BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 174 (Cy.25)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Penderfynu Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
31 Ionawr 2006 [b] | |
|
Yn dod i rym |
1 Chwefror 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 89(2), (2A), (8), (8A), 89A(3), 138(7) a 144(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1], ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Penderfynu Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Penderfynu Trefniadau Derbyn) 1999[3], o ran Cymru.
Dehongli
3.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "adran", ("section") onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yw adran o'r Ddeddf.
mae i "ardal berthnasol" yr ystyr sydd i "relevant area" yn Rheoliadau Addysg (Ardaloedd perthnasol i Ymgynhori ar Drefniadau Derbyn) 1999[4];
ystyr "awdurdod addysg" ("education authority") yw awdurdod addysg lleol;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr "y flwyddyn benderfynu" ("the determination year") mewn perthynas â threfniadau derbyn arfaethedig ysgol, yw'r flwyddyn ysgol sy'n dechrau ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol y mae'r trefniadau ar ei chyfer;
ystyr "nifer derbyn" ("admission number") yw'r nifer o ddisgyblion mewn unrhyw grŵp oedran perthnasol y bwriedir eu derbyn yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol, fel a benderfynir gan awdurdod derbyn yn unol ag adran 89A(1);
ystyr "nifer derbyn a nodir" ("indicated admission number") yw nifer y disgyblion mewn unrhyw grŵp oedran perthnasol y cyfeirir ato felly yn y dull asesu capasiti ac a benderfynir yn unol â'r dull hwnnw a geir yn y canllawiau "Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru"[5], neu, os dyna ddymuniad yr awdurdod derbyn, ei ystyr mewn cysylltiad â'r flwyddyn benderfynu 2008-2009 yw nifer y disgyblion mewn unrhyw grŵp oedran perthnasol y cyfeirir ato felly yn y dull capasiti a geir yn "Y Cyflenwad o Leoedd Ysgol yng Nghymru"[6], neu a benderfynwyd yn unol â'r dull hwnnw;
ystyr "ysgol" ("school") yw ysgol a gynhelir.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, dylid trin trefniadau derbyn ysgol fel pe baent ar gyfer y flwyddyn ysgol benodol y caiff disgyblion eu derbyn i'r ysgol ynddi, a hynny o ganlyniad i'r trefniadau.
Penderfynu trefniadau derbyn
4.
—(1) Rhaid i bob awdurdod derbyn ysgol, wrth benderfynu ar ei drefniadau derbyn o dan adran 89 o'r Ddeddf, ystyried y nifer derbyn cyfredol a nodir wrth benderfynu ar nifer derbyn pob grŵp oedran perthnasol.
(2) O ran trefniadau derbyn arfaethedig ysgol ar gyfer pob blwyddyn ysgol, rhaid i bob awdurdod derbyn ysgol, ac eithrio pan fydd rheoliad 7 yn gymwys, gymryd yr holl gamau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau y bydd wedi cwblhau'r ymgynghori sy'n ofynnol gan adran 89(2), a hynny cyn 1 Mawrth yn y flwyddyn benderfynu. Rhaid peidio â chychwyn ar yr ymgynghori hwnnw cyn dechrau'r flwyddyn benderfynu.
(3) Yn ogystal, rhaid i'r awdurdodau derbyn hynny gymryd yr holl gamau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau y byddant wedi penderfynu'r trefniadau derbyn hynny rhwng 1 Medi a 15 Ebrill yn y flwyddyn benderfynu.
Ymgynghori gan awdurdodau derbyn ysgolion cynradd
5.
Mewn perthynas â threfniadau derbyn arfaethedig ysgol gynradd, at ddibenion adran 89(2)(b), mae'n ofynnol i awdurdod derbyn ymgynghori ag awdurdodau derbyn ysgolion eraill yn yr ardal berthnasol dim ond os ydynt yn awdurdodau ysgolion cynradd.
Gofynion ymgynghori ychwanegol
6.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi awdurdodau derbyn yr ysgolion y dylid ymghynghori â hwy am drefniadau derbyn arfaethedig yn rhinwedd adran 89(2)(d).
(2) Os awdurdod addysg yw awdurdod derbyn ysgol, rhaid iddo ymghynghori â phob awdurdod addysg cyffiniol.
(3) At ddibenion paragraff (2), bydd awdurdod addysg yn "gyffiniol" i awdurdod addysg arall os yw ardaloedd y ddau awdurdod yn cyffinio o gwbl.
(4) Os corff llywodraethu yw awdurdod derbyn ysgol, rhaid iddo ymghynghori (i'r graddau nad yw eisoes yn ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd adran 89(2)(a) neu (b)) ag unrhyw awdurdod addysg sydd ag unrhyw ran o'i ardal un ai o fewn yr ardal berthnasol, o ran ymgynghori ar y trefniadau arfaethedig, neu'n cyffinio â hi.
Atal y gofynion i ymgynghori dros dro
7.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 89(2A), yr amodau pan na fydd yn ofynnol i gorff llywodraethu sy'n awdurdod derbyn ysgol ymgynghori fel sy'n ofynnol o dan adran 89(2) mewn unrhyw flwyddyn benderfynu.
(2) Dyma'r amodau—
(a) bod y corff llywodraethu wedi ymgynghori, fel sy'n ofynnol o dan adran 89(2) mewn perthynas â threfniadau derbyn arfaethedig yr ysgol, yn ystod y flwyddyn benderfynu flaenorol, neu, os nad oedd ymgynghori'n ofynnol yn y flwyddyn honno oherwydd y rheoliad hwn, yn ystod y flwyddyn benderfynu a ddechreuodd ddwy flynedd cyn y flwyddyn benderfynu dan sylw; a
(b) bod y corff llywodraethu yn bwriadu penderfynu'r un trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgol â'r rhai a benderfynwyd yn y flwyddyn benderfynu y cynhaliwyd yr ymgynghori yn ei chylch, fel y cyfeirir ati yn is-baragraff (a); ac
(c) na wnaed gwrthwynebiad i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 90(1) neu (2) am y trefniadau derbyn a oedd yn yr arfaeth gan y corff llywodraethu yn ystod unrhyw un o'r pum mlynedd flaenorol.
(3) Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys oni bai bod yr awdurdod addysg sy'n cynnal yr ysgol wedi rhoi'r hysbysiad perthnasol i'r Cynulliad Cenedlaethol o ran blwyddyn ysgol gymwys, a hynny mewn perthynas â'r flwyddyn benderfynu y cynhaliwyd yr ymgynghori yn ei chylch, fel y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a).
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr "blwyddyn ysgol gymwys" ("qualifying school year") yw'r flwyddyn ysgol 2008-2009 neu unrhyw flwyddyn ysgol ar ôl hynny;
ystyr "yr hysbysiad perthnasol" ("the relevant notification") yw hysbysiad bod yr holl awdurdodau derbyn yn yr ardal berthnasol wedi ymgynghori, fel sy'n ofynnol o dan adran 89(2), mewn perthynas â'u trefniadau derbyn arfaethedig.
Materion y dylai'r ymgynghori ymwneud â hwy
8.
—(1) Rhaid i'r ymgynghori o dan adran 89(2) ymwneud â'r holl drefniadau (gan gynnwys y polisi derbyn yn ei gyfanrwydd) y mae'r awdurdod derbyn yn bwriadu eu penderfynu fel trefniadau derbyn yr ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol arbennig honno, ac eithrio unrhyw drefniadau esempt.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae trefniadau derbyn yn esempt (os o gwbl) i'r graddau—
(a) bod adran 89 wedi'i heithrio gan adran 103(1) a (2) rhag bod yn gymwys ar gyfer eu penderfynu (darparu neu roi'r gorau i ddarparu ar gyfer dethol sy'n cyfrif fel newid rhagnodedig at ddibenion adran 28);
(b) (ar wahân i'r achosion pan fo is-baragraff (a) yn gymwys) eu bod yn gwneud darpariaeth o fath a fyddai, pan wneir hi am y tro cyntaf mewn ysgol a oedd heb y ddarpariaeth honno o'r blaen, yn creu newid rhagnodedig at ddibenion adran 28.
Dull yr ymgynghori
9.
—(1) At ddibenion ymgynghori o dan adran 89(2), rhaid i awdurdod derbyn gyfathrebu ei gynigion, drwy anfon, o leiaf gopi ysgrifenedig o'r trefniadau derbyn arfaethedig at bob awdurdod derbyn y mae'n ofynnol iddo ymgynghori ag ef, gan wahodd eu sylwadau.
(2) Er gwybodaeth, rhaid i'r copi ysgrifenedig a anfonir o'r trefniadau arfaethedig gynnwys unrhyw drefniadau esempt fel y'u diffinnir yn rheoliad 8; ond, os yw'n dymuno hynny, caiff yr awdurdod derbyn ddangos ar y copi ysgrifenedig, drwy unrhyw fodd priodol, na ofynnir am sylwadau ar y ddarpariaeth honno.
(3) Caniateir cyfathrebu o dan baragraff (1) drwy drosglwyddo'r copi ysgrifenedig o'r trefniadau ar ffurf electronig, ac eithrio pan fydd lle i gredu na all y derbynnydd bwriadedig ei ddefnyddio ar y ffurf honno.
Y dull o hysbysu am drefniadau derbyn
10.
—(1) Wrth hysbysu'r trefniadau derbyn y mae wedi eu penderfynu ar gyfer ysgol o dan adran 89(4), rhaid i awdurdod derbyn—
(a) rhoi'r hysbysiad yn ysgrifenedig i bob un o'r cyrff priodol fel y'u diffinnir yn adran 89(10); a
(b) cynnwys copi ysgrifenedig cyflawn o'r trefniadau derbyn a benderfynwyd os bydd y trefniadau a benderfynwyd yn wahanol mewn unrhyw ffordd (yn ddarostyngedig i baragraff (2)) i'r trefniadau arfaethedig yr ymgynghorwyd arnynt â'r cyrff hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b), rhaid diystyru'r gwahaniaeth rhwng y trefniadau arfaethedig a'r trefniadau a benderfynwyd os yw'n ymwneud yn unig â threfniadau esempt fel y'u diffinnir yn rheoliad 8.
(3) Caniateir hysbysu o dan baragraff (1) o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y penderfynodd yr awdurdod derbyn y trefniadau derbyn dan sylw.
(4) Caniateir hysbysu o dan baragraff (1) drwy drosglwyddo'r hysbysiad ar ffurf electronig, ac eithrio pan fydd lle i gredu na all y derbynnydd bwriadedig ei ddefnyddio ar y ffurf honno.
Yr amgylchiadau pan fydd angen cyhoeddi yn ychwanegol
11.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn unrhyw achos pan fydd—
(a) trefniadau derbyn ysgol a benderfynwyd gan awdurdod derbyn yn cynnwys trefniadau dethol sydd eisoes yn bodoli;
(b) y nifer derbyn a benderfynwyd ar gyfer unrhyw grŵp oedran perthnasol mewn ysgol yn is na'r nifer derbyn cyfredol a nodir ar gyfer y grŵp oedran hwnnw.
(2) At ddibenion paragraff (1)(a)—
(a) ystyr "trefniadau dethol" ("selection arrangements") yw'r trefniadau hynny (os oes rhai) yn y trefniadau derbyn a benderfynwyd ar gyfer ysgol o ran blwyddyn ysgol benodol sy'n darparu ar gyfer dethol disgyblion yn ôl eu gallu o fewn ystyr adran 99(5); a
(b) rhaid ystyried bod trefniadau dethol yn rhai sydd eisoes yn bodoli os ydynt—
(i) yn parhau o'r ddarpariaeth a wnaed yn nhrefniadau derbyn yr ysgol dan sylw ar ddechrau blwyddyn ysgol 1997-1998 ac a wnaed yn nhrefniadau derbyn olynol yr ysgol byth oddi ar hynny, a
(ii) yn llwyr ddibynnol ar adran 100 am eu cyfreithlondeb.
(3) At ddibenion paragraff (2)(b)(ii), dylid ystyried bod trefniadau dethol yn rhai sy'n llwyr ddibynnol ar adran 100 am eu cyfreithlondeb os na chânt eu gwneud yn gyfreithlon yn rhinwedd adran 99(1)(b) neu (2)(c) (dosbarthiadau chwech), ac adran 101 (bandio disgyblion).
(4) Pan fo paragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod derbyn gyhoeddi'r wybodaeth a ganlyn mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal leol yr ysgol, sef—
(a) enw'r awdurdod derbyn, ac enw'r ysgol neu'r ysgolion y mae'r darpariaethau dethol yn gymwys ar gyfer derbyn disgyblion iddi neu iddynt;
(b) y ffaith bod trefniadau derbyn sy'n darparu ar gyfer dethol disgyblion wedi'u penderfynu, a datganiad i grynhoi effaith y trefniadau dethol;
(c) y ffaith y gall rhieni sy'n byw yn yr ardal berthnasol gyfeirio gwrthwynebiad am y trefniadau dethol at y Cynulliad Cenedlaethol [7];
(ch) cyfeiriad y Cynulliad Cenedlaethol a'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon y gwrthwynebiad ato;
(d) y ffaith y gellir cael gwybodaeth ychwanegol am y trefniadau dethol neu am hawl rhieni i wrthwynebu oddi wrth yr awdurdod derbyn, gan gynnwys y cyfeiriad a'r Rhif ffôn ar gyfer cysylltu.
(5) Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod derbyn gyhoeddi'r wybodaeth a ganlyn mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal leol yr ysgol, sef—
(a) enw'r awdurdod derbyn, ac enw'r ysgol neu'r ysgolion y penderfynwyd nifer derbyn is na'r nifer derbyn cyfredol a nodir ar gyfer grŵp oedran perthnasol ar ei chyfer neu ar eu cyfer;
(b) y nifer derbyn cyfredol a nodir o ran pob grŵp oedran perthnasol y bu i'r awdurdod derbyn ei ystyried wrth iddo benderfynu nifer derbyn is;
(c) y nifer derbyn a benderfynwyd o ran pob grŵp oedran perthnasol sy'n is na'r nifer derbyn cyfredol a nodir ar gyfer y grŵp oedran hwnnw;
(ch) rhesymau'r awdurdod derbyn dros benderfynu ar nifer derbyn sy'n is na'r nifer derbyn cyfredol a nodir;
(d) y ffaith bod gan rieni sy'n byw yn yr ardal berthnasol yr hawl i gyfeirio gwrthwynebiad am y nifer derbyn at y Cynulliad Cenedlaethol;
(dd) cyfeiriad y Cynulliad Cenedlaethol a'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon y gwrthwynebiad ato;
(e) y ffaith y gellir cael gwybodaeth ychwanegol am y nifer derbyn neu am hawl rhieni i wrthwynebu oddi wrth yr awdurdod derbyn, gan gynnwys y cyfeiriad a'r Rhif ffôn ar gyfer cysylltu.
(6) Rhaid cyhoeddi'r wybodaeth a nodwyd ym mharagraffau (4) a (5) yn y dull a nodwyd o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pryd y penderfynodd yr awdurdod derbyn y trefniadau derbyn.
Darparu gwybodaeth ychwanegol
12.
—(1) Rhaid i awdurdod derbyn y mae'n ofynnol iddo gyhoeddi gwybodaeth o dan reoliad 11 hefyd ddarparu'r wybodaeth a ganlyn i unrhyw berson yn rhad ac am ddim, os gofynnir amdani—
(a) (mewn unrhyw achos pan fydd rheoliad 11(1)(a) yn gymwys) gopi o'r trefniadau dethol ac o unrhyw ran arall o'r trefniadau derbyn sy'n berthnasol iddynt;
(b) (mewn unrhyw achos pan fydd rheoliad 11(1)(b) yn gymwys) fanylion am yr asesiad o nifer derbyn cyfredol a nodir ar gyfer yr ysgol, sy'n ymwneud ag unrhyw grŵp oedran perthnasol y penderfynwyd nifer derbyn is ar ei gyfer;
(c) datganiad ysgrifenedig o wybodaeth am hawl rhieni i wrthwynebu, fel a bennwyd ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r wybodaeth y mae'n rhaid ei darparu o dan baragraff (1)(c)—
(a) datganiad sy'n esbonio effaith adran 90(2);
(b) yr ardal berthnasol a oedd yn gymwys i ymgynghoriad yr awdurdod derbyn ar y trefniadau derbyn;
(c) esboniad o'r gofynion a ganlyn sy'n gymwys i wrthwynebiad gan riant—
(i) y gofyniad na chaiff rhiant gyfeirio gwrthwynebiad ond os yw'n ymwneud â threfniadau dethol (o fewn yr ystyr sydd i hynny yn rheoliad 11(2)(a)) a oedd eisoes yn bodoli, neu os yw'n ymwneud â phenderfynu ar nifer derbyn sy'n is na'r nifer derbyn a nodir,
(ii) disgrifiad o'r rhiant sydd â'r hawl i anfon gwrthwynebiad, a
(iii) y gofyniad bod yn rhaid i nifer penodol o rieni anfon gwrthwynebiad neu wrthwynebiadau sydd, yn eu sylwedd, yn codi'r un mater cyn y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei benderfynu neu eu penderfynu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Addysg (Penderfynu Trefniadau Derbyn) 1999 er mwyn adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Addysg 2002 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") mewn perthynas â threfniadau derbyn ysgolion. Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r weithdrefn y dylai awdurdodau derbyn ei dilyn wrth benderfynu ar eu trefniadau derbyn, gan gynnwys y prosesau ymgynghori a hysbysu.
Mae adran 89 o Ddeddf 1998 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod derbyn pob ysgol a gynhelir benderfynu trefniadau derbyn yr ysgol ar gyfer pob blwyddyn ysgol yn unol â'r gofynion a nodir yn yr adran honno. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer nifer o ddibenion sy'n ymwneud â gofynion adran 89.
Mae rheoliad 3 yn cynnwys diffiniadau o dermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod derbyn gwblhau'r broses ymgynghori sy'n ofynnol gan adran 89 o Ddeddf 1998 cyn 1 Mawrth yn y flwyddyn benderfynu (y flwyddyn ysgol sy'n dechrau ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol pan gaiff y disgyblion eu derbyn). Rhaid i'r ymgynghori beidio â mynd rhagddo cyn dechrau'r flwyddyn benderfynu, a rhaid i awdurdodau derbyn benderfynu'r trefniadau derbyn rhwng 1 Medi a 15 Ebrill yn y flwyddyn benderfynu.
Mae dyletswydd newydd i ystyried y nifer derbyn a nodir ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol wrth benderfynu ar nifer y disgyblion sydd i'w derbyn mewn unrhyw flwyddyn ysgol, ac mewn unrhyw grŵp oedran perthnasol.
Ystyr y nifer derbyn a nodir yw'r nifer a gyfrifir yn unol â'r dull asesu capasiti yn y canllawiau ‘Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru' a geir ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.dysgu.cymru.gov.uk. [a]
Pan fo'r trefniadau derbyn yn ymwneud ag ysgol gynradd, mae rheoliad 5 yn darparu nad yw'r ddyletswydd o dan adran 89(2)(b) o Ddeddf 1998 i ymgynghori gydag awdurdodau derbyn eraill yn yr "ardal berthnasol" ond yn gymwys i awdurdodau ysgolion cynradd eraill.
Mae rheoliad 6 yn pennu'r ymgynghori ychwanegol sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 89(2)(d). Rhaid i awdurdod derbyn sy'n awdurdod addysg lleol ymghynghori â phob awdurdod addysg lleol cyffiniol. Rhaid i awdurdod derbyn sy'n gorff llywodraethu ysgol ymghynghori ag unrhyw awdurdod addysg lleol y mae ei ardal yn dod o fewn yr ardal berthnasol ar gyfer ymgynghori neu'n cyffinio â hi.
Mae rheoliad 7 yn rhoi pŵer newydd i gorff llywodraethu sydd hefyd yn awdurdod derbyn i atal dros dro y gofynion ymgynghori o dan amgylchiadau penodol. Datgymhwysir y gofynion os ymghynghorodd y corff llywodraethu ar ei drefniadau arfaethedig o fewn y ddwy flynedd benderfynu flaenorol, os nad yw'r trefniadau derbyn hynny wedi eu newid, ac os na wnaed unrhyw wrthwynebiad i'r Cynulliad Cenedlaethol am drefniadau derbyn y corff yn ystod y pum mlynedd flaenorol. Yn ogystal, rhaid i'r AALl sy'n cynnal yr ysgol fod wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol i'r holl awdurdodau derbyn yn yr ardal berthnasol gyflawni'r ymgynghori sy'n ofynnol ar gyfer y flwyddyn benderfynu sy'n ymwneud â'r flwyddyn ysgol 2008-2009 neu ar gyfer unrhyw flwyddyn ysgol ar ôl hynny.
Mae rheoliad 8 yn darparu bod yn rhaid i'r ymgynghori ymwneud â'r holl drefniadau derbyn arfaethedig, ar wahân i unrhyw "trefniadau esempt", sef trefniadau nad oes modd eu cyflwyno na'u newid ac eithrio drwy gynigion statudol.
Mae rheoliad 9 yn darparu bod yn rhaid i'r awdurdod derbyn anfon copi ysgrifenedig o'i drefniadau derbyn arfaethedig at bob awdurdod derbyn y mae'n ofynnol iddo ymghynghori ag ef, gan wahodd eu sylwadau. Rhaid i unrhyw drefniadau esempt gael eu cynnwys yn y ddogfen ymgynghori ysgrifenedig honno (er gwybodaeth yn unig).
Yn rheoliad 10, ceir y gofynion ar gyfer hysbysu awdurdodau derbyn eraill o'r trefniadau a benderfynir yn derfynol. Rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig o fewn 14 o ddiwrnodau i'r dyddiad y gwnaed y penderfyniad. Mae gofyniad newydd i hysbysu'r holl gyrff priodol yr oedd ganddynt yr hawl bod yr awdurdod derbyn yn ymghynghori â hwy, hyd yn oed os nad ymgynghorwyd â hwy oherwydd bod y gofynion ymgynghori wedi'u hatal dros dro yn unol â rheoliad 7.
Yn ogystal, mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi manylion am drefniadau derbyn sy'n darparu ar gyfer dethol disgyblion yn ôl eu gallu, a hynny mewn papur newydd lleol. Mae hefyd yn cynnwys gofyniad newydd i gyhoeddi gwybodaeth ychwanegol pan fydd yr awdurdod derbyn wedi penderfynu nifer derbyn ar gyfer grŵp oedran perthnasol sy'n is na'r nifer derbyn cyfredol a nodir ar gyfer y grŵp oedran hwnnw. Rhaid i'r manylion sydd i'w cyhoeddi gynnwys esboniad am hawl rhieni i wrthwynebu'r trefniadau dethol hynny neu'r nifer derbyn is hwnnw i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod derbyn, y mae'n rhaid iddo gyhoeddi gwybodaeth ychwanegol o dan reoliad 11, ddarparu manylion pellach am ei drefniadau derbyn ac am hawl rhieni i wrthwynebu os gofynnir amdanynt.
Notes:
[1]
1998 p.31. Amnewidiwyd is-adrannau (2) a (2A) o adran 89, diwygiwyd is-adran (8) a mewnosodwyd is-adran (8A) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) a pharagraff 5(1), (2), (4) a (5) o Atodlen 4 iddi. Mewnosodwyd adran 89A(3) gan adran 47(2) o Ddeddf Addysg 2002. I gael gweld ystyr "prescribed" a "regulations", gweler adran 142 o Ddeddf 1998.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.back
[3]
O.S. 1999/126.back
[4]
O.S. 1999/124.back
[5]
Mae'r canllaw yma ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.dysgu.cymru.gov.uk.back
[6]
Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 13/95.back
[7]
Is-adran Rheolaeth Ysgolion 3.back
[8]
1998 p.38.back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 2; yn llinell olaf ail baragraff y Nodyn Esboniadol Cymraeg dylai "www.dysgu.gov.uk" ddarllen "www.dysgu.cymru.gov.uk"; a back
[b] Amended by Correction Slip. Tudalen 4; dylai'r dyddiad gwneud ddarllen, "31 Ionawr 2006". back
English version
ISBN
0 11 091265 9
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
6 February 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060174w.html