BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043143w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif3143 (Cy.271)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 30 Tachwedd 2004 
  Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol trwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 113(1) a (2) a 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1 a 2(4) yn Atodlen 2 iddi[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru [2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu a ddyroddwyd gan neu ar ran awdurdodau bilio Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1993" ("the 1993 Regulations") yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993[3].

Trefniadau trosiannol ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill yn 2005, 2006 a 2007
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), diwygir Rheoliadau 1993 yn unol â pharagraffau (2) a (3).

    (2) Yn Atodlen 1 (Materion i'w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu):

    (3) Yn Atodlen 2 (Gwybodaeth sydd i'w rhoi gyda'r Hysbysiadau Galw am Dalu'r Dreth Gyngor):

    (4) Bydd paragraffau (2) a (3) yn effeithiol yn unig mewn perthynas â'r cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2008.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Tachwedd 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae paragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau fel y gwêl yn dda mewn perthynas â chasglu'r symiau y mae personau yn atebol i'w talu mewn perthynas â threth gyngor ac agweddau arall ar weinyddu o ran y dreth gyngor. Mae paragraff 2 o Atodlen 2 yn darparu ar gyfer manylion y gellir eu cynnwys yn y Rheoliadau hynny mewn perthynas â chasglu'r dreth gyngor. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan baragraffau 1 a 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 1992. Maent yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 ("Rheoliadau 1993") ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill yn 2005, 2006 a 2007.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 1 (Materion sydd i'w cynnwys yn yr hysbysiadau galw am dalu) i Reoliadau 1993. Mae'r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau bilio gynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu faterion penodol sy'n ymwneud â bandiau gwerthuso trosiannol a ddynodir yn unol â Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004 ("Rheoliadau 2004").

Mae rheoliad 3 hefyd yn diwygio Atodlen 2 (Gwybodaeth sydd i'w rhoi gyda'r Hysbysiadau Galw am Dalu'r Dreth Gyngor) i Reoliadau 1993. Mae'r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau bilio gynnwys gwybodaeth benodol mewn nodiadau esboniadol i fynd gyda'r hysbysiadau galw am dalu'r dreth gyngor. Mae'r wybodaeth yn ymwneud â dynodi'r bandiau gwerthuso trosiannol yn unol â Rheoliadau 2004 a materion cysylltiedig.


Notes:

[1] 1992 p.14.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1993/255 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/160, O.S. 1996/310, O.S. 1996/1880 ac O.S. 2004/460.back

[4] O.S. 2004/3142 (Cy.270 ).back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091049 4


  © Crown copyright 2004

Prepared 16 December 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043143w.html