BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 1262 (Cy.119)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061262w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1262 (Cy.119)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 3 Mai 2006 
  Yn dod i rym 1 Awst 2006 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Awst 2006.

Diwygio Rheoliadau
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003[3]fel a ganlyn.

    (2) Yn adran 3, yn nhrefn briodol yr wyddor mewnosoder–

    (3) Yn lle rheoliad 5, rhodder–



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Mai 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol ac i ysgolion arbennig (os cynhelir hwy felly ai peidio). Maent yn darparu (ymysg pethau eraill) bod diwrnod ysgol sydd fel arfer i'w rannu'n ddwy sesiwn (gydag egwyl yn y canol), a bod ysgolion (heblaw ysgolion meithrin) yn cyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol. Yr oedd rheoliad 5 o'r Rheoliadau hynny (rheoliad sydd bellach wedi darfod) yn darparu bod nifer benodedig o sesiynau ysgol yn y blynyddoedd ysgol 2003/4, 2004/5, 2005/6 a neilltuwyd ar gyfer ffurfiau penodedig o hyfforddi athrawon yn cael eu cyfrif yn sesiynau pan gyfarfu'r ysgol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn amnewid rheoliad 5 newydd sydd, yn fras, yn darparu bod hyd at bedair sesiwn ym mhob un o flynyddoedd ysgol 2006/7 a 2007/8 yn cyfrif fel sesiynau pan gyfarfu'r ysgol os cawsant eu neilltuo i ddarparu ffurfiau penodol o hyfforddiant. Yn fras, y ffurfiau o hyfforddiant sy'n cyfrif yw hyfforddiant ynghylch–

    • paratoi a gweithredu cynlluniau a anelir at hwyluso disgyblion i bontio rhwng cyfnodau allweddol a rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd (gan gynnwys, yn yr ail achos, y cynlluniau statudol y mae angen eu llunio o dan adran 198 o Ddeddf Addysg 2002),

    • newidiadau sydd i ddod yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, a

    • cynlluniau'r Cynulliad ar gyfer ymestyn opsiynau dysgu ar gyfer pobl ifanc 14- 19 oed.


Notes:

[1] 1996 p.56. Mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), a diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau"r Ysgrifennydd Gwladol i"r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2003/3231 (Cy.311).back

[4] 2002 p.32.back

[5] Gweler Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002.back

[6] Gellir gweld y cylchlythyr hwn yn www.learning.wales.gov.uk.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091332 9


 © Crown copyright 2006

Prepared 9 May 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061262w.html