BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 943 (Cy.92)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'u gwneud |
28 Mawrth 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001[2].
Diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau
2.
—(1) Diwygir rheoliad 8 o'r prif Reoliadau (esemptiadau) fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) rhodder y canlynol—
"
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd ffi yn daladwy o dan reoliadau 3, 4, 6 neu 7 gan y canlynol—
(a) person sydd o dan 16 oed;
(b) person sydd o dan 19 oed sy'n derbyn addysg lawnamser gymwys o fewn ystyr paragraff 7 o Atodlen 12 i'r Ddeddf;
(c) person sydd o dan 25 oed ac sy'n cyflwyno—
(i) ffurflen bresgripsiwn Gymreig, neu
(ii) swp-ddyroddiad sy'n ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy Cymreig;
(ch) person sydd wedi cyrraedd 60 oed;
(d) menyw sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ar y sail ei bod yn fam sy'n disgwyl neu sydd wedi rhoi genedigaeth yn ystod y deuddeg mis diwethaf i blentyn byw neu i blentyn y gellir cofrestru ei fod yn farwanedig o dan Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953[3] neu sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
(dd) person sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ar y sail ei fod yn dioddef un neu fwy o'r cyflyrau canlynol—
(i) ffistwla parhaol (gan gynnwys caecostomi, colostomi, laryngostomi neu ileostomi) sy'n gwneud gorchuddion llawfeddygol neu gyfarpar yn ofynnol yn barhaol;
(ii) yr anhwylderau canlynol—
ffurfiau o hypoadrenaledd (gan gynnwys clefyd Addison) y mae therapi amnewid penodol yn hanfodol ar ei gyfer
diabetes insipidus a ffurfiau eraill o hypobidwitedd
diabetes mellitus — ac eithrio pan yw'r drinaeth drwy ddeiet yn unig
hypoarathyroidedd
myasthenia gravis
mycsoedema
(iii) epilepsi sy'n ei gwneud yn ofynnol i barhau â therapi gwrth-ddirdynnol;
(iv) anabledd corfforol parhaus sy'n rhwystro'r claf rhag gadael ei breswylfa heb gymorth person arall;
neu gan berson sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
(e) person sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran cyflenwi cyffuriau a chyfarpar ar gyfer trin anabledd sydd wedi'i dderbyn, ond yn y naill achos neu'r llall dim ond o ran y cyflenwadau hynny y mae'r dystysgrif yn ymwneud â hwy;
(f) person sydd â thystysgrif ragdalu ddilys neu dystysgrif ragdalu ddilys a roddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon".
(3) Ym mharagraff (2)—
(a) yn is-baragraff (a) yn lle "yn unrhyw un o is-baragraffau (a), (b) neu (d)" rhodder "yn unrhyw un o is-baragraffau (a) i (ch) neu (e)";
(b) yn is-baragraff (b) yn lle "is-baragraffau (a) i (dd)" rhodder "is-baragraffau (a) i (f)".
(4) Ym mharagraff (3A) yn lle "paragraff (1)(a) neu (b)" rhodder "paragraff (1)(a) i (ch)".
Diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau
3.
—(1) Diwygir rheoliad 9 o'r prif Reoliadau (Tystysgrifau esemptio — gwneud cais amdanynt a'u rhoi) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a) yn lle "rheoliad 8(1)(c), (ch) neu (d)" rhodder "rheoliad 8(1)(d), (dd) neu (e)";
(b) yn lle "is-baragraff (c) neu (ch)" rhodder "is-baragraff (d) neu (dd)"; ac
(c) yn lle "o dan is-baragraff (d)" rhodder "o dan is-baragraff (e)".
(3) Ym mharagraff (2) yn lle "is-baragraff (c)" rhodder "is-baragraff (d)".
(4) Ym mharagraff (3)—
(a) yn lle "rheoliad 8(1)(a) neu (b)" rhodder "rheoliad 8(1)(a) i (ch)";
(b) yn lle "rheoliad 8(1)(ch)" rhodder "rheoliad 8(1)(dd)".
(5) Ym mharagraff (4) yn lle "rheoliad 8(1)(d)" rhodder "rheoliad 8(1)(e)".
Diwygio rheoliad 10 o'r prif Reoliadau
4.
—(1) Diwygir rheoliad 10 o'r prif Reoliadau (Tystysgrifau rhagdalu) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3) yn lle "rheoliad 8(1)(dd)" rhodder "rheoliad 8(1)(f)".
(3) Ym mharagraff (6)(a) yn lle "rheoliad 8(1)(b) i (d)" rhodder "rheoliad 8(1)(ch) i (e)".
(4) Ym mharagraff 10(a) yn lle "rheoliad 8(1)(b) i (d)" rhodder "rheoliad 8(1)(ch) i (e)".
(5) Ym mharagraff 14(b)(i) yn lle "rheoliad 8(1)(b) i (d)" rhodder "rheoliad 8(1)(ch) i (e)".
(6) Ym mharagraff 14(c)(i) yn lle "rheoliad 8(1)(b) i (d)" rhodder "rheoliad 8(1)(ch) i (e)".
Diwygio rheoliad 11 o'r prif Reoliadau
5.
Yn rheoliad 11(3) o'r prif Reoliadau (ad-dalu ffioedd) yn lle "rheoliad 8(1)(d)" rhodder "rheoliad 8(1)(e)".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae rheoliad 2 yn rhoi paragraff (1) newydd yn rheoliad 8 o'r prif Reoliadau (esemptiadau) sy'n cynnwys darpariaeth i ddynodi terfyn i'r esemptiad sydd ar gael rhag ffi ar gyfer y personau hynny o dan 25 oed i'r personau hynny sy'n cyflwyno ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu swp-ddyroddiad ynglŷn â phresgripsiwn amlroddadwy Cymreig ar gyfer ei weinyddu yng Nghymru.
Mae'r diwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ganlyniad i fewnosod y paragraff (1) newydd yn rheoliad 8 o'r prif Reoliadau.
Notes:
[1]
1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniad o "prescribed" a "regulations".
Diwygiwyd adran 83 gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 39 a chan O.S. 2000/90, erthygl 3(1) ac Atodlen 1, paragraff 13(1) a (4).
Mewnosodwyd adran 83A gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ("Deddf 1988"), adran 14(1); ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1990, adran 66(1) ac Atodlen 9, paragraff 18(5)(a) a (b); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 25 ac Atodlen 2, paragraff 6; gan O.S.1998/2385, erthygl 2 a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 40.
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).
Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 12 gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adran 25(2) ac Atodlen 5, paragraff 1; gan Ddeddf 1988, adran 16 ac Atodlen 5; gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), adran 41(10) ac Atodlen 2, paragraff 31 a chan Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 184 ac Atodlen 11, paragraffau 7 a 44.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf 2003, adran 197(1).back
[2]
O.S. 2001/1358 (Cy.86). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2001/2359 (Cy.196), O.S. 2004/1018 (Cy.115) a 2004/1605 (Cy.164) ac O.S. 2005/427 (Cy.44) ac O.S. 2005/1915 (Cy.158).back
[3]
1953 p.20.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091309 4
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
5 April 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060943w.html