BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 360 (Cy.47)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060360w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 360 (Cy.47)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'i wneud 14 Chwefror 2006 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 200 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Diwygio) 2005 a daw i rym ar 1 Mawrth 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn Gorchymyn hwn ystyr "Gorchymyn (Cymru) (Rhif 2)" yw Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Rhif 2) 2004[
2].

     2. Yn erthygl 86(1) o Orchymyn (Cymru) (Rhif 2) (ystyr profiad addas), yn lle "Until the coming into force of article 5" rhodder "Until either the establishment of the General Practitioner Register pursuant to article 10(1) of the 2003 Order or the coming into force of paragraphs 21 and 22 of Schedule 8 to that Order, whichever occurs first,".

    
3. Dirymir erthygl 31 o Orchymyn (Cymru) (Rhif 2) (trefniadau ar gyfer Cofrestryddion Practis Cyffredinol).



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Chwefror 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn cywiro gwall mewn croesgyfeiriad yn erthygl 86 o Orchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Rhif 2) 2004. Mae'r Gorchymyn hefyd yn dirymu erthygl 31 o'r Gorchymyn hwnnw. Yr oedd y ddarpariaeth honno'n datgymhwyso gofyniad am gydsyniad y Cynulliad i gyflogi Cofrestrydd Practis Cyffredinol at ddibenion cael ei hyfforddi gan Hyfforddwr Practis Cyffredinol. Tynnir y gofyniad am gydsyniad o'r fath ym mharagraff 63 o Atodlen 6 o Reoliadau Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 gan reoliad 11(14) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2006.


Notes:

[1] 2003 p.43.back

[2] O.S. 2004/1016 (Cy.113).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091281 0


 © Crown copyright 2006

Prepared 28 February 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060360w.html