BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1311 (Cy.93)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
10 Mai 2005 | |
|
Yn dod i rym |
20 Mai 2005 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17, 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac wedi ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 20 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995
2.
Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[4] yn unol â rheoliadau 3 i 14 isod.
3.
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) -
(a) ar ôl y diffiniad o "colour", mewnosoder y diffiniad a ganlyn -
"
"Directive 88/388 EC" means Council Directive 88/388/EEC[5] on the approximation of the laws of the Member States relating to flavourings for use in foodstuffs and to source materials for their production;";
(b) yn y diffiniad o "Directive 95/2/EC", yn lle'r geiriau "and European Parliament and Council Directive 2001/5/EC", rhodder y geiriau a ganlyn -
"
, European Parliament and Council Directive 2001/5/EC[6] and European Parliament and Council Directive 2003/114/EC[7];";
(c) ar ôl y diffiniad o "flavour enhancer" mewnosoder y diffiniad a ganlyn -
"
"flavouring" bears the same meaning as in Article 1.2 of Directive 88/388/EEC[8];";
(ch) yn lle'r diffiniad o "stabiliser" rhodder y diffiniad a ganlyn -
"
"stabiliser" means any substance which makes it possible to maintain the physico- chemical state of a foodstuff; including any substance which enables the maintenance of a homogenous dispersion of two or more immiscible substances in a foodstuff, substances which stabilise, retain or intensify an existing colour of a foodstuff and substances which increase the binding capacity of the food, including the formation of cross-links between proteins enabling the binding of food pieces into re-constituted food;".
4.
Ym mharagraff (1) o reoliad 4 (defnyddio ychwanegion amrywiol mewn bwydydd cyfansawdd neu arnynt), ar ôl y geiriau "that compound food contains, as an ingredient, a food", mewnosoder y geiriau a ganlyn -
5.
Ar ôl rheoliad 4, mewnosoder y rheoliad a ganlyn - -
"
Use of permitted miscellaneous additives in flavourings
4A.
- (1) Where -
(a) a permitted miscellaneous additive is used in a flavouring; and
(b) that flavouring is an ingredient of a compound food; and
(c) the permitted miscellaneous additive performs a technological purpose in the final food;
the permitted miscellaneous additive shall be regarded for the purposes of these Regulations as an additive of the final food.
(2) No person shall use any permitted miscellaneous additive in or on any flavouring where -
(a) the level of such additives used exceeds the minimum necessary to guarantee the safety and quality of the flavouring and to facilitate its storage;
(b) the presence of such additives is a hazard to human health, or misleading to the consumer.".
6.
Yn rheoliad 11 (darpariaeth drosiannol ac esemptiadau) ar ôl paragraff (1E) mewnosoder y paragraff a ganlyn -
"
(1F) In any proceedings for an offence under these Regulations in respect of any food additives, food or flavouring, it shall be a defence to prove -
(a) the food additive, food or flavouring concerned was put on the market or labelled before 27 January 2006; and
(b) the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulations 3 to 6, 7(b), 8(a), 8(b)(ii), 9(a), 10, 11(a) to (c), (e) to (i) and (k) to (l) of the Miscellaneous Food Additives (Amendment) (No.2) (Wales) Regulations 2005 had not been made when the food additive, food or flavouring was placed on the market or labelled.".
7.
Yn Atodlen 1 (ychwanegion amrywiol y caniateir yn gyffredinol eu defnyddio mewn bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlenni 6,7 neu 8) -
(a) yn lle Note 1, rhodder y nodyn a ganlyn -
"
(1) The substances E407, E407a and E440 may be standardised with sugars, on condition that this is stated in addition to the number and designation.";
(b) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E170, yn yr ail golofn, yn lle'r geiriau "Calcium carbonates (i) calcium carbonate (ii) calcium hydrogen carbonate", rhodder y geiriau a ganlyn -
(c) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E466, yn yr ail golofn, ychwaneger y geiriau a ganlyn ar y diwedd -
(ch) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E469, yn yr ail golofn, ychwaneger y geiriau a ganlyn ar y diwedd -
"
Enzymatically hydrolysed cellulose gum".
8.
Yn Atodlen 2 (cadwolion a gwrthocsidyddion a ganiateir yn amodol) Rhan A (sorbadau, bensoadau a p-hydrocsibensoadau) -
(a) yn y golofn gyntaf (sy'n dwyn y pennawd "Food") o'r ail dabl, yn lle'r geiriau "Partially baked, pre-packed bakery wares intended for retail sale", rhodder y geiriau a ganlyn -
"
Partially baked, pre-packed bakery wares intended for retail sale and energy-reduced bread intended for retail sale";
(b) ychwaneger y cofnodion a ganlyn at ddiwedd yr ail dabl:
(i)
"Crayfish tails, cooked and pre-packed Marinated cooked molluscs |
2000 |
|
|
|
|
|
Flavourings |
|
|
|
1500 |
|
" |
Yn Atodlen 2 Rhan C (cadwolion eraill) -
(a) hepgorer y cofnod sy'n ymwneud ag E230;
(b) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E1105, yn y drydedd golofn a'r bedwaredd (sy'n dwyn y penawdau "Food" a "Maximum level" yn y drefn honno) ychwaneger y cofnod a ganlyn -
"Wine in accordance with Regulation (EC) No. 1493/1999[9] and its implementing Regulation (EC) No. 1622/2000[10] |
Pro memoria" |
Yn Atodlen 2 Rhan D (gwrthocsidyddion eraill) -
(a) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E310, E311, E312 ac E320, yn y drydedd golofn a'r bedwaredd (sy'n dwyn y penawdau "Food" a "Maximum level (mg/kg)" yn y drefn honno) ychwaneger y cofnodion a ganlyn -
"Essential oils |
1000 mg/kg (gallates and BHA, individually or in combination) E310-E320 only |
Flavourings other than essential oils |
100 mg/kg (gallates, individually or in combination) or 200 mg/kg (BHA)E310 - E320 only" |
(b) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E315 ac E316, yn lle'r geiriau "semi-preserved and preserved meat product", rhodder y geiriau a ganlyn -
"
Cured meat products and preserved meat products".
Yn Atodlen 3 (ychwanegion amrywiol eraill a ganiateir) -
(a) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E338, E339, E340, E341, E343, E450, E451 ac E452 -
(i) yn y drydedd golofn a'r bedwaredd (sy'n dwyn y penawdau "Food" a "Maximum level" yn y drefn honno) ychwaneger y geiriau a ganlyn -
(ii) yn y drydedd golofn, hepgorer y geiriau "cider and perry" ac yn y cofnod cyfatebol, yn y bedwaredd golofn, y geiriau "2g/l";
(b) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E416, yn y drydedd golofn a'r bedwaredd, ychwaneger y geiriau a ganlyn -
(c) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E432, E433, E434, E435 ac E436, yn y drydedd golofn a'r bedwaredd, ychwaneger y geiriau a ganlyn -
"Flavourings, except liquid smoke flavourings and flavourings based on spice oleoresins |
10g/kg |
Foodstuffs containing liquid smoke flavourings and flavourings based on spice oleoresins |
1g/kg" |
(ch) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E444, yn y drydedd golofn a'r bedwaredd, ychwaneger y geiriau a ganlyn -
"Flavoured cloudy spirit drinks containing less than 15% alcohol by volume |
300 mg/l" |
(d) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E459, yn y drydedd golofn a'r bedwaredd, ychwaneger y geiriau a ganlyn -
"Encapsulated flavourings in 2-flavoured teas and flavoured powdered instant drinks 2-flavoured snacks |
500 mg/l 11g/kg in foodstuffs as consumed or as reconstituted according to the instructions of the manufacturer" |
(dd) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E551, yn y drydedd golofn a'r bedwaredd, ychwaneger y geiriau a ganlyn -
"Flavourings |
50g/kg E551 only" |
(e) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E900, yn y drydedd golofn a'r bedwaredd, ychwaneger y geiriau a ganlyn -
(f) yn y cofnod sy'n ymwneud ag E901, E902, E903 ac E904, hepgorer y geiriau "E903 Carnauba wax";
(ff) ar ôl y cofnod sy'n ymwneud ag E901, E902, E903 ac E904 fel y'i diwygiwyd gan baragraff (f) uchod, mewnosoder y cofnod a ganlyn -
"E903 |
Carnauba wax |
As glazing agents only: |
|
|
|
- confectionery (including chocolate) |
1500 mg/kg 11200 mg/kg (only for chewing gum) |
- small products of fine bakery wares coated with chocolate |
200 mg/kg |
|
|
|
|
- snacks |
200 mg/kg |
|
|
- nuts |
200 mg/kg |
|
|
- coffee beans |
200 mg/kg |
|
|
- dietary food supplements |
200 mg/kg |
|
|
- fresh citrus fruits, melons, apples, pears, peaches and pineapples (surface treatment only) |
200 mg/kg" |
(g) ar ôl y cofnod ar gyfer E905, mewnosoder y cofnod a ganlyn -
"E907 |
Hydrogenated poly-1-decene |
As glazing agent for |
|
|
|
- sugar confectionery |
2g/kg |
|
|
- dried fruits |
2g/kg" |
(h) ychwaneger y cofnodion a ganlyn at ddiwedd y tabl -
E1505 Triethyl citrate
E1517 Glyceryl diacetate (diacetin)
E1518 Glyceryl triacetate (triacetin)
|
Flavourings |
3g/kg from all sources in foodstuffs as consumed or as reconstituted according to the instructions of the manufacturer; individually or in combination. In the case of beverages, the maximum level of |
E1520 Propan-1,2-diol (propylene glycol) |
E1520 shall be 1g/l |
|
E1519 Benzyl alcohol |
Flavourings for |
|
|
- liqueurs, aromatised wines, aromatised wine-based drinks and aromatised wine - products cocktails |
100 mg/l |
|
- confectionery including chocolate and fine bakery wares |
250 mg/kg from all sources in foodstuffs as consumed or as reconstituted according to the instruction of the manufacturer" |
(i) ar ddiwedd yr Atodlen, ar ôl y tabl, ychwaneger y geiriau a ganlyn -
"
Note:
Spice oleoresins are defined as extracts of spices from which the extraction solvent has been evaporated leaving a mixture of the volatile oil and resinous material from the spice."
12.
Yn Atodlen 4 (carwyr a thoddyddion carwyr a ganiateir) -
(a) yn y cofnod at gyfer E468, yn yr ail golofn (sy'n dwyn y pennawd "Name") ychwaneger y geiriau a ganlyn -
"
Cross-linked cellulose gum";
(b) ychwaneger y cofnod a ganlyn at ddiwedd y tabl -
"E555 |
Potassium aluminium silicate |
In E171 titanium dioxide and E172 iron oxides and hydroxides (max 90% relative to the pigment)" |
Yn Atodlen 7 (bwydydd y caniateir defnyddio ynddynt nifer cyfyngedig o ychwanegion amrywiol a restrir yn Atodlen 1) -
(a) yn y cofnod sy'n ymwneud â chynhyrchion coco a siocled fel y'u diffinnir yng Nghyfarwyddeb 2000/36/EC, yn yr ail golofn a'r drydedd (sy'n dwyn y penawdau "Additive" a "Maximum level" yn y drefn honno) fel y'u hamlinellir isod, ychwaneger y cofnod a ganlyn -
"E472c |
Citric acid esters of mono- and diglycerides of fatty acids |
quantum satis" |
(b) yn y cofnod sy'n ymwneud â chynhyrchion coco a siocled fel y'u diffinnir yng Nghyfarwyddeb 2000/36/EC, y cofnod sy'n ymwneud â sudd grawnwin fel y'i diffinnir yng Nghyfarwyddeb 2001/112/EC, y cofnod sy'n ymwneud â chaws wedi aeddfedu a'r cofnod sy'n ymwneud â chaws sydd wedi'i dafellu a'i ratio, yn yr ail golofn, yn lle'r geiriau "E170 Calcium carbonates", rhodder ym mhob achos y geiriau a ganlyn -
"E170 |
Calcium carbonate". |
(c) yn y cofnod sy'n ymwneud â ffrwythau a llysiau heb eu prosesu sydd wedi'u rhewi a'u rhewi'n galed; ffrwythau a llysiau heb eu prosesu sydd wedi'u rhagbecynnu, eu rhoi yn yr oergell ac sy'n barod i'w bwyta, a thatws heb eu prosesu sydd wedi'u plicio a'u rhagbecynnu, yn yr ail golofn a'r drydedd, ychwaneger y geiriau a ganlyn -
"E296 |
Malic acid |
quantum satis (only for peeled potatoes)" |
(ch) yn y cofnod sy'n ymwneud â chompot ffrwythau, yn yr ail golofn a'r drydedd, ychwaneger y geiriau a ganlyn -
"E440 |
Pectin |
quantum satis (only for fruit compote other than apple) |
E509 |
Calcium chloride |
" |
(d) yn y cofnod sy'n ymwneud â mosarela a chaws maidd, yn yr ail golofn a'r drydedd, ychwaneger y geiriau a ganlyn -
"E460ii |
Powdered cellulose |
quantum satis (only for grated and sliced cheese)" |
"UHT goat milk |
E331 Sodium citrates |
4g/l |
Chestnuts in liquid |
E410 Locust bean gum |
quantum satis |
|
E412 Guar gum |
|
|
E415 Xanthane gum |
" |
Yn Atodlen 8 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd i fabanod a phlant bach) -
(a) yn y Notes, ar ôl nodyn 1A mewnosoder y nodyn a ganlyn -
"
1B.
Formulae and weaning foods for infants and young children may contain E1450 starch sodium octenyl succinate resulting from the addition of vitamin preparations or polyunsaturated fatty acid preparations. The carry over of E1450 in the product ready for consumption is not to be more than 100 mg/kg from vitamin preparations and 1000 mg/kg from polyunsaturated fatty acid preparations.";
(b) yn Rhan 3 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd diddyfnu i fabanod a phlant bach y mae eu hiechyd yn dda), yn y cofnod sy'n ymwneud ag E170, yn yr ail golofn, yn lle'r geiriau "Calcium carbonates" rhodder y geiriau -
(c) yn Rhan 4 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd i fabanod a phlant bach ac at ddibenion meddygol arbennig), yn lle'r pennawd, rhodder y geiriau a ganlyn -
"
MISCELLANEOUS ADDITIVES PERMITTED IN DIETARY FOODS FOR INFANTS AND YOUNG CHILDREN FOR SPECIAL MEDICAL PURPOSES AS DEFINED IN DIRECTIVE 1999/21/EC[11]";
(ch) yn Rhan 4, ychwaneger y cofnod a ganlyn at ddiwedd y tabl -
"E472c |
Citric acid esters of mono- and diglycerides of fatty acids |
7.5g/l sold as powder |
From birth onwards |
|
|
9g/l sold as liquid |
" |
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12]
10 Mai 2005
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (O.S. Rhif 1995/3187) fel y'i newidiwyd eisoes, ac yn gweithredu Cyfarwyddeb 2003/114 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/2/EC ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L24, 29.1.2004, t. 58).
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 o ran Cymru drwy -
(a) mewnosod diffiniad o gyflasyn, gan fod y Rheoliadau'n gymwys bellach i reoli'r defnydd o ychwanegion amrywiol mewn cyflasynnau (rheoliad 3(a) ac (c));
(b) diweddaru'r diffiniad o "Directive 95/2/EC" er mwyn iddo ymwneud â diwygio'r Gyfarwyddeb honno gan Gyfarwyddeb 2003/114/EC (rheoliad 3(b));
(c) rhoi ar gyfer y term "stabiliser" ddiffiniad newydd sy'n cynnwys sylweddau sy'n ychwanegu at allu bwyd i rwymo (rheoliad 3(ch));
(ch) diwygio rheoliad 4 i sicrhau y gellir defnyddio'n gynhwysyn mewn bwyd cyfansawdd gyflasyn y mae'n gyfreithlon bod ynddo neu arno ychwanegyn amrywiol a ganiateir (rheoliad 4));
(d) darparu bod yn rhaid ystyried bod ychwanegyn amrywiol a ganiateir ac a ddefnyddir mewn cyflasyn yn ychwanegyn yn y bwyd terfynol os yw'n cyflawni swyddogaeth dechnolegol yn y bwyd terfynol y mae'r cyflasyn hwnnw'n gynhwysyn ynddo (rheoliad 5);
(dd) gwahardd defnyddio ychwanegion mewn meintiau mwy na'r lleiafswm angenrheidiol, neu mewn amgylchiadau pan fyddent yn berygl i iechyd pobl neu'n gamarweiniol i'r defnyddiwr (rheoliad 5);
(e) gwneud darpariaeth drosiannol i ganiatáu marchnata ychwanegion a gafodd eu marchnata neu eu labelu cyn 27 Ionawr 2006 ac sy'n gyfreithlon o dan y rheolau presennol (rheoliad 6);
(f) caniatáu safoni E407a, yn ychwanegol at E407 ac E440 gyda siwgrau, ar yr amod bod hyn yn cael ei ddatgan yn ychwanegol at rif a dynodiad yr ychwanegyn (rheoliad 7(a));
(ff) cynnwys "calcium carbonate" yn enw ar E170 (rheoliadau 7(b), 13(b) a 14(b);
(g) ychwanegu at yr enwau derbyniol ar E466, E468 ac E469 (rheoliadau 7(c) a (ch) a 12(a);
(ng) caniatáu defnyddio ychwanegyn newydd, E907, yn asiant sgleinio ar gyffaith siwgr a ffrwythau sych (rheoliad 11(g));
(h) cynnwys diffiniadau newydd o gategorïau bwyd y caniateir defnyddio ynddynt ychwanegion amrywiol a ganiateir (rheoliadau 8(a) a 10(b));
(i) gwahardd defnyddio E230 fel cadwolyn a ganiateir ar gyfer trin arwyneb ffrwythau sitrws (rheoliad 9(a));
(j) estyn categorïau bwydydd y gellir defnyddio ynddynt ychwanegion amrywiol a ganiateir (rheoliadau 8(b)(i), 9(b), 11(ch), 13(a) ac (c)-(dd), 14(ch));
(l) gwahardd defnyddio ffosffadau mewn seidr a pherai (rheoliad 11(a)(ii));
(ll) darparu terfynau Rhif yddol i gyfyngu ar y defnydd o E903 (rheoliad 11(f) - (ff));
(m) gwneud darpariaeth ar gyfer y defnydd cyfyngedig o ychwanegion mewn cyflasynnau (rheoliad 8(b)(ii), 10(a), 11(a)(i), (b) - (c), (d) - (e) ac (ng));
(n) mewnosod diffiniad o oleoresinau sbeisys yn Atodlen 3 (rheoliad 11(1));
(o) caniatáu defnyddio toddyddion carwyr newydd, sef E555, mewn rhai lliwiau penodedig (rheoliad 12(b));
(p) ei gwneud yn glir i ba raddau y caniateir cario E1450 drosodd i fformiwla a bwydydd diddyfnu i fabanod (rheoliad 14(a));
(ph) diweddaru pennawd Rhan 4 o Atodlen 8 i roi sylw i Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd dietegol at ddibenion meddygol arbennig (OJ Rhif L91, 7.4.1999, t.29) (rheoliad 14 (c)).
3.
Mae arfarniad rheoliadol ar effaith y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddebau 2003/95/EC a 2003/45/EC yn gyfraith ddomestig. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p. 16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4). Yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Diwygio) 2004 (O.S. 2004/2990), gydag effaith o 7 Rhagfyr 2004 ymlaen datgymhwysir y gofyniad i ymgynghori a geir yn adran 48(4) o Ddeddf 1990 mewn unrhyw achos pan fo ymgynghori'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.back
[4]
O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, O.S. 1999/1136, O.S. 2001/1440 (Cy.102), O.S. 2001/1787 (Cy.128), O.S. 2001/2679 (Cy.220), O.S. 2001/3909 (Cy.321), O.S. 2002/329 (Cy.42), O.S. 2002/330 (Cy.43), O.S. 2003/3037 (Cy.285), O.S. 2003/3041 (Cy.286), O.S. 2003/3044 (Cy.288), O.S. 2003/3047 (Cy.290), O.S. 2003/3053 (Cy.291), O.S. 2004/553 (Cy.56), O.S. 2004/554 (Cy.57) ac O.S. 2005/259 (Cy.25).back
[5]
OJ Rhif . L184, 15.7.1988, t.61.back
[6]
OJ Rhif L55, 24.2.2001, t.59.back
[7]
OJ Rhif L24, 29.1.2004, t.58.back
[8]
OJ Rhif L184, 15.7.1988, t.61.back
[9]
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 dyddiedig 17 Mai 1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, OJ Rhif L179, 14.7.1999, t.1.back
[10]
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin ac ar sefydlu cod Cymunedol o arferion a phrosesau gwinyddol, OJ Rhif L194, 31.7.2000, t.1.back
[11]
Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd dietegol at ddibenion meddygol arbennig, OJ Rhif L91, 7.4.1999, t.29.back
[12]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091126 1
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
17 May 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051311w.html