BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041490w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1490 (Cy.155)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 8 Mehefin 2004 
  Yn dod i rym 25 Mehefin 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n gweithredu drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 10, 11, 12, 13, 15, 16, 26 a 36 o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003[1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN 1

Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. O ran y Rheoliadau hyn:

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) Yn y Rheoliadau hyn  - 

Hysbysiadau, rhybuddion a chyflwyno ffurflenni
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw'n ofynnol, o dan y Rheoliadau hyn, i berson  - 

rhaid i'r ffurflen, yr hysbysiad neu'r dychweliad fod yn ysgrifenedig.

    (2) Os - 

Cofrestrau a ffurflenni electronig
    
4.  - (1) Caiff unrhyw gofrestr a sefydlir neu a gedwir o dan y Rheoliadau hyn fod ar ffurf electronig.

    (2) Pan fydd unrhyw gofrestr sy'n cael ei gadw gan awdurdod perthnasol ar ffurf electronig, caiff yr awdurdod hwnnw drefnu bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd ar wefan sy'n cael ei chynnal gan yr awdurdod hwnnw i'r perwyl hwnnw.

    (3) Caniateir i unrhyw ffurflen a ddarperir gan yr awdurdod monitro at ddibenion y Rheoliadau hyn gael ei darparu - 



RHAN 2

Monitro

Yr awdurdod monitro
    
5. Yr awdurdod monitro dros Gymru yw Asiantaeth yr Amgylchedd.

Rhwymedigaeth ar awdurdodau gwaredu gwastraff i gadw cofnodion ac anfon dychweliadau
    
6.  - (1) Rhaid i awdurdod gwaredu gwastraff gadw cofnodion sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob blwyddyn gynllun - 

    (2) O ran y gwastraff trefol a grybwyllwyd yn is-baragraffau (1)(b) ac (c), rhaid i'r cofnod gynnwys manylion - 

    (3) Rhaid dal gafael ar y cofnodion o dan baragraff (1) am gyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y daw'r cyfnod cysoni ar gyfer y flwyddyn gynllun i ben.

    (4) Rhaid i awdurdod gwaredu gwastraff roi i'r awdurdod monitro ateb sy'n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (1) ar gyfer pob cyfnod o 3 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi a 31 Rhagfyr o fewn mis i ddiwedd y cyfnod hwnnw.

    (5) Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i awdurdod gwaredu gwastraff - 

a'i gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny ar unrhyw ffurf, yn unrhyw fan rhesymol ac o fewn unrhyw amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

    (6) Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, wneud copïau o unrhyw gofnodion a ddangoswyd neu a ddarparwyd o dan baragraff (5).

Rhwymedigaeth ar weithredwyr safleoedd tirlenwi i gadw cofnodion ac anfon dychweliadau
    
7.  - (1) Rhaid i weithredydd safle tirlenwi gadw cofnodion sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob blwyddyn gynllun - 

    (2) Rhaid dal gafael ar y cofnodion o dan baragraff (1) am gyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y daeth y cyfnod cysoni ar gyfer y flwyddyn gynllun i ben.

    (3) Rhaid i weithredydd safle tirlenwi roi i'r awdurdod monitro ateb sy'n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (1) ar gyfer pob cyfnod o 3 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi a 31 Rhagfyr o fewn un mis o ddiwedd y cyfnod hwnnw.

    (4) Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i weithredydd safle tirlenwi ddangos ar gyfer archwiliad, neu ar gyfer eu symud i'w harchwilio yn rhywle arall, unrhyw gofnodion y mae'n ofynnol i'r gweithredydd eu cadw o dan baragraff (1) ar unrhyw ffurf, yn unrhyw fan rhesymol ac o fewn yr amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

    (5) Caiff yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro, wneud copïau o unrhyw gofnodion a ddangoswyd o dan baragraff (4).

    (6) Caiff person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan yr awdurdod monitro fynd ar unrhyw adeg resymol ac, os oes angen, drwy rym rhesymol i mewn i fangre nad yw'n fangre sy'n cael ei defnyddio fel annedd ac sydd wedi'i meddiannu gan berson sy'n ymwneud â gweithredu safle tirlenwi er mwyn - 

    (7) Caiff person sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre o dan baragraff (6), fynd â'r canlynol gydag ef - 

    (8) Mae pwcircer yr awdurdod monitro, neu berson a awdurdodwyd gan yr awdurdod monitro, o dan baragraffau (4) i (6) yn cynnwys pwcircer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi iddynt unrhyw gyfleusterau a chymorth rhesymol o fewn rheolaeth y person sy'n angenrheidiol i alluogi'r awdurdod monitro a'r person a awdurdodwyd i arfer eu pwerau.

    (9) Yn y rheoliad hwn ystyr "gweithredydd safle tirlenwi" yw'r person sydd â rheolaeth dros y safle tirlenwi.

    (10) Yn y rheoliad hwn, mae i "triniaeth" yr un ystyr â "treatment" yn Erthygl 2(h) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar gladdu gwastraff mewn safle tirlenwi[
6].

Penderfynu faint o wastraff trefol pydradwy sydd mewn swm o wastraff
     8. At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir mai 61 y cant o'r gwastraff trefol a gasglwyd yw maint y gwastraff pydradwy mewn swm o wastraff trefol a gasglwyd.

Cysoni lwfansau tirlenwi
    
9. Heb fod yn hwy na deufis ar ôl diwedd y cyfnod cysoni, rhaid i'r awdurdod monitro benderfynu mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff faint o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd tirlenwi.



RHAN 3

Cofrestrau

Cofrestr lwfansau tirlenwi
    
10. Rhaid i'r awdurdod monitro sefydlu a chadw cofrestr lwfansau tirlenwi sydd, mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff ar gyfer pob blwyddyn gynllun, yn cynnwys - 

Cofrestr gosbau
    
11. Rhaid i'r Cynulliad sefydlu a chadw cofrestr a elwir "y gofrestr gosbau" y mae'n rhaid iddi gynnwys, mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff, yr wybodaeth ganlynol - 

Argaeledd cofrestrau
    
12. O ran unrhyw gofrestr sy'n cael ei chadw o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod perthnasol - 



RHAN 4

Cosbau

Cosbau: mynd dros ben y lwfansau
    
13. Swm y gosb y mae awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i'w dalu o dan adran 9(2) o'r Ddeddf yw £200 fesul tunnell o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safle tirlenwi dros ben lwfans cyfan yr awdurdod hwnnw ar gyfer y flwyddyn gynllun honno.

Cosbau: methu â chydymffurfio â gofynion i hysbysu
    
14.  - (1) Ac eithrio pan fydd paragraffau (2) a (4) yn gymwys, £1,000 yw swm y gosb y mae awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i'w dalu o dan adran 12(3) o'r Ddeddf.

    (2) Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff  - 

    (3) At ddibenion paragraff (2), "y gwall" yw faint y mae swm gwirioneddol y gwastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safle tirlenwi gan yr awdurdod gwaredu gwastraff yn y flwyddyn gynllun yn fwy na swm y gwastraff trefol pydradwy a fyddai wedi'i anfon i safle tirlenwi am y flwyddyn honno petai'r ffigurau a ddatganwyd gan yr awdurdod wedi bod yn gywir.

    (4) Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff yn methu â chyflwyno unrhyw ddychweliad ynglycircn â blwyddyn gynllun yn unol â rheoliad 6(4), mae'r awdurdod hwnnw yn agored i gosb sy'n gyfartal â £400 am bob tunnell o'r lwfans cyfan a ddyrannwyd i'r awdurdod hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno a'r ffigur hwnnw.

Cosbau: cyffredinol
    
15.  - (1) Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i gosb, caiff y Cynulliad asesu'r swm sy'n ddyledus o ran cosb a hysbysu'r awdurdod gwaredu gwastraff o'r swm hwnnw.

    (2) Mae'r gosb yn ddyledus un mis ar ôl y dyddiad y cafodd yr awdurdod gwaredu gwastraff ei hysbysu gan y Cynulliad o swm y gosb o dan baragraff (1).

    (3) Pan fydd awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i gosb o dan y Ddeddf ac nad yw'n talu'r gosb erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus o dan baragraff (2), mae'r awdurdod gwaredu gwastraff yn agored i dalu llog ar y gosb am y cyfnod sydd - 

    (4) Mae llog o dan y rheoliad hwn yn daladwy yn ôl cyfradd o un pwynt canran uwchlaw LIBOR fesul dydd.

    (5) At ddibenion paragraff (4), ystyr "LIBOR" yw'r gyfradd sterling sy'n cael ei gynnig rhwng banciau Llundain am dri mis ac sydd mewn grym rhwng y dyddiad y mae'r gosb yn dod yn ddyledus a'r dyddiad y mae'r gosb yn cael ei thalu i'r Cynulliad.

    (6) Pan fydd cosb wedi'i hasesu a'i hysbysu i awdurdod gwaredu gwastraff o dan baragraff (1), gellir adennill swm y gosb ac unrhyw log y parwyd ei godi o dan baragraff (3) fel dyled sifil.

    (7) At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at gosbau yn cynnwys cyfeiriadau at log pan fydd llog yn daladwy.



RHAN 5

Canllawiau

Canllawiau i awdurdodau gwaredu gwastraff
    
16. Rhaid i awdurdod gwaredu gwastraff, wrth arfer swyddogaethau ynglycircn â gwastraff sy'n wastraff trefol pydradwy neu sy'n ei gynnwys, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd gan y Cynulliad at ddibenion y rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mehefin 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Diben Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003[
8] ("y Ddeddf") yw sicrhau yn y DU ostyngiadau sylweddol ym maint y gwastraff trefol pydradwy sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, yn unol â gofynion Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ddyddiedig 26 Ebrill 1999 ar dirlenwi gwastraff[9] ("y Gyfarwyddeb Dirlenwi"). Mae'r Ddeddf yn gosod y fframwaith ar gyfer creu cynllun lwfansau tirlenwi.

Mae adran 1 o'r Ddeddf yn rhoi'r Ysgrifennydd Gwladol o dan rwymedigaeth i bennu drwy reoliadau uchafswm y gwastraff trefol pydradwy y caniateir ei anfon i safleoedd tirlenwi o'r Deyrnas Unedig, Lloegr, Yr Alban, a Chymru Gogledd Iwerddon. Rhaid i'r uchafswm y caniateir ei awdurdodi ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan fod yn gyson â'r rhwymedigaethau o dan Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb Dirlenwi.

Mae adran 4 o'r Ddeddf yn rhoi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") o dan rwymedigaeth i ddyrannu lwfansau i awdurdodau gwaredu gwastraff yng Nghymru. Rhaid i gyfanswm y dyraniad lwfansau beidio â bod yn fwy na'r uchafswm a bennir mewn perthynas â Chymru o dan adran 1 o'r Ddeddf.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003, drwy ddarparu'n fanwl ar gyfer monitro a gorfodi'r lwfansau tirlenwi a ddyrennir i awdurdodau gwaredu gwastraff o dan y Ddeddf.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau am enwi, cychwyn a chymhwyso (rheoliad 1); dehongli (rheoliad 2); hysbysiadau, rhybuddion a chyflwyno ffurflenni (rheoliad 3); a chofrestrau a ffurflenni electronig (rheoliad 4).

Mae Rhan 2 yn ymwneud â monitro.

Mae Rheoliad 5 yn penodi Asiantaeth yr Amgylchedd ("yr Asiantaeth") yn awdurdod monitro dros Gymru.

Mae Rheoliad 6 yn gosod rhwymedigaethau ar awdurdodau gwaredu gwastraff i gadw cofnodion manwl am gasglu gwastraff a faint o wastraff a anfonwyd i safleoedd tirlenwi; i anfon dychweliadau i'r Asiantaeth; a threfnu bod gwybodaeth arall ar gael i'r Asiantaeth pan fydd hysbysiad ysgrifenedig yn cael ei roi i'r awdurdodau.

Mae Rheoliad 7 yn gosod rhwymedigaethau ar weithredwyr safleoedd tirlenwi i gadw cofnodion manwl ynglycircn â gwastraff a dderbyniwyd ar safleoedd tirlenwi; i anfon dychweliadau i'r Asiantaeth; a threfnu bod gwybodaeth arall ar gael i'r Asiantaeth.

Mae Rheoliad 8 yn darparu, at ddibenion y Rheoliadau, y bernir bod maint gwastraff pydradwy mewn swm o wastraff trefol a gasglwyd yn 61 y cant.

Mae Rheoliad 9 yn gorfodi'r Asiantaeth i benderfynu faint o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd tirlenwi gan bob awdurdod gwaredu gwastraff.

Mae Rhan 3 yn ymwneud â chofrestrau.

Mae Rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Asiantaeth sefydlu a chadw cofrestr lwfansau tirlenwi.

Mae Rheoliad 11 yn rhoi'r Cynulliad o dan rwymedigaeth i sefydlu a chadw cofrestr gosbau.

Mae Rheoliad 12 yn rhoi'r Asiantaeth a'r Cynulliad o dan rwymedigaeth i sicrhau bod y cofrestrau y maent yn gyfrifol amdanynt yn cael eu rhoi ar gael i'r cyhoedd.

Mae Rhan 4 yn ymwneud â chosbau.

Mae Rheoliad 13 yn darparu bod cosbau yn cael eu gosod ar awdurdodau gwaredu gwastraff am fynd dros ben y lwfansau a ddyrannwyd.

Mae Rheoliad 14 yn darparu bod cosbau yn cael eu gosod ar awdurdodau gwaredu gwastraff am fethu â chydymffurfio â'r gofynion ynghylch cyflwyno dychweliadau o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 15 yn darparu'n gyffredinol ar gyfer cosbau.

Mae Rhan 5 yn ymwneud â chanllawiau.

Mae Rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth ar gyfer canllawiau i awdurdodau gwaredu gwastraff.


Notes:

[1] 2003 p. 33. Gweler adrannau 12(4) a 13(7) i gael y diffiniadau o "prescribed".back

[2] OJ Rhif L 226, 6.9.2000, t.3, fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniadau'r Comisiwn 2001/118/EC (OJ Rhif L 47, 16.2.2001, t.1) a 2001/119/EC (OJ Rhif L 47, 16.2.2001, t.32) a Phenderfyniad y Cyngor 2001/573/EC (OJ Rhif L 203, 28.7.2001, t.18).back

[3] 2000 p.7.back

[4] OJ Rhif L 194, 25.7.1975, p.39; fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/156/EEC (O.J. Rhif L 78, 26.3.1991, t.32) a Phenderfyniad y Comisiwn 96/350/EC (O.J. Rhif L 135, 6.6.1996, t.32).back

[5] 1990 p.43.back

[6] OJ L 182, 16.7.1999, t.1.back

[7] 1998 p.38.back

[8] 2003 p.33.back

[9] OJ L 182, 16.7.1999, t.1.back



English version



ISBN 0 11090953 4


  © Crown copyright 2004

Prepared 15 June 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041490w.html