BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cofrestrau) (Cymru) 2006 Rhif 42 (Cy.8)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060042w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 42 (Cy.8)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cofrestrau) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 10 Ionawr 2006 
  Yn dod i rym 15 Ionawr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 31A a 121B o Ddeddf Priffyrdd 1980 ("Deddf 1980")[1] ac adran 53B o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ("Deddf 1981")[2], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cofrestrau) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 15 Ionawr 2006.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn—

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

Cymhwyso
    
2. —(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru fel a nodir yn y rheoliad hwn.

    (2) O ran cofrestr adran 31A, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo map a datganiad—

    (3) O ran cofrestr adran 53B, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo cais yn cael ei wneud o dan adran 53(5) o Ddeddf 1981—

    (4) O ran cofrestr adran 121B, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gais y mae adran 121B o Ddeddf 1980 yn gymwys iddo.

Y dogfennau a'r wybodaeth sydd i'w cynnwys ar gofrestr
    
3. —(1) Pan fo map a datganiad y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn cael eu hadneuo gydag awdurdod, neu fod mynegiad y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn cael ei gyflwyno, neu fod cais y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn cael ei wneud, i awdurdod, mae'r awdurdod hwnnw—

    (2) Rhaid i'r gofrestr gynnwys—

Y gofrestr adran 53B
    
4. —(1) Yn ychwanegol at yr wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 3, rhaid i awdurdod gynnwys yn ei gofrestr adran 53B—

    (2) O ran cais y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo—

Y gofrestr adran 121B
    
5. —(1) Yn ychwanegol at yr wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 3, rhaid i'r awdurdod gynnwys yn ei gofrestr adran 121B—

Fformat y cofrestrau
    
6. —(1) Rhaid i gofrestr gael ei chadw ar ffurf electronig ac ar ffurf papur.

    (2) Rhaid i'r fersiwn bapur o'r gofrestr honno gael ei chadw ym mhrif swyddfa'r awdurdod.

    (3) O ran cofrestr—

    (4) O ran y fersiwn electronig o'r gofrestr, rhaid i'r awdurdod—

    (5) Rhaid i awdurdod gadw'r gofrestr mewn ffordd sy'n addas i ganiatáu i gopi o unrhyw rai o'r manylion sydd wedi'u cynnwys yn y gofrestr gael ei gymryd gan neu ar gyfer unrhyw berson sy'n gofyn am gopi yn bersonol ym mhrif swyddfa'r awdurdod.

Atal gwybodaeth o'r cofrestrau
    
7. Pan fo'r awdurdod wedi'i fodloni bod cynnwys neu gadw enw a chyfeiriad person yn y gofrestr yn achosi, neu'n debygol o achosi, niwed sylweddol neu ofid sylweddol i'r person hwnnw neu i berson arall, rhaid i'r awdurdod dynnu'r manylion hynny oddi ar y gofrestr, neu beidio â'u cynnwys ynddo, a rhaid iddo eu tynnu allan o unrhyw ddogfennau sydd wedi'u cynnwys, neu a gaiff eu cynnwys, yn y gofrestr.

Diweddaru'r cofrestrau
    
8. Rhaid i gofnod mewn cofrestr sy'n ymwneud â materion a nodwyd yn rheoliad 3 gael ei wneud cyn pen 28 diwrnod ar ôl—

a rhaid i'r gofrestr gael ei diweddaru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (ond nid cyn 1 Gorffennaf 2006 beth bynnag) i gymryd i ystyriaeth unrhyw un o'r materion a nodwyd ym mharagraffau rheoliadau 4 a 5.

Cywiro gwallau
    
9. Rhaid i awdurdod ddiwygio'r gofrestr, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, os yw wedi'i fodloni bod y gofrestr yn cynnwys gwall o bwys.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Ionawr 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi cynnwys yr wybodaeth sy'n ymwneud â cheisiadau, mynegiadau a dogfennau cysylltiedig o ran hawliau tramwy cyhoeddus ac sydd i'w chadw, a'r ffordd y mae'r wybodaeth honno i'w chadw, ar gofrestrau a sefydlir ac a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddo gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ("Deddf 1981") (fel y'i mewnosodwyd gan baragraff 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("Deddf CGHT")) a Deddf Priffyrdd 1980 ("Deddf 1980") (fel y'i mewnosodwyd gan baragraffau 4 a 15 o Atodlen 6 i Ddeddf CGHT).

Bydd y cofrestrau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â cheisiadau a wnaed, a mynegiadau a gyflwynwyd, i'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol dros hawliau tramwy cyhoeddus yn yr ardal o dan sylw, ac yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â dogfennau a adneuwyd gyda'r awdurdod hwnnw.

O dan adran 31A o Ddeddf 1980 (a fewnosodwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf CGHT) mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chadw cofrestr sy'n cynnwys gwybodaeth am fapiau a datganiadau a adneuwyd, a datganiadau a gyflwynwyd, gan berchenogion tir mewn perthynas â hawliau tramwy cyhoeddus ar eu tir. Mae mapiau, datganiadau a mynegiadau o'r fath yn galluogi perchenogion tir i gydnabod yn ffurfiol fodolaeth hawliau tramwy cyhoeddus dros eu tir ac, wrth wneud hynny, yn creu rhagdybiaeth nad oes bwriad i gyflwyno unrhyw lwybrau pellach dros eu tir.

O dan adran 53B o Ddeddf 1981 (a fewnosodwyd gan baragraff 2 o Atodlen 5 i Ddeddf CGHT) mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chadw cofrestr o'r ceisiadau a wneir iddo ac sy'n gofyn am newidiadau i'w fap diffiniol neu ddatganiad, sef y dogfennau hynny sy'n ffurfio cofnod swyddogol yr awdurdod o'i hawliau tramwy cyhoeddus.

O dan adran 121B o Ddeddf 1980 (a fewnosodwyd gan baragraff 15 o Atodlen 6 i Ddeddf CGHT) mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chadw cofrestr o'r ceisiadau a wneir iddo gan berchenogion, lesddeiliaid neu feddianwyr unrhyw dir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth neu ar gyfer bridio neu gadw ceffylau, ar gyfer gorchmynion dileu llwybrau cyhoeddus a gorchmynion gwyro.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n ofynnol ei chofnodi ar bob un o'r tair cofrestr.

Mae rheoliadau 4 a 5 yn rhagnodi gwybodaeth bellach sydd i'w chofnodi mewn perthynas â chofrestr adran 53B a chofrestr adran 121B yn ôl eu trefn.

Mae rheoliadau 6 i 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y ffordd y mae'r cofrestrau i'w cadw, gan gynnwys y ddyletswydd sydd ar awdurdod i dynnu oddi ar gofrestr enw a chyfeiriad unrhyw berson os byddai peidio â gwneud hynny yn achosi niwed neu ofid (rheoliad 7).

Diben y cofrestrau yw cynyddu gwybodaeth ymhlith perchenogion tir a'r cyhoedd am faterion a allai arwain at newidiadau i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus; osgoi dyblygu pan fo mwy nag un person efallai yn ystyried gwneud cais i awdurdod lleol am yr un newid i'r map diffiniol a'r datganiad; cynyddu sicrwydd ynghylch pa lwybrau neu ffyrdd y mae perchenogion tir yn bwriadu eu cyflwyno fel hawliau tramwy cyhoeddus; a chynorthwyo awdurdodau lleol i reoli eu swyddogaethau o ran hawliau tramwy cyhoeddus.


Notes:

[1] 1980 p.66, fel y'i mewnosodwyd yn eu tro gan adran 57 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37), a pharagraffau 4 a 15 o Atodlen 6 iddi.back

[2] 1981 p.69, fel y'i mewnosodwyd gan adran 51 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 a pharagraff 2 o Atodlen 5 iddi.back

[3] Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo ac adran 99 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091250 0


 © Crown copyright 2006

Prepared 13 January 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060042w.html