BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041659w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1659 (Cy.171)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 30 Mehefin 2004 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2004.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 1997" ("the 1997 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[
2].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau 1997
     2. Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 1997 (enwi, cychwyn a dehongli) yn y diffiniad o "NHS sight test fee" - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D . Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mehefin 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997, sy'n darparu cynllun ar gyfer taliadau i'w gwneud gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol, drwy system dalebau, tuag at y costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bobl mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o "NHS sight test fee" i gynyddu gwerthoedd y ddwy lefel o ffioedd am brofion golwg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n daladwy i ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr. Mae'r symiau hyn yn berthnasol wrth benderfynu pwy sy'n gymwys i gael taleb at dalu costau prawf golwg, a phenderfynu ei gwerth adbrynu.


Notes:

[1] {d1}{t1}1977 p.49 ("Deddf 1977"); gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniad o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 126(4) o Ddeddf 1977 gan Ddeddf 1990, Atodlen 4, paragraff 37(5).{d1}{t1}Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), Atodlen 1, paragraff 3 a'i diwygio gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.48).{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 126(4) o Ddeddf 1977 a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'u diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf Iechyd 1999.back

[2] O.S.1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 (Cy.48), 2000/3119 (Cy.198), 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy.98), 2002/186 (Cy.25) a 1506 (Cy.151) a 2003/301 (Cy.43) a 955 (Cy.129).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090965 8


  © Crown copyright 2004

Prepared 12 July 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041659w.html