BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005 Rhif 3114 (Cy.234)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053114w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3114 (Cy.234)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 8 Tachwedd 2005 
  Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo dan adran 9, 11(2) a (3), 140(7) ac (8) a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Pŵer i godi am gyfleusterau sy'n cael eu darparu sy'n ymwneud â mabwysiadu gydag elfen dramor
     3. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cyfleusterau[4] yn cael eu darparu gan awdurdod lleol yng Nghymru mewn cysylltiad â—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff awdurdod lleol godi ffi ar bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) am ddarparu'r cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).

    (3) Y personau y ceir codi ffi arnynt yw—

    (4) Y cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

    (5) Rhaid i'r ffi—

    (6) Rhaid i'r awdurdod lleol, ar gais rhesymol y person y codir arno, ddarparu manylion am y dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r ffi.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi awdurdodau lleol i godi am gyfleusterau a ddarperir mewn amgylchiadau lle byddai codi am wasanaethau yn cael ei wahardd fel arall o dan adran 95 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Mae'r Rheoliadau yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

Mae rheoliad 3 yn ymwneud â chyfleusterau sy'n cael eu darparu gan awdurdodau lleol ynglŷn â mabwysiadu plant sydd yn arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain, yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 a Rheoliadau Mabwysiadu gydag Elfen Dramor 2005. Caiff awdurdod lleol godi ffi am ddarparu cyfleusterau o'r fath ar gyfer person sy'n dymuno mabwysiadu plentyn o'r fath neu ar gyfer person sydd wedi mabwysiadu plentyn o'r fath. Rhaid i'r ffi fod yn rhesymol a bod wedi'i chyfyngu i'r costau a'r treuliau a dynnwyd gan yr awdurdod lleol wrth ddarparu'r cyfleusterau. Rhaid iddi beidio â chynnwys unrhyw elfen sy'n ymwneud ag unrhyw adolygiad o ddyfarniad o gymhwyster o'i eiddo ar addasrwydd darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn.


Notes:

[1] 2002 p. 38.back

[2] O.S.2005/1313 (Cy.40)back

[3] O.S. 2005/392.back

[4] Rhaid dehongli "facilities" yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf.back

[5] Diffnnir "convention adoption" gan adran 66(1)(c) o'r Ddeddf.back

[6] Diffinnir "overseas adoption" gan adran 87(1) o'r Ddeddf.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091216 0


 © Crown copyright 2005

Prepared 16 November 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053114w.html