BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041488w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1488 (Cy.153) (C.58)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 8 Mehefin 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 40 o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004.

Cychwyn
    
2.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) daw adrannau 4, 5, 9, 10, 19 a 35(a) ac (c) o Ddeddf Masnachu Gwastraff ac Allyriannau 2003 i rym ar 25 Mehefin 2004.

    (2) Mae adrannau 4, 5, 9, 10 a 35(a) yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru[
2].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mehefin 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau adrannau 4, 5, 9, 10, 19 a 35(a) ac (c) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003. Dim ond mewn perthynas â Chymru y mae adrannau 4, 5, 9, 10 a 35(a) yn cael eu dwyn i rym.

Mae adran 4 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddyrannu ymhlith awdurdodau gwaredu gwastraff yng Nghymru, ar gyfer pob blwyddyn gynllun, lwfansau yn eu hawdurdodi i anfon gwastraff trefol pydradwy i safleoedd tirlenwi.

Mae adran 5 o'r Ddeddf yn caniatáu i'r Cynulliad newid y dyraniadau a wneir o dan adran 4.

Mae Adran 9 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau gwaredu gwastraff i beidio â mynd dros y lwfans a bennir o dan adran 4 ac yn peri iddynt fod yn agored i gosb am fethu â chyflawni'r ddyletswydd hon.

Mae Adran 10 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad benodi awdurdod monitro i Gymru.

Mae Adran 19 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gael strategaeth ar gyfer lleihau faint o wastraff pydradwy o Gymru sy'n mynd i safleoedd tirlenwi a faint o wastraff pydradwy o'r tu allan i Gymru sy'n mynd i safleoedd tirlenwi yng Nghymru.

Mae adran 35(a) ac (c) yn diddymu'r darpariaethau yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a Deddf Llywodraeth Leol 2000 sy'n ymwneud â dyletswyddau i baratoi cynlluniau ailgylchu yng Nghymru.

Cafodd adrannau 2 a 39 o'r Ddeddf eu dwyn i rym gan Orchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2004 (O.S. 2004/1163).


Notes:

[1] 2003 p.33.back

[2] Mae adrannau 19 a 35(c) yn ymwneud â Chymru yn unig.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090954 2


  © Crown copyright 2004

Prepared 21 June 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041488w.html