BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 3113 (Cy.233)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Mabwysiadau heb fod drwy Asiantaeth) (Cymru) 2005
|
Wedi eu gwneud |
8 Tachwedd 2005 | |
|
Yn dod i rym |
30 Rhagfyr 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(1) a 44(9), 140(7) ac (8) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Mabwysiadau heb fod drwy Asiantaeth) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y rheoliadau hyn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002.
Awdurdodau lleol rhagnodedig
3.
—(1) At ddibenion adran 44(9)(a) o'r Ddeddf, rhagnodir yr awdurdodau lleol canlynol yn yr achosion canlynol.
(2) Yn achos mabwysiad arfaethedig gan un person nad oes ganddo bellach gartref yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal yng Nghymru lle'r oedd cartref diwethaf y person hwnnw.
(3) Pan nad oes gan fabwysiadwyr arfaethedig gartref yng Nghymru bellach a hwythau wedi rhannu'r cartref diwethaf y bu ganddynt yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle'r oedd y cartref hwnnw.
(4) Pan nad oes gan y mabwysiadwyr arfaethedig gartref yng Nghymru bellach a hwythau heb rannu'r cartref diwethaf y bu gan y naill a'r llall yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol y mae'r mabwysiadwyr arfaethedig yn ei enwebu, sef yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal yng Nghymru lle'r oedd cartref diwethaf y naill neu'r llall o'r mabwysiadwyr.
(5) Pan fo dau fabwysiadydd arfaethedig ac nad oes gan y naill na'r llall gartref yng Nghymru ond y bu gan un ohonynt gartref neu gartrefi yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle'r oedd cartref diwethaf y person hwnnw yng Nghymru.
Gofyniad i gymryd camau i gael gwiriadau heddlu
4.
At ddibenion ymchwiliad a drefnir o dan adran 44(5) o'r Ddeddf, rhaid i'r awdurdod lleol gymryd camau i gael, o ran—
(a) y mabwysiadwyr arfaethedig, a
(b) unrhyw aelodau eraill o'u haelwyd sy'n 18 oed neu'n hyn,
dystysgrif cofnod troseddol manwl yn ôl ystyr "enhanced criminal record certificate" yn adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997[2] gan gynnwys y materion a bennir yn is-adran (6A) o'r adran honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Tachwedd 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer pobl sy'n dymuno mabwysiadu plentyn nad yw asiantaeth fabwysiadu wedi'i leoli gyda hwy.
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r awdurdod lleol priodol at ddibenion adran 44 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("Deddf 2002") pan fo'r mabwysiadwyr arfaethedig yn byw dramor adeg y maent yn dymuno gwneud cais am orchymyn mabwysiadu. Bydd hyn yn gymwys, er enghraifft, yn achos mabwysiadwyr arfaethedig sy'n aelodau o'r lluoedd arfog neu'r gwasanaethau diplomyddol sy'n gweithio dramor. Yn y fath achos, mae rheoliad 3 yn darparu mai'r awdurdod y mae'n rhaid iddynt roi hysbysiad iddo am eu bwriad i fabwysiadu yw'r awdurdod lleol yn yr ardal lle bu'r mabwysiadwyr arfaethedig yn byw ddiwethaf pan oeddent yn byw yng Nghymru. Os nad oedd y mabwysiadwyr arfaethedig yn byw gyda'i gilydd yng Nghymru, yna gallant ddewis pa awdurdod lleol o'r ddau ar gyfer yr ardaloedd lle bu gan y mabwysiadwyr arfaethedig eu cartref ddiwethaf yng Nghymru yw'r awdurdod lleol priodol.
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol at ddiben yr ymchwiliad y mae'n ofynnol iddo'i drefnu o dan adran 44(5) o Ddeddf 2002 gymryd camau i gael tystysgrifau cofnod troseddol manwl o ran y ddau fabwysiadydd arfaethedig ac aelodau eraill o'u haelwyd sy'n 18 oed neu'n hyn.
Notes:
[1]
2002 p.38.back
[2]
1997 p.50 .back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091222 5
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
18 November 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053113w.html