BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 Rhif 1275 (Cy.121)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061275w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1275 (Cy.121)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 9 Mai 2006 
  Yn dod i rym 3 Gorffennaf 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 8, 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] ac a freinir bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y gellir eu harfer o ran Cymru [2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 3 Gorffennaf 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn–

ac mae unrhyw gyfeiriad at benodi neu benodiad arfaethedig prif swyddog yn cynnwys cyfeiriad at gyflogi neu gyflogi arfaethedig y cyfryw swyddog dan gontract cyflogaeth;

Rheolau sefydlog yn ymwneud â phrif swyddogion
     3. Ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol fydd yn digwydd wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r awdurdod perthnasol, o ran penodi ei brif swyddogion–

ac ni ddylent wedi hynny amrywio rheolau sefydlog a wnaed neu a addaswyd felly ac eithrio o ran ymgorffori darpariaeth a gaiff yr effaith a ddisgrifir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno neu ddarpariaethau sy'n cael yr un effaith.

Rheolau Sefydlog yn ymwneud â Chyfarfodydd a Thrafodion
    
4. —(1) Ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol fydd yn digwydd wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r awdurdod perthnasol, o ran y materion a grybwyllir ym mharagraff (2)–

    (2) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw–

Trefniadau gweithredol- rheolau sefydlog yn ymwneud â staff
    
5. —(1) Yn amodol ar baragraff (3) o reoliad 11, pan fydd awdurdod perthnasol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth o dan Ran II o Ddeddf 2000, rhaid iddo pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym:

    (2) Pan fo awdurdod perthnasol wedi ymgorffori darpariaethau mewn rheolau sefydlog fel ym mharagraff (1) rhaid iddo, lle bwriada newid ei drefniadau gweithredol fel y bydd y corff gweithredol ar ffurf wahanol, wneud amrywiadau i'w reolau sefydlog i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a), (b), (c) neu (d) o baragraff (1), pa un bynnag sydd yn gymwys, ar neu cyn y dyddiad pryd y dechreua weithredu'r trefniadau gweithredol newydd hynny.

Trefniadau amgen- rheolau sefydlog yn ymwneud â staff
     6. Yn amodol ar baragraff (3) rheoliad 11, rhaid i awdurdod perthnasol sy'n gweithredu trefniadau amgen o dan Ran II o Ddeddf 2000 wneud y canlynol–

Rheolau sefydlog yn ymwneud â staff
    
7. Lle bo gan awdurdod perthnasol reolau sefydlog yn ymgorffori'r darpariaethau ym mharagraff 4(1) Rhan 1, paragraff 4(1) o Ran 2 neu baragraff 4 o Ran 4 Atodlen 3 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith), rhaid i'r pŵ er i gymeradwyo penodiad neu ddiswyddiad pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod gael ei arfer gan yr awdurdod perthnasol ei hun, ac yn unol â hynny ni fydd adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer gweithredu swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i arfer y pŵ er hwnnw.

Rheolau sefydlog o ran camau disgyblu
    
8. Ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol fydd yn digwydd wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r awdurdod perthnasol, o ran camau disgyblu yn erbyn pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid–

Ymchwilio i gamymddwyn honedig
    
9. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), ar ôl i awdurdod perthnasol ymgorffori darpariaethau yn y rheolau sefydlog yn unol â rheoliad 8, os yw'n ymddangos i'r awdurdod perthnasol bod honiad o gamymddwyn a all arwain at gamau disgyblu wedi cael ei wneud yn erbyn–

("y swyddog perthnasol"), yn ôl y digwydd, rhaid i'r awdurdod perthnasol benodi pwyllgor ("pwyllgor ymchwilio") i ystyried y camymddwyn honedig.

    (2) Rhaid i'r pwyllgor ymchwilio:

rhaid iddo, cyn pen 1 mis ar ôl ei benodiad, ystyried yr honiad o gamymddwyn a phenderfynu a ddylid ymchwilio iddo ymhellach.

    (3) At ddibenion ystyried yr honiad o gamymddwyn, caiff y pwyllgor ymchwilio:

    (4) Os yw'n ymddangos i'r pwyllgor ymchwilio y dylai honiad o gamymddwyn gan y swyddog perthnasol gael ei ymchwilio ymhellach, rhaid iddo benodi person ("y person annibynnol dynodedig") at ddibenion y rheol sefydlog sy'n ymgorffori'r darpariaethau yn Atodlen 4 (neu ddarpariaethau sy'n cael yr un effaith).

    (5) Rhaid mai'r person annibynnol dynodedig sy'n cael ei benodi–

    (6) O ran y person annibynnol dynodedig–

    (7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i'r swyddog perthnasol a'r awdurdod perthnasol, ar ôl ymghynghori â'r person annibynnol dynodedig, geisio cytuno ar amserlen y mae'r person annibynnol dynodedig i ymgymryd â'i ymchwiliad yn unol â hi.

    (8) Pan na cheir cytundeb o dan baragraff (7), rhaid i'r person annibynnol dynodedig osod amserlen y mae'r person hwnnw'n ystyried ei bod yn briodol y dylid ymgymryd â'r ymchwiliad yn unol â hi.

    (9) Rhaid i'r awdurdod perthnasol ystyried yr adroddiad a gafodd ei baratoi o dan baragraff (6)(ch) o fewn 1 mis ar ôl cael yr adroddiad hwnnw.

    (10) Rhaid i awdurdod perthnasol dalu tâl rhesymol i berson annibynnol dynodedig a benodwyd gan y pwyllgor ymchwilio ac unrhyw gostau a dynnir wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y rheoliad hwn neu mewn cysylltiad â chyflawni'r swyddogaethau hynny.

    (11) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys o ran pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod os yw'r person hwnnw hefyd yn rheolwr cyngor yr awdurdod perthnasol[
9].

Dirymu Rheoliadau 1993
     10. Dirymir trwy hyn Reoliadau 1993 mewn perthynas â Chymru ac eithrio i'r graddau eu bod yn gymwys i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru.

Darpariaethau trosiannol ac ôl-ddilynol
    
11. —(1) Yn amodol ar baragraff (2), lle gwnaeth awdurdod perthnasol reolau sefydlog yn ymgorffori'r darpariaethau a osodir ym mharagraff 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 1993 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith), yna hyd nes y bydd yr awdurdod perthnasol yn ymgorffori darpariaethau yn y rheolau sefydlog hynny yn unol â rheoliad 8, bydd rheoliad 9 yn gymwys o ran y rheolau sefydlog hynny o ran pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod fel y byddai o ran rheolau sefydlog sydd yn ymgorffori darpariaethau yn unol â rheoliad 8.

    (2) Parthed unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad y mae'r awdurdod perthnasol yn ymgorffori darpariaethau mewn rheolau sefydlog yn unol â rheoliad 8, gan, i, neu mewn perthynas â swyddog yn unol â'r canlynol–

gellir parhau i'w wneud wedi'r dyddiad hwnnw gan, i neu mewn perthynas â'r swyddog hwnnw yn unol â'r darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (a), (b) neu (c), pa un bynnag sy'n briodol.

    (3) Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio â gofynion rheoliad 5 neu, yn ôl y digwydd, rheoliad 6 mor fuan ag sy'n rhesymol ymarferol wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
10].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mai 2006



ATODLEN 1
Rheoliad 3


RHEOLAU SEFYDLOG YN YMWNEUD â PHRIF SWYDDOGION




RHAN 1

Rheolau Sefydlog Rhagnodedig

          



RHAN 2

Amrywiadau Awdurdodedig

     1. Gall y rheolau sefydlog wneud y darpariaethau canlynol–

     2. Gall y rheolau sefydlog wneud darpariaeth, lle bo dyletswyddau prif swyddog yn cynnwys cyflawni swyddogaethau dau neu fwy o awdurdodau perthnasol yn rhinwedd adran 101(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972–

     3. Gellir eithrio o gymhwyso paragraff 1 a 2–



ATODLEN 2
Rheoliad 4


RHEOLAU SEFYDLOG YN YMWNEUD â CHYFARFODYDD A THRAFODION


          



ATODLEN 3
Rheoliad 5(1) a 6


DARPARIAETHAU I'W HYMGORFFORI MEWN RHEOLAU SEFYDLOG YN YMWNEUD â STAFF




RHAN 1

Awdurdod gyda Maer a Chabinet Gweithredol

          



RHAN 2

Awdurdod gydag Arweinydd a Chabinet Gweithredol

          



RHAN 3

Awdurdod gyda Maer a Rheolwr Gweithredol y Cyngor

          



RHAN 4

Awdurdod sy'n Gweithredu Trefniadau Amgen

          



ATODLEN 4
Rheoliad 8


DARPARIAETHAU I'W HYMGORFFORI YN Y RHEOLAU SEFYDLOG PARTHED CAMAU DISGYBLU


          



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 8, 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ("Deddf 1989") ac maent yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau perthnasol ymgorffori darpariaethau penodol yn eu rheolau sefydlog sydd yn ymwneud â'u staff, cyfarfodydd a'u trafodion.

Mae Rheoliad 3 ac Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynol i awdurdodau perthnasol wneud y cyfryw ddarpariaeth mewn perthynas â phenodi prif swyddogion. Mae Rheoliad 4 ac Atodlen 2 yn ei gwneud yn ofynnol i reolau sefydlog gael eu gwneud mewn perthynas â chofnodi pleidleisiau, a llofnodi cofnodion mewn cyfarfodydd arbennig.

Mae'n ofynnol i awdurdodau perthnasol yng Nghymru wneud neu addasu rheolau sefydlog fel eu bod yn cynnwys y darpariaethau a osodir yn y Rheoliadau, neu ddarpariaethau fydd yn cael yr un effaith.

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000") yn gwneud darpariaeth i awdurdodau lleol ffurfio cynigion i weithredu trefniadau gweithredol (lle mae rhai o swyddogaethau'r awdurdod yn gyfrifoldeb corff gweithredol) neu, yn achos rhai awdurdodau, i weithredu trefniadau amgen. Yn achos trefniadau gweithredol, rhaid i gorff gweithredol yr awdurdod lleol fod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11 o Ddeddf 2000.

Rhaid i awdurdod perthnasol sydd yn gweithredu trefniadau gweithredol fod â rheolau sefydlog sydd yn ymwneud â'i staff sy'n cynnwys y darpariaethau a osodir yn Atodlen 3. Rhaid i'r rheolau sefydlog fod yn rhai priodol ar gyfer ffurf penodol y corff gweithredol (fel y'u gosodir yng ngwahanol Rannau Atodlen 3) ac, os bydd i'r ffurf honno newid, rhaid amrywio'r rheolau sefydlog yn unol â hynny (rheoliad 5).

Rhaid i awdurdod perthnasol sydd yn gweithredu trefniadau amgen fod â rheolau sefydlog ynglŷn â'i staff sydd yn cynnwys y darpariaethau a osodir yn Rhan 4 Atodlen 3 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith) (rheoliad 6).

Nid ymdrinnir â phenodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgol a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol yn y Rheoliadau hyn ond mewn rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) o Ddeddf Addysg 2002 (gweler, ar hyn o bryd, Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (O.S. 2006/ 873 (Cy.81)).

Rhaid i awdurdod perthnasol, yng nghyswllt camau disgyblu yn erbyn pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid, wneud rheolau sefydlog yn ymgorffori'r darpariaethau a osodir yn Atodlen 4 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith). Rhaid gwneud y cyfryw reolau sefydlog ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol a ddaw wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym (rheoliad 8).

Mae Rheoliad 9 yn darparu ar gyfer ystyriaeth gan bwyllgor ymchwilio o honiad o gamymddwyn a wneir yn erbyn pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod (oni fo pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod hefyd yn rheolwr cyngor yr awdurdod), ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid ac mae'n rhagnodi gweithdrefn ar gyfer ymchwiliad pellach gan berson annibynnol, a dylid dilyn y weithdrefn hon lle'r honnir camymddwyn gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid y mae'r pwyllgor ymchwilio, ar ôl iddo ystyried y mater, o'r farn y dylid ymchwilio iddo ymhellach. Cynhwyswyd darpariaethau tebyg yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) 1993 ("Rheoliadau 1993") mewn perthynas â phennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod. Wedi i'r awdurdod perthnasol ystyried yr adroddiad a baratowyd dan baragraff 6(ch), rhaid i'r awdurdod perthnasol wedyn gydymffurfio â'r gweithdrefnau statudol ar gyfer gwrandawiadau disgyblu.

Mae Rheoliad 10 yn dirymu Rheoliadau 1993 i'r graddau eu bod yn ymestyn i Gymru (ond nid mewn perthynas ag Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru).

Mae Rheoliad 11 yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas â rheolau sefydlog sydd yn bodoli eisoes ar gyfer camau disgyblu a waned o dan Reoliadau 1993.


Notes:

[1] 1989 p.42. Diwygiwyd adran 8 gan O.S. 2002/803 (Cy. 88).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 8, 20 a 190, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672 ); gweler y cofnod yn Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.back

[3] 2000 p.22.back

[4] 1971 p.80.back

[5] 1972 p.70.back

[6] O.S. 1993/202.back

[7] Is-adran (1) o adran 5 (fel y'i diwygiwyd).back

[8] Gweler paragraff 42 Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.back

[9] Ni chaiff swyddog monitro na phrif swyddog cyllid awdurdod fod yn rheolwr cyngor. Gweler paragraff 13(b) ac (c) Atodlen 1 i Ddeddf 2000.back

[10] 1998 p.38.back

[11] Diwygiwyd paragraff 41 gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).back

[12] 1989 p.42.back

[13] 2000 p.22.back

[14] Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).back

[15] Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[16] 2002 p.32.back

[17] 1989 p.42.back

[18] 2000 p.22.back

[19] Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).back

[20] Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[21] 2002 p.32.back

[22] 2000 p.22.back

[23] Penodir rheolwr y cyngor i'r corf gweithredu gan yr awdurdod. Gweler adran 11(4)(b) a (10) o Dddeddf 2000.back

[24] 1989 p.42. Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[25] 2002 p.32.back

[26] 1989 p.42.back

[27] Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).back

[28] Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[29] 2002 p.32.back



English version



ISBN 0 11 091340 X


 © Crown copyright 2006

Prepared 23 May 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061275w.html