BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 583 (Cy.49)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050583w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 583 (Cy.49)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 8 Mawrth2005 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 7 a 23(f) a (g) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978
    
2.  - (1) Diwygir Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978[2] ("Gorchymyn 1978") mewn perthynas â Chymru yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon.

    (2) Ym mharagraff (2) o erthygl 6 o Orchymyn 1978 (sy'n pennu'r dyddiad hyd at ei ddiwedd y mae diheintyddion sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol yn aros yn gymeradwy), yn lle "31st August 2003" rhodder "30 June 2005".

    (3) Yn lle Atodlen 1 i Orchymyn 1978 (sy'n rhestru diheintyddion a gymeradwywyd) rhodder Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

    (4) Yn lle Atodlen 2 i Orchymyn 1978 (sy'n rhestru diheintyddion sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol) rhodder Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.

Dirymu
     3. Dirymir y canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2005



ATODLEN 1
Erthygl 2(3)


Yr Atodlen sydd i'w rhoi yn lle Atodlen 1 i Orchymyn 1978



* The volume of mls. of water to which 1 g of the product is to be added.



ATODLEN 2
Erthygl 2(4)


Yr Atodlen sydd i'w rhoi yn lle Atodlen 2 i Orchymyn 1978





EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 ("Gorchymyn 1978"), O.S. 1978/32 ac yn dirymu Gorchmynion diwygio blaenorol. Mae'n disodli Atodlenni 1 a 2 i Orchymyn 1978 gan roi yn eu lle'r Atodlenni a nodir yn y Gorchymyn hwn. Mae Atodlen 1 yn rhestru diheintyddion a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae Atodlen 2 yn rhestru diheintyddion, er nad ydynt bellach yn gymeradwy, gellir parhau i'w defnyddio fel diheintyddion a gymeradwywyd tan 30 Mehefin 2005.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Gorchymyn hwn mewn ffurf ddrafft yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1981. p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn (Trosgwlyddo Swyddogaethau) Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2004 (O.S. 2004/3004).back

[2] O.S. 1978/32 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1978/934, O.S. 1999/919 ac O.S.2001/641 Cy.31).back

[3] O.S. 2001/641 (Cy.31)back

[4] O.S. 1999/919back

[5] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 091083


 © Crown copyright 2005

Prepared 16 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050583w.html