BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 3252 (Cy.245)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053252w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3252 (Cy.245)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 23 Tachwedd 2005 
  Yn dod i rym 25 Tachwedd 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3 a 4 o Ddeddf (Amwynder) Gwaredu Gwastraff 1978[1] ac adrannau 99 a 101 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984[2] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 25 Tachwedd 2005.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y rhannau o Gymru a ganlyn—

Diwygio Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986
     2. —(1) Diwygir Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986[7] fel a ganlyn:

    (2) Yn rheoliad 10 (cyfnod hysbysiad cyn symud ymaith i ddinistrio), yn lle "seven days" rhodder "24 hours".

    (3) Yn rheoliad 14 (perchennog yn symud cerbyd ymaith cyn ei waredu), yn lle'r geiriau ar ôl "to be the owner from their custody shall be" rhodder "7 days from the day when that notice is served on that person".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Tachwedd 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986 ("Rheoliadau 1986") yn darparu ar gyfer symud ymaith a gwaredu cerbydau o dan adrannau 3 a 4 o Ddeddf (Amwynder) Gwaredu Gwastraff 1978 ac adrannau 99 a 101 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1986 o ran Cymru (heblaw'r rhannau hynny o Groesfannau Hafren sydd yng Nghymru) er mwyn cwtogi'r cyfnod o rybudd a ragnodir gan Reoliadau 1986 mewn dau achos:—


Notes:

[1] 1978 p.3. Gweler adran 11(1) i gael y diffiniad o "prescribed".back

[2] 1984 p.27. Gweler adran 142(1) i gael y diffiniad o "prescribed".back

[3] Cafodd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol dan adrannau 3 a 4 o Ddeddf (Amwynder) Gwaredu Gwastraff 1978 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dan adrannau 99 a 101 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004, O.S. 2004/3044, erthygl 2 ac Atodlen 1.back

[4] 1992 p.3.back

[5] O.S. 1947/1562.back

[6] 1980 p.66.back

[7] O.S. 1986/183, y gwnaed diwygiadau perthnasol i'r Rheoliadau hyn, o ran Lloegr, gan O.S. 2002/746 ac o ran Yr Alban, gan O.S.A. 2002/538.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091230 6


 © Crown copyright 2005

Prepared 1 December 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053252w.html