddeddf Cyd-ddeiliadaeth a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15). Gweler hefyd baragraff 4 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno am addasiadau sy'n berthnasol i adrannau 20 and 20ZA sy'n gysylltiedig â'r hawl i reoli o dan Bennod 1 o Ran 2 o'r Ddeddf honno. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 20 a 20ZA, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2; gweler y cofnod yn Atodlen 1 am Ddeddf Landlord a Thenant 1985. Gweler hefyd adran 177 o Ddeddf Cyd-ddeiliadaeth a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Gweler adran 20ZA(2) a rheoliadau 3 a 4 o'r Rheoliadau hyn.back

[4] Gweler adran 20(3) a rheoliad 6 o'r Rheoliadau hyn. Ar gyfer cymhwyso adran 20, fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, mewn achosion trosiannol, gweler erthygl 3 o Orchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).back

[5] 1985 p. 70.back

[6] O.S. 1991/2680, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[7] O.S. 1993/3228, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[8] O.S. 1995/201, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[9] 1985 p.68.back

[10] 1996 p.52.back

[11] Cymhwysir adran 138 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) mewn perthynas ag adran 171A gan adran 171C. Mewnosodwyd adrannau 171A and 171C gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p. 63), adran 8. Gweler hefyd Orchymyn Tai (Estyn yr Hawl i Brynu) 1993 (O.S. 1993/2240) a Rheoliadau Tai (Cadw'r Hawl i Brynu) 1993 (O.S.1993/2241). Cymhwysir adran 138 mewn perthynas ag adran 16 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) gan adran 17 o'r Ddeddf honno. Gweler hefyd Reoliadau Tai (Hawl i Gaffael) 1997 (O.S. 1997/619).back

[12] Gweler hefyd adran 139 a Rhannau 1 and 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Tai 1985. Mewnosodwyd paragraffau 16A i 16D yn Rhan 3 o Atodlen 6 gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), adran 4(4).back

[13] Gweler y diffiniad yn adran 20ZA(2) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, a fewnosodwyd gan adran 151 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back

[14] Gweler adran 38 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 ac adran 1 o Ddeddf Tai 1985.back

[15] 2000 p.22.back

[16] Mewnosodwyd adran 27AB gan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai, a Datblygu Trefol Act 1993 (p.28), adran 132. Gweler hefyd reoliad 1(4) o Reoliadau Tai (Hawl i Reoli) 1994 (O.S. 1994/627).back

[17] 1985 p.6. Mae'r diffiniadau o "holding company" a "subsidiary" yn adran 736. Rhoddwyd yr adran honno ac adran 736A yn lle'r adran wreiddiol 736 gan Ddeddf Cwmnïau 1989 (p. 40), adran 144(1).back

[18] 1985 p.68. Amnewidiwyd adran 27(2) gan O.S. 2003/940.back

[19] Gweler adran 18(2) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985.back

[20] 1998 p.38.back

[21] Gweler adran 29(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 a ddiwygiwyd gan Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p.31), Atodlen 2, paragraff 10.back



English version



ISBN 0 11090890 2


  © Crown copyright 2004

Prepared 17 March 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040684w.html