BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005 Rhif 1158 (Cy.75) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051158w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 12 Ebrill 2005 | ||
Yn dod i rym | 30 Ebrill 2005 |
y mae'r ddwy ohonynt wedi'u diwygio gan y ddeddfwriaeth a restrir yn Atodlen 1;
(3) Rhaid i hysbysiadau, cymeradwyaethau neu ddatganiadau o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig. Caniateir eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau a'u diwygio, eu hatal neu eu dirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw bryd.
Eithrio
2.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wiriadau milfeddygol ar symudiadau anifeiliaid anwes (ac eithrio equidae) y mae person naturiol yn mynd gyda hwy ac yn gyfrifol drostynt, pan nad yw'r symudiadau hynny yn destun trafodiad masnachol.
(2) Pan fo unrhyw berson yn mynd gyda mwy na phum anifail anwes sy'n teithio gyda'i gilydd ac yntau'n gyfrifol drostynt a bod yr anifeiliaid hynny -
mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r gwiriadau milfeddygol ar symudiadau'r anifeiliaid hynny, er gwaethaf y ffaith nad yw eu symud yn destun trafodiad masnachol.
Gorfodi
3.
- (1) Ac eithrio lle darperir yn bendant fel arall, rhaid i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn gael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, mai ef, ac nid yr awdurdod lleol, sy'n gorfod cyflawni unrhyw ddyletswydd a osodwyd ar awdurdod lleol o dan baragraff (1).
(c) pan fo'n ofynnol o dan offeryn o'r fath, bod unrhyw hysbysiad o glefyd ar y daliad y mae'r anifail wedi'i draddodi ohono wedi'i roi o fewn yr amser ac yn y modd a bennwyd (os o gwbl) yn yr offeryn; ac
(ch) os cafwyd yr anifail drwy ganolfan gynnull neu os yw'n teithio drwy ganolfan o'r fath, bod y ganolfan honno wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 12 at ddibenion masnach ryng-Gymunedol ac yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 11 o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC[11].
(2) Os oes gan arolygydd le rhesymol i gredu bod person yn bwriadu allforio anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid yn groes i'r rheoliad hwn, caiff yr arolygydd wahardd yr allforio hwnnw drwy hysbysiad a gyflwynir i'r traddodwr, ei gynrychiolydd neu'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd ei fod â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid, a chaiff ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo gymryd yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid i unrhyw fan a bennir yn yr hysbysiad a chymryd unrhyw gamau pellach a bennir yn yr hysbysiad mewn perthynas â hwy.
(3) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2), caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu bod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.
(4) Rhaid i berson beidio ag allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw anifail y mae darpariaethau Erthyglau 6, 7, 9 neu 10 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn, a mewnforion i'r Gymuned o, anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a bennir mewn rheolau penodol gan y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(1) i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC)[12] yn gymwys oni bai yr anifail yn tarddu -
(5) Rhaid i berson beidio ag allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw wyau deor, cywion diwrnod-oed na dofednod y mae Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 90/539/EEC (ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn dofednod ac wyau deor, a'u mewnforio o drydydd gwledydd)[13] yn gymwys oni bai eu bod yn tarddu o sefydliad -
Mewnforion
6.
- (1) Rhaid i berson beidio â mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall (naill ai er mwyn dod â hwy i mewn i'r DU neu at ddibenion tramwy i Aelod-wladwriaeth arall) unrhyw anifail neu gynnyrch anifail sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 oni bai bod yr anifail hwnnw neu'r cynnyrch anifail hwnnw yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol yr offeryn hwnnw (yn ddarostyngedig i unrhyw ran-ddirymiadau a bennir yn y Rhan honno) ac ag unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn y Rhan honno.
(2) Pan fo anifail sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 yn cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall (naill ai er mwyn dod ag ef i mewn i'r DU neu wrth dramwy i Aelod-wladwriaeth arall), rhaid i'r mewnforiwr, a'r person sydd â gofal dros yr anifail, os ydynt yn bersonau gwahanol, gydymffurfio â phob un o ddarpariaethau perthnasol yr offeryn hwnnw nes iddo gyrraedd ei gyrchfan neu ymadael â Chymru, yn ôl y digwydd.
(3) Pan fo gwartheg, moch, defaid neu eifr yn cael eu mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall i'w cigydda yng Nghymru a'u bod yn cael eu cymryd i ganolfan gynnull, rhaid i'r mewnforiwr sicrhau eu bod yn cael eu symud o'r ganolfan gynnull yn uniongyrchol i ladd-dy ac yn cael eu cigydda yno, a hynny yn achos defaid a geifr o fewn 5 niwrnod iddynt gyrraedd y ganolfan gynnull, ac yn achos gwartheg a moch o fewn 3 diwrnod iddynt gyrraedd y ganolfan gynnull.
(4) Pan na fydd anifail y mae paragraff (3) yn berthnasol iddo yn cael ei gigydda o fewn y cyfnod penodedig, caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gigydda yn y modd a bennir yn yr hysbysiad.
(5) Pan fo anifail yn cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall i'w gigydda, a hwnnw'n anifail nad yw wedi'i gymryd i ganolfan gynnull, rhaid ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, ac os nad yw'n cael ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gymryd i unrhyw ladd-dy a bennir yn yr hysbysiad.
(6) Os os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir naill ai o dan baragraff (4) neu (5) caiff arolygydd atafaelu'r anifail a threfnu bod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.
Cludo anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid
7.
- (1) Rhaid i berson beidio â chludo unrhyw anifail na chynnyrch anifail at ddibenion masnach ryng-Gymunedol oni bai bod y dogfennau sy'n ofynnol o dan Erthygl 3(1)(d) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC yn mynd gyda'r anifail neu'r cynnyrch anifail hwnnw.
(2) Rhaid i berson beidio â danfon unrhyw anifail na chynnyrch anifail a fewnforiwyd o Aelod-wladwriaeth arall i gyfeiriad heblaw'r cyfeiriad a bennir yn y dogfennau traddodi gofynnol oni bai bod hysbysiad a gyflwynwyd iddo gan arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny; ac, os bydd anifail neu gynnyrch anifail yn cael ei ddanfon i gyfeiriad heblaw'r cyfeiriad a bennir yn y dogfennau traddodi gofynnol ac yn groes i hysbysiad a gyflwynwyd gan arolygydd, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifail neu'r cynnyrch anifail yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ei gludo, ar draul y person hwnnw, i'r cyfeiriad a bennir yn y dogfennau traddodi gofynnol.
(3) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.
(4) Yn achos cludo gwartheg, moch, defaid neu eifr, mae darpariaethau Rhan II o Atodlen 3 yn effeithiol, a gall unrhyw fethiant i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny arwain at ddiwygio, atal neu ddirymu awdurdodiad i gludo'r anifeiliaid hynny a roddwyd o dan erthygl 12 o Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) 1997[14] yn unol ag Atodlen 9 i'r Gorchymyn hwnnw.
Masnachwyr
8.
- (1) Rhaid i fasnachwyr gwartheg, moch, defaid neu eifr, sy'n ymgymryd â masnach ryng-Gymunedol, gydymffurfio â Rhan III o Atodlen 3.
(2) Rhaid i fasnachwyr anifeiliaid eraill sy'n ymgymryd â masnach ryng-Gymunedol, os bydd hysbysiad a gyflwynir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny, gofrestru fel y cyfryw gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddynt roi'r ymrwymiadau ynglyn â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw cofrestr o fasnachwyr sydd wedi'u cofrestru o dan baragraff (2).
(4) Rhaid i unrhyw berson sydd wedi cofrestru o dan baragraff (2) gadw cofnod -
a rhaid iddo gadw'r cofnodion hynny am 12 mis o'r dyddiad y cyrhaeddodd y llwyth.
Cymeradwyo canolfannau a thimau at ddibenion Cyfarwyddeb 92/65/EEC a labordai at ddibenion Cyfarwyddeb 90/539/EEC
9.
- (1) At ddibenion Erthyglau 5 a 13 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo unrhyw gorff, sefydliad neu ganolfan sydd wedi gwneud cais am gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb honno ac sy'n cydymffurfio â gofynion Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal, tynnu'n ôl neu adfer y gymeradwyaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) yn unol â phwynt 6 o Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.
(3) At ddibenion Erthygl 11 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo unrhyw ganolfan casglu semen neu dîm casglu embryonau sydd wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac sy'n bodloni'r amodau sy'n gymwys iddi neu iddo o ran cymeradwyo a chyflawni ei dyletswyddau neu ei ddyletswyddau fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad D iddi.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo labordai yn unol ag Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn at ddibenion cyflawni'r profion ar gyfer heintiadau Mycoplasma sy'n ofynnol o dan Bennod III o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC.
(5) Rhaid i'r profion ar gyfer heintiadau Salmonela sy'n ofynnol o dan Bennod III o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC gael eu cyflawni gan labordai a awdurdodwyd yn unol ag erthygl 2(1) o Orchymyn Heidiau Bridio a Deorfeydd Dofednod 1993[15].
Arolygu a gwirio yn y gyrchfan
10.
- (1) Mae pŵer gan arolygydd milfeddygol i arolygu, yn eu cyrchfan, bob anifail a chynnyrch anifeiliaid sydd wedi'u mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall, er mwyn sicrhau cydymffurfedd â'r gofynion (gan gynnwys y gofynion ynglyn â dogfennau) yn narpariaethau perthnasol yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 ac unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn Rhan I o Atodlen 3.
(2) Mae gan arolygydd bŵer i arolygu yn unrhyw fan ac ar unrhyw bryd bob anifail a chynnyrch anifeiliaid sydd wedi'u mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall, yn ogystal â phob dogfen sy'n mynd gyda hwy, os oes gan yr arolygydd wybodaeth sy'n peri iddo amau bod unrhyw un o ofynion yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 neu unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn Rhan I o Atodlen 3 wedi'u torri.
Dyletswyddau ar draddodeion
11.
- (1) Rhaid i berson beidio â derbyn llwyth o anifeiliaid nac o gynhyrchion anifeiliaid (ac eithrio ceffylau cofrestredig y mae dogfen adnabod yn mynd gyda hwy a honno'n ddogfen y darperir ar ei chyfer gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC ar yr amodau sootechnegol ac achyddol sy'n llywodraethu masnach ryng-Gymunedol mewn equidae)[16]) oni bai bod y mewnforiwr neu'r traddodai wedi hysbysu arolygydd awdurdodedig yn ysgrifenedig, o leiaf 24 awr ymlaen llaw, o natur y llwyth, o'r dyddiad y disgwylir iddo gyrraedd ac o'r gyrchfan.
(2) Rhaid i draddodai ddal ei afael ar bob tystysgrif a anfonir yn unol â'r Rheoliadau hyn am 12 mis o'r dyddiad y mae'r llwyth yn cyrraedd.
(3) Yr arolygydd awdurdodedig y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) yw'r arolygydd a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael gwybodaeth am y dyddiad y disgwylir i anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid, a fewnforiwyd ar gyfer yr ardal y mae'r gyrchfan wedi'i lleoli ynddi, gyrraedd.
Canolfannau cynnull a lladd-dai
12.
- (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n gweithredu canolfan gynnull wneud hynny'n unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r ganolfan gynnull i gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael Rhif ganddo, a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â'i chymeradwyo oni chaiff ei fodloni - -
(3) Yr unig anifeiliaid y caiff gweithredydd canolfan gynnull eu derbyn i'r fangre honno yw anifeiliaid sydd â manylion ar gyfer eu hadnabod ac sy'n dod o fuchesau, cenfeintiau, geifreoedd, greoedd, heidiau neu ddiadellau sy'n gymwys ar gyfer masnach o fewn y Gymuned.
(4) Pan fo anifeiliaid yn cael eu traddodi i ganolfan gynnull, rhaid i weithredydd y ganolfan gynnull -
a rhaid iddo gadw'r gofrestr yn ddiogel am dair blynedd o leiaf.
(5) Pan fo anifeiliaid yn cael eu traddodi i ladd-dy o dan oruchwyliaeth milfeddyg swyddogol a benodwyd o dan ddarpariaethau rheoliad 8 o Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995[17] neu reoliad 8 o Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 1995[18], rhaid i'r milfeddyg swyddogol sicrhau na chaiff unrhyw anifail ei gigydda onid yw'n cydymffurfio ag Erthygl 3(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC.
(6) Os yw'r milfeddyg swyddogol, wrth gyflawni arolygiadau o dan y paragraff blaenorol, yn cadarnhau bod ardystiad anghywir wedi dod gydag anifeiliaid a fewnforiwyd o Aelod-wladwriaeth arall neu nad oes modd rhwydd o'u hadnabod, rhaid iddo hysbysu ar unwaith arolygydd milfeddygol a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael hysbysiadau o'r fath, a rhaid i'r arolygydd hwnnw archwilio'r anifeiliaid a naill ai -
(7) Pan nad yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys, rhaid i unrhyw berson sy'n marchnata unrhyw anifail sydd wedi'i draddodi iddo o Aelod-wladwriaeth arall, neu sy'n rhannu llwythi o anifeiliaid o'r fath i'w dosbarthu neu i'w marchnata -
Llwythi anghyfreithlon
13.
- (1) Os yw arolygydd milfeddygol yn gwybod neu'n amau bod asiantau sy'n gyfrifol am glefyd y cyfeirir ato yn Atodlen 6 yn bresennol, neu fod milhaint, unrhyw haint arall neu unrhyw achos sy'n debyg o fod yn berygl difrifol i anifeiliaid neu bobl yn bresennol, mewn anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid a fewnforiwyd o Aelod-wladwriaeth arall, neu fod yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid hynny wedi dod o ranbarth sydd wedi'i halogi â chlefyd episootig, caiff gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny.
(2) Rhaid i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw -
(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (4) os yw arolygydd yn gwybod neu'n amau nad yw anifail neu gynnyrch anifeiliaid yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC, caiff roi i'r traddodwr neu i'w gynrychiolydd, neu i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny, os bydd ystyriaethau iechyd a lles anifeiliaid yn caniatáu i'r arolygydd wneud hynny, y dewisiadau canlynol ar ffurf hysbysiad -
(4) Os afreoleidd-dra ynglyn â'r dogfennau traddodi gofynnol yw'r unig reswm y mae'r llwyth yn methu â chydymffurfio, rhaid i'r arolygydd beidio â chyflwyno hysbysiad o dan baragraff (3) oni bai -
(5) Os na chydymffurfir ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.
Milfeddygon swyddogol
15.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddynodi o bryd i'w gilydd yr arolygwyr milfeddygol hynny sydd i weithredu fel milfeddygon swyddogol fel sy'n angenrheidiol at ddibenion y Rhan hon a chaiff ddirymu'r dynodiad hwnnw ar unrhyw bryd.
Mewnforio
16.
- (1) Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail -
(2) Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail ac eithrio o wlad neu diriogaeth a bennir o dan yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 7.
(3) Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail y mae offeryn yn Rhan II o Atodlen 7 yn gymwys iddo oni bai bod yr anifail hwnnw yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol yr offeryn hwnnw ac unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn y Rhan honno.
(4) Pan fo anifail yn cael ei fewnforio i'w gigydda, rhaid ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, ac os nad yw'n cael ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gymryd i unrhyw ladd-dy a bennir yn yr hysbysiad.
(5) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (4), caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.
(6) Rhaid i'r person sydd â gofal dros anifail sydd wedi'i fewnforio er mwyn ei ailallforio ar unwaith, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd gydymffurfio ag Erthygl 4, yr ail indent, o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004[21].
Mannau mewnforio
17.
- (1) Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail ac eithrio wrth safle archwilio ar y ffin a bennir yn Atodlen 2 ar gyfer y rhywogaeth anifail honno, ac eithrio y caniateir mewnforio hefyd anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn y Gynddaredd (Mewnforio Cwn, Cathod a Mamaliaid Eraill) 1974[22] hefyd mewn mannau a ganiateir o dan y Gorchymyn hwnnw.
(2) Os yw anifeiliaid yn cael eu mewnforio yn unman heblaw lle a ganiateir o dan baragraff (1), caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros y llwyth gadw'r anifeiliaid yn gaeth a'u hynysu yn unol â'r hysbysiad a bydd darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn effeithiol.
(3) Yn dilyn archwiliad o'r anifeiliaid gan arolygydd milfeddygol, caiff yr arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad pellach i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros y llwyth a hwnnw'n hysbysiad sydd naill ai'n rhyddhau'r anifeiliaid o'r cyfyngiad neu'n ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu cigydda, neu gael eu cigydda a'u difa, neu eu hailallforio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd.
(4) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) neu (3) caiff arolygydd atafaelu'r anifail a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.
Y weithdrefn fewnforio
18.
- (1) Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail oni bai ei fod wedi hysbysu o'i fwriad i wneud hynny yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004.
(2) Yn syth ar ôl ei fewnforio, rhaid i'r mewnforiwr neu ei asiant fynd â'r anifail, o dan oruchwyliaeth yr awdurdod gorfodi, yn uniongyrchol i'r man archwilio ar y safle arolygu ar y ffin neu, pan fo'r offerynnau yn Atodlen 7 neu'r amodau ynghylch iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fewnforion yn gwneud hynny'n ofynnol, i ganolfan gwarantîn fel y darperir ar ei chyfer yn ail baragraff indent yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 10(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC.
(3) Rhaid i berson beidio â symud unrhyw anifail o ganolfan gwarantîn na safle arolygu ar y ffin oni bai bod y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i llenwi yn unol ag Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 a bod y ddogfen honno'n dangos bod yr holl wiriadau milfeddygol angenrheidiol wedi'u gwneud er boddhad y milfeddyg swyddogol.
(4) Rhaid i berson beidio â symud unrhyw anifail o fan lle mae'n cael ei storio dros dro o dan drefniadau'r Tollau -
(5) Rhaid i'r person sydd â gofal dros anifail a fewnforiwyd o drydedd wlad sicrhau ei fod yn cael ei gludo i'w gyrchfan yn ddi-oed a bod gwreiddiol y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gydag ef i'w gyrchfan yn unol ag Erthygl 3(4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004.
(6) Pan fo gwiriad yn golygu cymryd sampl i'w brofi ac nad yw canlyniad y prawf ar gael ar unwaith, caiff y milfeddyg swyddogol, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r perchennog neu'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifail, ryddhau'r anifail hwnnw o'r safle arolygu ar y ffin, a'i gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw gadw'r anifail yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad nes bod canlyniadau'r prawf ar gael; ac os yw'r prawf yn dangos nad yw'r anifail yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC, yna bydd darpariaethau rheoliad 21 yn gymwys yn yr un modd ag y maent yn gymwys ar safle arolygu ar y ffin.
(7) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (4) neu (6) caiff arolygydd milfeddygol atafaelu unrhyw anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.
Talu ffioedd
19.
Rhaid i'r milfeddyg swyddogol beidio ag awdurdodi rhyddhau anifeiliaid o ganolfan gwarantîn na safle arolygu ar y ffin oni chaiff ei fodloni bod y ffioedd am yr holl wiriadau milfeddygol y codir tâl amdanynt wedi'u talu, a phan fo'n berthnasol, bod blaendal sy'n talu unrhyw gostau y darperir ar eu cyfer yn Erthygl 9(1)(a), 9(2), ail a thrydydd paragraff indent Erthygl 10(1), Erthygl 10(6) ac Erthygl 12(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC wedi'i adneuo.
Llwythi sy'n beryglus i iechyd
20.
Pan fo gwiriadau yn y ganolfan gwarantîn neu'r safle arolygu ar y ffin neu pan fo canlyniadau prawf y cyfeirir atynt yn rheoliad 18(6) yn datgelu bod anifail neu lwyth anifeiliaid yn debyg o fod yn berygl i iechyd anifeiliaid neu iechyd dynol, rhaid i'r milfeddyg swyddogol fynd ati ar unwaith i atafaelu'r anifail neu'r llwyth (yn ôl y digwydd) a'i ddifa a bydd costau'r camau hynny yn daladwy gan y mewnforiwr neu ei gynrychiolydd.
Llwythi anghyfreithlon
21.
- (1) Pan fo gwiriadau yn y ganolfan gwarantîn neu'r safle arolygu ar y ffin yn dangos nad yw'r anifeiliaid yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC neu Erthyglau 3, 4 neu 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC[23], rhaid i arolygydd milfeddygol, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid hynny, ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw -
(2) Cyn arfer unrhyw un o'r pwerau ym mharagraff (1) rhaid i'r arolygydd milfeddygol ymgynghori â'r mewnforiwr neu ei gynrychiolydd.
(3) Os yw'r anifeiliaid yn cael eu hailanfon yn unol ag is-baragraff (c), rhaid i'r milfeddyg swyddogol ganslo'r dystysgrif filfeddygol sy'n mynd gyda'r llwyth a wrthodwyd a llenwi'r blwch sy'n dwyn y geiriau 'details of re-consignment' yn rhan 3 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn unol ag ail baragraff indent Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 cyn gynted ag y daw'r wybodaeth berthnasol yn hysbys.
(4) Os nad yw'n bosibl eu hanfon ymlaen ym marn yr arolygydd milfeddygol, a hynny am resymau lles yr anifeiliaid yn benodol, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid yn unol â'r paragraff canlynol.
(5) Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol awdurdodi bod yr anifeiliaid i gael eu cigydda ar gyfer eu bwyta gan bobl os yw'r anifeiliaid yn cydymffurfio â'r holl ofynion deddfwriaethol y mae rhaid iddynt gydymffurfio â hwy cyn y caniateir eu cigydda ar gyfer eu bwyta gan bobl ond, os nad yw hynny'n bosibl, rhaid i'r hysbysiad naill ai -
(6) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (4) caiff arolygydd milfeddygol atafaelu unrhyw anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.
(7) Mae'r mewnforiwr neu ei gynrychiolydd yn atebol am y costau a dynnir mewn mesurau o dan y rheoliad hwn, ond mae ganddo hawl, ar ôl didynnu costau, i gael enillion unrhyw werthiant.
Cyrraedd y gyrchfan
22.
- (1) Ar ôl iddynt gyrraedd eu cyrchfan, rhaid i eliffantod ac anifeiliaid sy'n perthyn i urdd yr Artiodactyla (a'u croesfridiau) sydd i'w defnyddio ar gyfer bridio, cynhyrchu neu besgi, neu sydd wedi'u bwriadu ar gyfer swau, parciau adloniant, gwarchodfeydd hela neu warchodfeydd bywyd gwyllt, gael eu cadw'n gaeth yn y fangre gan y person sydd â rheolaeth ar y fangre honno am o leiaf 30 niwrnod, a rhaid i'r person hwnnw beidio â'u rhyddhau oni chaiff awdurdodiad ysgrifenedig gan swyddog awdurdodedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys yn achos anifeiliaid sy'n cael eu hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy.
(3) Rhaid i anfeiliaid o rywogaeth nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt ac sydd i'w defnyddio ar gyfer bridio neu gynhyrchu gael eu cadw'n gaeth yn y gyrchfan gan y person y mae'r fangre honno o dan ei reolaeth, a rhaid iddo beidio â'u rhyddhau oni chaiff awdurdodiad ysgrifenedig gan swyddog awdurdodedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Dulliau rheoli ôl-fewnforio
23.
- (1) Pan fo arolygydd milfeddygol yn gwybod neu'n amau na chydymffurfiwyd â'r amodau mewnforio neu pan fo amheuon ynglyn â manylion adnabod yr anifail, caiff yr arolygydd milfeddygol gyflawni unrhyw wiriadau milfeddygol ar yr anifail hwnnw y mae'n barnu eu bod yn briodol.
(2) Os bydd y gwiriadau yn cadarnhau na chydymffurfiwyd â'r amodau mewnforio, yna bydd darpariaethau rheoliad 21 yn gymwys yn yr un modd ag y maent yn gymwys i safle arolygu ar y ffin ac, os bydd pwer yn cael ei arfer i roi'r anifeiliaid mewn cwarantîn neu i'w hynysu, caiff arolygydd milfeddygol ei gwneud yn ofynnol at hynny i anifeiliaid eraill sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r anifeiliaid a fewnforiwyd gael eu rhoi mewn cwarantîn neu gael eu hynysu.
(ch) archwilio deunydd dogfennol neu ddeunydd prosesu data sy'n berthnasol i'r gwiriadau a wneir o dan y Rheoliadau hyn; a
(d) mynd â chynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion Cyfarwyddebau'r Cyngor 90/425/EEC neu 91/496/EEC gydag ef.
Adennill treuliau
30.
Mae'r traddodwr, ei gynrychiolydd a'r person sydd â gofal dros unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid yn atebol yn unigol ac ar y cyd am unrhyw dreuliau rhesymol sy'n codi o arfer unrhyw bŵer a roddwyd i arolygydd gan y Rheoliadau hyn ac sy'n ymwneud â'r anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid hynny neu sy'n codi mewn cysylltiad ag arfer unrhyw bwer o'r fath.
Rhwystro
31.
Rhaid i berson beidio -
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
32.
- (1) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran -
mae'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Cosbau
33.
- (1) Mae person sy'n torri unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r darpariaethau a gynhwysir ym mharagraff 6 o Ran I o Atodlen 4 a pharagraff 2 o Ran I o Atodlen 5, neu unrhyw hysbysiad a gyflwynir oddi tanynt yn euog o dramgwydd.
(2) Mae person yn euog o dramgwydd o dan reoliad 31(a) neu (b) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddiryw nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis neu i'r ddau.
(3) Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn agored -
Datgymhwyso darpariaethau
34.
Nid yw darpariaethau'r ddeddfwriaeth a restrir yn Atodlen 8 yn gymwys i fewnforion o Aelod-wladwriaeth arall o anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid y mae offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 yn gymwys iddynt, nac i fewnforion o anifail y mae offeryn yn Atodlen 7 yn gymwys iddynt o'r wlad sy'n ddarostyngedig i'r offeryn hwnnw, i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r tabl a roddir yn Atodlen 8.
Dirymu
35.
Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[31]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Ebrill 2005
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Mae Cyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 56) wedi'i diwygio gan y canlynol, a rhaid ei darllen gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y safle arolygu ar y ffin | Anifeiliaid y caniateir eu mewnforio |
Maes Awyr Gatwick | Pob anifail heblaw carnolion (i) |
Heathrow | Pob anifail |
Maes Awyr Luton (ii) | Carnolion (i) |
Maes Awyr Manceinion | Cathod, cwn, cnofilod, lagomorffiaid, pysgod byw, ymlusgiaid, ac adar heblaw adar di-gêl |
Maes Awyr Stansted (ii) | Carnolion (i) |
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3(2), 4(1), 5(1), 5(2), 5(5), 6(1), 6(2), 6(3), 7 (yn achos mewnforion), a 12(3).
Semen gwartheg
2.
Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion ynglyn ag iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o'r rywogaeth fuchol a mewnforion semen o'r fath (OJ Rhif L194, 22.7.88, t. 10), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3 a 6.
Embryonau gwartheg
3.
Cyfarwyddeb y Cyngor 89/556/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid ynghylch masnach ryng-Gymunedol mewn embryonau anifeiliaid domestig o'r rhywogaeth fuchol a'u mewnforio o drydydd gwledydd (OJ Rhif L302, 19.10.89, t. 1), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3 a 6.
Equidae
4.
Cyfarwyddeb y Cyngor 90/426/EEC ar amodau iechyd sy'n llywodraethu symudiadau equidae a'u mewnforio o drydydd gwledydd (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 42), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 4, 5, 7(1), ac 8.
Semen Moch
5.
Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC sy'n gosod y gofynion ynglyn ag iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y mochyn a mewnforio semen o'r fath (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 62) a Phenderfyniad y Comisiwn 99/608/EC (OJ Rhif L242, 14.9.99, t. 20), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3, 4(1), 4(2) a 6(1).
Rhaid i'r ardystiad iechyd swyddogol sy'n mynd gyda'r holl semen moch sy'n cael ei fewnforio i Gymru o unrhyw Aelod-wladwriaeth arall ddatgan bod y semen wedi'i gasglu o faeddod sydd "on a collection centre which only contains animals that have not been vaccinated against Aujeszky's disease and which have reacted negatively to the serum neutralisation test or to the ELISA test for Aujeszky's disease, in accordance with the provisions of Council Directive 90/429/EEC" a rhaid dileu paragraff 13(b)(ii) o'r dystysgrif iechyd enghreifftiol a ddarperir yn Atodiad D o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC ym mhob achos.
Dofednod ac wyau deor
6.
Cyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn dofednod ac wyau deor a'u mewnforio o drydydd gwledydd (OJ Rhif L303, 30.10.90, t. 6), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 6 i 11, 12(1), a 15 i 17.
Gwastraff anifeiliaid
7.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L273, 10.10.2002, t. 1), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y ddarpariaeth berthnasol: Erthygl 8.
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: y darpariaethau canlynol i'r graddau y maent yn gymwys i bysgod byw, wyau a gametau: Erthyglau 3, 4, 7 i 11, a 14 a 16.
Pysgod heblaw pysgod a ffermir
(2) Cyfarwyddeb y Cyngor 91/493/EEC yn gosod yr amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd a'u rhoi ar y farchnad (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 15), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y ddarpariaeth berthnasol: Erthygl 4.
Molysgiaid dwygragennog byw
(3) Cyfarwyddeb y Cyngor 91/492/EEC yn gosod yr amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu pysgod cregyn byw a'u rhoi ar y farchnad (OJ Rhif L268, 24.9.91, t.1), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3(1)a-i, 3(2), 4, 7, 8, a 9.
Defaid a geifr
9.
Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn defaid a geifr (OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 19) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3, 4, 4a, 4b, 4c, 5, 6, a 9.
Anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau eraill
10.
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn, a mewnforion i'r Gymuned o, anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a bennir mewn rheolau penodol y Gymuned ac y cyfeirir atynt yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC) (OJ Rhif L268, 14.9.92, t. 54), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3 i 9, 10(1) i 10(3) , ac 11 i 13.
Pathogenau
11.
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid a iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu'r fasnach mewn, a mewnforion i'r Gymuned o, gynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion hynny a osodwyd mewn rheolau penodol y Gymuned ac y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb y Cyngor 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t. 49) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 6 a 7(1).
Anifeiliaid pur o rywogaeth gwartheg
12.
Cyfarwyddeb y Cyngor 77/504/EEC ar anifeiliaid bridio pur o rywogaeth y fuwch (OJ Rhif L206, 12.8.1977, t. 8), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 5 a 7.
Anifeiliaid bridio o rywogaeth y mochyn
13.
Cyfarwyddeb y Cyngor 88/661/EEC ar y safonau sootechnegol sy'n gymwys i anifeiliaid bridio o rywogaeth y mochyn (OJ Rhif L382, 31.12.1988, t. 36), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 2(2), 5, 7(2) a 9.
Defaid bridio pur a geifr bridio pur
14.
Cyfarwyddeb y Cyngor 89/361/EEC ynghylch defaid bridio pur a geifr bridio pur (OJ Rhif L153, 6.6.1989, t. 30), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3(2) a 6.
Equidae
15.
Cyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC ar yr amodau sootechnegol ac achyddol sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn equidae (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 55), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 6 ac 8.
3.
Rhaid iddo sicrhau bod y cyfrwng cludo wedi'i adeiladu yn y fath fodd ag i sicrhau na fydd ysgarthion, sarn na bwyd anifeiliaid yn gallu gollwng na chwympo allan o'r cerbyd.
4.
Rhaid iddo roi ymrwymiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol yn dweud -
(b) y bydd gwaith cludo'r anifeiliaid yn cael ei roi yng ngofal staff sy'n meddu ar y gallu, y cymhwysedd proffesiynol a'r wybodaeth angenrheidiol.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â dyroddi cymeradwyaeth o dan y paragraff hwn onid yw wedi'i fodloni y bydd y masnachwr yn cydymffurfio â darpariaethau'r Rhan hon ac, yn achos masnachwr defaid neu eifr, bod y masnachwr wedi cytuno i gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer gweithredu ei fangre y mae arolygydd wedi'u pennu mewn cytundeb gweithredol yn ofynion y mae'r arolygydd yn credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod modd gweithredu'r fangre yn unol ag ail baragraff indent Erthygl 3(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC.
3.
Rhaid i'r masnachwr sicrhau mai'r unig anifeiliaid y mae'n eu mewnforio neu'n eu hallforio yw anifeiliaid sy'n dod gyda'r manylion ar gyfer eu hadnabod ac sy'n bodloni gofynion cyfraith y Gymuned ar gyfer masnach ryng-Gymunedol ac, yn achos gwartheg, sy'n dod o fuchesau sy'n swyddogol rydd rhag twbercwlosis, brwselosis a lewcosis, neu sy'n anifeiliaid i'w cigydda sy'n bodloni gofynion Erthygl 6(3) neu, os ydynt yn anifeiliaid i'w cigydda o dan raglen rheoli clefydau, gofynion Erthygl 13(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC.
4.
Rhaid i'r masnachwr gadw cofnod ar gyfer yr holl wartheg, moch, defaid a geifr y mae'n eu mewnforio neu'n eu hallforio, naill ai ar sail Rhif au neu farciau adnabod ar yr anifeiliaid, a chadw'n ddiogel am dair blynedd o leiaf y cofnod o'r canlynol - -
5.
Yn achos masnachwr sy'n cadw gwartheg, moch, defaid neu eifr ar ei fangre rhaid iddo sicrhau - -
6.
- (1) Dim ond mangre a gymeradwywyd at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y paragraff hwn ac sydd, yn achos masnachwr defaid a geifr, wedi'i phennu mewn cytundeb gweithredol y caiff y masnachwr ei defnyddio.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi Rhif cymeradwyo ar gyfer mangre a gymeradwyir o dan y paragraff hwn.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â dyroddi cymeradwyaeth o dan y paragraff hwn oni chaiff ei fodloni bod y fangre yn cydymffurfio, yn achos masnachwr gwartheg neu foch, ag Erthygl 13(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC neu, yn achos masnachwr defaid a geifr, Erthygl 8b(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC.
(b) os yw gweithredydd y sefydliad, ac yntau wedi'i hysbysu bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod y gofynion yn is-baragraff (a) wedi'u bodloni, wedi talu'r ffi aelodaeth flynyddol, y mae'r manylion amdani wedi'u nodi yn Rhan III o'r Atodlen hon.
4.
Rhaid i'r rhaglen arolygu clefydau y cyfeirir ati ym mharagraff (b) o bwynt 1 Pennod I o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb gynnwys y mesurau arolygu clefydau a bennir ym Mhennod III o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb, ynghyd ag unrhyw ofynion profi ychwanegol y mae arolygydd milfeddygol yn hysbysu sefydliad yn ysgrifenedig eu bod yn ofynion y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i osgoi lledaenu clefydau heintus drwy fasnach ryng-Gymunedol, gan gymryd i ystyriaeth yr amgylchiadau penodol yn y sefydliad hwnnw.
5.
Pan gaiff y ffi aelodaeth flynyddol gyntaf, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi tystysgrif aelodaeth y sefydliad, y mae'n rhaid iddi gynnwys Rhif aelodaeth y sefydliad.
6.
Rhaid i weithredydd sefydliad sy'n aelod o'r Cynllun Iechyd Dofednod dalu'r ffi aelodaeth flynyddol bob blwyddyn.
7.
Er mwyn sicrhau bod gweithredwyr a'u sefydliadau yn parhau i fodloni'r gofynion ar gyfer aelodaeth o'r Cynllun Iechyd Dofednod, ac yn gyffredinol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Gyfarwyddeb, rhaid i arolygydd milfeddygol gynnal arolygiad blynyddol o'r sefydliad, ac unrhyw arolygiadau ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu eu bod yn angenrheidiol.
8.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol -
2.
Bydd y ffi gofrestru yn daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol am bob sefydliad y mae cais yn cael ei wneud ar ei gyfer ac ni fydd modd i'r Cynulliad Cenedlaethol ei had-dalu.
3.
Yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(a) yw -
(b) recriwtio a hyfforddi'r staff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a);
(c) treuliau teithio a mân dreuliau cysylltiedig a dynnwyd wrth brosesu ceisiadau am aelodaeth (gan gynnwys sefydliadau arolygu), ac eithrio pan fyddant wedi'u tynnu gan berson sy'n mynd i'w weithle arferol;
(ch) llety, cyfarpar a gwasanaethau swyddfa i'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a), gan gynnwys dibrisiant celfi a chyfarpar swyddfa a chostau technoleg gwybodaeth a deunyddiau swyddfa;
(d) dillad amddiffynnol a chyfarpar a ddefnyddiwyd wrth arolygu sefydliadau, a golchi, smwddio, glanhau neu ddiheintio'r dillad amddiffynnol hynny;
(dd) darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél mewn cysylltiad â chyflogi'r staff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a); ac
(e) unrhyw fân dreuliau eraill a dynnwyd mewn cysylltiad â phrosesu ceisiadau am aelodaeth o'r Cynllun Iechyd Dofednod.
6.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol -
7.
Bydd y ffi aelodaeth flynyddol yn daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob sefydliad ac ni fydd modd i'r Cynulliad Cenedlaethol ei had-dalu.
8.
Yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6(a) yw -
(b) recriwtio a hyfforddi'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a);
(c) treuliau teithio a mân dreuliau cysylltiedig a dynnwyd wrth weinyddu'r Cynllun Iechyd Dofednod (gan gynnwys arolygiadau milfeddygol o sefydliadau), ac eithrio pan fyddant wedi'u tynnu gan berson sy'n mynd i'w weithle arferol;
(ch) llety, cyfarpar a gwasanaethau swyddfa i'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a), gan gynnwys dibrisiant celfi a chyfarpar swyddfa a chostau technoleg gwybodaeth a deunyddiau swyddfa;
(d) darparu, pan fo'n gymwys, ddillad amddiffynnol a chyfarpar a ddefnyddiwyd i arolygu sefydliadau, a golchi, smwddio, glanhau neu ddiheintio'r dillad amddiffynnol hynny;
(dd) darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél mewn cysylltiad â chyflogi'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a); ac
(e) unrhyw fân dreuliau eraill a dynnwyd mewn cysylltiad â gweinyddu'r Cynllun Iechyd Dofednod.
5.
Bydd y ffi gymeradwyo flynyddol yn daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob labordy a gymeradwyir ac ni fydd modd i'r Cynulliad Cenedlaethol ei had-dalu.
6.
Yr eitemau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 4(a) yw -
(b) recriwtio a hyfforddi'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a);
(c) treuliau teithio a mân dreuliau cysylltiedig a dynnwyd wrth weinyddu'r broses o gymeradwyo labordai (gan gynnwys cynnal arolygiadau), ac eithrio pan fyddant wedi'u tynnu gan berson sy'n mynd i'w weithle arferol.
(ch) llety, cyfarpar a gwasanaethau swyddfa i'r staff sy'n ymwneud â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai, gan gynnwys dibrisiant celfi a chyfarpar swyddfa a chostau technoleg gwybodaeth a deunyddiau swyddfa;
(d) darparu dillad amddiffynnol a chyfarpar a ddefnyddiwyd i gynnal arolygiadau o sefydliadau, a golchi a smwddio'r dillad amddiffynnol hynny;
(dd) darparu samplau profi sicrwydd ansawdd, asesu'r canlyniadau a rhoi cyngor am y canlyniadau;
(e) darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél mewn cysylltiad â chyflogi staff sy'n ymwneud â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai; ac
(f) unrhyw fân dreuliau eraill a dynnwyd mewn cysylltiad â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai.
2.
Penderfyniad y Comisiwn 95/233/EC sy'n tynnu rhestrau o drydydd gwledydd y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforion ohonynt o ddofednod byw ac wyau deor (OJ Rhif L156, 7.7.95, t. 76), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
3.
Penderfyniad y Comisiwn 2003/804/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch iechyd anifeiliaid a'r gofynion ynglyn ag ardystiadau ar gyfer mewnforio molysgiaid, eu hwyau a'u gametau i ganiatáu iddynt dyfu ymhellach, i'w pesgi, i'w hailddodi neu i'w bwyta gan bobl (OJ Rhif L302, 21.11.2003, t.22), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol ac fel y'i darllenir gyda hwy -
4.
Penderfyniad y Comisiwn 2003/858/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch iechyd anifeiliaid a'r gofynion ynglyn ag ardystiadau ar gyfer mewnforio pysgod byw, eu hwyau a'u gametau sydd wedi'u bwriadu ar gyfer ffermio, a physgod byw sy'n tarddu o ddyframaethu a chynhyrchion y dyframaethu hwnnw sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ L324, 11.12.2003, t.37.) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
5.
Penderfyniad y Comisiwn 2004/211/EC yn sefydlu'r rhestr o drydydd gwledydd a'r rhannau o diriogaeth y gwledydd hynny y mae Aelod-wladwriaethau yn awdurdodi mewnforio ohonynt equidae byw a semen, ofa ac embryonau rhywogaeth y ceffyl (OJ Rhif L73, 11.3.2004, t. 1).
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 6, 10, 11, 13, 29 a 30.
Anifeiliaid fforchog yr ewin ac eliffantod o drydydd gwledydd
2.
Penderfyniad y Cyngor 79/542/EEC sy'n tynnu rhestr o drydydd gwledydd neu rannau o drydydd gwledydd, ac yn gosod yr amodau ynghylch iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd ac ynghylch ardystiadau milfeddygol, ar gyfer mewnforio i'r Gymuned anifeiliaid byw penodol a'u cig ffres (OJ Rhif L146, 14.6.79, t. 15), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/212/EC (OJ Rhif L73, 11.3.2004, t. 11).
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3, 4, 5 a 6.
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 11, 12(1), 13 i 16 a 18.
4.
Penderfyniad y Comisiwn 2004/211/EC yn sefydlu'r rhestr o drydydd gwledydd a'r rhannau o diriogaeth y gwledydd hynny y mae Aelod-wladwriaethau yn awdurdodi mewnforio ohonynt equidae byw a semen, ofa ac embryonau rhywogaeth y ceffyl (OJ Rhif L73, 11.3.2004, t. 1).
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthygl 1.
Ceffylau cofrestredig ar gyfer rasio, etc.
6.
Penderfyniad y Comisiwn 93/195/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid ac ardystiadau milfeddygol ar gyfer ceffylau cofrestredig sy'n dychwelyd ar gyfer digwyddiadau rasio, digwyddiadau cystadlu a digwyddiadau diwylliannol ar ôl iddynt gael eu hallforio dros dro (OJ Rhif L86, 6.4.93, t. 1), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthygl 1.
Equidae i'w cigydda
7.
Penderfyniad y Comisiwn 93/196/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid ac ardystiadau milfeddygol ar gyfer mewnforio equidae i'w cigydda (OJ Rhif L86, 6.4.93, t. 7), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y ddarpariaeth berthnasol: Erthygl 1.
Equidae ar gyfer bridio a chynhyrchu
8.
Penderfyniad y Comisiwn 93/197/EC ar amodau iechyd anifeiliaid ac ardystiadau milfeddygol ar gyfer mewnforio equidae cofrestredig ac equidae ar gyfer bridio a chynhyrchu (OJ Rhif L86, 6.4.93, t. 16), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y ddarpariaeth berthnasol: Erthygl 1.
Dofednod
9.
Cyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn dofednod ac wyau deor a'u mewnforio o drydydd gwledydd (OJ Rhif L303, 30.10.90, t. 6) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 20, 21(1), 22(1), 23, 24, 27(2) a 28.
Anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau penodedig eraill
10.
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn, a mewnforion i'r Gymuned o, anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a bennir mewn rheolau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (OJ Rhif L268, 14.9.92, t. 54), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd a Phenderfyniad y Cydbwyllgor 69/96 dyddiedig 17 Gorffennaf 1998 yn diwygio Atodiad 1 (Materion Milfeddygol a Ffytoiechydol ) i'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (OJ Rhif L158, 24.6.99, t. 1).
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 17(1), 17(2) a 18.
Anifeiliaid byw o Seland Newydd
11.
Penderfyniad y Comisiwn 2003/56/EC ar dystysgrifau iechyd sy'n ymwneud ag anifeiliaid byw, eu semen, eu hofa a'u hembryonau sy'n cael eu mewnforio o Seland Newydd (OJ Rhif L22, 25.1.03, t. 38) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/385/EC (OJ Rhif L133, 29.5.03, t. 87) a Phenderfyniad y Comisiwn 2003/669/EC (OJ Rhif L237, 24.9.03, t. 7).
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 1, 2 a 3.
Amodau sootechnegol
12.
Cyfarwyddeb y Cyngor 94/28/EC sy'n gosod yr egwyddorion ynglyn â'r amodau sootechnegol ac achyddol sy'n gymwys i fewnforion o drydydd gwledydd o anifeiliaid, eu semen, eu hofa a'u hembryonau, ac yn diwygio Cyfarwyddeb 77/504/EEC ar anifeiliaid bridio pur o'r rhywogaeth fuchol (OJ Rhif L178, 12.7.94, t. 66), fel y'u darllenir gyda'r canlynol -
Y darpariaethau perthnasol: Erthygl 4.
Pysgod asgellog a physgod cregyn o drydydd gwledydd
13.
Penderfyniad y Comisiwn 2003/804/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch iechyd anifeiliaid a'r gofynion ynglyn ag ardystiadau ar gyfer mewnforio molysgiaid, eu hwyau a'u gametau i ganiatáu iddynt dyfu ymhellach, i'w pesgi, i'w hailddodi neu i'w bwyta gan bobl (OJ Rhif L302, 21.11.2003, t.22), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol ac fel y'i darllenir gyda hwy -
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3, 4, 5, 6, 7 a 8.
14.
Penderfyniad y Comisiwn 2003/858/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch iechyd anifeiliaid a'r gofynion ynglyn ag ardystiadau ar gyfer mewnforio pysgod byw, eu hwyau a'u gametau a physgod byw sy'n tarddu o ddyframaethu a chynhyrchion o'r pysgod hynny sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ L324, 11.12.2003, t.37.) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy -
Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3, 4, 5, 6, 7, 8 a 9.
Teitl | Cyfeirnod | Rhychwant |
Deddf Clefydau Pysgod 1937 | 1937 p. 33 | Adran 1 |
Gorchymyn Ysgyfarnogod (Rheoli eu Mewnforio) 1965 | O.S. 1965/2040 | Y Gorchymyn cyfan |
Gorchymyn y Gynddaredd (Mewnforio Cŵn, Cathod a Mamaliaid Eraill) 1974 fel y'i diwygiwyd | O.S. 1974/2211 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1977/361, 1984/1182, 1986/2062, 1990/2371, 1993/1813, 1994/1405, 1994/1716, 1999/3443, 2000/1298, 2000/1641, 2001/6, 2002/1011, 2002/2850, a 2004/2364. | Mae'r Gorchymyn yn parhau i fod yn gymwys i bob anifail cigysol, pob primat a phob ystlum. Bydd yn parhau i fod yn gymwys i fewnforio pob anifail arall oni bai bod anifeiliaid o'r fath yn cael eu mewnforio fel rhan o'r broses fasnachu ac y gellir dangos eu bod wedi'u geni ar y daliad y maent yn dod ohono'n wreiddiol a'u bod wedi'u cadw'n gaeth ers eu geni. |
Gorchymyn Mewnforio Anifeiliaid 1977 | O.S. 1977/944 | Erthyglau 3, 4(7), 4(8), 5(1) i (3), 7(1), 8 i 14, 16, 17, 18(1)(b), 18(3), 19 i 21, 23, 24 a 25(2) ac eithrio bod erthygl 3 yn parhau i fod yn gymwys i anifeiliaid sy'n cnoi cil a moch nad ydynt yn anifeiliaid sy'n destun Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC. |
Gorchymyn Mewnforio Adar, Dofednod ac Wyau Deor 1979 | O.S. 1979/1702 | Erthyglau 4 i 7, 9(3) i (6), 10 i 12 ac eithrio bod erthygl 4 yn parhau i fod yn gymwys i bob aderyn (gan gynnwys ffowls domestig) a'u hwyau deor nad ydynt yn rhai sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC (heb gynnwys ffowls domestig). |
Gorchymyn Mewnforio Embryonau, Ofa a Semen 1980 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Mewnforio Embryonau, Ofa a Semen (Diwygio) 1984 | O.S. 1980/12 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1984/1326 |
Y Gorchymyn cyfan ac eithrio bod erthygl 4 yn parhau i fod yn gymwys i embryonau, ofa a semen (fel y diffinnir "embryos", "ova" a "semen" yn y Gorchymyn hwnnw) ac eithrio -
(b) embryonau gwartheg sy'n destun Cyfarwyddeb y Cyngor 89/556/EEC, (c) semen moch sy'n destun Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC, (ch) ofa ac embryonau ceffylau sy'n destun Penderfyniad y Comisiwn 95/294/EC, (d) semen ceffylau sy'n destun Penderfyniad y Comisiwn 95/307/EC, (dd) semen, ofa ac embryonau defaid a geifr sy'n destun Penderfyniad y Comisiwn 95/388/EC, ac (e) ofa ac embryonau moch sy'n destun Penderfyniad y Comisiwn 95/483/EC. |
Rheoliadau Clefydau Pysgod 1984 | O.S. 1984/455 | Rheoliadau 2 a 5 |
Rheoliadau Mewnforio Semen Gwartheg 1984 | O.S. 1984/1325 | Yr offeryn cyfan |
Gorchymyn Pysgod Cregyn a Physgod Penodedig (Mewnforion Trydydd Gwledydd) 1992 | O.S. 1992/3301 | Y Gorchymyn cyfan |
Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhoi pwerau hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd camau os bydd brigiad clefyd mewn gwladwriaeth arall (rheoliad 27) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer hysbysu penderfyniadau, pwerau mynediad a chosbau.
Y prif newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn
Mae Rheoliad 2(2) yn rhoi ar waith y gofyniad yn Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 998/2003 (OJ L146, 13.6.2003, t. 1) sef os bydd unrhyw berson yn teithio gyda mwy na 5 o anifeiliaid anwes o ba bynnag rywogaeth o drydydd gwledydd penodol, bydd yr anifeiliaid hynny yn ddarostyngedig i'r gwiriadau milfeddygol y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliadau hyn, er gwaethaf yr esemptiad cyffredinol ar gyfer anifeiliaid anwes rhag gwiriadau milfeddygol yn rheoliad 2(1).
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu sail statudol ar gyfer y Cynllun Iechyd Dofednod, sy'n cael ei weithredu gan y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn sicrhau cydymffurfedd â'r rheolau sydd wedi'u nodi yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC (ar yr amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn dofednod ac wyau deor a'u mewnforio o drydydd gwledydd) (OJ Rhif L303, 31.10.90, t. 6) (rheoliad 5(5) ac Atodlen 4). Dim ond os ydynt yn dod o sefydliad sy'n aelod o'r Cynllun Iechyd Dofednod y caniateir allforio wyau deor, cywion diwrnod-oed a dofednod y mae Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys iddynt i Aelod-wladwriaeth arall. Rhaid bod ffi gofrestru yn mynd gyda cheisiadau i sefydliadau ymuno â'r Cynllun a rhaid i aelodau o'r Cynllun dalu ffi aelodaeth flynyddol. Mae'r trefniadau ar gyfer cymeradwyo labordai i ymgymryd â phrofion Mycoplasma o dan y Cynllun Iechyd Dofednod, gan gynnwys manylion y ffi gymeradwyo flynyddol, wedi'u nodi yn rheoliad 9(4) ac Atodlen 5.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2003/50/EC (sy'n diwygio Cyfarwyddeb 91/68/EEC ynghylch cyfnerthu dulliau rheoli symudiadau defaid a geifr) (OJ Rhif L169, 8.7.2003, t. 51). Mae darpariaethau diwygiedig Cyfarwyddeb 91/68/EEC ynglyn â rheolaethau iechyd ar gyfer canolfannau cynnull, masnachwyr a chludwyr, yn achos defaid a geifr, yn cael eu hadlewyrchu yn rheoliadau 7 a 12, a Rhannau II a III o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
Mae Rheoliadau 16(6), 18(1) a (3), 21(3) a 25 yn adlewyrchu darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 (sy'n cyflwyno dogfen ar gyfer datgan am anifeiliaid o drydydd gwledydd sy'n dod i mewn i'r Gymuned, ac ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar yr anifeiliaid hynny) (OJ Rhif L49, 19.2.2004, t. 11), gan gynnwys y gofynion ynghylch y "ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin" newydd, y mae rhaid i fewnforiwr ei defnyddio i hysbysu o fwriad y mewnforiwr i fewnforio anifail i mewn i'r Gymuned o drydedd wlad, ac y mae rhaid i'r milfeddyg swyddogol ei defnyddio i gofnodi ei benderfyniad ar y llwyth.
Mae Rheoliad 22 yn adlewyrchu gofynion Erthygl 7(ii) o Benderfyniad y Comisiwn 2004/212/EC (OJ Rhif L73, 11.3.2004, t. 11). Rhaid cadw eliffantod ac anifeiliaid o urdd yr Artiodactyla a fewnforiwyd o drydydd gwledydd at ddibenion penodol yn eu cyrchfan am 30 niwrnod ac ni chaiff neb eu rhyddhau oni bai bod hynny wedi'i awdurdodi gan swyddog awdurdodedig i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae urdd yr Artiodactyla yn cynnwys anifeiliaid a elwir yn gyffredin yn foch, defaid, geifr, gwartheg, camelidau a hipopotamysau (nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr).
Mae Atodlenni 1, 3, 6 (Atodlen 4 gynt) a 7 (Atodlen 5 gynt) yn rhoi ar waith hefyd amryw o offerynnau Cymunedol.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
[3] OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir yn Atodlen 1 ac fel y'i darllenir gyda hwy.back
[4] OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 56, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir yn Atodlen 1 ac fel y'i darllenir gyda hwy.back
[5] OJ Rhif L73, Argraffiad Arbennig, 27.3.72.back
[6] OJ Rhif L1, 3.1.94, t. 1.back
[7] OJ Rhif C241, 29.8.94, t. 21, fel y'i diwygiwyd gan OJ Rhif L12, 1.1.95, t. 1.back
[8] OJ Rhif L236, 23.9.03, t. 33.back
[9] OJ Rhif L146, 13.6.2003, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 592/2004 (OJ Rhif L94, 31.3.2004, t. 7).back
[10] OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 8(1) o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.back
[11] OJ Rhif L109, 25.4.97, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.back
[12] OJ Rhif L268, 14.9.92, t.54, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 10 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.back
[13] OJ Rhif L303, 30.10.90, t. 6, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 6 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.back
[14] O.S. 1997/1480, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[16] OJ Rhif L224, 1.8.90, t. 55, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 15 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.back
[17] O.S. 1995/539, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[18] O.S. 1995/540, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[19] OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir yn Atodlen 1 ac fel y'i darllenir gyda hwy.back
[20] O.S. 1997/1729, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3590back
[21] OJ L49, 19.2.2004, t. 11.back
[22] O.S. 1974/2211; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1977/361, 1984/1182, 1986/2062, 1999/3443 a 2004/2364.back
[23] OJ Rhif L340, 11.2.91, t.17, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 95/29/EC (OJ L148, 30.6.95, t. 52).back
[32] OJ Rhif L16, 25.1.93, t. 18).back
[33] OJ Rhif L109, 25.4.97, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.back
[34] OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 19, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 9 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.back
[35] OJ Rhif L303, 30.10.90, t. 6), fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 6 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.back