BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Trefniadau Asesu y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005 Rhif 1396 (Cy.110)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051396w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1396 (Cy.110)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Trefniadau Asesu y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 24 Mai 2005 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002[1] a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 408, 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[2] ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[3], ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn ddymunol yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Asesu y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999[4] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 3(1)  - 

    (3) Yn rheoliad 5  - 

    (4) Yn rheoliad 9(3)(b)(i) yn lle "NC tests" rhodder "teacher assessments".

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999
     3.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[5] fel a ganlyn  - 

    (2) Nid yw'r diwygiad a wnaed gan baragraff (1)(b) i'w gymhwyso i wybodaeth y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn ystod blwyddyn cyhoeddi'r ysgol 2005-06 ynglycircn â blwyddyn adrodd yr ysgol 2004-05.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004
     4.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004[6] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1)  - 

    (3) Yn rheoliad 2(4) hepgorer y geiriau "unrhyw gyrhaeddiad gan ddisgybl y penderfynir arno gan brawf Cwricwlwm Cenedlaethol neu dasg Cwricwlwm Cenedlaethol yn ystod blwyddyn ysgol flaenorol neu" a "cyrhaeddiad o'r fath neu" ac yn lle "roi" rhodder "rhoi".

    (4) Hepgorer rheoliad 11.

    (5) Yn Atodlen 3 hepgorer paragraffau 4 a 5 a'r penawdau i'r paragraffau hynny.

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004
     5.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004[7] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1)  - 

    (3) Yn rheoliad 7 hepgorer paragraffau (10)(b), (11), (12) a (13).

    (4) Yn Atodlen 2  - 

    (5) Yn Atodlen 3 - 

    (6) Yn Atodlen 4 - 

Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004
     6. Hepgorer rheoliad 3(1)(a) o Reoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004[8].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau amrywiol sydd gan mwyaf yn ganlyniad i Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005. Mae'r Gorchymyn hwnnw'n pennu'r trefniadau asesu i ddisgyblion ym mlwyddyn olaf y trydydd cyfnod allweddol. Mae'n disodli'r gofyniad i brofion gael eu rhoi i'r disgyblion hynny, fel y penderfynir ar eu lefelau cyrhaeddiad drwy asesiadau athrawon. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi cyfeiriadau at asesiadau athrawon yn lle'r cyfeiriadau at y profion hyn ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol eraill yn y Rheoliadau canlynol  -  Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999, Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 er mwyn pennu'n fanylach yr wybodaeth ar ganlyniadau asesiadau athrawon yng nghyfnodau allweddol 1, 2 a 3, y mae'n ofynnol eu cynnwys yn adroddiad blynyddol y pennaeth i rieni a disgyblion sy'n oedolion.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 er mwyn hepgor paragraff a oedd mewn camgymeriad yn honni ei fod yn diwygio darpariaeth a oedd eisoes wedi cael ei dirymu gan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2004.


Notes:

[1] 2002 p.32. I gael ystyr "regulations" gweler adran 212(1).back

[2] 1996 p.56. Diwygiwyd adran 408 gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), Atodlen 7, paragraff 30, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraffau 57 a 106, Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 57 a Deddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 21, paragraff 46. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579.back

[3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.back

[4] O.S. 1999/1811 fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy.253).back

[5] O.S. 1999/1812 fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2001/111, 2001/3710, 2002/1400 a 2004/2914 (Cy. 253).back

[6] O.S. 2004/1025 (Cy.122), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy. 253).back

[7] O.S. 2004/1026 (Cy.123), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy. 253).back

[8] O.S. 2004/2914 (Cy. 253).back

[9] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091142 3


 © Crown copyright 2005

Prepared 1 June 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051396w.html