BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 3039 (Cy.227)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053039w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3039 (Cy.227)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) (Diwygio) 2005

  Wedi'u gwneud 1 Tachwedd 2005 
  Yn dod i rym 2 Tachwedd 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ("Deddf 1977")[1] a pharagraffau 10(1) a 12(b) o Atodlen 5 iddi a pharagraffau 6(1)(d), 9(2) a (3) o Atodlen 5B iddi, ac adran 5(7)(f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 ("Deddf 1990")[2] a pharagraffau 16(4) a 16(5) o Atodlen 2 iddi, ac ar ôl ymgynghori yn unol â pharagraff 11(1) o Atodlen 5, a pharagraff 9(4) o Atodlen 5B, i Ddeddf 1977 a pharagraff 16(6) o Atodlen 2 i Ddeddf 1990, â chyrff y mae'n eu cydnabod fel rhai sy'n cynrychioli personau y mae'n debyg yr effeithir arnynt, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) (Diwygio) 2005 ac maent yn dod i rym ar 2 Tachwedd 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) 1996[
3].

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
     2. —(1) Mae rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

    (2) O flaen y diffiniad o "application" mewnosoder y diffiniad canlynol—

    (3) Yn y diffiniad o "Authority", ar ôl "Special Health Authority," mewnosoder "an NHS trust, a Local Health Board".

    (4) Ar ôl y diffiniad o "core members" mewnosoder y diffiniad canlynol—

    (5) Yn y diffiniad o "lay member" dileer "or NHS trust".

    (6) Mae'r diffiniad o "relevant college" wedi'i ddiwygio fel a ganlyn—

    (7) Yn lle'r diffiniad o "relevant University" rhodder y canlynol—

Diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau
    
3. —(1) Mae rheoliad 5 o'r prif Reoliadau (penodiadau esempt) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (1), is-baragraff (d), dileer "an NHS trust,".

    (3) Ym mharagraff (1), is-baragraff (e)(ii) yn lle "NHS trust" rhodder "Authority".

    (4) Ym mharagraff (1), is-baragraff (g)—

    (5) Ar ôl paragraff (1)(g) mewnosoder—

Diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau
     4. Ar ddiwedd paragraff (1) o reoliad 6 o'r prif Reoliadau (hysbysebu'r penodiad arfaethedig) mewnosoder ", and for these purposes only one of the publications may be solely in electronic form".

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
    
5. —(1) Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (aelodaeth pwyllgor ymgynghorol ar benodiadau) wedi'i diwygio fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 2 yn is-baragraff (b)(i) dileer "or".

    (3) Ym mharagraff 2, ar ôl is-baragraff (b)(i), mewnosoder y canlynol—

    (4) Ym mharagraff 3, hepgorer "substantial".

    (5) Ar ddiwedd paragraff 6 mewnosoder



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Tachwedd 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Penodi Ymgynghorwyr) (Cymru) 1996 ("Rheoliadau 1996").

Mae Rheoliadau 2, 3 a 5 yn gwneud nifer o ddiwygiadau sy'n cymhwyso darpariaethau Rheoliadau 1996 i ymddiriedolaethau'r GIG, ynghyd â nifer o fân ddiwygiadau eraill.

Mae Rheoliad 3(5) yn creu dau esemptiad newydd rhag y gofyniad bod rhaid cynnal Pwyllgor Ymgynghorol ar Benodiadau i benodi ymgynghorydd. Mae'r esemptiad cyntaf yn gymwys i berson sydd wedi bod mewn swydd fel ymgynghorydd gyda gwasanaethau meddygol y fyddin, y llynges neu'r llu awyr ac sy'n cael ei benodi i swydd ymgynghorydd yn un o'r cyrff y mae Rheoliadau 1996 yn gymwys iddynt a hynny heb symud ei leoliad a heb fod y dyletswyddau sydd ynghlwm wrth y swydd yn newid mewn unrhyw ffordd sydd o bwys. Mae'r ail esemptiad yn gymwys i ymgynghorydd sy'n ymddeol ond sydd wedyn yn dychwelyd i swydd debyg iawn yn yr un corff, er y gall telerau ei gyflogaeth fod wedi'u newid.

Mae Rheoliad 4 yn caniatáu i un o'r hysbysebion ar gyfer penodi ymgynghorydd fod ar ffurf electronig.

Mae Rheoliad 5 yn nodi'r union ofynion ar gyfer aelodaeth Pwyllgor Ymgynghorol ar Benodiadau pan fo dau gorff neu fwy y mae Rheoliadau 1996 yn gymwys iddynt yn cydweithredu i sefydlu Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar Benodiadau.


Notes:

[1] 1977 (p.49). Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 65(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999") a pharagraffau 4 a 37 o Atodlen 4 iddi, adran 67(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) ("Deddf 2001") a pharagraffau 5 a 13 o Ran 1 o Atodlen 5 iddi, ac adran 6(3)(c) a 37(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17) ("Deddf 2002"). Diwygiwyd paragraff 10(1) o Atodlen 5 gan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41) a pharagraff 3 o Atodlen 6 iddi, adrannau 5 a 24 o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) a Rhan I o Atodlen 8 iddi, adran 2(1) o Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995") a pharagraff 60(c) o Atodlen 1 iddi, ac adrannau 6(1)(a) a (b) o Ddeddf 2001. Diwygiwyd paragraff 12(b) o Atodlen 5 gan adran 1 o Ddeddf 1990, a pharagraff 9 o Ran III o Atodlen 1 iddi, adrannau 2(1) a 5(1) o Ddeddf 1995 a pharagraff 60(e) o Atodlen 1 iddi, ac Atodlen 3 iddi, ac adran 65(1) o Ddeddf 1999, a pharagraffau 4, 39(1) a (4)(b) o Atodlen 4 iddi. Mewnosodwyd Atodlen 5B gan adran 6(2) o Ddeddf 2002 ac Atodlen 4 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999).back

[2] 1990 (p.19). Diwygiwyd adran 5(7) gan adran 2(1) o Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) a pharagraff 69(d) o Atodlen 1 iddi. Mewnosodwyd paragraffau 16(4)-(6) o Atodlen 2 gan adran 6(3)(b) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15).back

[3] O.S. 1996/1313 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/1250.back

[4] 2004 p.17.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091210 1


 © Crown copyright 2005

Prepared 9 November 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053039w.html