BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005 Rhif 2915 (Cy.212) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052915w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 18 Hydref 2005 | ||
Yn dod i rym | 31 Hydref 2005 |
Dirymu
3.
Dirymir Rheoliadau Addysg (Lwfansau Llywodraethwyr) 1999[3] o ran Cymru.
Ysgolion sydd â chyllidebau dirprwyedig
4.
—(1) Caiff corff llywodraethu ysgol a gynhelir sydd â chyllideb ddirprwyedig wneud taliadau ar ffurf lwfansau yn unol â'r rheoliad hwn i aelod o'r corff llywodraethu hwnnw neu o unrhyw bwyllgor o'r corff llywodraethu hwnnw.
(2) Rhaid i daliadau a wneir o dan baragraff (1) fod yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed gan y corff llywodraethu at ddibenion y Rheoliadau hyn ac ni chaiff cynllun o'r fath wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag aelodau o'r corff llywodraethu ac aelodau o bwyllgorau'r corff llywodraethu nac o ran categorïau gwahanol o lywodraethwr neu aelod pwyllgor.
(3) Ni cheir gwneud taliadau dan baragraff (1) ond o ran gwariant oedd yn angenrheidiol ei dynnu gan aelod o'r corff llywodraethu at ddibenion ei alluogi i gyflawni ei ddyletswydd fel llywodraethwr neu fel aelod o bwyllgor o'r corff llywodraethu.
(4) Yn ddarostyngedig i reoliad 7, rhaid i daliadau o dan baragraff (1) fod ar gyfradd a bennir gan y corff llywodraethu a'u gwneud pan ddarperir derbynneb am y swm perthnasol.
Ysgolion nad oes ganddynt gyllidebau dirprwyedig a sefydliadau eraill.
5.
—(1) Mae'r lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn cael eu rhagnodi fel lwfansau y caiff awdurdod addysg lleol eu talu yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed ganddynt at ddibenion adran 519 o Deddf Addysg 1996,—
(2) Mae'r taliadau ar ffurf lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn daliadau o ran gwariant oedd yn angenrheidiol ei dynnu gan y person hwnnw er mwyn ei alluogi i gyflawni unrhyw ddyletswydd fel llywodraethwr neu fel person a benodwyd i gynrychioli'r awdurdod addysg lleol ac yn daliadau ar gyfradd a bennir gan yr awdurdod, yn ddarostyngedig i reol 7, ac fe'u gwneir pan ddarperir derbynneb am y swm perthnasol.
6.
—(1) Pan nad oes gan ysgol a gynhelir gyllideb ddirprwyedig, caiff yr awdurdod addysg lleol dalu'r lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) isod i aelodau o bwyllgorau'r corff llywodraethu nad ydynt yn llywodraethwyr yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed gan yr awdurdod at y diben hwnnw.
(2) Mae'r taliadau ar ffurf lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn daliadau mewn perthynas â gwariant oedd yn angenrheidiol ei dynnu gan y person hwnnw er mwyn ei alluogi i gyflawni unrhyw ddyletswydd fel aelod o bwyllgor ac yn daliadau ar gyfradd a bennir gan yr awdurdod, yn ddarostyngedig i reoliad 7, ac fe'u gwneir pan ddarperir derbynneb am y swm perthnasol.
(3) Ni chaiff cynllun y cyfeirir ato ym mharagraff (1) wneud darpariaeth wahanol o ran categorïau gwahanol o aelod pwyllgor.
Taliadau teithio a chynhaliaeth
7.
Ni chaiff unrhyw daliadau o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer treuliau teithio a chynhaliaeth fod yn uwch na chyfraddau a bennir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn rheoliadau o dan adran 100 o Deddf Llywodraeth Leol 2000 [4].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Hydref 2005
Rhaid talu cyfraddau teithio a chynhaliaeth ar gyfradd nad yw'n uwch na'r hyn a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 100 o Deddf Llywodraeth Leol 2000. Rhaid talu treuliau eraill pan ddarperir derbynneb ar gyfradd a bennir gan y corff llywodraethu.
Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi a'i roi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Rheolaeth Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
2002 p. 32. . I gael ystyr "regulations" gweler adran 212(1).back
[2] 1996 p. 56. Cafodd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 519 a 569(4) eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672). Cafodd adran 519 ei diwygio gan baragraff 139 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. I gael ystyr "regulations" a "prescribed" gweler adran 579(1).back
[4] 2000 p.22. Gweler Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002, O.S. 2002/1895 (Cy.196).back