BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042730w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif2730 (Cy.237)

CAFFAEL TIR, CYMRU

Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 19 Hydref 2004 
  Yn dod i rym 31 Hydref 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer ei bwerau o dan adrannau 7(2), 13A(2) a (6) a 13B(7) o Ddeddf Caffael Tir 1981[1], a pharagraff 4A(2), (7) ac (8) o Atodlen 1 iddi, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Hydref 2004.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol, naill ai - 

ac y mae'n ystyried defnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, neu'n ystyried trafodion o dan y weithdrefn honno[4].

    (3) Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys os digwydd y canlynol cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym - 

Dehongli
     2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at adrannau yn cyfeirio at adrannau Deddf Caffael Tir 1981, ac mae cyfeiriadau at Atodlen 1 yn cyfeirio at Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.

    (3) Os y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod caffael, mae darpariaethau'r Rheoliadau hyn sy'n gofyn am gyfathrebu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r awdurdod caffael yn gymwys gyda'r addasiadau hynny y gall fod eu hangen.

Cydsynio
     3.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi'r dull y caiff y sawl sy'n parhau i wrthwynebu gydsynio i'r Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig.

    (2) Er mwyn rhoi ei gydsyniad, rhaid i'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu ddychwelyd i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y bydd yn dod i law dim hwyrach na'r dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4), yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gan nodi arno gydsyniad y gwrthwynebydd i ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig.

    (3) Rhaid i'r hysbysiad fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu ar ffurf sy'n sylweddol debyg o ran ei heffaith.

    (4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) at bob un sy'n parhau i wrthwynebu a rhaid hysbysu dyddiad gyda'r hysbysiad hwnnw nad sy'n llai na 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad pan anfonir yr hysbysiad at y sawl sy'n gwrthwynebu.

    (5) Os na roddir cydsyniad gan bob un sy'n parhau i wrthwynebu yn unol â pharagraff (2), bydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraff (6), yn mynd rhagddo ar y sail nad yw'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig yn gymwys.

    (6) Os daw'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), lle y dangosodd y sawl sy'n parhau i wrthwynebu ei gydsyniad i ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, i law'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl y dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin y sawl sy'n gwrthwynebu fel un a gydsyniodd i ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig ac, os felly, caiff ddewis mynd rhagddo o dan y weithdrefn honno os yw'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i wneud hynny.

    (7) Os yw paragraff (6) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried pa gamau a gymerwyd gan yr awdurdod caffael a'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu neu drydydd parti y dylid ystyried eu bod yn golygu iddynt gydymffurfio'n sylweddol ag unrhyw ofynion sy'n dilyn yn y Rheoliadau hyn a rhaid iddo hysbysu'r personau hynny yn unol â hynny.

Hysbysu bod y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig yn gymwys
    
4. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig yn gymwys, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, roi gwybod i bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, a'r awdurdod caffael, yn ysgrifenedig am - 

Sylwadau
    
5.  - (1) Cymerir fod unrhyw ddatganiad y mae'r awdurdod caffael yn ei roi i bawb sy'n parhau i wrthwynebu, ar yr adeg y mae'n rhoi hysbysiad o dan adran 12 neu baragraff 3 o Atodlen 1, yn ffurfio rhan o sylwadau'r awdurdod caffael at ddibenion y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig.

    (2) Rhaid i'r awdurdod caffael roi unrhyw ddatganiad o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1) i'r Cynulliad Cenedlaethol, ond caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru'r datganiad hwnnw os derbyniodd ef fwy na 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.

    (3) Bydd y gwrthwynebiad a wnaed i'r Cynulliad Cenedlaethol gan neu ar ran y sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn ffurfio rhan o sylwadau'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu at ddibenion y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, ac, os na fydd wedi gwneud hynny eisioes, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r gwrthwynebiad at yr awdurdod caffael er mwyn iddo ddod i law ymhen dim mwy na 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.

    (4) Caiff yr awdurdod caffael - 

    (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (4) os yw'n derbyn y sylwadau hynny fwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.

    (6) Caiff y sawl sy'n parhau i wrthwynebu - 

    (7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (6) os yw'r sylwadau yn dod i law mwy na 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl iddo anfon copi o'r sylwadau o dan baragraff (4)(a), neu hysbysiad o dan baragraff (4)(b), at y sawl sy'n parhau i wrthwynebu.

    (8) Caiff yr awdurdod caffael wneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â sylwadau'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu a wnaed o dan baragraff (6)(a) neu unrhyw sylwadau a wnaed o dan reoliad 6 isod.

    (9) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (8) os daeth y sylwadau i law'r Cynulliad Cenedlaethol - 

    (10) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn i'r awdurdod caffael, a phob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, ddarparu copïau ychwanegol o sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn unrhyw amserlen resymol y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei phennu.

    (11) Er mwyn i'r broses medru cael ei chwblhau'n ddi-oed, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, anfon - 

Sylwadau trydydd partïon
    
6.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i unrhyw berson nad yw'n awdurdod caffael nac yn parhau i wrthwynebu wneud sylwadau.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed yn unol â pharagraff (1) os derbynnir hwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.

    (3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, anfon at bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu a'r awdurdod caffael - 

    (4) Caiff yr awdurdod caffael wneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw sylwadau a wnaed o dan baragraff (1).

    (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (4) os derbyniodd hwy fwy na 10 o ddiwrnodau gwaith ar ôl iddo anfon copi o'r sylwadau a wnaed o dan baragraff (1) at yr awdurdod caffael.

    (6) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn i unrhyw berson sy'n gwneud sylwadau o dan baragraff (1), neu'r awdurdod caffael, roi copïau ychwanegol o'r sylwadau iddo o fewn amserlen resymol y caiff y Cynulliad ei phennu.

Caniatáu mwy o amser
    
7. Mewn achos penodol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cyfarwyddiadau i osod terfynau amser hwyrach ar gyfer cael sylwadau na'r rheini a ganiateir gan reoliadau 5 a 6.

Penodi arolygydd
    
8. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi archwilydd i - 

Archwilio safleoedd
    
9.  - (1) Caiff yr archwilydd, ar unrhyw adeg, gynnal - 

o dir sy'n destun i'r gorchymyn prynu gorfodol ac o'r ardal gyfagos.

    (2) Yn achos archwiliad o dan baragraff (1)(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad o ddyddiad ac amser yr archwiliad at yr awdurdod caffael a'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, fel y bydd yn dod i law dim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad hwnnw.

    (3) Nid yw'n ofynnol i'r archwilydd ohirio archwiliad o dan baragraff (1)(b) os na fydd unrhyw berson a grybwyllir yn y paragraff hwnnw yn bresennol ar yr adeg a bennwyd.

    (4) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn cais gan yr awdurdod caffael neu gan un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn gofyn am archwiliad, a hynny heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu archwiliad o'r fath.

Penderfynu
    
10.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod i benderfyniad ar sail y datganiadau a wnaed o dan reoliad 4(ch), sylwadau a roddwyd yn unol â rheoliadau 5 a 6 ynghyd ag unrhyw adroddiad a baratowyd yn unol â rheoliad 8(c).

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod i benderfyniad o leiaf 10 niwrnod gwaith ar ôl anfon hysbysiad o'i fwriad i wneud hynny at yr awdurdod caffael ac at bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, er na wnaed unrhyw sylwadau o fewn y terfynau amser a ganiatawyd neu a estynnwyd o dan y Rheoliadau hyn, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol fod ganddo ddigon o ddeunydd i ddod i benderfyniad.

Hysbysiadau o benderfyniadau
    
11.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad, a'r rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw, at - 

    (2) Os bydd person sydd â'r hawl i gael hysbysiad o'r penderfyniad eisiau gwneud cais am gyfle i archwilio unrhyw adroddiad neu sylw a ystyriwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth ddod i'w benderfyniad, neu i gael copïau ohonynt, rhaid iddo wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 wythnos i'r dyddiad y cafodd ei hysbysu o'r penderfyniad; ac, os gwneir cais o'r fath, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl derbyn y cais, wneud trefniadau ar gyfer yr archwiliad neu, a hynny heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl iddo dderbyn y cais, anfon y copi y gofynnwyd amdano at y person hwnnw.

Cyfathrebu'n electronig
    
12. Gellir anfon drwy'r post neu drwy gyfrwng cyfathrebu electronig unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei hanfon neu yr awdurdodir ei hanfon gan y naill berson at y llall o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn; a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ysgrifennu yn y Rheoliadau hyn, sut bynnag y caiff ei fynegi, fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei chadw ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac oddi wrth gyfrifiadur, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8].


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Hydref 2004



YR ATODLEN
Rheoliad 3(3)


[    (A)] GORCHYMYN PRYNU GORFODOL


CYDSYNIO Â'R WEITHDREFN SYLWADAU YSGRIFENEDIG

(o dan Reoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") yn cydnabod cael eich gwrthwynebiad i [gadarnhau] [wneud](b) y Gorchymyn uchod. Mae'n ystyried a ddylai gwrthwynebiadau gael eu trafod drwy weithdrefn sylwadau ysgrifenedig.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn eich bod yn parhau i wrthwynebu at ddibenion [adran 13A o][paragraff 4A o Atodlen 1 i](b) Ddeddf Caffael Tir 1981. Mae hyn yn golygu bod gennych yr hawl i gael lleisio'ch sylwadau sy'n gwrthwynebu [cadarnhau] [gwneud](b) y Gorchymyn mewn ymchwiliad.

Mae'r hawl honno yn golygu bod gennych chi, neu eich cynrychiolydd, yr hawl yn yr ymchwiliad hwnnw i  - 

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu defnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig i drafod gwrthwynebiadau i [gadarnhau] [wneud](b) y Gorchymyn dim ond os ydych chi, a phawb arall sy'n parhau i wrthwynebu, yn cydsynio â hynny.

Mae'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig i'w chael yn Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cynmru) 2004. Ceir crynodeb o'r weithdrefn yn yr Atodiad i'r hysbysiad hwn.

Os ydych yn cydsynio â defnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, llenwch y datganiad ar ddiwedd yr hysbysiad hwn i ddangos hynny. Llofnodwch a rhowch y dyddiad yn y blychau priodol, a dychwelyd y ffurflen at [     (c)] erbyn [     (ch)].

Os nad ydych yn gwneud hynny, bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol yr hawl i fynd rhagddo ar y sail nad ydych yn cydsynio â defnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig ac yna bydd ymchwiliad cyhoeddus (neu wrandawiad arall) yn cael ei gynnal.

Os ydych yn cydsynio, a'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn briodol defnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, ni fydd modd ichi dynnu eich cydsyniad yn ôl na chael gwrandawiad ar lafar mewn ymchwiliad neu wrandawiad oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn pennu bod amgylchiadau esgusodol i gyfiawnhau cynnal ymchwiliad neu wrandawiad. Os ydych yn cydsynio, ond penderfynir cynnal ymchwiliad neu wrandawiad beth bynnag, bydd gennych yr hawl o hyd i fod yn bresennol yn yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad ac i gymryd rhan ynddo.

Mae'n bosibl yr hoffech ofyn cyngor cyfreithiol neu gyngor arall cyn cydsynio. Nid oes modd i'r Cynulliad Cenedlaethol eich cynghori a ddylech gydsynio ai peidio.

Os na fyddwch yn cydsynio, trefnir cynnal ymchwiliad neu wrandawiad, a chewch y cyfle i wneud sylwadau iddynt. Mae'r weithdrefn mewn ymchwiliad i'w chael yn [Rheolau Prynu Gorfodol gan Awdurdodau Caffael Anweinidogol (Gweithdrefn Ymchwiliadau) 1990 (O.S. 1990/512)] [Rheolau Prynu Gorfodol gan Weinidogion (Gweithdrefn Ymholiadau) 1994 (O.S. 1994/3264)](b).

Yr wyf i, [    ], wedi darllen ac wedi deall yr uchod. Rwy'n cydsynio / Nid wyf yn cydsynio i ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig yn lle cynnal ymchwiliad.

Llofnodwyd. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Enw. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(mewn llythrennau breision)

Cyfeiriad . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Dyddiad&dotfill




NODIADAU AR DDEFNYDDIO'R FFURFLEN GYDSYNIO

YR ATODIAD

Crynodeb o'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig

    (1) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod hi'n briodol i ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, bydd yn anfon ffurflen gydsynio at bob un o'r rhai sy'n parhau i wrthwynebu er mwyn ceisio cael eu cydsyniad i ddefnyddio'r weithdrefn. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn medru penderfynu a fydd yn defnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig oni bai bod pob un o'r rhai sy'n parhau i wrthwynebu yn cydsynio. Os bydd y weithdrefn i'w defnyddio, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi dyddiad dechrau ar gyfer cychwyn y weithdrefn a bydd yn nodi pa ddogfennau sy'n bodoli sydd i'w hystyried yn ychwanegol at y sylwadau a fydd yn dilyn.

    (2) Os bydd yr awdurdod caffael yn dewis rhoi sylwadau, rhaid iddo wneud hynny dim hwyrach na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau (gellir diystyru'r sylwadau os derbynnir hwy fwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau) a rhaid iddo wneud copïau o'r sylwadau ar gyfer pob un sy'n parhau i wrthwynebu.

    (3) Mae gan bob un sy'n parhau i wrthwynebu yr hawl wedyn i ymateb gyda sylwadau pellach, y gellir eu diystyru os derbynnir hwy fwy na 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o sylwadau'r awdurdod caffael at y sawl sy'n gwrthwynebu o dan baragraff (2) uchod.

    (4) Wedyn, caiff yr awdurdod caffael ymateb gyda sylwadau pellach, y gellir eu diystyru os derbynnir hwy fwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o sylwadau'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu at yr awdurdod, o dan baragraff (3) uchod.

    (5) Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol ddisgresiwn i estyn y terfynau amser hyn, os bydd hynny'n briodol.

    (6) Ni chaniateir gwneud sylwadau llafar, ond caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu sylwadau ysgrifenedig gan drydydd partïon.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig ("y weithdrefn") y gellir ei defnyddio wrth benderfynu a ddylid awdurdodi prynu tir yn orfodol os Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") yw'r awdurdod caffael neu gadarnhau ac y mae gweithdrefnau Deddf Caffael Tir 1981 ("y Ddeddf") yn gymwys.

Gellir penderfynu ar y gwrthwynebiadau o ran cadarnhau gorchymyn prynu gorfodol a wneir o dan Ran II o'r Ddeddf (fel a ddiffinnir yn adran 13A(1) o'r Ddeddf) na chawsant eu tynnu'n ôl ac na ellir eu diystyru ("gwrthwynebiadau sy'n parhau") yn ôl gweithdrefn a ragnodwyd gan reoliadau (adran 13A o'r Ddeddf). Dyma ddewis amgen i gynnal ymchwiliad, ar yr amod bod pawb sy'n parhau i wrthwynebu yn cydsynio yn y modd a ragnodwyd.

Yn yr un modd, gellir penderfynu ar y gwrthwynebiadau sy'n parhau o ran gwneud gorchymyn prynu gorfodol o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf (fel a ddiffinnir ym mharagraff 4A(1) o Atodlen 1 i'r Ddeddf) yn ôl y weithdrefn honno (paragraff 4A o Atodlen 1 i'r Ddeddf).

Mae prif gamau'r weithdrefn yn cynnwys - 


Notes:

[1] 1981 p.67; mewnosodwyd adrannau 13A(2) a (6) a 13B(7) o Ddeddf Caffael Tir 1981, a pharagraff 4A(2), (7) ac (8) o Atodlen 1 iddi, gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5). Mewn perthynas â Chymru, mae'r pwerau a geir yn y darpariaethau hynny, gan mwyaf, yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 121(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Trosglwyddwyd y rhan fwyaf o swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag awdurdodi prynu tir yn orfodol yng Nghymru (gan gynnwys adran 7(2) o Ddeddf Caffael Tir 1981) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] I gael gweld y diffiniad o "confirming authority", gweler adran 7(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981.back

[3] I gael gweld y diffiniad o "appropriate authority", gweler paragraff 4(8) o Atodlen 1 i Ddeddf Caffael Tir 1981, adran 118(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ac O.S. 1999/672.back

[4] I gael gweld y diffiniad o "written representations procedure", gweler adran 13A(6) o Ddeddf Caffael Tir 1981, a pharagraff 4A(7) o Atodlen 1 iddi.back

[5] I gael gweld ystyr "proper address", gweler adran 6(3) o Ddeddf Caffael Tir 1981.back

[6] 1971 p.80.back

[7] I gael gweld y diffiniad o "remaining objection", gweler adran 13A o Ddeddf Caffael Tir 1981, a pharagraff 4A(1) o Atodlen 1 iddi.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11091006 0


  © Crown copyright 2004

Prepared 27 October 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042730w.html