BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio a Diwygiad Canlyniadol) (Cymru) 2006 Rhif 181 (Cy.32)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060181w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 181 (Cy.32)

GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio a Diwygiad Canlyniadol) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 31 Ionawr 2006 
  Yn dod i rym, ac eithrio
  ar gyfer rheoliad 39(11) 1 Chwefror 2006 
  Rheoliad 39(11) 1 Awst 2006 


TREFN Y RHEOLIADAU

1. Enwi, cychwyn a chymhwyso

RHAN 1

Rhestr Atodol
2. Dehongliad
3. Rhestr Atodol
4. Cais am gynnwys enw ymarferydd ar y rhestr atodol
5. Aildderbyn
6. Penderfyniadau a sail dros apelio
7. Gohirio penderfyniad ynglyn â chais
8. Cynnwys yn amodol
9. Gofynion y mae'n rhaid i ymarferydd ar y rhestr atodol gydymffurfio â hwy
10. Tynnu oddi ar y rhestr atodol
11. Meini prawf ar gyfer penderfyniad i dynnu oddi ar y rhestr atodol
12. Tynnu'n amodol oddi ar y rhestr
13. Atal dros dro
14. Adolygiadau
15. Apeliadau
16. Hysbysiad
17. Diwygio neu dynnu enwau yn ôl o restri atodol l
18. Cyfyngu ar dynnu enwau yn ôl o restri
19. Adolygu cyfnodau ar gyfer anghymhwysiad cenedlaethol
20. Datgelu gwybodaeth
21. Darpariaethau trosiannol

RHAN 2

Diwygiadau i'r Rheoliadau Offthalmig
22. Dehongli
23. Diwygio rheoliad 2
24. Diwygio rheoliad 6
25. Diwygio rheoliad 7
26. Diwygio rheoliad 7A
27. Diwygio rheoliad 7B
28. Diwygio rheoliad 7C
29. Diwygio rheoliad 7D
30. Diwygio rheoliad 8
31. Diwygio rheoliad 9
32. Diwygio rheoliad 9B
33. Diwygio rheoliad 9C
34. Diwygio rheoliad 9D
35. Diwygio rheoliad 9E
36. Diwygio rheoliad 9F
37. Diwygio rheoliad 9G
38. Mewnosod rheoliad 9I
39. Diwygio Atodlen 1
40. Diwygio Atodlen 1A
41. Darpariaethau trosiannol

RHAN 3

Diwygiadau Canlyniadol i'r Rheoliadau Costau a Thaliadau
42. Dehongli
43. Diwygio rheoliad 1 o'r Rheoliadau Costau a Thaliadau
44. Diwygio rheoliadau 4 a 6 o'r Rheoliadau Costau a Thaliadau.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 38, 39, 43ZA, 43D, 49F, 49I, 49M, 49N, 49O, 49P, 49Q, 49R, a 126(4) o'r Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol [
1] ac adran 65 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio a Diwygiad Canlyniadol) 2006 ac, ar wahân i reoliad 39(11), byddant yn dod i rym ar 1 Chwefror 2006.

    (2) Bydd Rheoliad 39(11) yn dod i rym ar 1 Awst 2006.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.



RHAN 1

Rhestr Atodol

Dehongliad
    
2. —(1) Yn y Rhan hon—

a bydd yn cael ei drin fel pe bai'n cynnwys achos lle mae person yn cael ei drin fel pe bai wedi cael ei atal dros dro gan Fwrdd Iechyd Lleol, neu cyn 1 Ebrill 2003, gan Awdurdod Iechyd yn rhinwedd rheoliad 6(2) o Reoliadau Diddymu'r Tribiwnlys (Cymru), neu yn Lloegr, gan Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol, neu cyn 1 Hydref 2002 gan Awdurdod Iechyd yn rhinwedd rheoliad 6(2) o Reoliadau Diddymu'r Tribiwnlys, a dylid dehongli "atal dros dro" yn unol â hynny;

    (2) Mae pob cyfeiriad at adrannau yn y Rhan hon yn gyfeiriad at adrannau o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, ac eithrio lle a bennir yn wahanol.

Rhestr Atodol
     3. —(1) Mae'n rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol baratoi a chyhoeddi rhestr atodol o'r holl ymarferwyr sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.

    (2) Mae'n rhaid i'r rhestr atodol gael ei rhannu'n ddwy ran, bydd y rhan gyntaf yn ymwneud ag ymarferwyr meddygol offthalmig a'r ail ran yn ymwneud ag optegwyr.

    (3) Yn ddarostyngedig i reoliad 21, nid yw ymarferydd yn gymwys i helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol, oni bai bod ei enw wedi ei gynnwys ar restr offthalmig neu restr atodol.

    (4) Mewn perthynas ag unrhyw ymarferydd, sydd â'i enw wedi ei gynnwys ar y rhestr atodol, bydd y rhestr yn cynnwys y manylion canlynol am yr ymarferydd hwnnw—

    (5) Mae'n rhaid i'r rhestr atodol fod ar gael i'r cyhoedd i'w archwilio.

Cais am gynnwys enw ymarferydd ar y rhestr atodol
    
4. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (7) i (11), rhaid i ymarferydd wneud cais i'w enw gael ei gynnwys ar y rhestr atodol drwy anfon cais ysgrifenedig at y Bwrdd Iechyd Lleol, a rhaid i'r cais gynnwys yr wybodaeth a grybwyllwyd ym mharagraff (2), yr ymrwymiadau a'r caniatadau sy'n ofynnol ym mharagraffau (3) a (6) ac unrhyw ddatganiad sy'n ofynnol o dan baragraffau (4) a (5).

    (2) Mae'n rhaid i'r ymarferydd ddarparu'r wybodaeth ganlynol—

    (3) Mae'n rhaid i'r ymarferydd ddarparu'r ymrwymiadau a'r caniatâd canlynol—

    (4) Rhaid i'r ymarferydd anfon datganiad gyda'r cais yn datgan a yw—

ac, os felly, mae'n rhaid i'r ymarferydd roi manylion am y man lle mae unrhyw ymchwiliad neu achos wedi cael ei gynnal neu lle mae i'w gynnal, gan gynnwys dyddiadau bras yr ymchwiliad neu'r achos hwnnw, natur yr ymchwiliad neu'r achos, ac unrhyw ganlyniad.

    (5) Os yw'r ymarferydd yn gyfarwyddwr corff corfforaethol, wedi bod yn gyfarwyddwr yn y chwe mis blaenorol, neu yn ystod y digwyddiadau cychwynnol, mae'n rhaid iddo hefyd wneud datganiad i'r Bwrdd Iechyd Lleol yn datgan a oes gan y corff corfforaethol—

ac, os felly, mae'n rhaid i'r ymarferydd roi enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig y corff corfforaethol a manylion, gan gynnwys bras ddyddiadau, ynglyn â'r adeg y bydd unrhyw ymchwiliad neu achos yn cael ei gynnal neu wedi eu gynnal, natur yr ymchwiliad neu'r achos hwnnw, ac unrhyw ganlyniad.

    (6) Mae'n rhaid i'r ymarferydd gytuno i gais a wneir gan y Bwrdd Iechyd Lleol i unrhyw gyflogwr neu gyn— gyflogwr, corff trwyddedu, rheoleiddio neu gorff arall yn y Deyrnas Unedig neu rywle arall, am wybodaeth sy'n ymwneud ag ymchwiliad cyfredol, neu ymchwiliad lle'r oedd y canlyniad yn anffafriol, i'r ymarferydd neu gorff corfforaethol y cyfeiriwyd ato ym mharagraffau (2) a (5) ac, at ddibenion y paragraff hwn, mae "cyflogwr" yn cynnwys unrhyw bartneriaeth y mae'r ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd yn aelod ohono, neu wedi bod yn aelod ohono;

    (7) Os, yn achos unrhyw gais, y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn canfod nad yw'r wybodaeth, y geirdaon neu'r ddogfennaeth a gyflenwyd gan yr ymarferydd yn ddigonol iddynt benderfynu cais yr ymarferydd, mae'n rhaid i'r Bwrdd geisio cael unrhyw wybodaeth, unrhyw eirda neu unrhyw ddogfennaeth ychwanegol, y bydd yn gofyn yn rhesymol amdanynt er mwyn gwneud penderfyniad, oddi wrth yr ymarferydd ac mae'n rhaid i'r ymarferydd gyflenwi'r deunydd y gofynnir amdano i'r Bwrdd Iechyd Lleol.

    (8) Yn achos cais i Fwrdd Iechyd Lleol gan ymarferydd, sydd wedi ei gynnwys ar restr offthalmig y Bwrdd, yn ceisio tynnu yn ôl o'r rhestr honno ac i gael cynnwys ei enw ar restr atodol y Bwrdd, ni fydd yn rhaid i'r ymarferydd ddarparu dim ar wahân i'r wybodaeth sy'n ofynnol ym mharagraffau (2), (4) a (5) i'r graddau—

    (9) Caiff unrhyw berson, nad yw'n optegydd, ond sy'n disgwyl bod yn optegydd ar ôl cwblhau ei hyfforddiant yn llwyddiannus, wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol ddim llai na 3 mis cyn y bydd yn disgwyl cael ei roi ar y gofrestr.

    (10) Rhaid i gais o dan baragraff (9) gynnwys—

wrth gymhwyso'r Rheoliadau hyn i unrhyw gais o'r fath, rhaid i unrhyw gyfeiriad at optegydd gael ei ystyried fel cyfeiriad at ymgeisydd o dan baragraff (9).

    (11) Mae'n rhaid i ymgeisydd o dan baragraff (9) ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) ac (e) cyn gynted ag y bydd wedi cael ei hysbysu gan y Cyngor Optegol Cyffredinol a yw wedi cael ei dderbyn i'r gofrestr ac yna bydd y Bwrdd Iechyd Lleol, ar yr amod—

yn penderfynu'r cais o fewn 7 diwrnod ar ôl derbyn yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) ac (e).

Aildderbyn
     5. —(1) Pan fo ymarferydd wedi cael ei dynnu oddi ar restr atodol Bwrdd Iechyd Lleol gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar y sail ei fod wedi cael ei gollfarnu am dramgwydd troseddol, a bod y gollfarn wedi ei gwrthdroi ar apêl, caiff y Bwrdd gytuno i gynnwys yr ymarferydd hwnnw ar ei restr atodol heb gais llawn os yw'n—

    (2) Mewn achos lle mae paragraff (1) yn gymwys, os bydd y gollfarn yn cael ei hadfer mewn apêl diweddarach, bydd penderfyniad blaenorol y Bwrdd Iechyd Lleol i dynnu'r ymarferydd hwnnw oddi ar ei restr atodol yn effeithiol unwaith eto.

Penderfyniadau a sail dros apelio
    
6. —(1) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wrthod cynnwys ymarferydd ar ei restr atodol ar y seiliau canlynol—

    (2) Mae'n rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wrthod cynnwys ymarferydd ar ei restr atodol ar y seiliau canlynol—

    (3) Cyn dod i benderfyniad ar y cais a gyflwynwyd gan yr ymarferydd, mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

    (4) Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried gwrthod o dan baragraff (1) neu (2), mae'n rhaid iddo ystyried yr holl ffeithiau sy'n ymddangos yn berthnasol iddo, ac yn arbennig mae'n rhaid i'r Bwrdd ystyried, mewn perthynas â pharagraff (1)(a), (ch), neu (d)—

    (5) Pan fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi ystyriaeth i unrhyw un o'r materion a osodwyd ym mharagraff (4), mae'n rhaid iddo ystyried effaith gyffredinol yr holl faterion sy'n cael eu hystyried.

    (6) Bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad i gynnwys neu beidio cynnwys yr ymarferydd ar ei restr atodol o fewn 7 diwrnod o'r penderfyniad hwnnw.

    (7) Rhaid i unrhyw hysbysiad pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi gwybod ei fod yn gwrthod cais i ymarferydd gael ei gynnwys ar ei restr atodol, gynnwys—

Gohirio penderfyniad ynglyn â chais
     7. —(1) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ohirio penderfyniad am gais ymarferydd i gael ei gynnwys ar ei restr atodol, lle—

    (2) Ni all Bwrdd Iechyd Lleol ddim ond gohirio penderfyniad o dan baragraff (1) hyd nes y bydd canlyniad y digwyddiad perthnasol yn unrhyw un o is-baragraffau (a) i (g) o'r paragraff hwnnw yn wybyddus.

    (3) Mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r ymarferydd ei fod wedi gohirio penderfyniad ynglyn â'r cais a'r rhesymau am hynny.

    (4) Unwaith bod canlyniad y digwyddiad perthnasol sydd wedi ei grybwyll ym mharagraff (1) yn wybyddus, mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r ymarferydd bod rhaid iddo o fewn 28 diwrnod i gael ei hysbysu am y gofyniad (neu gyfnod hirach yn ôl yr hyn a gytunir gan y Bwrdd Iechyd Lleol)—

    (5) Cyn belled â bod unrhyw wybodaeth ychwanegol wedi cael ei derbyn o fewn 28 diwrnod neu o fewn yr amser a gytunwyd, bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu'r ymarferydd cyn gynted ag y bo modd—

Cynnwys yn amodol
    
8. —(1) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu os bydd ymarferydd yn cael ei gynnwys ar y rhestr atodol, bod yr ymarferydd, tra bydd ar y rhestr honno, yn ddarostyngedig i amodau, gan roi sylw i ofynion adran 43D(5) (diben amodau).

    (2) Os bydd ymarferydd yn methu â chydymffurfio ag amod, sydd wedi cael ei osod gan y Bwrdd Iechyd Lleol, caiff y Bwrdd dynnu'r ymarferydd hwnnw oddi ar ei restr atodol.

    (3) Lle bo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried tynnu ymarferydd oddi ar ei restr atodol am dorri amod, mae'n rhaid iddo roi i'r ymarferydd—

    (4) Os nad yw'r ymarferydd yn gwneud unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod a nodwyd ym mharagraff (3)(c), bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu'r mater ac yn rhoi gwybod i'r ymarferydd am—

o fewn 7 diwrnod o wneud y penderfyniad hwnnw.

    (5) Os bydd yr ymarferydd yn gwneud sylwadau, mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol eu hystyried cyn dod i benderfyniad, yna bydd yn hysbysu'r ymarferydd—

o fewn 7 diwrnod o wneud y penderfyniad hwnnw.

    (6) Os yw'r ymarferydd yn gofyn am wrandawiad llafar, mae'n rhaid ei gynnal cyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol ddod i benderfyniad ac yna mae'n rhaid iddo hysbysu'r ymarferydd am—

o fewn 7 diwrnod o wneud y penderfyniad hwnnw.

    (7) Pan fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu'r ymarferydd am unrhyw benderfyniad a wnaed yn unol â'r rheoliad hwn, mae'n rhaid iddo roi gwybod i'r ymarferydd os yw'n dymuno gweithredu'r hawl i apelio, mae'n rhaid i'r ymarferydd wneud hynny o fewn 28 diwrnod, gan ddechrau gyda'r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o'r penderfyniad, ac mae'n rhaid i'r Bwrdd ddweud wrth yr ymarferydd sut i weithredu unrhyw hawl o'r fath.

    (8) Mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hefyd hysbysu'r ymarferydd am hawl yr ymarferydd i gael adolygiad o'r penderfyniad yn unol â rheoliad 14.

    (9) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu y caiff ymarferydd—

gellir cynnwys enw'r ymarferydd (neu barhau i'w ei gynnwys) ar ei restr atodol yn ystod y cyfnod y gellir dod ag apêl ger bron yr FHSAA yn unol â rheoliad 15, neu os ceir apêl, hyd nes bydd yr apêl wedi ei benderfynu, cyn belled â bod yr ymarferydd yn cytuno mewn ysgrifen i gael ei rwymo gan yr amodau a osodir hyd nes bydd yr amser apelio wedi mynd heibio neu hyd nes y bo'r apêl wedi ei benderfynu.

Gofynion y mae'n rhaid i ymarferydd ar y rhestr atodol gydymffurfio â hwy
    
9. —(1) Mae'n rhaid i ymarferydd, sydd wedi ei gynnwys ar restr atodol Bwrdd Iechyd Lleol, wneud datganiad ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw o fewn 7 diwrnod i'r digwyddiad os bydd—

ac, os felly, rhaid i'r ymarferydd roi manylion, gan gynnwys bras ddyddiadau, a phan fo unrhyw ymchwiliad neu achos yn cael eu cynnal, natur yr ymchwiliad neu'r achos hwnnw, ac unrhyw ganlyniad.

    (2) Rhaid i ymarferydd sydd wedi cael ei gynnwys ar restr atodol Bwrdd Iechyd Lleol ac sydd, neu a oedd yn y chwe mis blaenorol, neu adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr corff corfforaethol, wneud datganiad ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw o fewn 7 diwrnod iddo ddigwydd os yw'r corff corfforaethol hwnnw—

ac, os felly, yn rhoi enw a chyfeiriad cofrestredig y corff corfforaethol a manylion, gan gynnwys bras ddyddiadau, pan fydd ymchwiliad neu achos wedi bod neu eto i ddod, natur yr ymchwiliad neu achos, ac unrhyw ganlyniad.

    (3) Rhaid i ymarferydd sydd wedi ei gynnwys ar restr atodol Bwrdd Iechyd Lleol roi caniatâd i gais gael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw i unrhyw gyflogwr neu gyn gyflogwr, corff trwyddedu, rheoleiddio neu gorff arall yn y Deyrnas Unedig neu rywle arall, am wybodaeth sy'n ymwneud ag ymchwiliad cyfredol, neu ymchwiliad lle yr oedd y canlyniad yn anffafriol, gan y cyflogwr neu'r corff hwnnw i'r ymarferydd neu gorff corfforaethol y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu (2) ac, at ddibenion y paragraff hwn, mae "cyflogwr" yn cynnwys partneriaeth y mae'r ymarferydd yn aelod ohoni neu y bu yn aelod ohoni.

    (4) Rhaid i ymarferydd sydd wedi ei gynnwys ar restr atodol Bwrdd Iechyd Lleol roddi i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw dystysgrif cofnod troseddol fwy manwl o dan adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997[
16] mewn perthynas â'r ymarferydd, os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol ar unrhyw adeg, am achos rhesymol, yn rhoi hysbysiad iddo ddarparu tystysgrif o'r fath.

Tynnu oddi ar y rhestr atodol
     10. —(1) Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol dynnu ymarferydd oddi ar ei restr atodol os daw yn ymwybodol bod yr ymarferydd—

ac mae'n rhaid iddo, ac eithrio mewn achos sy'n disgyn o fewn is-baragraff (ch), hysbysu'r ymarferydd ar unwaith ei fod wedi gwneud hynny.

    (2) Ym mharagraff (1), mae gan "achos iechyd" yr ystyr a roddwyd i "health case" yn adran 13G(6) o'r Ddeddf Optegwyr.

    (3) Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei hysbysu gan yr FHSAA ei fod wedi ystyried apêl gan ymarferydd yn erbyn—

rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol dynnu'r ymarferydd oddi ar ei restr atodol a rhaid iddo hysbysu'r ymarferydd ar unwaith ei fod wedi gwneud hynny.

    (4) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol dynnu ymarferydd oddi ar ei restr atodol os bydd unrhyw un o'r amodau sydd wedi eu nodi ym mharagraff (5) yn cael eu bodloni.

    (5) Dyma'r amodau sydd wedi eu crybwyll ym mharagraff (4)—

    (6) At ddibenion y rheoliad hwn, yn ogystal â'r gwasanaethau sydd wedi eu cynnwys gan y diffiniad o "gynllun iechyd" yn adran 48F(8), mae'r canlynol yn gynlluniau iechyd hefyd—

    (7) Os na all yr ymarferydd ddangos ei fod wedi helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol yn ystod y chwe mis blaenorol, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol dynnu'r ymarferydd oddi ar ei restr atodol.

    (8) Wrth gyfrifo'r cyfnod o chwe mis y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (7), bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn diystyru unrhyw gyfnod yr oedd yr ymarferydd—

    (9) Lle bo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried tynnu ymarferydd oddi ar ei restr atodol o dan baragraffau (4) i (7), rheoliad 8, 12(4)(c) neu 15(6) neu dynnu yr ymarferydd yn amodol o dan reoliad 12, mae'n rhaid i'r Bwrdd roi i'r ymarferydd—

    (10) Os nad oes sylwadau o fewn y cyfnod a nodir ym mharagraff (9)(c), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r ymarferydd o'i—

o fewn 7 diwrnod o wneud y penderfyniad hwnnw.

    (11) Os bydd yr ymarferydd yn gwneud sylwadau mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi ystyriaeth iddynt cyn dod i benderfyniad, a rhaid i'r Bwrdd hysbysu'r ymarferydd beth yw ei—

o fewn 7 diwrnod o wneud y penderfyniad hwnnw.

    (12) Os bydd yr ymarferydd yn gofyn am wrandawiad llafar, rhaid i'r gwrandawiad gael ei gynnal cyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol ddod i benderfyniad a rhaid i'r Bwrdd wedyn hysbysu'r ymarferydd—

o fewn 7 diwrnod o wneud y penderfyniad hwnnw.

    (13) Pan fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu'r ymarferydd am unrhyw benderfyniad mae'n rhaid iddo roi gwybod i'r ymarferydd os yw eisiau defnyddio ei hawl i apelio yna mae'n rhaid iddo wneud hynny o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau gyda'r dyddiad y rhoddodd wybod i'r ymarferydd am ei benderfyniad ac mae'n rhaid i'r Bwrdd hefyd ddweud wrth yr ymarferydd sut i ddefnyddio unrhyw hawl o'r fath.

    (14) Mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hefyd hysbysu'r ymarferydd am hawl yr ymarferydd i gael adolygiad o'r penderfyniad yn unol â rheoliad 14.

    (15) Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu tynnu'r ymarferydd oddi ar y rhestr o dan baragraff (4) neu (7), ni chaiff yr ymarferydd ei dynnu oddi ar ei restr atodol tan—

pa un bynnag sy'n digwydd olaf.

Meini prawf ar gyfer penderfyniad i dynnu oddi ar y rhestr atodol
     11. —(1) Lle mae Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried a ddylid tynnu ymarferydd oddi ar ei restr atodol o dan reoliad 10(4) a (5)(c) ("achos anaddasrwydd") rhaid iddo—

    (2) Dyma'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c)—

    (3) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried tynnu ymarferydd oddi ar ei restr atodol neu beidio, o dan reoliad 10(4) a (5)(b) ("achos o dwyll"), mae'n rhaid i'r Bwrdd ystyried—

    (4) Dyma'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(c)—

    (5) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried tynnu ymarferydd oddi ar ei restr atodol o dan reoliad 10(4) a (5)(a) ("achos o effeithlonrwydd"), mae'n rhaid iddo—

    (6) Dyma'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5)(c)—

    (7) Wrth wneud unrhyw benderfyniad o dan reoliad 10, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi ystyriaeth i effaith gyffredinol unrhyw ddigwyddiadau a throseddau perthnasol sy'n gysylltiedig â'r ymarferydd y mae'n ymwybodol ohonynt, beth bynnag yw'r amod y mae'n dibynnu arno.

    (8) Wrth wneud penderfyniad ynglŷn ag unrhyw amod yn rheoliad 10(5), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol nodi yn ei benderfyniad ar ba amod y mae'n dibynnu arno.

Tynnu'n amodol oddi ar y rhestr
    
12. —(1) Mewn achos o effeithlonrwydd neu achos o dwyll caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, yn lle penderfynu tynnu ymarferydd oddi ar ei restr atodol, benderfynu tynnu'r ymarferydd yn amodol a bydd rheoliad 10(13) a (14) yn gymwys i'r penderfyniad hwnnw.

    (2) Pan fo'r Bwrdd yn penderfynu felly, rhaid iddo osod amodau o'r fath fel y gall benderfynu cynnwys yr ymarferydd ar ei restr atodol gyda'r bwriad o—

    (3) Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu tynnu ymarferydd yn amodol o dan baragraff (1) ni fydd y penderfyniad hwnnw yn dod i rym tan—

pa un bynnag yw'r hwyraf.

    (4) Os bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu bod yr ymarferydd wedi methu â chydymffurfio ag amod gall benderfynu—

Atal dros dro
    
13. —(1) Os bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn fodlon fod rhaid gwneud hynny er mwyn diogelu'r cyhoedd neu er lles y cyhoedd, caiff atal ymarferydd dros dro o'i restr atodol yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn—

    (2) Mewn achos sy'n disgyn o fewn paragraff (1)(a), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol bennu cyfnod, o ddim mwy na chwe mis, fel cyfnod yr atal dros dro.

    (3) Mewn achos sy'n disgyn o fewn paragraff (1)(b), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol bennu bod yr ymarferydd yn parhau i fod wedi ei atal dros dro, ar ôl i'r penderfyniad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff gael ei wneud, am gyfnod ychwanegol o ddim mwy na chwe mis.

    (4) Gall cyfnod yr atal dros dro o dan baragraff (2) neu (3) ymestyn tu hwnt i chwe mis os—

    (5) Os bydd yr FHSAA yn gorchymyn hynny, rhaid iddo bennu—

    (6) Gall yr FHSAA, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol, wneud gorchymyn pellach, a fydd hefyd yn gorfod cydymffurfio â pharagraff (5), ar unrhyw adeg tra bo'r cyfnod atal dros dro yn unol â'r gorchymyn cynharaf yn parhau.

    (7) Os bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn atal dros dro ymarferydd mewn achos sy'n disgyn o fewn paragraff (1)(c) neu (ch), bydd yr atal dros dro yn cael effaith o'r dyddiad y rhoddodd y Bwrdd Iechyd Lleol wybod i'r ymarferydd am yr atal dros dro a bydd yn parhau hyd nes—

    (8) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ymestyn cyfnod yr atal dros dro o dan baragraff (2) neu osod cyfnod arall o atal dros dro o dan baragraff (3), cyn belled â bod y cyfanswm yn ddim mwy na chwe mis.

    (9) Effaith yr atal dros dro yw tra bod ymarferydd wedi ei atal dros dro o dan y Rheoliadau hyn rhaid i'r ymarferydd gael ei drin fel pe bai heb gael ei gynnwys ar restr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol, er bod ei enw'n ymddangos ar y rhestr.

    (10) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ar unrhyw adeg ddirymu'r atal dros dro a hysbysu'r ymarferydd am ei benderfyniad.

    (11) Lle bo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried atal ymarferydd dros dro neu'n amrywio cyfnod yr atal dros dro o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo roi i'r ymarferydd—

    (12) Os nad yw'r ymarferydd eisiau cael gwrandawiad llafar neu os nad yw'n bresennol yn y gwrandawiad llafar caiff y Bwrdd Iechyd Lleol atal yr ymarferydd ar unwaith.

    (13) Os cynhelir gwrandawiad llafar, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi ystyriaeth i unrhyw sylwadau a wneir cyn iddo ddod i benderfyniad.

    (14) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol atal yr ymarferydd ar unwaith ar ôl y gwrandawiad.

    (15) Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r ymarferydd am ei benderfyniad ac am y rhesymau am y penderfyniad (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnir arnynt) o fewn 7 diwrnod ar ôl gwneud y penderfyniad.

    (16) Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r ymarferydd am unrhyw hawl i adolygu o dan reoliad 14.

    (17) Yn ystod cyfnod o atal dros dro gellir gwneud taliadau i'r ymarferydd neu mewn perthynas â'r ymarferydd yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adolygiadau
    
14. —(1) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol adolygu ei benderfyniad, ac os caiff gais ysgrifenedig gan yr ymarferydd mae'n rhaid iddo adolygu ei benderfyniad i—

    (2) Ni all yr ymarferydd ofyn am adolygiad o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol hyd nes bydd cyfnod o dri mis wedi dod i ben gan ddechrau gyda dyddiad ei benderfyniad, neu mewn achos o restru yn amodol o dan reoliad 8, gan ddechrau gyda'r dyddiad y mae'n cynnwys enw'r ymarferydd ar y rhestr atodol.

    (3) Ar ôl i adolygiad gael ei gynnal, ni all yr ymarferydd ofyn am adolygiad pellach cyn i chwe mis ddod i ben o ddyddiad y penderfyniad ar yr adolygiad diwethaf.

    (4) Os bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu adolygu ei benderfyniad o dan y rheoliad hwn i restru yn amodol, tynnu enw'n amodol neu atal ymarferydd dros dro, mae'n rhaid iddo roi i'r ymarferydd—

    (5) Oni wneir sylwadau o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (4)(c), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r ymarferydd o'i benderfyniad, y rhesymau am y penderfyniad (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnir arnynt) ac am unrhyw hawl i apelio o dan reoliad 15.

    (6) Os bydd yr ymarferydd yn gwneud sylwadau, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol roi ystyriaeth iddynt cyn dod i benderfyniad.

    (7) Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r ymarferydd am—

    (8) Pan fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu'r ymarferydd o dan baragraff (7) (c), mae'n rhaid iddo hefyd hysbysu'r ymarferydd bod rhaid iddo, os yw'n dymuno defnyddio ei hawl i apelio, wneud hynny o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau gyda'r dyddiad y rhoddodd hysbysiad o'i benderfyniad a bydd rhaid i'r Bwrdd hefyd roi gwybod i'r ymarferydd sut mae defnyddio unrhyw hawl o'r fath.

    (9) Os bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu adolygu ei benderfyniad i osod amodau o dan reoliad 8, caiff amrywio'r amodau, gosod amodau gwahanol, tynnu'r amodau neu dynnu'r ymarferydd oddi ar ei restr atodol.

    (10) Os bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu adolygu ei benderfyniad i dynnu'n amodol o dan reoliad 12, gall amrywio'r amodau, gosod gwahanol amodau neu dynnu'r ymarferydd oddi ar ei restr atodol.

    (11) Os bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu adolygu ei benderfyniad i atal ymarferydd dros dro o dan reoliad 13(1)(a) neu (b), caiff benderfynu gosod amodau neu dynnu'r ymarferydd oddi ar ei restr atodol.

    (12) Ni all Bwrdd Iechyd Lleol adolygu ei benderfyniad i atal ymarferydd dros dro o dan reoliad 13(1)(c) neu (ch).

Apeliadau
    
15. —(1) Caiff ymarferydd apelio i'r FHSAA (trwy ofyn iddo ailbenderfynu) yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol a grybwyllwyd ym mharagraff (2) trwy hysbysu'r FHSAA.

    (2) Penderfyniadau'r Bwrdd Iechyd Lleol sydd dan sylw yw—

    (3) Ar apêl caiff yr FHSAA wneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei wneud.

    (4) Pan fydd FHSAA ar apêl yn penderfynu y bydd cynnwys yr ymarferydd sy'n apelio ar y rhestr atodol yn ddarostyngedig i amodau, boed yr amodau hynny yr un fath â'r amodau a osodwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu beidio, mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol ofyn i'r apelydd ei hysbysu o fewn 28 diwrnod o'r penderfyniad (neu gyfnod hirach yn ôl cytundeb y Bwrdd Iechyd Lleol) os yw'r ymarferydd yn dymuno cael ei gynnwys ar y rhestr atodol yn ddarostyngedig i'r amodau hynny.

    (5) Os yw'r ymarferydd yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod eisiau cael ei gynnwys ar y rhestr atodol yn ddarostyngedig i'r amodau, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gynnwys yr ymarferydd ar y rhestr.

    (6) Pan fo'r FHSAA ar apêl yn penderfynu tynnu'r ymarferydd oddi ar y rhestr yn amodol—

Hysbysiad
    
16. —(1) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu—

rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r personau neu gyrff a nodir ym mharagraff (2) a rhaid iddo hefyd hysbysu'r rhai sydd wedi eu cynnwys ym mharagraff (3), os gofynnir iddo wneud hynny gan y personau neu gyrff hynny mewn ysgrifen (gan gynnwys ffurf electronig) o'r materion sydd wedi eu nodi ym mharagraff (4).

    (2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, o fewn 7 diwrnod o'r penderfyniad hwnnw, hysbysu—

    (3) Dyma'r personau neu gyrff sydd i'w hysbysu hefyd yn unol â pharagraff (1)—

    (4) Dyma'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

    (5) Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol anfon at yr ymarferydd dan sylw gopi o unrhyw wybodaeth amdano y mae wedi ei darparu i'r personau neu'r cyrff a restrir ym mharagraff (2) neu (3), ac unrhyw ohebiaeth gyda'r person neu'r corff hwnnw mewn perthynas â'r wybodaeth honno.

    (6) Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi hysbysu unrhyw un o'r personau neu gyrff a nodwyd ym mharagraff (2) neu (3) o'r materion a nodir ym mharagraff (4), caiff hefyd, os gofynnir iddo gan y person neu'r corff hwnnw, hysbysu'r person neu'r corff hwnnw o unrhyw dystiolaeth a ystyriwyd, gan gynnwys unrhyw sylwadau gan yr ymarferydd.

    (7) Os bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei hysbysu gan yr FHSAA ei fod wedi gosod anghymhwysiad cenedlaethol ar ymarferydd a oedd wedi ei gynnwys neu wedi gwneud cais i gael ei gynnwys ar ei restr atodol, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r personau neu'r cyrff a restrir ym mharagraff (2)(b), (e) a (f) a pharagraph (3).

    (8) Os bydd penderfyniad yn cael ei newid ar ôl adolygiad neu apêl, neu pan fydd ataliad dros dro yn dod i ben, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r personau neu'r cyrff a hysbyswyd am y penderfyniad gwreiddiol, o'r penderfyniad diweddaraf neu'r ffaith bod yr ataliad dros dro wedi dod i ben.

Diwygio rhestri atodol neu dynnu enwau yn ôl o restri atodol
    
17. —(1) Rhaid i ymarferydd, oni bai ei fod yn anymarferol iddo wneud hynny, roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 diwrnod i unrhyw ddigwyddiad sy'n gofyn newid yn yr wybodaeth a gofnodwyd ynglyn â'r ymarferydd ar y rhestr atodol ac am unrhyw newid yn ei gyfeiriad preifat.

    (2) Pan fo ymarferydd yn bwriadu tynnu yn ôl o restr atodol, oni bai ei fod yn anymarferol iddo wneud hynny, rhaid i'r ymarferydd roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol o leiaf dri mis cyn y dyddiad hwnnw.

    (3) Rhaid i ymarferydd roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn bwriadu tynnu yn ôl o'i restr atodol os bydd yr ymarferydd yn cael ei dderbyn ar ei restr offthalmig, neu ar restr offthalmig neu restr atodol Bwrdd Iechyd Lleol arall.

    (4) Ar ôl derbyn hysbysiad oddi wrth unrhyw ymarferydd, bydd y Bwrdd Iechyd Lleol—

    (5) Caiff ymarferydd dynnu yn ôl hysbysiad a roddwyd yn unol â pharagraff (1) neu (2) ar unrhyw adeg cyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol dynnu ei enw oddi ar ei restr atodol.

    (6) Ni ellir tynnu yn ôl hysbysiad a roddwyd yn unol â pharagraff (3) unwaith bod yr ymarferydd wedi cael ei dderbyn ar y rhestr arall honno.

Cyfyngu ar dynnu enwau yn ôl o restri
    
18. —(1) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ymchwilio i ymarferydd—

ni chaiff yr ymarferydd dynnu yn ôl o unrhyw restr a gedwir gan Fwrdd Iechyd Lleol y mae enw'r ymarferydd wedi ei gynnwys ynddi, ac eithrio lle mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi caniatâd, hyd nes bydd y mater wedi cael ei benderfynu'n derfynol gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

    (2) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu tynnu ymarferydd oddi ar ei restr atodol o dan reoliad 10(4) i (7) neu i dynnu'r ymarferydd yn amodol o'r rhestr o dan reoliad 12, ond nad yw hyd yma wedi gweithredu ei benderfyniad, ni all yr ymarferydd dynnu yn ôl o unrhyw restr a gedwir gan y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n ei gynnwys, ac eithrio lle mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi caniatâd.

    (3) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi atal ymarferydd dros dro o dan reoliad 13(1)(b), ni all ymarferydd dynnu yn ôl o unrhyw restr a gedwir gan Fwrdd Iechyd Lleol sy'n ei gynnwys, ac eithrio lle mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi caniatâd, hyd nes bydd penderfyniad y llys neu gorff perthnasol yn wybyddus a bod y mater wedi cael ei ystyried a'i benderfynu'n derfynol gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

Cyfnodau adolygu ar gyfer anghymhwysiad cenedlaethol
    
19. Y cyfnod ar gyfer adolygu fydd y cyfnod sydd wedi ei nodi isod, yn lle'r hyn sydd wedi ei nodi yn adran 49N(8), lle bo'r amgylchiadau fel a ganlyn—

Datgelu gwybodaeth
    
20. —(1) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddatgelu gwybodaeth a roddwyd iddo neu a gafwyd ganddo yn unol â'r Rheoliadau hyn i unrhyw un o'r canlynol—

    (2) Mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol ddatgelu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wybodaeth a roddwyd iddo neu a gafwyd ganddo yn unol â'r Rheoliadau hyn, a bydd y Cynulliad yn gofyn am y wybodaeth honno o dro i dro.

Darpariaethau Trosiannol
    
21. —(1) Caiff unrhyw ymarferydd, sydd heb ei gynnwys ar restr offthalmig, ond a oedd yn helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol ar 31 Ionawr 2006 barhau i wneud hynny, er gwaethaf rheoliad 3(3), tan—

pa un bynnag yw'r cynharaf, cyn belled â bod yr ymarferydd, yn unol â'r Rheoliadau hyn, yn gwneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol am gael ei gynnwys ar ei restr atodol ddim hwyrach na 1 Mai 2006.

    (2) Caiff unrhyw ymarferydd sydd ddim yn disgyn o fewn paragraff (1) sydd wedi gwneud cais i gael ei gynnwys ar restr atodol ar neu cyn 1 Mai 2006, helpu i ddarparu gwasanaethau opththalmig cyffredinol ar ôl dyddiad y cais, er gwaethaf rheoliad 3(3), tan—

pa un bynnag yw'r cynharaf.

    (3) Rhaid i unrhyw ymarferydd y mae paragraff (1) neu (2) yn berthnasol iddo gydymffurfio â rheoliad 9, os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a nodir yn digwydd, yn union fel pe bai wedi ei gynnwys ar restr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r ymarferydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol yn ei ardal.

    (4) Ni chaiff ymarferydd helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol yn rhinwedd paragraff (1) neu (2) yn ystod unrhyw gyfnod y bo'r ymarferydd yn destun hysbysiad atal dros dro a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (5).

    (5) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad atal dros dro i ymarferydd y bo paragraff (1) neu (2) yn berthnasol iddo lle bo wedi ei fodloni bod rhaid gwneud hynny i ddiogelu'r cyhoedd neu pan fydd hynny er lles y cyhoedd mewn rhyw ffordd arall.

    (6) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol dynnu yn ôl hysbysiad atal dros dro y mae wedi ei roi o dan baragraff (5) ar unrhyw adeg.

    (7) Yn ystod cyfnod atal dros dro gellir gwneud taliadau i ymarferydd neu mewn perthynas â'r ymarferydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

    (8) Lle bo Bwrdd Iechyd Lleol—

mae'n rhaid iddo benderfynu ar unwaith gais yr ymarferydd hwnnw i gael ei gynnwys ar ei restr atodol.

    (9) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol gyhoeddi rhestr o'r ymarferwyr y mae eu ceisiadau wedi cael eu cymeradwyo i gael eu cynnwys ar ei restr atodol cyn 1 Awst 2006.

    (10) Os yw'n ymddangos i'r Bwrdd Iechyd Lleol, ar neu ar ôl 1 Chwefror 2006, yn achos unrhyw ymarferydd y mae ei enw wedi ei gynnwys ar ei restr offthalmig ar 31 Ionawr 2006—

rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol gymryd y camau a bennir ym mharagraff (11).

    (11) Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

    (12) Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau o dan baragraff (11)(b), os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn fodlon nad yw'r ymarferydd yn bodloni'r gofynion i gael ei gynnwys ar ei restr offthalmig, mae'n rhaid iddo—

    (13) Mewn achos lle mae paragraff (12) yn berthnasol, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r ymarferydd o'i benderfyniad a'r rhesymau amdano (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt) o fewn 7 diwrnod o wneud y penderfyniad hwnnw.

    (14) Pan fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu'r ymarferydd o'i benderfyniad o dan baragraff (13), mae'n rhaid iddo hefyd roi gwybod i'r ymarferydd, os bydd eisiau ymarfer ei hawl i apelio, y bydd rhaid iddo wneud hynny o fewn y cyfnod 28 diwrnod gan ddechrau gyda'r dyddiad y rhoddodd hysbysiad i'r ymarferydd o'i benderfyniad ac mae'n rhaid i'r Bwrdd hefyd ddweud wrth yr ymarferydd sut i ddefnyddio unrhyw hawl o'r fath.

    (15) Pan fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn hysbysu'r ymarferydd o'i benderfyniad yn unol â pharagraff (13) mae'n rhaid iddo hefyd hysbysu unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol yr ymgynghorodd ag ef yn unol â pharagraff (11)(b).

    (16) Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol weithredu o dan baragraffau (10) i (12), er mwyn ei alluogi i wneud penderfyniad o dan baragraff (12), cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol.

    (17) Mewn unrhyw achos lle bo Bwrdd Iechyd Lleol—

mae'n rhaid iddo drin y cais hwnnw fel cais i gael ei gynnwys ar ei restr atodol.



RHAN 2

Diwygiadau i'r Rheoliadau Offthalmig

Dehongliad
    
22. Yn y Rhan hon ystyr "Rheoliadau Offthalmig" ("the Ophthalmic Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986[20].

Diwygio rheoliad 2
     23. —(1) Diwygir Rheoliad 2 o'r Rheoliadau Offthalmig (dehongli) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (1)—

     which a contractor has made arrangements with a Local Health Board to provide in its locality;";


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060181w.html