BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1035 (Cy.105)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi |
4 Ebrill 2006 | |
|
Yn dod i rym |
5 Ebrill 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2) i (6) a (7A), 143(1) a (2), a pharagraff 12 i Atodlen 7A a pharagraffau 1 ac 8 i Atodlen 11 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Tribiwnlysoedd fel sy'n ofynnol gan adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992[2]:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 5 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005[3] fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 8(3), ar ôl y geiriau "service on him", rhodder "or her".
(3) Yn rheoliad 13(3), ar ôl y geiriau “ "supplied to him", rhodder "or her".
(4) Yn rheoliad 25(7), yn lle'r geiriau "paragraph 6(a)", rhodder "paragraph (6)(a)".
(5) Yn rheoliad 26—
(a) yn lle'r geiriau "a chairman appointed under regulation 8 of the Valuation and Community Charge Tribunals Regulations 1989", rhodder "a chairperson of the relevant valuation tribunal"; a
(b) yn lle'r gair "chairman's", rhodder "chairperson's".
(6) Yn rheoliad 30(1), yn lle'r gair "chairman", rhodder "chairperson" yn y ddau fan lle y digwydd.
(7) Yn rheoliad 31(4)(a) ar ôl y geiriau "to permit him", rhodder "or her".
(8) Yn rheoliad 33(4), yn lle'r geiriau "sent to him", rhodder "sent to that party".
(9) Dirymir rheoliad 43(1).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
L.S.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Ebrill 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005. Mae'r Rheoliadau hynny yn ymwneud â newidiadau i'r rhestri ardrethu annomestig (a gaiff eu llunio o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988) gan swyddogion prisio, cynigion ar gyfer newidiadau o'r fath gan bersonau eraill ac apeliadau i dribiwnlys prisio os cyfyd anghytundeb ynglŷn â chynnig rhwng y swyddog prisio a pherson arall.
Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn tynnu'r cyfeiriadau at y Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio a'r Dreth Gymuned 1989 (O.S. 1989/439) a ddatgymhwyswyd o ran tribiwnlysoedd yng Nghymru gan Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995 (O.S. 1995/3056), ac yn mewnosod darpariaethau sy'n niwtral o ran rhyw os oes eu hangen (Rheoliad 2).
Notes:
[1]
1988 p.41. Mewnosodwyd adran 55(7A) gan baragraff 30(5) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Cafodd y pwerau hyn eu dirprwyo, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1.back
[2]
1992 p.53.back
[3]
O.S. 2005/758 (Cy.63).D. Elis-Thomasmgv1 13-3-06back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091324 8
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
21 April 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061035w.html