BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 30 (Cy.4)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060030w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 30 (Cy.4)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 10 Ionawr 2006 
  Yn dod i rym 11 Ionawr 2006 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 537A(1), (2) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2006.

Diwygio Rheoliadau
    
2. —(1) Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2, yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniadau newydd canlynol—

    (3) Yn rheoliad 2, yn lle'r diffiniad o "disgybl chweched dosbarth" rhodder—

    (4) Yn Rhan 1 o'r Atodlen, ym mharagraff 5, hepgorer "ac, os felly, gyda phwy".

    (5) Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ym mharagraff 1 yn lle "disgybl chweched dosbarth yn yr ysgol" rhodder "person sydd, neu a oedd, ar unrhyw adeg blaenorol yn ystod y flwyddyn ysgol y cafodd y cais am yr wybodaeth ei wneud ynddi, yn ddisgybl yn chweched dosbarth yr ysgol".

    (6) Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ym mharagraff 1(c) ar ôl "ddechrau" mewnosoder "a diwedd".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Ionawr 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 ("Rheoliadau 2003") drwy wneud y canlynol—


Notes:

[1] 1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), adran 20, ac fe'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 153. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2003/3237 (Cy.137), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/35 (Cy.2).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091252 7


 © Crown copyright 2006

Prepared 13 January 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060030w.html