BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofnodion) (Cymru) 2005 Rhif 1812 (Cy.142)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051812w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1812 (Cy.142)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofnodion) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2005 
  Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 79 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofnodion) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn:

ac y mae'n cynnwys gwaith na ellir yn rhesymol ei wahanu o'r fath waith;

Ffurf y cofnodion a dull eu cofnodi
    
3. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5, rhaid i ymgymerwr gofnodi bob eitem o gyfarpar sy'n perthyn iddo ac sy'n cael ei rhoi yn y stryd a'i chofnodi ar bapur, neu, yn ddarostyngedig i reoliad 4, ar ffurf cofnod electronig neu gyfuniad o'r ddau, a rhaid i'r cofnod gael ei baratoi ar ffurf :

    (2) Dim ond i gofnodi'r map o'r lleoliad neu'r llwybr am gyfnod heb fod yn fwy na phum mlynedd o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ("y cyfnod trosiannol") y caniateir defnyddio Mapio Cyfres Siroedd yr Arolwg Ordnans, a rhaid trosglwyddo cofnodion sy'n cael eu gwneud yn y modd hwn i un o'r ffurfiau eraill a ragnodir gan baragraff (1) erbyn diwedd y cyfnod trosiannol fan bellaf.

    (3) Wrth baratoi'r cofnod, rhaid cofnodi'r map o leoliad a llwybr y cyfarpar fel y bydd y safle a fesurwyd o fewn 300mm i'r gwir safle, a bydd y safle a gofnodwyd o fewn 500mm i'r gwir safle.

Cofnodion Electronig
    
4. Pan fo cofnod electronig yn cael ei gadw, yn unol â rheoliad 3 uchod, rhaid bod modd ei atgynhyrchu ar ffurf sy'n ddigon darllenadwy i gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan adran 79(3) o'r Ddeddf (dyletswydd i roi cofnodion ar gael i'w harchwilio).

Eithriadau
    
5. Ni fydd y ddyletswydd yn adran 79(1) o'r Ddeddf i gadw cofnod o leoliad pob eitem o gyfarpar yn gymwys:-



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf y cofnodion o gyfarpar a roddir mewn strydoedd y mae ymgymerwyr i'w cadw yn unol â darpariaethau adran 79 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn darparu bod rhaid cadw'r cofnodion hynny ar ffurf map lleoliad neu fap o'r llwybr neu ddatganiad o'r cyfesurynnau, a chânt fod un ai ar bapur, ar ffurf cofnod electronig neu gyfuniad o'r ddau (rheoliad 3). Maent yn gwneud darpariaethau ar ddefnyddio cofnodion electronig (rheoliad 4). Rhagnodir eithriadau i'r ddyletswydd i gadw cofnod mewn rhai achosion (rheoliad 5).


Notes:

[1] 1991 p.22.back

[2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672).back

[3] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 091165 2


 © Crown copyright 2005

Prepared 12 July 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051812w.html