BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 256 (Cy.22)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050256w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 256 (Cy.22)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2005

  Wedi'u gwneud 8 Chwefror 2005 
  Yn dod i rym 25 Chwefror 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 25 Chwefror 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993[3].

Diwygio'r prif Reoliadau
     3.  - (1) Diwygir paragraff 1 o Ran I o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau fel a ganlyn:

    (2) Yn y nodyn sy'n dwyn y teitl "Rateable Value", yn lle "1st April 2000", rhodder "1 April 2005" ac, yn lle "1st April 1998", rhodder "1 April 2003".

    (3) Yn lle'r nodyn sy'n dwyn y teitl "Backdating of proposals and appeals", rhodder y canlynol - 

    (4) Ar ôl y nodyn sy'n dwyn y teitl "Proposals and appeals", mewnosoder y canlynol - 

    (5) Yn y nodyn sy'n dwyn y teitl "Charitable and discretionary relief", mewnosoder y canlynol ar ddiwedd y nodyn hwnnw - 

    (6) Dileer y paragraff sy'n dwyn y teitl "Transitional arrangements".

    (7) Dileer y paragraff sy'n dwyn y teitl "Small property relief".

     4.  - (1) Diwygir paragraff 1 o Ran II o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau fel a ganlyn:

    (2) Yn y nodyn sy'n dwyn y teitl "Gwerth Trethiannol", yn lle "1 Ebrill 2000", rhodder "1 Ebrill 2005" ac, yn lle "1 Ebrill 1998", rhodder "1 Ebrill 2003".

    (3) Yn lle'r nodyn sy'n dwyn y teitl "Ôl-ddyddio cynigion ac apelau", rhodder y canlynol - 

    (4) Ar ôl y nodyn sy'n dwyn y teitl "Cynigion ac apelau" mewnosoder y canlynol - 

    (5) Ar ddiwedd y nodyn sy'n dwyn y teitl "Rhyddhad Elusennol a Dewisol", mewnosoder y canlynol - 

    (6) Dileer y paragraff sy'n dwyn y teitl "Trefniadau Trosiannol".

    (7) Dileer y paragraff sy'n dwyn y teitl "Rhyddhad Rhag Trethi i Eiddo Bach".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Chwefror 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 ("y prif Reoliadau") yn darparu ynghylch cynnwys hysbysiadau sy'n galw am dalu ardrethi ac a ddyroddir gan awdurdodau bilio yng Nghymru. Maent yn darparu hefyd ynghylch rhoi gwybodaeth esboniadol yn yr iaith briodol ar y cyd â'r hysbysiadau hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r wybodaeth esboniadol y mae'n rhaid i awdurdodau bilio yng Nghymru ei rhoi fel ei bod:


Notes:

[1] 1988 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] 1993 p.38. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672.back

[3] O.S. 1993/252 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/284; O.S. 1996/311; O.S. 1996/1880; O.S. 1997/356; O.S. 1998/155; O.S. 2000/793 (Cy.30) ac O.S. 2003/414 (Cy.59).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091067 2


  © Crown copyright 2005

Prepared 23 February 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050256w.html