BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 Rhif 3296 (Cy.254)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053296w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3296 (Cy.254)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005

  Wedi'u gwneud 30 Tachwedd 2005 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghoriad agored a thryloyw yn ystod y broses o baratoi'r Rheoliadau hyn, fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor[4], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2006.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

mae'n cynnwys milfeddyg swyddogol a chynorthwy-ydd swyddogol; ac

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd

Gwaharddiad ar roi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol hŷn
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl unrhyw gynnyrch—

    (2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal llaeth sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 rhag cael ei roi ar y farchnad.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990
    
4. Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990[8] yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

Arolygu cynhyrchion a chymryd meddiant ohonynt
     5. —(1) Caiff swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi perthnasol arolygu ar bob adeg resymol unrhyw gynnyrch sydd wedi'i roi ar y farchnad a bydd paragraffau (2) i (7) yn gymwys pan fo'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig, ar ôl cyflawni'r arolygiad hwnnw neu am unrhyw achos rhesymol arall, fod unrhyw berson wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 3 o ran unrhyw gynnyrch.

    (2) Caiff y swyddog awdurdodedig naill ai—

    (3) Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵ er a roddwyd gan baragraff (2)(a), rhaid i'r swyddog hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 21 niwrnod, benderfynu a yw wedi'i fodloni neu heb ei fodloni y cydymffurfiwyd â rheoliad 3 mewn perthynas â'r cynnyrch ac—

    (4) Pan fo swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵ er a roddwyd gan baragraff (2)(b) neu (3)(b), rhaid iddo hysbysu'r person sydd â gofal dros y cynnyrch o'i fwriad i drefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw ac—

    (5) Os yw'n ymddangos i ynad heddwch, ar sail y dystiolaeth y mae'n ei hystyried yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod methiant i gydymffurfio â rheoliad 3 wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo gondemnio'r cynnyrch a gorchymyn—

    (6) Os tynnir hysbysiad o dan baragraff (2)(a) yn ôl, neu os bydd yr ynad heddwch, y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag unrhyw gynnyrch o dan y rheoliad hwn, yn gwrthod ei gondemnio, rhaid i'r awdurdod gorfodi perthnasol dalu iawndal i berchennog y cynnyrch am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.

    (7) Rhaid i unrhyw gwestiwn sy'n destun dadl ynglŷn â hawl i gael unrhyw iawndal neu ynglŷn â swm unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) gael ei benderfynu drwy gymrodeddu.

Tramgwyddau a chosbau
    
6. —(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 3 neu'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad a roddir o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 yn euog o dramgwydd.

    (2) Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored—

    (3) Ni chaniateir cychwyn erlyniad am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i reoliad 3 neu fynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Gorfodi
    
7. Rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gweithredu a'u gorfodi—

Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995
    
8. Yn lle paragraff (3) o reoliad 3 (ystyr sgil-gynnyrch anifail) o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995[13] i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru rhodder y paragraff canlynol—

Dirymu
     9. Mae Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad (Cymru) 2005[15] wedi'u dirymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[16].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Tachwedd 2005



YR ATODLEN
Rheoliad 2(1)


DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL


Ystyr "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41") yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC[
17];

Ystyr "Penderfyniad 2005/598" ("Decision 2005/598") yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001[18];

Ystyr "Rheoliad 999/2001" ("Regulation 999/2001") yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol[19] fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad (EC) Rhif 932/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol o ran estyn y cyfnod ar gyfer mesurau trosiannol[20] ac fel y diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1292/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor[21];

Ystyr "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002") yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

Ystyr "Rheoliad 852/2004" ("Regulation 852/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd[22] fel y'i darllenir gyda Rheoliad A a Rheoliad B;

Ystyr "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid[23] fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad A, Rheoliad C a Rheoliad E;

Ystyr "Rheoliad 854/2004" ("Regulation 854/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl[24] fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 882/2004, Rheoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad C, Rheoliad D a Rheoliad E;

Ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio[25] fel y darllenir y Rheoliad hwnnw gyda Rheoliad C a Rheoliad E;

Ystyr "Rheoliad A" ("Regulation A") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 20 Gorffennaf 2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden;

Ystyr "Rheoliad B" ("Regulation B") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd;

Ystyr "Rheoliad C" ("Regulation C") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004, er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliadau (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 ac 854/2004;

Ystyr "Rheoliad D" ("Regulation D") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig; ac

Ystyr "Rheoliad E" ("Regulation E") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 5 Hydref 2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 ac 854/2004.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau penodol Reoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3501 (W.228) (Cy.228), a roes effaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22). Wrth wneud hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau bod yr Erthygl honno yn parhau i fod yn effeithiol o ran Cymru. Mae dirymu Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005 yn cael ei gyflawni gan reoliad 9 o'r Rheoliadau hyn.

     2. Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na chaniateir i gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 gael eu rhoi ar y farchnad.

     3. Rhoddir effaith bellach i'r gwaharddiad a gynhwysir yn Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn.

     4. Mae'r newidiadau a gyflawnir gan y Rheoliadau hyn— nad ydynt yn berthnasol i'r gwaharddiad a gynhwysir yn Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC- yn angenrheidiol yng ngoleuni'r ffaith bod Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3292 (W.252) (Cy.252), sy'n darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru offerynnau Cymunedol penodol ynghylch hylendid bwyd, yn dod i rym.

     5. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd—

     6. Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] O.S. 2003/1246.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back

[4] OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.back

[5] 1990 p.16.back

[6] 1984 p.22.back

[7] O.S. 1995/539, a ddirymwyd o 1 Ionawr 2006 ymlaen gan O.S. 2005/2059.back

[8] 1990 p. 16.back

[9] Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.back

[10] Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.back

[11] Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.back

[12] Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28), Atodlen 5, paragraff 16.back

[13] O.S. 1995/614, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/1955, O.S. 1996/3124, O.S. 1997/2073, O.S. 2000/656, O.S. 2002/1472 (Cy.146), O.S. 2003/1849 (Cy.199) ac O.S. 2005/3292 (Cy.252).back

[14] O.S. 2002/1416 (Cy.141), a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/2756 (Cy.267), O.S. 2004/2735 (Cy.242), O.S. 2005/1392 (Cy.106), ac O.S. 2005/2905 (Cy.205).back

[15] O.S. 2005/3051 (Cy.228). .back

[16] 1998 p.38.back

[17] OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back

[18] OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22.back

[19] OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1.back

[20] OJ Rhif L163, 23.6.2005, t.1.back

[21] OJ Rhif L205, 6.8.2005, t.3.back

[22] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).back

[23] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back

[24] OJ Rhif L155, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).back

[25] OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).back



English version



ISBN 0 11 091238 1


 © Crown copyright 2005

Prepared 13 December 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053296w.html