BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040905w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif905 (Cy.89)

GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004

  Wedi'u gwneud 24 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16BB(4), 17 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a pharagraffau 2, 3 a 4 o Atodlen 7A iddi drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN I

Cyffredinol

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn  - 



RHAN II

Sefydlu Cynghorau ac Aelodau Cynghorau

Cyfansoddiad Cynghorau
     2.  - (1) Rhaid penodi aelodau Cyngor  - 

ac i'r diben hwn rhaid i'r Cynulliad benderfynu ar nifer yr aelodau i'w penodi gan bob categori o awdurdodau sy'n penodi a grybwyllir yn is-baragraffau (a) a (b) uchod.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad arfer ei bwerau i benderfynu o dan baragraff (1) er mwyn sicrhau nid hwyrach nag Ebrill 2006 - 

    (3) Yn ychwanegol at yr aelodau a benodir yn unol â pharagraffau (1) a (2), caiff Cyngor o bryd i'w gilydd benodi'r aelodau cyfetholedig hynny sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol neu'n fanteisiol iddo er mwyn iddo gyflawni ei ddyletswyddau.

    (4) Ni chaiff aelodau cyfetholedig bleidleisio mewn unrhyw un o gyfarfodydd neu weithredoedd y Cyngor.

Tymor gwasanaethu'r aelodau
    
3.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn ac i reoliadau 9 a 10 (datgymhwyso aelod a dod ag aelodaeth aelod i ben), tymor gwasanaethu unrhyw aelod fydd - 

    (2) Pan fydd Cyngor newydd i'w sefydlu ar gyfer ardal neu ran o ardal Cyngor sy'n bodoli, caiff y Cynulliad benderfynu y bydd tymor gwasanaethu unrhyw aelod o'r Cyngor sy'n bodoli yn dod i ben yn union cyn sefydlu'r Cyngor newydd ac os penodir aelod y deuir â'i dymor gwasanaethu i ben yn unol â'r paragraff hwn yn aelod cyntaf ar y Cyngor newydd, tymor gwasanaethu'r aelod hwnnw fydd yr amser sy'n weddill o dymor gwasanaethu'r aelod hwnnw yn aelod o'r Cyngor sy'n bodoli.

Tymor gwasanaethu aelodau cyfetholedig
     4. Ni cheir penodi aelodau cyfetholedig am gyfnod sy'n fwy na blwyddyn ac ni cheir eu hailbenodi pan ddaw eu tymor i ben oni fydd y Cyngor yn penderfynu bod ailbenodi o'r fath yn angenrheidiol neu'n fanteisiol iddo er mwyn iddo gyflawni ei ddyletswyddau.

Penodi aelodau gan awdurdodau lleol
    
5.  - (1) Pan fydd nifer yr aelodau i'w penodi gan bob awdurdod lleol perthnasol yn caniatáu i fwy nag un aelod gael ei benodi gan bob awdurdod lleol perthnasol, rhaid i unrhyw aelodau pellach gael eu penodi gan yr awdurdodau lleol perthnasol hynny y penderfynir arnynt drwy gytundeb rhwng yr awdurdodau lleol hynny neu, os na cheir cytundeb o'r fath, erbyn y dyddiad y caiff y Cynulliad ei bennu at y diben, yn unol â'i benderfyniad.

    (2) Caiff person a benodir yn unol â'r rheoliad hwn fod yn aelod o'r awdurdod lleol sy'n ei benodi ond nid yw hynny'n angenrheidiol.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os bydd aelod a benodir gan awdurdod lleol yn aelod o'r awdurdod lleol sy'n penodi, rhaid iddo ef neu hi, pan na fydd mwyach yn aelod o'r awdurdod lleol sy'n penodi, beidio â bod yn aelod o'r Cyngor pan ddaw cyfnod o ddeufis yn cychwyn ar y dyddiad y peidiodd â bod yn aelod o'r awdurdod lleol i ben.

    (4) Mewn achos y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, caiff yr awdurdod lleol roi rhybudd ysgrifenedig i'r Prif Swyddog ac i'r Cynulliad, yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, yn mynegi bod y person a benodir i barhau'n aelod o'r Cyngor.

Penodi aelodau gan gyrff gwirfoddol
    
6.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad wahodd y cyrff gwirfoddol hynny y mae'n penderfynu bod ganddynt fuddiant digonol yn y gwasanaeth iechyd yn ardal Cyngor, i gymryd rhan yn y gwaith o benodi personau yn aelodau o Gyngor.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r cyrff gwirfoddol a wahoddir i gymryd rhan yn y gwaith o benodi aelodau o Gyngor, trwy gytuno â'i gilydd, benderfynu pa rai ohonynt, pa un ai'n gweithredu ar eu pen eu hunain neu ar y cyd fydd yn penodi'r aelodau hynny.

    (3) Os na cheir cytundeb at ddibenion paragraff (2) erbyn y dyddiad y bydd y Cynulliad yn ei bennu at y diben, rhaid i'r Cynulliad benderfynu pa gyrff gwirfoddol fydd yn gwneud penodiad, ac a ddylid gwneud y penodiadau gan un corff o'r fath neu fwy yn gweithredu ar eu pen eu hunain neu ar y cyd ag un corff arall o'r fath neu fwy.

    (4) Caiff aelod a benodir yn unol â'r rheoliad hwn fod yn aelod o'r corff gwirfoddol sy'n ei benodi ond nid yw hynny'n angenrheidiol.

Gweithdrefnau ar gyfer penodi aelodau
    
7. Rhaid i'r cyrff sy'n penodi sicrhau bod trefniadau priodol wedi'u gwneud ar gyfer dewis a phenodi personau'n aelodau a bod y trefniadau hynny'n gymryd i ystyriaeth - 

Aelodau sy'n gymwys i'w hailethol
     8.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i reoliad 9, bydd aelod yn gymwys i'w ailethol pan ddaw tymor ei wasanaeth i ben.

    (2) Ni fydd person a fu'n aelod am wyth mlynedd ddilynol neu fwy yn gymwys i'w ailethol, onid oes cyfnod o bedair blynedd o leiaf wedi mynd heibio er pan fu ef neu hi yn aelod ddiwethaf ond, os bydd Cyngor a'r Cynulliad yn cytuno bod hynny'n angenrheidiol neu'n fanteisiol er mwyn i Gyngor gyflawni ei ddyletswyddau, caniateir ailethol aelod am gyfnod pellach nad yw'n fwy na blwyddyn.

Datgymhwyso aelodau
    
9.  - (1) Ni fydd person yn gymwys i'w benodi'n aelod, ac i fod yn aelod - 

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi, ac i fod yn aelod, os yw wedi'i ddiswyddo, ac eithrio oherwydd i'w swydd gael ei dileu, o unrhyw gyflogaeth gyflogedig gydag unrhyw un o'r cyrff canlynol  - 

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os nad yw person yn gymwys o dan baragraff (2), ac ar ôl i nid llai na dwy flynedd yn cychwyn ar y dyddiad y'i diswyddwyd fynd heibio, caiff y person hwnnw wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad i ddiddymu'r datgymhwysiad, a chaiff y Cynulliad gyfarwyddo bod y datgymhwysiad wedi'i ddiddymu.

    (4) Pan fydd y Cynulliad yn gwrthod cais person i ddiddymu'r datgymhwysiad, ni chaiff y person hwnnw wneud cais arall o fewn dwy flynedd i ddyddiad y cais a wrthodwyd.

Terfynu aelodaeth
     10.  - (1) Caiff aelod ymddiswyddo ar unrhyw adeg yn ystod y tymor y'i penodwyd i wasanaethu trwy roi rhybudd ysgrifenedig i'r Cynulliad, a bydd yntau, os nad ef a benododd yr aelod, yn hysbysu'r corff perthnasol sy'n penodi a Bwrdd CIC ar ei union.

    (2) Y dyddiad y daw ymddiswyddiad trwy rybudd a roddwyd yn unol â pharagraff (1) i rym fydd  - 

    (3) Os methodd aelod fynychu cyfarfod o'r Cyngor, neu gyfarfod o un o bwyllgorau'r Cyngor, am gyfnod o dri mis, rhaid i'r Cyngor hysbysu Bwrdd CIC a rhoi gwybod am absenoldeb yr aelod i'r Cynulliad a rhaid i'r Cynulliad, onid yw'n fodlon  - 

ddatgan i'w le ar y Cyngor ddod yn wag a phan wneir y datganiad hwnnw, bydd y person hwnnw'n peidio â bod yn aelod.

    (4) Os bydd y Cynulliad o'r farn nad yw o fudd i'r gwasanaeth iechyd i berson barhau'n aelod, caiff y Cynulliad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), derfynu tymor gwasanaethu'r aelod.

    (5) Rhaid i'r Cynulliad beidio â therfynu tymor gwasanaethu aelod o dan baragraff (4) heb iddo yngynghori â'r Cyngor, Bwrdd CIC, ac, os nad y Cynulliad a benododd yr aelod, y corff perthnasol sy'n penodi.

    (6) Ni fydd person sy'n peidio â bod yn aelod oherwydd rhoi paragraff (3) a pharagraff (4) ar waith yn gymwys i gael ei ailbenodi'n aelod am gyfnod o bedair blynedd.



RHAN III

Trafodion Cynghorau

Penodi cadeirydd ac is-gadeirydd
    
11.  - (1) Rhaid i'r aelodau benodi  - 

a hynny am y cyfnodau y gallant benderfynu arnynt pan fyddant yn cynnal yr etholiad, sef cyfnodau na fyddant, beth bynnag, yn hwy na'r amser sy'n weddill o dymor gwasanaethu'r aelod fel aelod a rhaid i'r Prif Swyddog, ar ei union, hysbysu'r Cynulliad a Bwrdd CIC yn ysgrifenedig o enwau'r personau a etholwyd felly.

    (2) Caiff cadeirydd neu is-gadeirydd ymddiswyddo o'r swydd honno ar unrhyw adeg trwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Prif Swyddog, a bydd yn rhaid i'r Prif Swyddog, ar ei union, hysbysu'r Cynulliad a Bwrdd CIC yn ysgrifenedig; ac  - 

Penodi pwyllgorau a chyd-bwyllgorau
    
12.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff Cyngor benodi un neu fwy o bwyllgorau'r Cyngor i arfer, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a'r amodau hynny sy'n briodol ym marn y Cyngor, rai, ond nid y cyfan, o swyddogaethau'r Cyngor.

    (2) Ac eithrio pan gaiff y Cynulliad, mewn unrhyw achos arbennig, ganiatáu fel arall, ni ddylai llai na dau draean o aelodau unrhyw bwyllgor a benodwyd gan Gyngor fod yn aelodau o'r Cyngor hwnnw.

    (3) Caiff Cyngor, ynghyd ag un neu fwy o Gynghorau eraill, benodi cyd-bwyllgor, y bydd ei aelodau i gyd yn aelodau o'r Cynghorau hynny, i arfer, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a'r amodau hynny y gall y Cynghorau gytuno arnynt rhyngddynt, rai, ond nid y cyfan, o swyddogaethau pob un o'r Cynghorau hynny.

Cyfarfodydd a thrafodion
    
13. Rhoddir darpariaethau'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn ar waith mewn cysylltiad â chyfarfodydd a thrafodion y Cyngor.

Swyddogion
    
14.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad benodi person sy'n dderbyniol i Gyngor i weithredu fel Prif Swyddog y Cyngor, ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor, ac os derbyn y Cyngor unrhyw swyddog unigol a benodwyd, bydd hefyd yn penodi personau i weithredu fel swyddogion eraill y Cyngor fel sy'n angenrheidiol ym marn y Cynulliad.

    (2) Penodir person i weithredu fel un o swyddogion Cyngor gan y Cynulliad mewn dull ac am gyfnod sy'n dderbyniol i'r Cyngor.

    (3) Bydd y personau a benodir yn unol â pharagraff (1) a pharagraff (2) yn cael eu cyflogi gan Fwrdd Iechyd Lleol y gall y Cynulliad benderfynu arno at y diben, yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed gan y Cynulliad ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd ganddo o dan y Ddeddf, a rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n eu cyflogi sicrhau bod eu gwasanaethau ar gael i'r Cyngor gydol eu tymor gwasanaethu.

Mangreoedd a chyfleusterau eraill
    
15.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad, ar ôl ymgynghori â Chyngor  - 

ond caiff yr aelodau wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau a llety, os cymeradwyir hynny gan y Cynulliad.

    (2) I alluogi Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau  - 

Adroddiadau
    
16.  - (1) Mae'n rhaid i Gyngor, erbyn 1 Medi 2004 ac ym mhob blwyddyn ddilynol  - 

    (2) Ar dderbyn yr adroddiad rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG  - 



RHAN IV

Cyflawni Swyddogaethau
    
17. Bydd yn ddyletswydd ar bob Cyngor i adolygu'n gyson y modd y gweithredir y gwasanaeth iechyd yn ei ardal, i wneud argymhellion ar gyfer gwella'r gwasanaeth hwnnw ac i roi cyngor i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol, neu Ymddiriedolaeth GIG ar y materion hynny y mae'r Cyngor yn eu hystyried yn briodol ac sy'n gysylltiedig â gweithredu'r gwasanaeth iechyd o fewn ei ardal.

Cyrff Iechyd Perthnasol yn Ymgynghori â Chynghorau
    
18.  - (1) Bydd yn ddyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ac Awdurdod Iechyd Strategol (y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn fel "corff GIG perthnasol") mewn perthynas â gwasanaethau iechyd y mae'n gyfrifol amdanynt, i gynnwys Cyngor

mewn penderfyniadau sydd i'w gwneud gan y corff hwnnw sy'n effeithio ar y ffordd y mae'r gwasanaethau hynny yn cael eu rhoi ar waith[

    (2) Os yw corff GIG perthnasol wrthi'n ystyried unrhyw gynnig ar gyfer datblygu'r gwasanaeth iechyd yn sylweddol yn ardal Cyngor, neu ar gyfer amrywio'n sylweddol y modd y mae'r gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddarparu, rhaid iddo ymgynghori â'r Cyngor hwnnw.

    (3) Ni fydd paragraffau (1) a (2) yn gymwys i gynigion i sefydlu Bwrdd Iechyd Lleol neu i amrywio neu ddirymu Gorchymyn Bwrdd Iechyd Lleol neu i sefydlu neu ddiddymu Ymddiriedolaeth GIG.

    (4) Ni fydd paragraffau (1) a (2) yn gymwys i unrhyw gynigion y mae'r corff GIG perthnasol yn fodlon bod yn rhaid gwneud penderfyniad arnynt heb ganiatáu ymgynghori, a hynny er budd y gwasanaeth iechyd neu oherwydd risg i ddiogelwch neu les cleifion neu staff; ond mewn achos o'r fath, rhaid i'r corff GIG perthnasol hysbysu'r Cyngor ar unwaith o'r penderfyniad a wnaed a'r rheswm pam na fu ymgynghori.

    (5) Caiff Cyngor yr ymgynghorwyd ag ef gan gorff GIG perthnasol yn unol â pharagraff (2) gyflwyno sylwadau ar y cynnig sy'n destun yr ymgynghori erbyn y dyddiad a bennir gan y corff GIG perthnasol.

    (6) Mewn unrhyw achos lle nad yw Cyngor yn fodlon  - 

caiff gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad ac fe gaiff y Cynulliad ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol neu'r Ymddiriedolaeth GIG berthnasol, a chaiff ofyn i'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu'r Awdurdod Iechyd Strategol o dan sylw gyflawni'r ymgynghori, neu'r ymgynghori pellach, â Chyngor y mae'n barnu ei fod yn briodol.

    (7) Os yw ymgynghori pellach wedi bod yn ofynnol o dan baragraff (6), rhaid i'r corff GIG perthnasol, gan roi sylw i ganlyniad yr ymgynghori hwnnw, ailystyried unrhyw benderfyniad y mae wedi'i gymryd ynglyn â'r cynnig o dan sylw.

    (8) Mewn unrhyw achos lle mae Cyngor o'r farn na fyddai cynnig a gyflwynwyd o dan baragraff (2) gan Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol neu Ymddiriedolaeth GIG perthnasol er budd y gwasanaeth iechyd yn ei ardal, caiff gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad a chaiff y Cynulliad wneud penderfyniad terfynol ar y cynnig a'i gwneud yn ofynnol i'r corff GIG perthnasol gymryd y camau, neu beidio â chymryd y camau, y mae'r Cynulliad yn cyfarwyddo y dylid eu cymryd.

Gwybodaeth sydd i'w darparu gan gyrff iechyd perthnasol
    
19.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd yn ddyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol i roi i Gyngor yr wybodaeth honno am gynllunio a gweithredu gwasanaethau iechyd yn ei ardal y gall y Cyngor yn rhesymol ofyn amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau.

    (2) Nid fydd dim ym mharagraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Awdurdod Iechyd Strategol, neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ddarparu gwybodaeth gyfrinachol mewn cysylltiad â  - 

    (3) Os bydd i Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Awdurdod Iechyd Strategol wrthod datgelu i Gyngor wybodaeth nad yw paragraff (2) yn gymwys iddi, caiff y Cyngor apelio at y Cynulliad a bydd penderfyniad y Cynulliad ynghylch a yw'n rhesymol i'r Cyngor ofyn am yr wybodaeth er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau yn derfynol at ddibenion y rheoliad hwn.

Mynd i mewn i fangreoedd i'w harchwilio
    
20.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, caiff personau a gafodd eu hawdurdodi'n ysgrifenedig gan Gyngor, ar unrhyw adeg resymol, fynd i mewn i fangreoedd y mae'r canlynol yn berchen arnynt neu'n eu rheoli i'w harchwilio: - 

    (2) Rhaid rhoi i bob person a awdurdodir gan Gyngor o dan baragraff (1) dystiolaeth ysgrifenedig ei fod wedi'i awdurdodi a phan fydd yn ceisio mynd i mewn i unrhyw fangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at y dibenion a bennwyd yn y paragraff hwnnw, rhaid iddo ddangos y dystiolaeth honno os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannwr y fangre honno neu gan berson sy'n gweithredu ar ran y naill neu'r llall ohonynt.

    (3) Ac eithrio pan fydd Cyngor o'r farn ei bod yn fanteisiol i'r gwasanaeth iechyd ac er budd y gwasanaeth hwnnw, neu pan fydd risg i ddiogelwch neu les cleifion neu staff, rhaid i berson a awdurdodir gan Gyngor o dan baragraff (1) beidio â mynnu ei fod yn cael mynd i mewn i unrhyw fangre y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw fel mater o hawl oni chafodd y person neu'r corff sy'n berchen arni neu sy'n eu rheoli rybudd rhesymol o'i fwriad.

    (4) Ni chaiff person a awdurdodwyd gan Gyngor o dan baragraff (1) fynd i mewn i unrhyw fangre neu ran o fangre a ddefnyddir fel llety preswyl  - 

heb iddo fod wedi cael caniatâd y bobl hynny'n gyntaf.

    (5) Wrth arfer hawliau i fynd i mewn i fangre i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, bydd yn rhaid i Gyngor gadw mewn cof yr angen am sicrhau diogelwch, preifatrwydd ac urddas claf, ac unrhyw gyngor neu ganllawiau a roddwyd gan y Cynulliad a phan fydd yn ymarferol gwneud hynny, bydd yn cydweithredu ag unrhyw gorff arall sy'n arfer hawliau tebyg yn unol ag unrhyw ddeddfiad.

Cyfarfodydd rhwng Cynghorau a Byrddau Iechyd Lleol perthnasol
    
21. Bydd yn ddyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol i drefnu cyfarfod rhwng dim llai na thraean aelodau'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol ac aelodau'r Cyngor er mwyn trafod materion y gallai'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd Lleol gytuno arnynt rhyngddynt, a hynny ddim llai nag unwaith bob blwyddyn.

Adfocatiaeth gwyno annibynnol
    
22. Rhaid i Gynghorau ddarparu'r gwasanaethau adfocatiaeth y mae angen eu darparu o dan adran 19A o'r Ddeddf ar ran y Cynulliad.



RHAN V

Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru

Sefydlu Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru
    
23. Sefydlir drwy hyn, yn effeithiol o 1 Ebrill 2004, gorff i'w alw'n Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru y bydd ganddo'r swyddogaethau canlynol - 

Cyfansoddiad Bwrdd CIC
    
24. Bydd ar Fwrdd CIC 28 o aelodau a bydd  - 

Staff cynnal
    
25.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad benodi person sy'n dderbyniol i Fwrdd CIC i fod yn Gyfarwyddwr y Bwrdd a rhaid iddo hefyd, ar ôl ymgynghori â Bwrdd CIC ac yn ddarostyngedig i fod Bwrdd CIC yn derbyn unrhyw swyddogion unigol a benodir, benodi personau i fod yn swyddogion eraill Bwrdd CIC fel sy'n angenrheidiol ym marn y Cynulliad.

    (2) Rhaid i benodiad person i weithredu fel un o swyddogion Bwrdd CIC gael ei wneud gan y Cynulliad mewn dull ac am gyfnod sy'n dderbyniol i Fwrdd CIC.

    (3) Rhaid i bersonau a benodwyd yn unol â pharagraff (1) a pharagraff (2) gael eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd Lleol y bydd y Cynulliad yn penderfynu arno at y diben , a hynny'n unol ag unrhyw reoliadau a wneir gan y Cynulliad ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddir ganddo o dan y Ddeddf, a rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw sy'n eu cyflogi'n sicrhau bod eu gwasanaeth ar gael i'r Cyngor gydol tymor eu gwasanaeth.

Mangreoedd a chyfleusterau eraill
    
26.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad, ar ôl ymgynghori â Bwrdd CIC  - 

ond caiff yr aelodau, gyda chymeradwyaeth y Cynulliad, wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau a llety.

    (2) I alluogi Bwrdd CIC i gyflawni ei swyddogaethau  - 

Trafodion
    
27.  - (1) Rhaid i Fwrdd CIC fabwysiadu cyfansoddiad a Rheolau Sefydlog fel y gwêl yn dda.

    (2) Caniateir amrywio'r cyfansoddiad a'r rheolau a fabwysiedir felly mewn unrhyw gyfarfod dilynol o Fwrdd CIC.

    (3) Caiff Bwrdd CIC benodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau y caiff personau nad ydynt yn aelodau o Fwrdd CIC fod yn aelodau ohonynt.

    (4) Bydd hawl gan gynrychiolydd o'r Cynulliad a chynrychiolydd o'r Bwrdd Iechyd Lleol y cyfeirir atynt yn rheoliad 25(3) fynychu unrhyw gyfarfodydd o Fwrdd CIC a chymryd rhan mewn trafodaethau (ond ni chânt gyfrannu at wneud penderfyniadau).

Adroddiadau
    
28. Rhaid i Fwrdd CIC, erbyn 1 Medi 2004 ac ym mhob blwyddyn ddilynol, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad ynghylch cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis yn gorffen ar 31 Mawrth y flwyddyn honno, ac ynghylch materion eraill y gall y Cynulliad ofyn amdanynt.



RHAN VI

Cyllid a Chyfrifon


Cyllid
    
29.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad dalu Bwrdd CIC a'r Cynghorau y symiau sydd eu hangen ym marn y Cynulliad er mwyn i Fwrdd CIC gyflawni ei swyddogaethau ac i'r Cynghorau gyflawni eu swyddogaethau hwythau o dan y Rheoliadau yn y drefn honno, a bydd yn rhaid talu'r symiau hyn ar yr adegau hynny ac o dan yr amodau hynny y gall y Cynulliad o dro i dro benderfynu arnynt.

    (2) Rhaid i Fwrdd CIC gyflwyno i'r Cynulliad ar y ffurf ac erbyn y dyddiad y gall y Cynulliad ofyn amdanynt, yr amcangyfrifon hynny y gall y Cynulliad ofyn amdanynt o'r costau y mae Bwrdd CIC yn disgwyl mynd iddynt yn ystod y blynyddoedd ariannol hynny y gall y Cynulliad eu pennu.

    (3) Rhaid i bob Cyngor gyflwyno i Fwrdd CIC ar y ffurf ac erbyn y dyddiadau y gall Bwrdd CIC ofyn amdanynt yr amcangyfrifon hynny y gall y Bwrdd CIC ofyn amdanynt o'r gwariant a ddisgwylir gan bob Cyngor yn ystod y blynyddoedd ariannol hynny y gall Bwrdd CIC eu pennu.

    (4) Rhaid i Fwrdd CIC gadarnhau cyfansymiau'r amcangyfrifon a gyflwynir o dan baragraff (3) wedi'u haddasu neu heb eu haddasu, neu'n ddarostyngedig i'r fath amodau ag y gwêl Bwrdd CIC yn dda, a chaiff amrywio'r cadarnhad neu'r amodau ar unrhyw adeg a bydd yn argymell y symiau hynny i'r Cynulliad i'w talu o dan baragraff (1).

    (5) Rhaid i wariant Bwrdd CIC a'r Cynghorau beidio â bod yn fwy na'r symiau a gymeradwywyd gan y Cynulliad o dan y rheoliad hwn.

Cyfrifon
    
30.  - (1) Rhaid i Fwrdd CIC a'r Cynghorau baratoi a chadw'r cyfrifon hynny y gall y Cynulliad ofyn amdanynt a hynny mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol a rhaid i'r cyfrifon fod yn adlewyrchiad gwir a theg o unrhyw incwm a gwariant a llif arian mewn cysylltiad â Bwrdd CIC a'r Cynghorau.

    (2) Rhaid i'r Cynghorau a Bwrdd CIC anfon copi o'u cyfrifon blynyddol eu hunain mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol i'r Cynulliad cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.



RHAN VII

Dirymiadau

Dirymiadau
    
31. I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dirymir drwy hyn Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996[11], Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) (Cymru) 2000[12] a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymdeithas Cynghorau Iechyd Cymuned) 1977[13].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[14])


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mawrth 2004



YR ATODLEN
Rheoliad 13

     1. Cynhelir cyfarfod cyntaf Cyngor a sefydlwyd o dan adran 20A(2)(b) o'r Ddeddf ar y dyddiad ac mewn lle y gall y Cynulliad a fydd yn gyfrifol am alw'r cyfarfod eu pennu.

     2. Rhaid cynnal cyfarfod o'r Cyngor o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o dri mis a rhaid i'r cyfarfodydd fod yn agored i'r cyhoedd.

     3.  - (1) Ar ôl y cyfarfod cyntaf, caiff y cadeirydd alw cyfarfod o'r Cyngor unrhyw bryd.

    (2) Os cyflwynir cais am gynnal cyfarfod, a hwnnw wedi'i lofnodi gan draean o leiaf o gyfanswm yr aelodau, i'r cadeirydd, a naill ai  - 

caiff yr aelodau hynny alw cyfarfod ar eu hunion.

    (3) Cyn pob cyfarfod o Gyngor, rhaid danfon hysbysiad o'r cyfarfod - 

i bob aelod, neu ei anfon trwy'r post i'w breswylfa arferol neu ei gyfeiriad busnes arferol, a hynny o leiaf saith diwrnod cyfan cyn dyddiad y cyfarfod.

    (4) Ni fydd methu â chyflwyno hysbysiad i unrhyw aelod yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod.

    (5) Yn achos cyfarfod a gaiff ei alw gan aelodau yn hytrach na'r cadeirydd, rhaid i'r aelodau hynny lofnodi'r hysbysiad ac yn y cyfarfod rhaid peidio â thrin unrhyw fusnes heblaw'r busnes a bennir yn yr hysbysiad.

     4.  - (1) Mewn unrhyw gyfarfod o Gyngor rhaid i'r cadeirydd lywyddu, os yw'n bresennol.

    (2) Os yw'r cadeirydd yn absennol o'r cyfarfod rhaid i is-gadeirydd lywyddu os yw'n bresennol.

    (3) Os yw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd yn absennol, llywyddir gan aelod y bydd yr aelodau sy'n bresennol yn ei ddewis.

     5. Penderfynir ar bob cwestiwn mewn cyfarfod gan fwyafrif pleidleisiau yr aelodau sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn ac, yn achos pleidlais gytbwys, bydd gan y person sy'n llywyddu ail bleidlais a honno'r bleidlais fwrw.

     6. Rhaid peidio â thrin unrhyw fusnes mewn cyfarfod onid oes traean o'r aelodau o leiaf yn bresennol (ac eithrio llefydd gwag ac aelodau cyfetholedig).

     7. Rhaid llunio cofnodion a'u cyflwyno er mwyn cytuno arnynt yng nghyfarfod nesaf y Cyngor, a rhaid i'r person sy'n llywyddu yno eu llofnodi.

     8. Rhaid cofnodi enwau aelodau sy'n bresennol mewn cyfarfod yng nghofnodion y cyfarfod.

     9. Ym mharagraff 3 o'r Atodlen hon mae "cadeirydd" yn cynnwys is-gadeirydd sy'n gweithredu fel cadeirydd.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Gosododd Adran 20 o Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ddyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol, sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, i sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned. Mae Adran 1 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 yn darparu ar gyfer diddymu adran 20 o Ddeddf 1977 ac Atodlen 7 iddi ac yn mewnosod hefyd adran newydd 20A ac Atodlen newydd 7A yn Neddf 1977.

Mae adran 20A yn darparu bod Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru yn cael eu cadw; mae Atodlen 7A yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â Chynghorau Iechyd Cymuned.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996. Maent yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â: - 

chyfansoddiad ac aelodaeth Cynghorau (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer penodi aelodau i Gynghorau sy'n bodoli eisoes a Chynghorau a sefydlwyd neu a ailgyfluniwyd o dan adran 20A o Reoliadau 2003 (rheoliadau 2 i 10). Mae Rheoliadau 1996 ar hyn o bryd yn darparu y daw hanner aelodau Cynghorau Iechyd Cymuned o awdurdodau lleol, traean ohonynt o gyrff gwirfoddol a'r gweddill i'w penodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn darparu y bydd chwarter aelodau Cynghorau Iechyd Cymuned, erbyn Ebrill 2006, yn cael eu penodi gan awdurdodau lleol, chwarter yr aelodau gan gyrff gwirfoddol a'r gweddill gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer gweithdrefnau penodi;

swyddogaethau (rheoliadau 17 i 22) sy'n cynnwys y gofyniad am i gyrff y gwasanaeth iechyd (h.y. Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau GIG, Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol ac Awdurdodau Iechyd Strategol), awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau iechyd i deuluoedd (e.e. meddygon teulu, fferyllwyr, deintyddion ac optegwyr) yn ogystal ag eraill sy'n berchen ar fangreoedd lle y darperir gwasanaethau o'r fath neu sy'n eu rheoli i ganiatáu i aelodau awdurdodedig Cynghorau Iechyd Cymuned i archwilio mangreoedd y maent yn berchen arnynt neu a reolir ganddynt. Er, yn gyffredinol, y bydd gofyn rhoi rhybudd rhesymol o'r archwiliad, ni fydd angen rhoi rhybudd os yw Cyngor o'r farn bod archwiliad er budd y gwasanaeth iechyd neu er lles neu ddiogelwch cleifion (rheoliad 20). Mae rheoliad 22 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynghorau ymgymryd â gwasanaethau adfocatiaeth annibynnol ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel sy'n ofynnol o dan adran 19A o Ddeddf 1977.

Mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer sefydlu corff statudol newydd a elwir yn Fwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru i gynghori a helpu Cynghorau Iechyd Cymuned i gyflawni eu swyddogaethau. Bydd y bwrdd hefyd yn rhoi gwybod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beth yw barn ar y cyd y Cynghorau Iechyd Cymuned ac yn monitro perfformiad Cynghorau Iechyd Cymuned gyda'r bwriad o ddatblygu a sicrhau cysondeb yn safonau y Cynghorau i gyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad (rheoliad 24), staff a mangreoedd (rheoliadau 25 a 26), trafodion y Bwrdd (rheoliad 27) a chyllid (rheoliadau 29 a 30).

I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996, Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 2000 a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymdeithas y Cynghorau Iechyd Cymuned) 1977.


Notes:

[1] 1977 p.49. Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) a pharagraff 37(6) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ac adran 1 o Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (p.4) ("Deddf 2003"). Mewnosodwyd adran 16BB(4) gan adran6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17). Mewnasodwyd, ac Atodlen 7A gan adran 1 o Ddeddf 2003. Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672.back

[2] 2001 p.15.back

[3] Mewnosodwyd adran 20A gan adran 1 o Ddeddf 2003.back

[4] Gellir cael copïau o'r ddogfen hon drwy ysgrifennu at Is-adran GIG (Adnoddau Dynol), Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.back

[5] Gellir cael copïau o'r ddogfen hon drwy ysgrifennu at Is-adran GIG (Adnoddau Dynol), Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.back

[6] 1989 p.44back

[7] O.S. 2002/253.back

[8] O.S. 2003/149(Cy.19), rheoliad 3(4)(i) ac Atodlen 2 , paragraff 17(a).back

[9] 1970 p.46back

[10] Sefydlwyd gan OS 2003/505back

[11] O.S. 1996/640.back

[12] O.S 2000/479 (Cy.20).back

[13] O.S. 1977/874.back

[14] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090914 3


  © Crown copyright 2004

Prepared 7 April 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040905w.html