BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif1390 (Cy.140)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2004
|
Wedi'u gwneud |
18 Mai 2004 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mai 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999[1] ac adran 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[2] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a'r holl bwerau eraill sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 31 Mai 2004.
Diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000
2.
- (1) Diwygir Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000[3] fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliadau 2(1), 3(1)(a), 4(3), 7(2), a 9(2) rhodder "Bwrdd Iechyd Lleol" yn lle "Awdurdod Iechyd"[4].
(3) Ar ôl rheoliad 10(2), rhodder -
"
(2A) Pan fydd awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen, caiff cydbwyllgor sy'n cael ei ffurfio o dan baragraff (2) gynnwys unrhyw aelod o'r awdurdod p'un a yw'r aelod hefyd yn aelod o weithrediaeth neu Fwrdd yr awdurdod.".
(4) Ar ôl rheoliad 10(4), ychwaneger -
"
(4) Ym mharagraff (2A) -
"Mae i "Bwrdd" ("Board") yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001[5];
Mae i "gweithrediaeth" a "trefniadau gweithrediaeth" yr ystyr a roddir i "executive" ac "executive arrangements" yn Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[6]);
Mae i "trefniadau amgen" yr ystyr a roddir i "alternative arrangements" yn Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Mai 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000 ("Rheoliadau 2000") o dan adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999 ac adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae Rheoliadau 2000 yn darparu fframwaith ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol. Yn arbennig mae Rheoliadau 2000 yn pennu'r cyrff gwasanaeth iechyd gwladol y maent yn gymwys iddynt, ac yn darparu ar gyfer ffurfio cydbwyllgorau i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros reoli'r trefniadau partneriaeth hynny.
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio Rheoliadau 2000 drwy roi cyfeiriadau at Fyrddau Iechyd Lleol yn lle'r cyfeiriadau presennol at Awdurdodau Iechyd.
Mae rheoliad 2(3) a 2(4) yn diwygio Rheoliadau 2000 i ddarparu, pan fydd awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen o dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, y caiff unrhyw aelod o'r awdurdod hwnnw eistedd ar y cydbwyllgor, p'un a yw'r aelod hwnnw hefyd yn aelod o weithrediaeth neu Fwrdd yr awdurdod neu beidio.
Notes:
[1]
1999 p.8. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 31 o'r Ddeddf yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd y diwygiad i Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672 a wnaed gan adran 66(5)(c) o'r Ddeddf (gweler erthygl 2(a) o'r Gorchymyn ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)). Gweler adran 62(1) a (4) o'r Ddeddf ynghylch y per i wneud rheoliadau ac ynghylch cymhwyso adran 126 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p.49) ynghylch y per i wneud rheoliadau.back
[2]
1977 p.49. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 126(4) o'r Ddeddf yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd cynnwys y Ddeddf (gydag eithriadau) yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672 (gweler erthygl 2(a) o'r Gorchymyn ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)).back
[3]
O.S. 2000/2993 (Cy. 193).back
[4]
Diddymwyd awdurdodau iechyd yng Nghymru gan Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 O.S. 2003/813 (Cy.98). Sefydlwyd Byrddau Iechyd Lleol gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) 2003, O.S. 2003/148 (Cy.18).back
[5]
O.S. 2001/2284.back
[6]
2000 p.22. Mae O.S. 2001/2284 (Cy.173) (fel y'i diwygiwyd) yn darparu yn rheoliad 4 ar gyfer ffurf y trefniadau amgen yng Nghymru. Diwygiwyd rheoliad 4 o O.S. 2001/2284 gan O.S. 2002/810 (Cy.90) ac O.S. 2001/3711 (Cy.307).back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090944 5
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
25 May 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041390w.html