BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 Rhif 1398 (Cy.112) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051398w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 24 Mai 2005 | ||
Yn dod i rym | 31 Mai 2005 |
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at -
Cyfansoddiad panelau apêl
3.
Pan wneir trefniadau neu drefniadau ar y cyd gan -
mae apêl i'w wneud i banel apêl a gyfansoddir yn unol â'r paragraff perthnasol yn Atodlen 1.
Dyletswydd i hysbysebu am aelodau lleyg
4.
- (1) Yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid i'r awdurdod priodol sicrhau cyhoeddi hysbyseb ar gyfer aelodau lleyg o banelau apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un o baragraffau Atodlen 1.
(2) Rhaid cyhoeddi'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) cyn diwedd y cyfnod tair blynedd a ddechreuodd pan gyhoeddwyd yr hysbyseb ddiwethaf gan yr awdurdod hwnnw ar gyfer aelodau lleyg, panel apêl a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 24 i Ddeddf 1998, ac ar ôl hynny ym mhob cyfnod tair blynedd ar ôl y dyddiad pan gyhoeddir hysbyseb (neu'r hysbyseb derfynol mewn cyfres o hysbysebion) ddiwethaf gan yr awdurdod hwnnw yn unol â'r rheoliad hwn.
(3) Rhaid i'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod -
(4) Cyn penodi unrhyw aelod lleyg, rhaid i'r awdurdod priodol ystyried unrhyw bersonau cymwys sydd wedi gwneud cais i'r awdurdod mewn ymateb i'r hysbyseb ddiweddaraf neu'r gyfres ddiweddaraf o hysbysebion a roddwyd yn unol â pharagraff (1) ac sy'n dangos eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer y penodiad hwnnw.
Y weithdrefn apelio
5.
Rhaid gwneud unrhyw apêl o dan drefniadau a bennir yn rheoliad 3 yn unol ag Atodlen 2.
Ystyriaethau perthnasol mewn apelau sy'n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf 1998
6.
- (1) Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(a) i (ch), mae'r materion i'w hystyried gan banel apêl wrth ystyried apêl i gynnwys -
(2) Pan wnaethpwyd y penderfyniad o dan apêl ar y sail y byddai rhagfarn o'r math y cyfeirir ati yn adran 86(3)(a) yn codi fel a grybwyllir yn is-adran (4) o'r adran honno, caiff panel apêl benderfynu bod lle i'w gynnig i blentyn dim ond os yw'r panel yn cael ei fodloni -
(3) Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan drefniadau a bennir yn rheoliad 3(d), wrth ystyried apêl rhaid i banel apêl ystyried -
Talu lwfansau
7.
- (1) Mae adran 173(4) o Ddeddf 1972[11], yn gymwys i unrhyw aelod o banel apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un o baragraffau Atodlen 1, at ddibenion, ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol perthnasol i dalu lwfans colled ariannol i'r aelod hwnnw, ac yn yr adran honno fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at ddyletswydd wedi'i chymeradwyo i'w ddarllen fel cyfeiriad at fod yn bresennol mewn cyfarfod o banel apêl.
(2) Mae adran 174(1) o Ddeddf 1972[12] yn gymwys mewn perthynas â phanel apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un o baragraffau Atodlen 1, ac yn yr adran honno fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at daliadau ar gyfraddau a benderfynir gan y corff dan sylw i'w ddarllen fel cyfeiriad at daliadau ar gyfraddau a benderfynir -
Indemnio
8.
- (1) Rhaid i'r awdurdod priodol indemnio aelodau unrhyw banel apêl a gyfansoddir at ddibenion y trefniadau a wnaed ganddo, fel a bennir yn rheoliad 3, yn erbyn unrhyw gostau a threuliau cyfreithiol rhesymol a dynnir gan yr aelodau hynny mewn cysylltiad ag unrhyw benderfyniad neu gam a gymerir ganddynt yn ddidwyll yn unol â'u swyddogaethau fel aelodau o'r panel hwnnw.
(2) Pan gyfansoddir un o'r panelau hynny gan -
mae unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o dan baragraff (1) yn rhwymedigaeth cyd ac unigol ar y cyrff sy'n gwneud y trefniadau ar y cyd oni bai bod trefniant blaenorol wedi'i gytuno fel arall yn ysgrifenedig rhwng y cyrff hynny.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[13].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2005
(2) O blith aelodau panel apêl -
(3) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol benodi un aelod o'r panel i ymddwyn fel cadeirydd.
(4) At ddibenion y paragraff hwn mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw ef yn berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swydd wirfoddol arall).
(5) Caniateir i'r awdurdod benodi digon o bersonau o dan y paragraff hwn i alluogi dau neu ragor o banelau apêl eistedd yr yn pryd.
(6) Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os yw'n anghymwys yn rhinwedd is-baragraff (7).
(7) Mae'r personau a ganlyn yn anghymwys i fod yn aelodau o banel apêl -
o fath y gellid tybio'n rhesymol ei fod yn codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas â'r awdurdod neu'r ysgol.
(8) Rhaid peidio â thybio bod person a gyflogir yn athro neu'n athrawes gan yr awdurdod, oherwydd y gyflogaeth honno'n unig â chysylltiad â'r awdurdod fel a grybwyllir yn is-baragraph (7)(c).
(9) Ni chaiff person fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad os oedd y person hwnnw ymhlith y rheini a wnaeth y penderfyniad neu ymhlith y rheini a gymerodd ran yn y trafodaethau ynghylch gwneud y penderfyniad ai peidio.
(10) Ni chaiff person sy'n athro neu'n athrawes mewn ysgol fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl sy'n cwestiynu a ddylid derbyn y plentyn i'r ysgol honno ai peidio.
(11) Os bydd unrhyw un o'r aelodau, unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sydd wedi'i gyfansoddi ddechrau ystyried apêl -
caiff y panel barhau i ystyried yr apêl a dod i benderfyniad yn ei chylch cyn belled nad yw nifer yr aelodau sy'n weddill yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (2) uchod wedi'u bodloni.
Trefniadau a wnaed gan gorff llywodraethu
2.
- (1) Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(b), cyfansoddir panel apêl gan dri neu bum aelod a benodwyd gan gorff llywodraethu o blith -
(2) O blith aelodau panel apêl -
(3) Rhaid i'r corff llywodraethu penodi un aelod o'r panel i ymddwyn fel cadeirydd.
(4) At ddibenion y paragraff hwn mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw ef yn berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu unrhyw brofiad mewn unrhyw swydd wirfoddol arall).
(5) Caniateir i'r corff llywodraethu benodi digon o bersonau o dan y paragraff hwn i alluogi dau neu ragor o banelau apêl eistedd yr yn pryd.
(6) Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os yw'n anghymwys yn rhinwedd is-baragraff (7).
(7) Mae'r personau a ganlyn yn anghymwys i fod yn aelodau o banel apêl -
o fath y gellid tybio'n rhesymol ei fod yn codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas â'r awdurdod neu'r ysgol.
(8) Rhaid peidio â thybio bod person a gyflogir yn athro neu'n athrawes gan yr awdurdod, oherwydd y gyflogaeth honno'n unig, â chysylltiad â'r awdurdod fel a grybwyllir yn is-baragraff (7)(c).
(9) Ni chaiff person sy'n athro neu'n athrawes mewn ysgol fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl sy'n cwestiynu a ddylid derbyn y plentyn i'r ysgol honno ai peidio.
(10) Os bydd unrhyw un o'r aelodau, unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sydd wedi'i gyfansoddi ddechrau ystyried apêl -
caiff y panel barhau i ystyried yr apêl a dod i benderfyniad yn ei chylch cyn belled nad yw nifer yr aelodau sy'n weddill yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (2) uchod wedi'u bodloni.
Trefniadau ar y cyd gan ddau neu ragor o gyrff llywodraethu
3.
- (1) Pan fydd trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(c), mae paragraff 2 o'r Atodlen hon yn gymwys fel petai -
Trefniadau ar y cyd gan awdurdod addysg lleol ac un neu ragor o gyrff llywodraethu
4.
Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(ch), bydd paragraff 1 o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â'r trefniadau hynny fel y mae'n gymwys mewn perthynas â threfniadau a wneir gan awdurdod addysg lleol ac y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) ond fel petai yn is-baragraff (7) unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw neu at yr ysgol honno yn gyfeiriad at gorff llywodraethu unrhyw ysgol y mae'r trefniadau yn ymwneud â hi neu unrhyw ysgol o'r fath.
Apelau gan gyrff llywodraethu o dan adran 95
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(d), bydd paragraff 1 o'r Atodlen hon yn effeithiol fel y bydd yn effeithiol pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(a).
(2) Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl o dan adran 95(2) os bu i unrhyw raddau â rhan mewn ystyried o'r blaen a ddylai'r plentyn dan sylw gael ei dderbyn yn ôl ai peidio i unrhyw ysgol y gwaharddwyd ef yn barhaol ohoni ar unrhyw adeg, neu mewn unrhyw apêl blaenorol sy'n ymwneud â'r plentyn o dan adran 95(2).
(3) Rhaid i apêl fod yn ysgrifenedig a rhaid iddi nodi'r sail dros ei gwneud.
(4) Rhaid i banel apêl roi cyfle i apelydd ymddangos a gwneud sylwadau llafar, a chaniatáu iddo gael ei hebrwng gan gyfaill neu gael ei gynrychioli.
(5) Rhaid i apêl gael ei gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd y corff neu'r cyrff sydd wedi gwneud y trefniadau o dan adran 94 o Ddeddf 1998 yn cyfarwyddo fel arall, ond -
(6) At ddibenion is-baragraff (5), mae apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1, fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 4 o'r Atodlen honno i'w thrin -
(7) Os bydd aelodau'r panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
(8) Rhaid i'r panel apêl roi gwybod am ei benderfyniad a'r sail dros ei gwneud yn ysgrifenedig i -
(9) At ddibenion is-baragraff (8), bydd apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1, fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 4 o'r Atodlen honno, i'w thrin fel apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen honno, os bydd yn ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
(10) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (9), bydd pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio, gan gynnwys y cyfnod y maent i'w dwyn o'i fewn, i'w penderfynu gan y corff neu'r cyrff sy'n gwneud y trefniadau o dan adran 94.
Apelau a wneir yn unol ag adran 95 o Ddeddf 1998
2.
- (1) Yn y paragraff hwn ystyr "apêl" yw apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(d).
(2) Pan fydd unrhyw benderfyniad a grybwyllir yn adran 95(2) wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol neu ar ei ran, rhaid i'r awdurdod hysbysu corff llyworaethu'r ysgol yn ysgrifenedig am -
(3) Rhaid i unrhyw apêl gan y corff llywodraethu yn erbyn unrhyw benderfyniad cael ei gwneud dim hwyrach na'r pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan hysbysir ef o dan is-baragraff (2).
(4) Rhaid i apêl fod drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r sail dros ei gwneud.
(5) Rhaid i'r panel apêl gyfarfod i ystyried apêl ar unrhyw ddyddiad y bydd yr awdurdod addysg lleol yn ei benderfynu ond rhaid i'r dyddiad a benderfynir beidio â bod ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan fydd yr awdurdod hwnnw yn derbyn yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan hysbysiad is-baragraff (4).
(6) Ar apêl rhaid i'r panel ganiatáu -
(7) Rhaid i apelau gael eu gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd yr awdurdod addysg lleol yn cyfarwyddo fel arall; ond -
(8) Caniateir cyfuno dwy neu ragor o apelau ac ymdrin â hwy yn yr un achos os yw'r panel apêl yn ystyried bod hynny'n hwylus oherwydd mai'r un rhai yw'r materion a godir gan yr apelau neu oherwydd eu bod yn gysylltiedig.
(9) Os bydd aelodau panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
(10) Rhaid i'r panel apêl roi gwybod am ei benderfyniad a'r sail dros ei wneud -
(11) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (10), mae pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio i'w benderfynu gan yr awdurdod addysg lleol.
[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.back
[3] 1992 p.53, diwygiwyd gan baragraff 22 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.back
[6] Mewnosodwyd adran 94(1A) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 8(1) a (2) o Atodlen 4 iddi.back
[7] Mewnosodwyd adran 94(2A) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 8(1) a (3) o Atodlen 4 iddi.back
[8] Diwygiwyd adran 94(3) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 8(1) a (4) o Atodlen 4 iddi.back
[9] Diwygiwyd adran 94(4) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 8(1) a (5) o Atodlen 4 iddi.back
[10] O.S. 1994/1303. Amnewidiwyd adran 92 gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2002.back
[11] Diwygiwyd adran 173(4) gan adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 p.42 a pharagraff 26 o Atodlen 11 iddi.back
[12] Diwygiwyd adran 174(1) gan adran 25 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 p.65.back