BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 Rhif 1514 (Cy.118)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051514w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1514 (Cy.118)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 7 Mehefin 2005 
  Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2005 




RHAN 1

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a dehongli
2. Gwasanaethau cymorth mabwysiadu
3. Y datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
4. Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant

RHAN 2

DARPARWYR COFRESTREDIG, UNIGOLION CYFRIFOL A RHEOLWYR
5. Ffitrwydd y darparydd cofrestredig
6. Penodi rheolwr
7. Ffitrwydd y rheolwr
8. Y person cofrestredig  -  gofynion cyffredinol
9. Hysbysu tramgwyddau

RHAN 3

CEISIADAU AM WASANAETHAU CYMORTH MABWYSIADU
10. Cymhwysiad y darpariaethau
11. Dim rhwymedigaeth i fwrw ymlaen os nad yw'n briodol
12. Cydsyniad y gwrthrych â datgeliad gwybodaeth etc.
13. Feto gan berson a fabwysiadwyd neu gan berthynas
14. Darparu gwybodaeth gefndir pan fo cais am gydsyniad y cael ei wrthod etc
15. Cwnsela

RHAN 4

DULL RHEOLI ASIANTAETHAU
16. Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
17. Darparu gwasanaethau
18. Cofnodion ynglŷ>n â gwasanaethau
19. Cwynion
20. Cwynion  -  gofynion pellach
21. Staffio'r asiantaeth
22. Ffitrwydd y gweithwyr
23. Cyflogi staff
24. Gweithdrefn disgyblu staff
25. Cofnodion ynglŷn â staff
26. Ffitrwydd y fangre

RHAN 5

MATERION AMRYWIOL
27. Digwyddiadau hysbysadwy
28. Y sefyllfa ariannol
29. Hysbysu absenoldeb
30. Hysbysu newidiadau
31. Penodi datodwyr etc.
32. Tramgwyddau
33. Cydymffurfio â rheoliadau
34. Diwygiadau
35. Darpariaethau trosiannol

YR ATODLENNI

  1. Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y Datganiad o Ddiben

  2. Yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei chael am yr unigolyn cyfrifol neu am bersonau sy'n ceisio rheoli neu weithio at ddibenion asiantaeth

  3. Y cofnodion sydd i'w cadw ynghylch pob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth

  4. Digwyddiadau a hysbysiadau

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6)(b), 9(1)(b) a (3), 10(1), (3) a (4) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 [
1] ac adrannau 22, 25(1), 34(1), 35(1) a 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 [2] a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn  - 

ond nid yw'n cynnwys person sy'n llys-riant neu'n rhiant naturiol i'r plentyn, neu a oedd yn llys-riant y plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn.

    (4) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (5) Yn y Rheoliadau hyn  - 

Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu
     2.  - (1) Ni chaniateir i unrhyw gais am gofrestriad o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 gael ei wneud o ran asiantaeth cymorth mabwysiadu sy'n gorff anghorfforedig.

    (2) At ddibenion y Rheoliadau hyn ac adran 2(6) o Ddeddf 2002 (diffiniad o "adoption support services"), mae'r gwasanaethau canlynol wedi'u rhagnodi  - 

    (3) At ddibenion Rheoliadau 2(2)(d) neu (dd) ystyr 'perthynas' yw unrhyw berson a fyddai, oni bai am ei fabwysiad, yn perthyn drwy waed, gan gynnwys hanner gwaed neu briodas, i'r person a fabwysiadwyd.

Y datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
    
3.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn cysylltiad â'r asiantaeth ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "y datganiad o ddiben") a rhaid i hwnnw gynnwys datganiad ynglyn â'r materion a restrir yn Atodlen 1.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i'r awdurdod cofrestru.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod copi o'r datganiad o ddiben ar gael ar gais i'w arolygu gan  - 

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig, o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blant, gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "yr arweiniad plant") a rhaid iddo gynnwys  - 

    (5) Rhaid i'r arweiniad plant gael ei gynhyrchu ar ffurf sy'n briodol i oedran, dealltwriaeth ac anghenion cyfathrebu'r plant y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddynt.

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r arweiniad plant i'r awdurdod cofrestru, i unrhyw oedolyn sy'n gweithredu ar ran plentyn y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddo ac (yn dibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth) i bob plentyn o'r fath.

    (7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr asiantaeth yn cael ei rheoli bob amser mewn modd sy'n gyson â'i datganiad o ddiben.

    (8) Ni fydd dim ym mharagraff (7) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i fynd yn groes i, neu i beidio â chydymffurfio ag - 

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
    
4. Rhaid i'r person cofrestredig  - 



RHAN 2

DARPARWYR COFRESTREDIG, UNIGOLION CYFRIFOL A RHEOLWYR

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig
    
5.  - (1) Rhaid i gorff beidio â rhedeg asiantaeth oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

    (2) Nid yw corff yn ffit i redeg asiantaeth  - 

    (3) Y gofynion yw  - 

Penodi rheolwr
    
6.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel 'y rheolwr cofrestredig') i reoli'r asiantaeth.

    (2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru ar unwaith o'r canlynol  - 

Ffitrwydd y rheolwr
    
7.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig beidio â chaniatáu i berson reoli'r asiantaeth onid yw'n ffit i wneud hynny.

    (2) Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth oni bai  - 

Y person cofrestredig  -  gofynion cyffredinol
    
8.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, wedi iddynt ystyried  - 

redeg neu reoli'r asiantaeth â gofal, cymhwysedd a sgil digonol.

    (2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd o dro i dro â'r hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth.

    (3) Rhaid i'r darparydd cofrestredig sicrhau bod y rheolwr cofrestredig yn ymgymryd o dro i dro â'r hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli'r asiantaeth.

Hysbysu tramgwyddau
    
9.  - (1) Pan fo'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, boed yng Nghymru neu'n rhywle arall, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cofrestru ar unwaith o'r canlynol  - 



RHAN 3

CEISIADAU AM WASANAETHAU CYMORTH MABWYSIADU

Cymhwysiad y darpariaethau
    
10. Dim ond i asiantaethau sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) y mae'r darpariaethau canlynol a gynhwysir yn y Rhan hon yn gymwys.

Dim rhwymedigaeth i fwrw ymlaen os nad yw'n briodol
    
11.  - (1) Nid yw'n ofynnol i asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) ddechrau darparu gwasanaethau o'r fath, neu ar ôl iddi ddechrau darparu'r gwasanaethau hynny, nid yw'n ofynnol iddi barhau i'w darparu os yw'r asiantaeth o'r farn na fyddai'n briodol iddi wneud hynny.

    (2) Wrth benderfynu a yw'n briodol iddi ddarparu'r gwasanaethau hynny (neu ddechrau darparu'r gwasanaethau o'r fath), rhaid i'r asiantaeth roi sylw i'r canlynol:

a holl amgylchiadau eraill yr achos.

    (3) Rhaid i asiantaeth beidio â dechrau darparu gwasanaethau i berson a fabwysiadwyd nac i berthynas i'w cynorthwyo i gysylltu â pherson sydd o dan 18 oed, na pharhau i ddarparu gwasanaethau o'r fath - 

    (4) Rhaid i asiantaeth beidio â bwrw ymlaen â darparu gwasanaethau o'r math y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) oni bai - 

Cydsyniad y gwrthrych â datgeliad etc
    
12.  - (1) Rhaid i asiantaeth beidio â datgelu unrhyw wybodaeth adnabod am y gwrthrych i'r person sy'n gofyn am yr wybodaeth honno heb sicrhau cydsyniad y gwrthrych.

    (2) Rhaid i'r asiantaeth gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gan y gwrthrych ddigon o wybodaeth i'w alluogi i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio ag unrhyw ddatgeliad o'r fath.

    (3) Os yw'r gwrthrych wedi marw neu os bydd yr asiantaeth yn penderfynu ei fod yn analluog i gydsynio, caiff yr asiantaeth ddatgelu'r wybodaeth adnabod am y gwrthrych sy'n briodol o ystyried lles y rhai y gallai'r datgeliad effeithio ar eu lles a chaniateir i'r broses hon gynnwys dod o hyd i farn y personau hynny.

    (4) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 14, ystyr "gwybodaeth adnabod" yw gwybodaeth a fyddai'n galluogi o'i chymryd ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall a feddir gan y person sy'n gofyn amdani, i'r gwrthrych gael ei adnabod a'i olrhain.

Feto gan berson a fabwysiadwyd neu gan berthynas
    
13.  - (1) Mae feto yn gymwys ynglyn â darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2) (d) neu (dd)  - 

    (2) Pan fo'r asiantaeth yn cael ei hysbysu o feto o dan baragraff (1), rhaid iddi gadw cofnod ohono.

    (3) Pan fo asiantaeth yn ymwybodol bod feto yn gymwys, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â'r cais.

Darparu gwybodaeth gefndir pan fo cais am gydsyniad yn cael ei wrthod etc
    
14. Pan fo cais am gydsyniad y gwrthrych yn cael ei wrthod neu pan na ellir ei gael o dan reoliad 12 neu pan fo feto yn gymwys o dan reoliad 13, ni fydd dim yn y rheoliadau hynny yn atal yr asiantaeth rhag datgelu unrhyw wybodaeth am y gwrthrych nad yw'n wybodaeth adnabod ond sy'n wybodaeth y mae'r asiantaeth yn barnu ei bod yn briodol ei datgelu i'r person a fabwysiadwyd neu'r perthynas a wnaeth y cais.

Cwnsela
    
15.  - (1) Rhaid i asiantaeth ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ynglyn ag argaeledd cwnsela i unrhyw berson sydd - 

    (2) Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1) gynnwys - 

    (3) Os bydd person a grybwyllir ym mharagraff (1) yn gofyn bod cwnsela yn cael ei ddarparu iddo, rhaid i'r asiantaeth cymorth mabwysiadu sicrhau bod gwasnaethau cwnsela yn cael eu darparu i'r person hwnnw.

    (4) Caiff yr asiantaeth ddarparu gwasanaethau cwnsela o'r fath ei hun neu wneud trefniadau naill ai

    (5) Pan fo gwrthrych cais yn dewis peidio â manteisio ar wasanaeth cwnsela y mae ffi yn daladwy amdano, rhaid i'r asiantaeth cymorth mabwysiadu roi cymorth a chefnogaeth, serch hynny, i'r gwrthrych sy'n gwneud penderfyniad.



RHAN 4

DULL RHEOLI ASIANTAETHAU

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
    
16.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig, o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig sydd  - 

    (2) Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu'n benodol ar gyfer  - 

    (3) Yn y rheoliad hwn ystyr "ymholiadau amddiffyn plant" yw unrhyw ymholiadau sy'n cael eu gwneud gan awdurdod lleol wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan Ddeddf Plant 1989[7] ynglyn ag amddiffyn plant.

Darparu gwasanaethau
     17. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod gwasanaethau cymorth mabwysiadu a ddarperir i unrhyw berson fel rhan o asesiad awdurdod lleol yn briodol i'r angen am wasanaethau o'r fath fel y'i nodir drwy'r asesiad hwnnw a gynhelir gan awdurdod lleol.

Cofnodion ynglyn â gwasanaethau
    
18.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r cofnodion canlynol a'u cadw'n gyfoes, gan ddangos ar gyfer pob person y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddo  - 

    (2) Rhaid i'r cofnodion a bennir ym mharagraff (1) gael eu cadw am o leiaf bymtheg a thrigain o flynyddoedd o ddyddiad y cofnod diwethaf.

Cwynion
    
19.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn ysgrifenedig (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel "y weithdrefn gwynion") ar gyfer ystyried cwynion a wneir gan neu ar ran unrhyw berson sydd wedi gofyn am wasanaethau cymorth mabwysiadu, neu y mae'r asiantaeth wedi'u darparu iddynt.

    (2) Yn benodol, rhaid i'r weithdrefn gwynion ddarparu  - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r weithdrefn gwynion i bob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth ac, os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid iddo ddarparu copi o'r weithdrefn i unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (1) neu i unrhyw berson sy'n gweithio ar ran plentyn.

    (4) Rhaid i'r copi o'r weithdrefn gwynion a ddarparwyd o dan baragraff (3) gynnwys  - 

Cwynion  -  gofynion pellach
    
20.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i unrhyw gŵyn a wneir o dan y weithdrefn gŵynion.

    (2) I'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, rhaid i'r person cofrestredig, o fewn cyfnod o 20 o ddiwrnodau gwaith gan ddechrau ar y dyddiad y mae'r asiantaeth yn cael y gŵyn, hysbysu'r achwynydd o'r camau (os oes rhai) sydd i'w cymryd mewn ymateb i'r gŵyn.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gŵyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiliad a gynhaliwyd, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i hynny.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd pob cam rhesymol i sicrhau  - 

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r awdurdod cofrestru, os bydd yr awdurdod yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed yn ystod y 12 mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny.

Staffio'r asiantaeth
    
21.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, o ystyried  - 

y bydd nifer digonol o bersonau gyda chymwysterau, medrau a phrofiad addas yn gweithio at ddibenion yr asiantaeth.

Ffitrwydd y gweithwyr
    
22.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â gwneud y canlynol  - 

    (2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion asiantaeth oni bai  - 

Cyflogi staff
    
23.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig  - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod bob person sy'n cael ei gyflogi gan yr asiantaeth  - 

Gweithdrefn disgyblu staff
    
24.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu sydd, yn benodol  - 

    (2) At ddibenion paragraff (1)(b), mae person priodol yn un o'r canlynol  - 

Cofnodion ynglyn â staff
    
25.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 3, a'u cadw'n gyfoes.

    (2) Rhaid cadw'r cofnodion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) am 15 mlynedd o leiaf o ddyddiad y cofnod diwethaf.

Ffitrwydd y fangre
    
26.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio'r fangre at ddibenion yr asiantaeth onid yw'r fangre yn addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn natganiad o ddiben yr asiantaeth.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau  - 



RHAN 5

MATERION AMRYWIOL  -  ASIANTAETHAU

Digwyddiadau hysbysadwy
    
27.  - (1) Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 4 ("y tabl") yn digwydd mewn cysylltiad ag asiantaeth, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r person a nodir yn ddi-oed ynglyn â'r digwyddiad yng ngholofn 2 o'r tabl.

    (2) Rhaid cadarnhau yn ysgrifenedig unrhyw hysbysiad sy'n cael ei roi ar lafar yn unol â'r rheoliad hwn o fewn 10 o ddiwrnodau gwaith.

    (3) Yn y tabl  - 

Y sefyllfa ariannol
    
28.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig:

    (2) Os bydd yr awdurdod cofrestru yn gofyn amdanynt, rhaid i'r darparydd cofrestredig ddarparu i'r awdurdod cofrestru unrhyw wybodaeth a dogfennau y bydd yn ofynnol i'r awdurdod eu cael er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth, gan gynnwys  - 

Hysbysu absenoldeb
    
29.  - (1) Pan fo'r rheolwr yn bwriadu bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig o'r absenoldeb arfaethedig.

    (2) Ac eithrio pan fydd argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) gael ei roi ddim hwyrach na mis cyn i'r absenoldeb arfaethedig ddechrau, neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r awdurdod cofrestru, a rhaid i'r hysbysiad bennu  - 

    (3) Pan fo'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu o'r absenoldeb o fewn wythnos i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).

    (4) Pan fo'r rheolwr cofrestredig wedi bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, a bod yr awdurdod cofrestru heb gael ei hysbysu o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'n ddi-oed yr awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig, gan bennu'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru bod y rheolwr cofrestredig wedi dychwelyd i'r gwaith ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith ar ôl dyddiad ei ddychweliad.

Hysbysu newidiadau
    
30.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu y bwriedir iddynt ddigwydd  - 

    (2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig ac yn ddi-oed o farwolaeth yr unigolyn cyfrifol neu'r rheolwr cofrestredig.

Penodi datodwyr etc
    
31.  - (1) Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo  - 

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir  - 

Tramgwyddau
    
32.  - (1) Bydd mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 3 i 8, 12, 16 i 30 neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn dramgwydd yn rhinwedd adran 9(3) o Ddeddf 2002.

    (2) Bydd mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 9 neu 31 neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn dramgwydd yn rhinwedd adran 25(2) o Ddeddf 2000.

    (3) Caiff yr awdurdod cofrestru ddwyn achos yn erbyn person a oedd ar un adeg, ond nad yw bellach, yn berson cofrestredig, am fethiant i gydymffurfio â rheoliad 18 neu 25.

Cydymffurfio â rheoliadau
    
33. Pan fo'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw beth gael ei wneud gan fwy nag un person, rhaid peidio â'i gwneud yn ofynnol iddo gael ei wneud, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau hynny, gan y person arall neu, yn ôl y digwydd, y personau eraill.

Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
    
34.  - (1) Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[8] wedi'u diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 2(1)  - 

Darpariaethau Trosiannol
     35.  - (1) Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys i asiantaethau cymorth mabwysiadu y mae'n ofynnol iddynt gael eu cofrestru o dan y Ddeddf yn rhinwedd darpariaethau Deddf 2000 a'r Rheoliadau hyn ond nad oedd yn ofynnol iddynt gael eu cofrestru felly yn union cyn 30 Rhagfyr 2005.

    (2) Er gwaethaf unrhyw un o'r darpariaethau hynny, caiff asiantaeth cymorth mabwysiadu a oedd yn union cyn 30 Rhagfyr 2005 yn rhedeg neu'n rheoli asiantaeth barhau i redeg neu reoli'r asiantaeth heb gael ei chofrestru o dan Ddeddf 2000  - 

    (3) Yn y rheoliad hwn ystyr 'gwaredu yn derfynol' yw'r dyddiad 28 o ddiwrnodau gwaith ar ôl caniatáu neu wrthod cofrestriad ac, os apelir, y dyddiad pan benderfynir ar yr apêl yn derfynol neu pan roddir y gorau iddo.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Mehefin 2005



ATODLEN 1
Rheoliad 3(1)


YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN


     1. Nodau ac amcanion yr asiantaeth.

     2. Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig, yr unigolyn cyfrifol a'r rheolwr cofrestredig.

     3. Unrhyw amodau sydd mewn grym am y tro o ran cofrestru'r personau cofrestredig o dan Ran 2 o Ddeddf 2000.

     4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr cofrestredig.

     5. Nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.

     6. Strwythur trefniadaethol yr asiantaeth.

     7. Disgrifiad o'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan yr asiantaeth.

     8. Y system sydd wedi'i sefydlu i fonitro a gwerthuso gwaith darparu'r gwasanaethau hynny er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr asiantaeth yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaethau hynny o safon briodol.

     9. Crynodeb o'r weithdrefn gwynion.

     10. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod cofrestru.



ATODLEN 2
Rheoliadau 5(3)(c), 7(2)(c), 22(2)(ch)


YR WYBODAETH Y MAE'N OFYNNOL EI CHAEL AM YR UNIGOLYN CYFRIFOL NEU AM BERSONAU SY'N CEISIO RHEOLI NEU WEITHIO AT DDIBENION ASIANTAETH


     1. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

     2. Naill ai  - 

gan gynnwys, i'r graddau a ganiatawyd o dan Ddeddf yr Heddlu 1997 y materion a bennwyd yn adrannau 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno[12].

     3. Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth gyflogwr mwyaf diweddar y person, os oes un.

     4. Pan fo person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei ddyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

     5. Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymhwyster perthnasol.

     6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.



ATODLEN 3
Rheoliad 25(1)


Y COFNODION SYDD I'W CADW YNGHYLCH POB PERSON SY'N GWEITHIO AT DDIBENION YR ASIANTAETH


Cofnod sy'n dangos ar gyfer pob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth  - 

     1. Enw llawn.

     2. Rhyw.

     3. Dyddiad geni.

     4. Cyfeiriad cartref.

     5. Cymwysterau sy'n berthnasol i weithio gyda phersonau sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu a phrofiad o weithio gyda phersonau o'r fath ac (o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blant) cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys plant, a phrofiad o waith o'r fath.

     6. Y dyddiadau pan fydd y person yn dechrau cael ei gyflogi felly a phan fydd ei gyflogaeth yn dod i ben.

     7. A yw'r person yn cael ei gyflogi gan y darparydd cofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, neu a yw'n cael ei gyflogi gan rywun heblaw'r darparydd cofrestredig.

     8. Disgrifiad swydd y person ac a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan amser a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi bob wythnos gan y darparydd cofrestredig neu'n cael ei gontractio bob wythnos i weithio i'r darparydd hwnnw.

     9. Yr hyfforddiant y mae'r person wedi ymgymryd ag ef, y gwaith o'i oruchwylio a'i werthuso, y camau disgyblu (os o gwbl) a gymerwyd yn ei erbyn, y cwynion (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn neu ynglŷn â'r person a chanlyniad y cwynion hynny ac unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'i gyflogaeth at ddibenion yr asiantaeth.



ATODLEN 4
Rheoliad 27(1)


DIGWYDDIADAU A HYSBYSIADAU


Colofn 1 Colofn 2          
Y digwyddiad I'w hysbysu i:          
     Yr awdurdod cofrestru Y Bwrdd Iechyd Lleol /Yr Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol Yr awdurdod perthnasol
Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio i'r asiantaeth at yr Ysgrifenydd Gwladol neu'r Cynulliad yn unol ag adran (1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 Ie          
Marwolaeth oedolyn neu blentyn neu anaf difrifol i oedolyn neu blentyn wrth iddo gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth Ie Ie Ie (pan fo'n marwolaeth plentyn neu'n anaf difrifol i blentyn)



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud yn rhannol o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000") ac yn rhannol o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("Deddf 2002"). Sefydlodd Deddf 2000 system reoleiddio newydd ar gyfer gwasanaethau gofal yng Nghymru; mae adran 8(3) o Ddeddf 2002 yn diwygio Deddf 2000 ac effaith hynny yw na chaiff person redeg na rheoli asiantaeth cymorth mabwysiadu heb fod wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000. Mae Deddf 2002 yn darparu pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr awdurdod cofrestru, i reoleiddio asiantaethau cymorth mabwysiadu. Bydd rhaid i asiantaeth sy'n gwneud cais i'r awdurdod cofrestru am gael ei chofrestru o dan Ddeddf 2000 ddangos ei bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod cofrestru.

Mae adran 2(6) o Ddeddf 2002 yn darparu bod cwnsela, cyngor a gwybodaeth ac unrhyw wasanaethau eraill a ragnodir drwy reoliadau, mewn cysylltiad â mabwysiadu, yn wasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gwasanaethau sy'n wasanaethau cymorth mabwysiadu at ddibenion y rheoliadau hyn.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y datganiad o ddiben a'r arweiniad plant. Rhaid bod gan bob asiantaeth cymorth mabwysiadu ddatganiad o ddiben sy'n nodi beth yw nodau ac amcanion yr asiantaeth. Rhaid cadw golwg ar y datganiad o ddiben a'i adolygu pan fo angen. Rhaid i'r asiantaeth gael ei rhedeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben. Rhaid i asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau i blant gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth sy'n addas i blant.

Mae rheoliadau 5 i 9 yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r personau sy'n rhedeg ac yn rheoli asiantaeth cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaeth enwebu unigolyn cyfrifol i oruchwylio gwaith rheoli'r asiantaeth.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i reolwr gael ei benodi ar gyfer yr asiantaeth. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer ffitrwydd y rheolwr, yn benodol drwy'r gofyniad bod rhaid sicrhau gwybodaeth foddhaol o ran y materion a bennir yn Atodlen 2 (rheoliad 7). Mae rheoliad 8 yn gosod gofynion cyffredinol o ran rheoli asiantaeth cymorth mabwysiadu yn briodol, a'r angen am hyfforddiant priodol. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r unigolyn cyfrifol a'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru o gollfarnau.

Mae rheoliadau 10  -  15 yn ymdrin â cheisiadau am wasanaethau cymorth mabwysiadu sy'n helpu'r person a fabwysiadwyd neu'r perthynas i gael gwybodaeth neu i hwyluso cyswllt. Nid yw rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu gwasanaethau o'r fath pan fernir ei bod yn amhriodol ac mae'n nodi'r ffactorau y dylai'r asiantaeth eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud y penderfyniad hwnnw. Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth gael cydsyniad deallus gwrthrych y cais cyn datgelu gwybodaeth amdano a fyddai'n dangos pwy ydyw neu a fyddai'n galluogi'r person sy'n gofyn am yr wybodaeth i olrhain y gwrthrych hwnnw. Mae rheoliad 13 yn galluogi'r person a fabwysiadwyd neu'r perthynas i gofrestru feto gyda'r asiantaeth. Mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth i wybodaeth gefndir gael ei datgelu pan fo cais am gydsyniad wedi'i wrthod. Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu gwybodaeth am gwnsela a sicrhau gwasanaethau cwnsela o ran ceisiadau am wasanaethau cymorth mabwysiadu o'r fath o dan reoliad 2(d) neu (dd). Rhaid i asiantaethau cymorth mabwysiadu eu hunain roi cymorth a chefnogaeth i berson sy'n wrthrych cais gan berson a fabwysiadwyd neu gan berthynas am wybodaeth neu gyswllt os bydd y person yn dewis peidio â manteisio ar wasanaeth cwnsela.

Mae rheoliadau 16 i 26 yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r dull o reoli asiantaeth cymorth mabwysiadu, yn benodol ynghylch amddiffyn plant (rheoliad 16), darparu gwasanaeth sy'n briodol i anghenion defnyddiwr (rheoliad 17), cadw cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau sy'n cael eu darparu (rheoliad 18), cwynion (rheoliadau 19 a 20), staffio (gan gynnwys cadw cofnodion ynglyn â staff) a ffitrwydd y staff a'r fangre (rheoliadau 21 i 26).

Mae rheoliad 27 yn darparu bod y darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig i hysbysu'r personau a bennir yn Atodlen 4 o'r digwyddiadau a ddisgrifir yn yr Atodlen honno. Mae rheoliad 28 yn gosod gofynion sy'n ymwneud â sefyllfa ariannol asiantaeth cymorth mabwysiadu. Mae rheoliadau 29 i 31 yn darparu ar gyfer hysbysu'r awdurdod cofrestru a phenodi datodwyr. Mae rheoliad 32 yn darparu ar gyfer tramgwyddau sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau yn y rheoliadau neu ar gyfer methiant i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.

Pan fo'r rheoliadau hyn yn gosod gofyniad ar fwy nag un person, a bod un o'r rhai sy'n gorfod bodloni'r gofyniad hwnnw yn gwneud hynny, mae rheoliad 33 yn darparu nad yw'r person arall hefyd yn gorfod bodloni'r gofyniad hwnnw. Mae rheoliad 34 yn diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002. Mae rheoliad 35 yn darparu ynglŷn â'r trefniadau trosiannol ar gyfer cofrestru asiantaethau cymorth mabwysiadu.


Notes:

[1] 2002 p.38.back

[2] 2000 p.14.back

[3] 2000 p.14.back

[4] 2002 p.38.back

[5] O.S. 2005/1313 (Cy.95).back

[6] 1971p.80.back

[7] 1989 p.51.back

[8] O.S. 2002/919 (Cy.107).back

[9] 1998 p.38.back

[10] 1997 p.50. Mewnosodwyd adran 115(5)(ea) gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104 p.14.back

[11] Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau o dan 18 oed, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio, neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig.back

[12] Mewnosodwyd adrannau 113(3A) a 115(6A) yn Neddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(p.14) a'u diwygio gan adrannau 104, 106 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi.back



English version



ISBN 0 11 091150 4


 © Crown copyright 2005

Prepared 14 June 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051514w.html