BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 1155 (Cy.72)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051155w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1155 (Cy.72)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 12 Ebrill 2005 
  Yn dod i rym 30 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol  - 

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau 1995[3] o ran Cymru, yn unol â pharagraff (2).

    (2) Yn lle Atodlen 1 i'r Rheoliadau hynny rhodder yr Atodlen ganlynol  - 






Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Ebrill 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn dod i rym ar 30 Ebrill 2005. Maent yn rhoi effaith i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/111/EC (O.J. Rhif L311, 27.11.2003, t.12) sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 92/34/EEC (O.J. Rhif L157, 10.6.1992, t. 10) ar farchnata deunyddiau sy'n lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriadwyd ar gyfer cynhyrchu ffrwythau.

Mae Rheoliad 2 yn disodli Atodlen 1 i Reoliadau Marchnata Deunyddiau Ffrwythau 1995 ac yn ei lle yn rhoi Atodlen 1 newydd sy'n pennu'r genera a'r rhywogaethau y mae'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt.

Mae Arfarniad Rheoleiddiol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1995/2653.back

[4] Prunus dulcis (Mill.) D A Webb is the accepted scientific name used in the United States Germplasm Resources Information Network ("GRIN") database (available at http://www.ars-grin.gov/cgi-bin/npgs/html/index.pl) and by the Royal Horticultural Society.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091105 9


 © Crown copyright 2005

Prepared 19 April 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051155w.html