BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 Rhif 2902 (Cy.205)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052902w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2902 (Cy.205)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005

  Wedi'u gwneud 18 Hydref 2005 
  Yn dod i rym 19 Hydref 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2], mewn perthynas â mesurau yn y maes milfeddygol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy ymarfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

     1. Enw'r Rheoliadau hyn yn Rheoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 a deuant i rym ar 19 Hydref 2005.

    
2. Diwygir Rheoliadau TSE (Cymru) 2002[3] yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.

     3. Yn rheoliad 3(1) (dehongliad)—

a dilëer y gair "and" ar ddiwedd is-baragraff (e) , ac ychwaneger ef i ddiwedd is-baragraff (c) o'r diffiniad hwnnw;

a dilëer y gair "and" ar ddiwedd is-baragraff (b), ac ychwaneger ef i ddiwedd is-baragraff (c), o'r diffiniad hwnnw;

     4. Ar ôl Rheoliad 10 (hysbysiadau), rhoddir y rheoliadau canlynol—

     5. Yn rheoliad 23 (cynhyrchu bwydydd sy'n cynnwys blawd pysgod), rhoddir y canlynol yn lle paragraffau (1), (2) a (3)—

     6. Yn rheoliad 25 (defnyddio a storio bwydydd)—

     7. Ar ôl rheoliad 25, rhoddir y rheoliadau canlynol—

     8. Yn rheoliad 29B (lladd anifeiliaid), rhoddir y canlynol yn lle paragraff (4)—

     9. Yn rheoliad 33 (cael gwared ar ddeunydd â risg benodol o garcasau mewn lladd-dai)—

     10. Yn rheoliad 36 (cael gwared ar asgwrn cefn anifeiliaid buchol mewn safleoedd torri cig)—

     11. Ar gyfer rheoliad 37 (cael gwared ar linyn cefn DRB o anifeiliaid buchol, defaid a geifr) rhoddir y canlynol yn ei le—

     12. Ar gyfer rheoliad 38 (stamp oen ifanc), rhoddir y canlynol yn ei le—

     13. —(1) Yn rheoliad 41(1) a (2), ar ôl y geiriau "young lamb stamp", rhoddir ", or young goat stamp, as the case may be,".

    (2) Yn rheoliadau 46(1) a 47(1), ar ôl y geiriau "young lamb stamp", rhoddir ", or young goat stamp, as the case may be".

    
14. Ar ôl Atodlen 1 (iawndal), rhoddir Atodlen 1A a nodir yn yr Atodlen.

    
15. Yn Atodlen 6A (gorfodi Atodiad VII y Rheoliad TSE Cymunedol), ar ôl rhan IV (iawndal), rhoddir—





Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
18].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2005



ATODLEN
Rheoliad 14

          





EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau TSE (Cymru) 2002 ymhellach, sef O.S. 2002/1416 ("Rheoliadau 2002"), sydd, yng Nghymru, yn darparu ar gyfer gorfodi a gweinyddu Rheoliad CE Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a Chyngor 22 Mai 2001 a gyflwynodd reolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar achosion o enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy. Y Rheoliadau diwygio eraill yw O.S. 2004/2735 ac O.S. 2005/1392.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhannol weithredu Erthygl 16a Cyfarwyddeb y Cyngor 95/53/CE 25 Hydref 1995 sy'n pennu'r egwyddorion sy'n rheoli'r gwaith o drefnu arolygiadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid (OJ Rhif L 265, 8.11.1995, t.17). Cynhwyswyd Erthygl 16a gan Gyfarwyddeb 2001/46 y Cyngor Ewropeaidd a'r Cyngor (OJ Rhif L 234, 1.9.2001, t. 55). Cynhwysir y ddarpariaeth berthnasol yn rheoliad newydd 25B Rheoliadau 2002, a gynhwyswyd gan reoliad 7 y Rheoliadau hyn.

Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn.

Diwygir rhai diffiniadau a gynhwysir yn rheoliad 3 Rheoliadau 2002 (Rheoliad 3).

Mae rheoliad newydd 10A ac Atodlen newydd 1A Rheoliadau 2002 yn darparu ar gyfer y broses o ladd gwartheg dros 30 mis oed i bobl eu bwyta, a chynnal profion arnynt ac mae rheoliad newydd 10(B) yn ei gwneud yn drosedd i anfon anifal buchol a anwyd neu a fagwyd yn y DU cyn 1af Awst 1996 i ladd-dy. (Rheoliad 4 a'r Atodlen).

Diwygir Rheoliad 23 Rheoliadau 2002 er mwyn darparu ar gyfer y defnydd o safleoedd i gynhyrchu bwydydd sy'n cynnwys blawd pysgod. (Rheoliad 5.)

Mae rheoliad newydd 25A Rheoliadau 2002 yn cynnwys darpariaethau pellach ar gyfer bwydydd sy'n cynnwys blawd pysgod ac mae rheoliad newydd 25B yn gysylltiedig â rhoi samplau o fwydydd i labordai. (Rheoliad 7.)

Diwygir Rheoliad 33 Rheoliadau 2002 i ddarparu o'r newydd ar gyfer cael gwared ar ddeunydd â risg benodol o garcas anifail buchol a laddwyd i bobl ei fwyta. (Rheoliad 9.) (Diffinnir "specified risk material" yn rheoliad 3(1) Rheoliadau 2002.)

Mae rheoliad newydd sy'n gysylltiedig â chael gwared ar linyn cefn defaid a geifr yn cymryd lle Rheoliad 37 Rheoliadau 2002. (Rheoliad 11.)

Mae rheoliad newydd sy'n gysylltiedig â stampio carcasau wyn a geifr ifanc y mae eu dueg a'u hilëwm wedi'u tynnu allan yn cymryd lle Rheoliad 38 Rheoliadau 2002. (Rheoliad 12.)

Darperir ar gyfer y cosbau am droseddau o dan Atodlen 6A Rheoliadau 2004. (Rheoliad 15.)

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Y Gangen Endemig, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2003/1246.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2002/1416.back

[4] OJ Rhif L. 163, 23.6.2005 tl.back

[5] 1967 p.22; amnewidiwyd gan Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p.49), adran 7back

[6] O.S. 1996/2097; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2000/656.back

[7] OJ L 99, 20.4.1996, t. 14.back

[8] OJ L 104, 27.4.1996, t. 21.back

[9] OJ L 112], 7.5.1996, t. 17.back

[10] OJ L 189, 30.7.1996, t. 93.back

[11] OJ L 245, 26.9.1996, t. 9.back

[12] OJ L 262, 16.10.1996, t. 2.back

[13] OJ L 288, 9.11.1996, t. 14.back

[14] OJ L 329, 19.12.1996, t. 43.back

[15] OJ L 188, 17.7.1997, t. 6.back

[16] OJ L 131, 1.6.2000, t. 37.back

[17] OJ L 96, 12.4.2003, t. 13.back

[18] 1998 p.38.back

[19] Rhifyn presennol (2005); ISBN 92-1-139097-4.back



English version



ISBN 0 11 091196 2


 © Crown copyright 2005

Prepared 24 October 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052902w.html