BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif2878 (Cy.248)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
2 Tachwedd 2004 | |
|
Yn dod i rym |
3 Tachwedd 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) a (6) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970[1] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 3 Tachwedd 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Dynodi corff cyhoeddus
2.
Mae PBS 2003 Limited[3], gan ei fod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel pe bai'n berson sy'n arfer swyddogaeth o natur gyhoeddus, yn gorff cyhoeddus at ddibenion Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970.
Cyfyngiadau ar gytundebau - PBS 2003 Limited
3.
Mae'r cytundebau y caniateir i PBS 2003 Limited ymrwymo iddynt yn rhinwedd y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a ganlyn -
(a) rhaid bod unrhyw gytundeb felly ar gyfer darparu gwasanaethau arlwyo a chynnal a chadw tiroedd, neu'r naill neu'r llall o'r gwasanaethau hynny, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; a
(b) rhaid bod unrhyw gytundeb felly wedi'i wneud mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Tachwedd 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 1 o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 ("Deddf 1970") yn nodi at ba ddibenion y caiff Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol yng Nghymru (ymhlith eraill) ymrwymo mewn cytundeb â chorff cyhoeddus ynghylch cyflenwi nwyddau a gwasanaethau gan y Cyngor hwnnw.
O dan adran 1(5) o Ddeddf 1970, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion Deddf 1970, y pŵer i bennu yn gorff cyhoeddus berson neu ddisgrifiad o bersonau yr ymddengys iddo eu bod yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dynodi PBS 2003 Limited yn gorff cyhoeddus o dan adran 1(5) o Ddeddf 1970.
Yn erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, ceir cyfyngiadau ar y cytundebau y caniateir ymrwymo iddynt.
Effaith y dynodiad hwnnw yw caniatáu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ddarparu gwasanaethau arlwyo a chynnal a chadw tiroedd (neu'r naill neu'r llall o'r gwasanaethau hynny) i PBS 2003 Limited drwy gytundeb sydd at unrhyw ddiben a ragnodir gan adran 1(1) o Ddeddf 1970.
Notes:
[1]
1970 p.39. Mae'r pŵer a roddwyd i'r Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol; gweler O.S. 1970/1681 a hefyd O.S. 1997/2971.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
Ymgorfforwyd PBS 2003 Limited yn gwmni preifat wedi'i gyfyngu gan gyfrannau ar 12 Rhagfyr 2002 ac fe'i cofrestrwyd o dan rif cwmni 4615908.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11091016 8
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
9 November 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042878w.html