BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 1389 (Cy.139)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061389w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1389 (Cy.139)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 23 Mai 2006 
  Yn dod i rym 24 Mai 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2006, a deuant i rym ar 24 Mai 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988[
2].

Diwygio Rhan I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
     2. —(1) Mae tabl A o Ran I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (addasiadau o ddarpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987[3]at ddibenion Rhan I o'r Atodlen hon) wedi'i ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 45–

    (3) Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 53 yn lle "£14,750" rhodder £16,000" ac yn lle "£21,000" rhodder "£21,500".

Diwygio Rhan II o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
     3. —(1) Mae Tabl B o Ran II o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (addasiadau o ddarpariaethau o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 at ddibenion Rhan II o'r Atodlen hon) wedi'i ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff 1 (2) o Atodlen 4A a fewnosodwyd, yn lle "£3000" rhodder "£6000".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Mai 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ("GIG") ac ar gyfer talu treuliau teithio mewn achosion penodol.

Mae gan rai personau hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio am eu bod yn cael budd-daliadau penodedig y wladwriaeth.

Nid oes gan lawer o bersonau hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio. Mae'r prif Reoliadau'n cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfrifo incwm, cyfalaf a gofynion hawlydd (a rhai ei deulu, pan fônt yn berthnasol). Gwneir y cyfrifiad hwn drwy gymhwyso darpariaethau wedi'u haddasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 a nodir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau.

Mae rheoliadau 2 a 3 yn diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau i gynyddu'r terfynau cyfalaf a ddefnyddir i gyfrifo'r hawl i beidio â thalu ac ad-dalu treuliau teithio.


Notes:

[1] {d2}{t2}1977 p.49 ("Deddf 1977"); mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe"i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) ("Deddf 1990") a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17).{d2}{t2}Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan Atodlen 4, paragraff 37(6) i Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).{d2}{t2}Adran 128(1), fel y"i diwygiwyd gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990, am y diffiniad o "prescribed" a "regulations".{d2}{t2}Trosglwyddwyd swyddogaethau"r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y"i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).back

[2] O.S.1988/551 fel y"i diwygiwyd gan O.S.1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/417, 1999/767 a 2840 (Cy.20), 2001/1397 (Cy.92) a 3322 (Cy.275), 2003/975 (Cy.134) a 2003/2561 (Cy.250), 2004/871 (Cy.86) a 2004/1042 (Cy.124) a 2005/1723 (Cy.135) a 2005/3302 (Cy.256).back

[3] O.S.1987/1967back

[4] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 091345 0


 © Crown copyright 2006

Prepared 1 June 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061389w.html