BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 1356 (Cy.104)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051356w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1356 (Cy.104)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 17 Mai 2005 
  Yn dod i rym 31 Mai 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddo o dan adran 35(5) o Ddeddf Landlord a Thenant 1987[1] ac Atodlen 12 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[2], ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Tribiwnlysoedd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran ceisiadau a gyflwynir, neu achosion a drosglwyddir o lys, i dribiwnlys prisio lesddaliadau, ynghylch mangreoedd yng Nghymru ar neu ar ôl 31 Mai 2005.

Diwygio Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004
    
2. Diwygir Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004[3] yn unol â rheoliadau 3 i 8.

Cymhwyso'r Rheoliadau
     3. Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), yn lle paragraff (3), rhodder  - 

Manylion ceisiadau
    
4. Yn rheoliad 3  - 

Penderfynu heb wrandawiad
    
5. Yn rheoliad 13(1), yn lle is-baragraffau (a) i (c), rhodder yr is-baragraffau canlynol  - 

Arolygiadau
    
6. Yn rheoliad 17, yn lle paragraffau (4) i (7), rhodder y paragraffau canlynol  - 

Disgrifiadau o'r ceisiadau
    
7. Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 7, mewnosoder y paragraff a ganlyn  - 

Manylion ceisiadau
    
8. Yn Atodlen 2  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mai 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004 ("y Rheoliadau Gweithdrefn").

Mae'r diwygiadau a wnaed gan reoliadau 3, 4(b), 7 ac 8(c) yn ganlyniadol i gychwyn adran 168 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ("Deddf 2002").

Mae Adran 168 o Ddeddf 2002 yn atal landlord rhag cyflwyno hysbysiad i fforffedu les am fod tenant wedi torri cyfamod neu amod yn y les, oni bai bod y tenant yn cyfaddef ei dorri neu ei bod wedi'i benderfynu'n derfynol bod y toriad wedi digwydd. O dan adran 168(4), caiff landlord wneud cais i dribiwnlys prisio lesddaliadau am benderfyniad bod cyfamod neu amod wedi'i dorri.

Effaith y diwygiadau a wnaed gan reoliadau 3, 4(b), 7 ac 8(c) yw ychwanegu ceisiadau o dan adran 168(4) o Ddeddf 2002 at y ceisiadau y mae'r Rheoliadau Gweithdrefn yn gymwys iddynt, a'i gwneud yn ofynnol i'r ceisydd gynnwys gyda'i gais ddatganiad sy'n rhoi manylion am y toriad honedig o gyfamod neu amod a chopi o'r les o dan sylw.

Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 4(a) yn cael effaith o ran ceisiadau i dribiwnlys prisio lesddaliadau o dan adran 20ZA(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 i hepgor y cyfan neu unrhyw rai o'r gofynion ymgynghori sy'n ymwneud â gwaith a chytundebau y caniateir adennill cyfraniadau ar eu cyfer fel taliadau gwasanaeth. Effaith y diwygiad yw dileu'r gofyniad (a osodwyd gan reoliad 3(3) o'r Rheoliadau Gweithdrefn, a pharagraff 2(3) o Atodlen 2 iddynt) i ddarparu copi o'r les wrth wneud cais o dan adran 20ZA(1).

Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 5 yn galluogi tribiwnlys prisio lesddaliadau i benderfynu cais heb wrandawiad llafar pan fo wedi rhoi o leiaf 28 diwrnod o hysbysiad i'r ceisydd a'r ymatebydd ac nad yw'r naill na'r llall ohonynt wedi gofyn am wrandawiad llafar. (Nid yw'r diwygiad hwn yn effeithio ar Reoliad 13(3), sy'n galluogi'r tribiwnlys i benderfynu ar unrhyw bryd cyn bod cais yn cael ei benderfynu y dylai fod yn destun gwrandawiad llafar, ac sy'n caniatáu i'r naill barti neu'r llall ofyn am wrandawiad llafar ar unrhyw bryd cyn bod y cais yn cael ei benderfynu.)

Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 6 yn tynnu oddi ar reoliad 17 o'r Rheoliadau Gweithdrefn y gofyniad i hysbysu yn y gwrandawiad lle mae arolygiad i'w gynnal yn ystod neu ar ôl diwedd y gwrandawiad. Mae'r gofyniad i roi o leiaf 14 diwrnod o hysbysiad i'r partïon o ddyddiad, amser a lle'r arolygiad yn aros heb ei newid, ond achubwyd ar y cyfle i wneud mân newidiadau drafftio.

Mae'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 8(a) a (b) yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno copi o'r les gyda cheisiadau penodol sy'n ymwneud â rhyddfreinio neu estyn les, a chyda cheisiadau o dan Ran 4 o Ddeddf 1987 am amrywio les.


Notes:

[1] 1987 p.31. Mae adran 35(5) wedi'i diwygio gan adran 163(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) ("Deddf 2002"). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 35(5), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. O dan adran 177 o Ddeddf 2002, mae cyfeiriadau at Ddeddf 1987 yn O.S. 1999/672 i'w trin fel cyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd gan Ran 2 o Ddeddf 2002.back

[2] 2002 p.15. Gweler adran 179(1) i gael y diffiniad o "the appropriate national authority" o ran Cymru.back

[3] O.S. 2004/681 (Cy.69).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091136 9


 © Crown copyright 2005

Prepared 24 May 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051356w.html