BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006 Rhif 1511 (Cy.147)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061511w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1511 (Cy.147)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 13 Mehefin 2006 
  Yn dod i rym Mehefin 2006 


TREFNIANT Y RHEOLIADAU

1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Y cyfrifoldeb dros ddethol
4. Dethol daliadau
5. Pwerau arolygwyr
6. Tramgwyddau
7. Y gosb
8. Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
9. Gorfodi

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1]at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2006.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn–

    (2) Mae i ymadroddion a ddiffinnir ym Mhenderfyniad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.

Y cyfrifoldeb dros ddethol
     3. Y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddethol daliadau i'w samplu at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn.

Dethol daliadau
    
4. —(1) Rhaid i feddiannydd daliad neu'r person sydd â gofal dros ddaliad (neu unrhyw gyflogai neu asiant i feddiannydd daliad neu'r person sydd â gofal dros ddaliad) anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn pen 7 niwrnod ar ôl cael cais gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr wybodaeth y mae arno ei hangen i'w gynorthwyo i ddethol y daliadau sydd i'w cynnwys yn yr arolwg at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn, gan gynnwys–

    (2) Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Pwerau arolygwyr
    
5. —(1) Mae gan arolygydd, ar ôl dangos rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol, i fynd i mewn i unrhyw ddaliad a ddetholir yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn, er mwyn canfod yn unol â'r Penderfyniad hwnnw–

    (2) Yn ychwanegol at ei hawl o dan baragraff (1), caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw ddaliad er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn.

    (3) Pan fo wedi mynd i mewn i ddaliad, caiff arolygydd–

    (4) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "arolygydd" yw unrhyw berson a benodir i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod lleol.

Tramgwyddau
    
6. Bydd unrhyw berson sydd–

Y gosb
    
7. Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
    
8. —(1) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran–

bydd ef, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (2) At ddibenion paragraff (1), ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Gorfodi
    
9. —(1) Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, mai ef, ac nid yr awdurdod lleol, sy'n gorfod cyflawni unrhyw ddyletswydd a osodwyd ar awdurdod lleol o dan baragraff (1).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mehefin 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu pŵer mynediad i arolygwyr i ymgymryd â'r samplu sy'n ofynnol o dan Benderfyniad y Comisiwn 2005/636/EC (ynghylch cyfraniad ariannol gan y Gymuned at arolwg gwaelodlin o ba mor gyffredin y mae Salmonela spp. mewn heidiau o frwyliaid Gallus gallus ac mae hwnnw'n arolwg sydd i'w gynnal yn yr Aelod-wladwriaethau) i ddarganfod pa mor gyffredin y mae Salmonela spp. mewn brwyliaid. Mae rheoliad 3 yn darparu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol am ddethol daliadau i'w samplu at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn. Mae Rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i feddiannydd daliad neu'r person sydd â gofal dros ddaliad roi gwybodaeth, os gofynnir iddo wneud hynny, i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn cynorthwyo'r Cynulliad Cenedlaethol i ddethol y daliadau sydd i'w cynnwys yn yr arolwg. Mae rheoliad 5 yn darparu pwerau amrywiol i arolygwyr, gan gynnwys pŵer mynediad a phŵer i gymryd samplau o ddeunydd ysgarthol, i archwilio cofnodion ac i holi unrhyw berson. Mae rheoliad 6 yn creu tramgwyddau am rwystro arolygydd rhag arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn ac mae rheoliad 7 yn nodi'r gosb sy'n gymwys. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaethau o ran tramgwyddau gan gyrff corfforaethol. Mae rheoliad 9 yn darparu y gall y Rheoliadau hyn gael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.

Mae arfarniad rheoliadol am yr effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes wedi'i baratoi a gellir cael cop•au gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2005/2766.back

[2] 1972, p.68.back

[3] OJ Rhif L 228, 3.9.2005, t.14.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091355 8


 © Crown copyright 2006

Prepared 21 June 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061511w.html