BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043022w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif3022 (Cy.261)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 16 Tachwedd 2004 
  Yn dod i rym 25 Tachwedd 2004 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac wedi ymgynghori yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3], sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 25 Tachwedd 2004.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
    
2. Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[4] (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â rheoliadau 3 i 15.

     3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)  - 

     4. Yn rheoliad 3(1A) (esemptiadau) ar ôl is-baragraff (a) hepgorer y gair "or" a mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn  - 

     5. Yn rheoliad 13 (trefn rhestr gynhwysion), yn lle paragraff (5) rhodder y paragraffau a ganlyn  - 

     6. Yn rheoliad 14 (enwau cynhwysion)  - 

     7. Yn rheoliad 15 (cynhwysion cyfansawdd)  - 

     8. Yn rheoliad 17 (cynhwysion nad oes angen eu henwi)  - 

     9. Yn rheoliad 18 (bwydydd nad oes angen rhestr o gynhwysion arnynt)  - 

     10. Yn rheoliad 23 (bwyd nad yw wedi ei ragbecynnu a bwyd tebyg, a chynhyrchion cyffaith ffansi) ar ôl paragraff (2) mewnosoder y paragraff a ganlyn  - 

     11. Yn rheoliad 27(1) (bwydydd penodol a werthir mewn sefydliadau arlwyo), yn lle'r geiriau "regulations 32, 33 and 34" rhodder y geiriau "regulations 32, 33, 34 and 34B".

    
12. Ar ôl rheoliad 34A (diodydd ac ynddynt lefel uchel o gaffein) mewnosoder y rheoliad a ganlyn  - 

     13. Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol) mewnosoder ar y diwedd y paragraff a ganlyn  - 

     14. Yn union o flaen Atodlen A1, mewnosoder fel Atodlen AA1 gynnwys yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

    
15. Yn Atodlen 3 (enwau generig mewn rhestr o gynhwysion), yn Rhan I (cyffredinol) hepgorer y cofnodion sy'n cyfeirio at "Crystallised fruit" a "Vegetables".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
12]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Tachwedd 2004



YR ATODLEN
Rheoliad 14


ATODLEN AA1 NEWYDD I'W MEWNOSOD YN RHEOLIADAU LABELU BWYD 1996






EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 ("y prif Reoliadau") i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny'n rhychwantu Prydain Fawr i gyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb 2003/89/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L308, 25.11.2003, t.15) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2000/13/EC o ran dangos pa gynhwysion sy'n bresennol mewn bwydydd.

     2. Yn achos bwyd sy'n cynnwys unrhyw gynhwysyn alergenig (fel y'i diffinnir yn rheoliad 3(a) ac yn yr Atodlen) neu gynhwysyn sy'n dod o gynhwysyn alergenig y cyfeirir ato ym mharagraffau 1 i 11 o'r Atodlen, mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod y bwyd yn cael ei farcio â chyfeiriad clir at enw'r cynhwysyn alergenig dan sylw neu fod arno label yn dwyn cyfeiriad clir at enw'r cynhwysyn alergenig dan sylw (rheoliadau 12 a'r 14). Mae esemptiadau yn achos bwyd nad yw wedi'i ragbecynnu, bwyd sydd wedi'i ragbecynnu i'w werthu'n uniongyrchol a chynhyrchion cyffaith ffansi (rheoliadau 10 ac 11).

     3. Yn rhinwedd Erthygl 13(4) o Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29) ar gyd-ddynesiad deddfau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd, mae pecynnau bach a photeli gwydr penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy yn esempt rhag gofynion Cyfarwyddeb 2003/89/EC bod labeli ac arnynt enwau alergenau yn cael eu rhoi ar fwydydd. Mae'r Rheoliadau'n ymestyn y gofynion bod labeli ac arnynt enwau alergenau yn cael eu rhoi ar fwydydd i gynnwys y pecynnau a'r poteli hynny ac yn gwneud y camau hynny'n gamau cenedlaethol (yn unol â'r cyfeiriad yn rheoliad 26 o'r prif Reoliadau a rheoliadau 4 a 12 o'r Rheoliadau hyn). Yn unol â hynny, hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o destun drafft y Rheoliadau o dan Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L204, 21.7.98, t.37), sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoliadau ac ar gyfer rheolau ar wasanaethau Cymdeithas Wybodaeth, fel y'i diwygir gan Gyfarwyddeb 98/48/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L217, 5.8.98, t.18).

     4. Hefyd wrth weithredu Cyfarwyddeb 2003/89/EC, tra bo'r Rheoliadau'n darparu esemptiad cyfyngedig ar gyfer rhai cynhwysion cyfansawdd sy'n llai na 2 y cant o'r cynnyrch gorffenedig, yn achos cynhwysion cynhwysyn cyfansawdd sydd yn llai na 25 y cant o'r cynnyrch gorffenedig, maent yn dileu'r esemptiad blaenorol rhag rhestru'r cynhwysion (rheoliad 7(b) a (c)). Mae'r Rheoliadau'n gwneud rhai newidiadau eraill i'r rheolau manwl ynghylch trefn rhestru cynhwysion (rheoliad 5) ac yn ychwanegu cynhwysyn arall at y rhai nad oes angen eu henwi (rheoliad 8(b)). Mae'r Rheoliadau'n gwneud diwygiadau canlyniadol (rheoliadau 3(b), 6, 7(a), 8(a), 9 a 15) ac yn cynnwys darpariaeth drosiannol (rheoliad 13).

     5. Paratowyd arfarniad rheoliadol ar yr effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn ei chael ar gostau busnes ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/89/EC yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4)back

[4] S.I. 1996/1499; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398, 1999/747, 1136, 1483, 2000/1925 (Cy.134), 2001/1232 (Cy.66), 2003/832 (Cy.104), 2004/249(Cy. 26), 2004/2731(Cy.238).back

[5] OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29, fel y mae wedi'i gywiro gan Gorigendwm (OJ Rhif L124, 25.5.2000, t.66).back

[6] OJ Rhif L310, 28.11.2001, t.19.back

[7] OJ Rhif L305, 7.11.2002, t.19.back

[8] OJ Rhif L236, 23.9.2003, t.33.back

[9] (dd) OJ Rhif L308, 25.11.2003, t.15.back

[10] OJ Rhif L69, 16.3.1999, t.22.back

[11] OJ Rhif L191, 19.7.2002, t.20.back

[12] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11091038 9


  © Crown copyright 2004

Prepared 1 December 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043022w.html