BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1270 (Cy.90)
CEFN GWLAD, CYMRU
Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Dull Mynediad, Apelau etc.) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
4 Mai 2005 | |
|
Yn dod i rym |
6 Mai 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 32, 38(6) a 44(2) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf")[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Dull Mynediad, Apelau etc.) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 6 Mai 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
mae i "cyfathrebiad electronig" yr ystyr sydd i "electronic communication" yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000[2];
ystyr "cyfnod apelio" ("appeal period") yw'r cyfnod a bennir yn rheoliad 4(2) neu reoliad 4(3), yn ôl y digwydd;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae "dogfen" ("document") yn cynnwys ffotograff, map neu blan;
ystyr "fforwm mynediad lleol perthnasol" ("relevant local access forum") yw fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o'r Ddeddf ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir apêl wedi'i leoli;
ystyr "ffurflen apêl" ("appeal form") yw'r ddogfen y gellir ei chael gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac y mae'n rhaid i berson sy'n dymuno dwyn apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf ei llenwi;
ystyr "Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau" ("Appeals Procedures Regulations") yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002[3]; ac
ystyr "tir apêl" ("appeal land") yw'r tir sy'n destun yr apêl.
(2) Oni ddatgenir yn wahanol, mae i eiriau neu ymadroddion yn y Rheoliadau hyn yr ystyr a roddir iddynt yn y Ddeddf neu, os rhoddwyd ystyr gwahanol i'r geiriau a'r ymadroddion hynny yn y Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau, yr ystyr sydd iddynt yn y Rheoliadau hynny.
Defnyddio dull cyfathrebu electronig
3.
- (1) Caniateir bodloni unrhyw ofyniad a osodir o dan y Rheoliadau hyn am roi neu anfon hysbysiad neu ddogfen arall gan un person at berson arall drwy gyfathrebiad electronig -
(a) os bydd defnyddio dull cyfathrebu o'r fath yn peri bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad hwnnw neu yn y ddogfen honno ar gael i'r person arall, mewn pob manylyn o bwys, fel y byddai'n ymddangos mewn hysbysiad neu ddogfen a roddir neu a anfonir ar ffurf brintiedig; a
(b) os bydd y person arall wedi cydsynio i'r wybodaeth ddod i law drwy'r dull hwnnw.
(2) O dan baragraff (1), os defnyddir dull cyfathrebu electronig at ddibenion rhoi neu anfon hysbysiad neu ddogfen -
(a) o ran cyfathrebiad electronig, bodlonir unrhyw ofyniad am i'r hysbysiad gael ei roi neu ei anfon neu i'r ddogfen gael ei rhoi neu ei hanfon erbyn amser penodol dim ond os bodlonir yr amodau a geir ym mharagraff (1) erbyn yr amser hwnnw; a
(b) caniateir cydymffurfio ag unrhyw ofyniad am i fwy nag un o gopïau gael eu hanfon ar unrhyw un adeg drwy anfon un cyfathrebiad o'r fath.
(3) At ddibenion paragraff (1)(a), ystyr "mewn pob manylyn o bwys" yw ym mhob manylyn sydd o bwys er mwyn atgynhyrchu'n union gynnwys yr wybodaeth fel y byddai'n ymddangos mewn hysbysiad a roddir neu a anfonir ar ffurf brintiedig.
Ym mha ddull ac o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid dwyn apêl
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caniateir dwyn apêl gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 38(1) o'r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau o dan adran 36(3) neu 37(1) o'r Ddeddf sy'n ymwneud â gwaith sy'n gysylltiedig â dull mynediad) dim ond os hysbysir y Cynulliad Cenedlaethol drwy anfon neu draddodi -
(a) ffurflen apêl wedi'i llenwi i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn diwedd y cyfnod apelio; a
(b) copi o'r ffurflen apêl honno wedi'i llenwi i'r awdurdod mynediad yr un pryd ag yr anfonir neu y traddodir yr hysbysiad hwnnw i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan is-baragraff (a).
(2) Os caiff apêl ei dwyn yn erbyn hysbysiad a roddir o dan adran 36(3) o'r Ddeddf, y cyfnod apelio yw'r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad hwnnw yn gyfnod y mae'n ofynnol cyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad hwnnw o'i fewn.
(3) Os caiff apêl ei dwyn yn erbyn hysbysiad a roddir o dan adran 37(1) o'r Ddeddf, y cyfnod apelio yw'r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad hwnnw yn gyfnod y mae'r awdurdod mynediad yn bwriadu cyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad hwnnw ar ôl iddo ddod i ben.
(4) Os yw person sy'n dymuno dwyn apêl yn anfon neu'n traddodi i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig o'r dymuniad hwnnw fel bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gael cyn diwedd y cyfnod apelio, yna, ar yr amod bod y person yn anfon neu'n traddodi ffurflen apêl wedi'i llenwi i'r Cynulliad Cenedlaethol, a hynny o fewn unrhyw gyfnod pellach y gall y Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, ei wneud yn ofynnol, rhaid ymdrin â'r ffurflen apêl honno fel pe bai wedi dod i law cyn diwedd y cyfnod apelio.
(5) Caniateir llenwi ffurflen apêl naill ai yn Saesneg neu yn Gymraeg, ond, os yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl gael ei thrin yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng iaith ac eithrio iaith a ddefnyddiwyd wrth lenwi'r ffurflen apêl, dylai'r ffurflen apêl gynnwys cais i'r perwyl hwnnw, neu dylai fod cais i'r perwyl hwnnw gyda'r ffurflen.
Diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau
5.
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Dehongli) -
(a) yn y diffiniad o "apêl" ("appeal"), dileer "38(3)" a rhodder "38(1)" yn ei le; a
(b) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder -
"
ystyr "fforwm mynediad lleol perthnasol" ("relevant local access forum") yw'r fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o'r Ddeddf ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir sy'n destun yr apêl wedi'i leoli;"; ac
(c) yn y diffiniad o "atebydd" ("respondent"), ar ôl "benderfyniad", mewnosoder " neu, yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, yr awdurdod mynediad y mae ei hysbysiad".
6.
Dileer rheoliad 3 o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Camau gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ddaw ffurflen apêl i law) a rhodder yn ei le -
"
3.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ffurflen apêl wedi ei llenwi ddod i law, -
(a) ac eithrio yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, anfon copi o'r ffurflen apêl at yr atebydd; a
(b) yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, anfon holiadur at yr atebydd yn gofyn am yr wybodaeth sy'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei chael i'w alluogi i ystyried yr apêl.".
7.
Ar ôl rheoliad 4(2) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Ymateb gan atebydd i apêl), mewnosoder -
8.
Yn rheoliad 5 o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu partïon o'r weithdrefn apêl) -
(a) dileer paragraffau (2) a (3) a rhodder yn eu lle -
"
(2) O ran hysbysiad o dan baragraff (1) -
(a) rhaid peidio â'i roi cyn pen cyfnod o 35 o ddiwrnodau yn cychwyn ar y dyddiad pryd yr anfonodd y Cynulliad Cenedlaethol gopi o'r ffurflen apêl wedi'i llenwi at yr atebydd yn unol â rheoliad 3; neu
(b) yn achos apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, rhaid peidio â'i roi cyn pen cyfnod o dri mis yn cychwyn ar y dyddiad y dyroddir y map dros dro y mae'r apêl yn ymwneud ag ef (os yw'r dyddiad y daw'r cyfnod hwn i ben yn ddiweddarach na'r dyddiad a bennir yn is-baragraff (a)); neu
(c) yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, rhaid ei roi cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gael gan yr atebydd y dogfennau a'r wybodaeth y mae'n ofynnol i'r atebydd eu darparu ar ei gyfer o dan reoliad 4.
(3) Rhaid bod dyddiad ar yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) a rhaid iddo ddatgan -
9.
- (1) Yn rheoliad 6(1)(a) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu'r cyhoedd), ar ôl "30(3)", mewnosoder -
(2) Ar ddiwedd rheoliad 6(1)(ch), dileer yr atalnod llawn a rhodder -
(d) yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, hysbysu -
(i) y fforwm mynediad lleol perthnasol,
(ii) unrhyw berson y rhoddwyd iddo gopi o hysbysiad o dan adran 37(3) o'r Ddeddf neu reoliad 4(3)(b),
(iii) unrhyw berson a wnaeth sylwadau i'r atebydd mewn cysylltiad â'r mater sy'n destun yr apêl, a
(iv) unrhyw berson arall y mae'n briodol rhoi hysbysiad iddo ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.".
(3) Yn rheoliad 6(2), -
(a) yn y frawddeg gyntaf, dileer "paragraff (1)(c) neu (1)(ch)" a rhodder "paragraff (1)(c), (ch) neu (d)" yn eu lle;
(b) yn is-baragraff (a), ar ôl "apelydd", ychwaneger " ac, yn achos cyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf, neu apêl o dan adran 30(3) neu 38(1) o'r Ddeddf, enw'r atebydd;";
(c) yn is-baragraff (e), ar ôl "paragraff (1)(a) neu (b)", ychwaneger "(pa un bynnag sydd gynharaf) neu, yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad yn unol â pharagraff (1)(c), (ch) neu (d)"; ac
(ch) ar ddiwedd is-baragraff (g), dileer "ac" ac, ar ddiwedd is-baragraff (ng), dileer yr atalnod llawn a rhodder -
(h) yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf -
(i) p'un a yw'r apêl yn ymwneud â hysbysiad a roddwyd o dan adran 36(3) neu 37(1) o'r Ddeddf, yn ôl y digwydd, a
(ii) ar ffurf disgrifiad beth yw'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad hwnnw".
(4) Yn rheoliad 6(3), dileer "paragraff (1)(c)" a rhodder "paragraff (1)(c), (ch) neu (d)" yn ei le.
(5) Yn rheoliad 6(4), yn lle "neu a anfonir yn unol â pharagraff (1)(a), (b), (c) neu (ch)" rhodder "o dan baragraff (a) neu (b) neu a anfonir o dan baragraff (1)(c), (ch) neu (d)".
10.
Yn rheoliad 9(2) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Penderfyniad ar apêl a benderfynir drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig), ar ddiwedd is-baragraff (c), dileer "ac" ac, ar ddiwedd is-baragraff (ch), dileer yr atalnod llawn ac ychwaneger -
(d) yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf -
(i) i bob person a hysbyswyd o dan adran 37(3) o'r Ddeddf neu reoliad 4(3)(b), a
(ii) i'r fforwm mynediad lleol perthnasol.".
11.
Yn rheoliad 12(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Dyddiad a hysbysiad y gwrandawiad) -
(a) ar ddiwedd is-baragraff (c), dileer "a";
(b) yn is-baragraff (ch), ar ôl "30(3)", ychwaneger " neu 38(1)";
(c) ar ddiwedd is-baragraff (ch), dileer yr atalnod llawn ac ychwaneger -
(d) yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf -
(i) cyhoeddi hysbysiad o'r gwrandawiad ar wefan a gynhelir ganddo, a
(ii) os yw'n barnu bod hynny'n angenrheidiol mewn achos penodol, ei gwneud yn ofynnol i'r atebydd -
(aa) heb fod yn llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, gyhoeddi hysbysiad o'r gwrandawiad mewn un papur newydd neu fwy sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle y mae'r tir wedi'i leoli, a
(bb) gosod hysbysiad o'r gwrandawiad yn gadarn ar y tir apêl neu ar wrthrych ar neu'n agos at y tir hwnnw a hynny yn y fath fodd fel ei fod yn hollol weladwy a darllenadwy gan aelodau o'r cyhoedd; a rhaid i'r atebydd beidio â symud yr hysbysiad oddi yno, neu beri iddo gael ei symud oddi yno am gyfnod, cyn y gwrandawiad, y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu.".
12.
Yn rheoliad 16(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu'r penderfyniad), ar ddiwedd is-baragraff (c), ychwaneger -
(ch) yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf -
(i) i bob person a hysbysir o dan adran 37(3) o'r Ddeddf neu reoliad 4(3)(b), a
(ii) i'r fforwm mynediad lleol perthnasol.".
13.
Yn rheoliad 22(6) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Dyddiad a hysbysiad yr ymchwiliad) -
(a) yn is-baragraff (a), ar ôl "30(3)", mewnosoder -
(b) ar ddiwedd is-baragraff (b), ychwaneger -
(c) yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf -
(i) cyhoeddi hysbysiad o'r ymchwiliad ar wefan a gynhelir ganddo, a
(ii) onid yw o'r farn nad oes angen hynny mewn achos penodol, ei gwneud yn ofynnol i'r atebydd -
(aa) heb fod yn llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, gyhoeddi hysbysiad o'r gwrandawiad mewn un papur newydd neu fwy sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle y mae'r tir wedi'i leoli, a
(bb) gosod hysbysiad o'r gwrandawiad yn gadarn ar y tir apêl neu ar wrthrych ar neu'n agos at y tir hwnnw a hynny yn y fath fodd fel ei fod yn hollol weladwy a darllenadwy gan aelodau o'r cyhoedd; a rhaid i'r atebydd beidio â symud yr hysbysiad oddi yno, neu beri iddo gael ei symud oddi yno am gyfnod, cyn y gwrandawiad, y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu.".
14.
Yn rheoliad 28(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu'r penderfyniad), ar ddiwedd is-baragraff (c), dileer "ac" ac, ar ddiwedd is-baragraff (ch), dileer yr atalnod llawn ac ychwaneger -
(d) yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf -
(i) i bob person a hysbysir o dan adran 37(3) o'r Ddeddf neu reoliad 4(3)(b), a
(ii) i'r fforwm mynediad lleol perthnasol.".
15.
Yn rheoliad 29(2) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Tynnu apêl yn ôl), ar ôl "rheoliad 5(1)", ychwaneger -
16.
Yn rheoliad 36(b) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Cyhoeddi penderfyniadau ar apelau), ar ôl "30(3)", mewnosoder -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Mai 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan I (adrannau 1 i 46) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") yn gwneud darpariaeth ar gyfer mynediad i gefn gwlad.
Mae adran 35 o'r Ddeddf yn ymwneud â chytundebau rhwng awdurdodau mynediad a pherchenogion a meddianwyr tir o ran y dull mynediad i dir y mae hawl mynediad i'r cyhoedd o dan adran 2 o'r Ddeddf yn perthyn iddo ("tir mynediad").
Mae adran 36(3) o'r Ddeddf yn darparu y caiff yr awdurdod mynediad, os yw perchennog neu feddiannydd yn methu cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad mewn cytundeb o dan adran 35 o'r Ddeddf, roi i'r person y mae wedi ymrwymo i'r cytundeb gydag ef hysbysiad yn dweud wrtho am gyflawni gwaith i wneud iawn am dorri'r cyfyngiad.
Mae adran 37 o'r Ddeddf yn galluogi awdurdod mynediad i gyflawni gwaith i ddarparu dull mynediad i dir mynediad os yw'r awdurdod wedi'i fodloni nad yw'n gallu dod i gytundeb o dan adran 35 o'r Ddeddf ar delerau rhesymol. Cyn cyflawni'r gwaith hwnnw, rhaid i'r awdurdod mynediad, o dan adran 37(1) o'r Ddeddf, hysbysu pob perchennog a phob meddiannydd fod yr awdurdod yn bwriadu cyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad.
Mae adran 38(1) o'r Ddeddf yn rhoi i'r perchennog a'r meddiannydd yr hawl i apelio yn erbyn hysbysiad o dan adran 36(3) neu 37(1) ac mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer camau cyntaf apêl o'r fath.
Mae rheoliad 3 yn galluogi ymdrin â chamau cyntaf apêl drwy ddulliau electronig.
Mae rheoliad 4 yn nodi'r dull y mae'n rhaid ei ddefnyddio wrth ddwyn apêl o dan adran 38(1), ac yn pennu cyfnod o amser yn gyfnod y mae'n rhaid dwyn apêl o'i fewn.
Mae rheoliadau 5 i 16 yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol i Reoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1794) (Cy.169) -
(a) i alluogi'r Rheoliadau hynny i fod yn gymwys i apêl a gaiff ei dwyn o dan adran 38(1) o'r Ddeddf yn ychwanegol at apelau eraill a gaiff eu dwyn o dan Ran I o'r Ddeddf; a
(b) i'w gwneud yn glir beth yw'r gofynion hysbysu sy'n bod eisoes ac a geir yn rheoliad 6(2) o'r Rheoliadau hynny.
Notes:
[1]
2000 p.37.back
[2]
2000 p.7.back
[3]
O.S. 2002/1794 (Cy.169), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/142 (Cy.14) ac O.S. 2005/1154 (Cy.71).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091123 7
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
13 May 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051270w.html