BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Ffioedd) (Cymru) 2006 Rhif 1642 (Cy.157) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061642w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 20 Mehefin 2006 | ||
Yn dod i rym | 23 Mehefin 2006 |
Cymhwyso
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran apeliadau a cheisiadau o unrhyw un o'r mathau a bennir yn rheoliad 3 sy'n cael eu gwneud ar ôl 23 Mehefin 2006 sy'n ymwneud â mangreoedd yng Nghymru.
Ffioedd
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5(2), mae ffi o £150 yn daladwy am-
(b) cais i dribiwnlys o dan–
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliad 5(2), mae ffi o £150 i'w thalu am apêl i dribiwnlys o dan un neu fwy o'r darpariaethau a ganlyn–
(3) Nid oes ffi i'w thalu os yw apêl o dan is-baragraff (1)(b) o baragraff 24 o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn cael ei gwneud ar y seiliau a osodir yn is-baragraff (3) o'r paragraff hwnnw.
Talu ffioedd
4.
Mae'n rhaid i unrhyw ffi sydd i'w thalu o dan reoliad 3 fynd gyda'r apêl neu'r cais a rhaid ei thalu â siec sy'n daladwy i, neu â gorchymyn post wedi ei dynnu o blaid Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Rhwymedigaeth i dalu ffi a gosod ffioedd o'r neilltu
5.
—(1) Mae'r apelydd neu'r ceisydd yn atebol i dalu unrhyw ffi sydd i'w thalu o dan reoliad 3.
(2) Nid oes ffi i'w thalu o dan reoliad 3 os, ar y dyddiad y gwneir yr apêl neu'r cais, yw'r apelydd neu'r ceisydd (yn ôl y digwydd) neu bartner yr apelydd neu'r ceisydd yn derbyn–
(b) lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995[4];
(c) credyd treth gwaith o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002[5]y mae paragraff (3) yn gymwys iddo;
(ch) credyd gwarant o dan Ddeddf Credyd Pensiynau'r Wladwriaeth 2002[6].
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os-
(b) yw'r incwm blynyddol gros a gymerir i ystyriaeth ar gyfer cyfrifo'r credyd treth gwaith yn £14, 213 neu lai.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr "partner" ("partner") o ran person, yw–
(5) Ym mharagraff (4), ystyr "cwpwl" ("couple") yw–
ac at ddibenion is-baragraff (ch), rhaid ystyried bod dau o bobl o'r un rhyw yn byw gyda'i gilydd megis petaent yn bartneriaid sifil os, ond yn unig os, byddid yn ystyried eu bod yn byw gyda'i gilydd fel gŵ r a gwraig petaent yn hytrach yn ddau o bobl o wahanol ryw.
Ad-dalu ffioedd
6.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), o ran unrhyw apêl neu gais y mae ffi i'w thalu ar ei gyfer o dan reoliad 3, caiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti i'r apêl neu'r cais ad-dalu i unrhyw barti arall y cyfan neu ran o unrhyw ffi a dalwyd gan y parti hwnnw o ran yr apêl neu'r cais.
(2) Ni chaiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i barti wneud ad-daliad o'r fath os yw'r tribiwnlys, pan fo'n ystyried p'un ai i wneud hynny ai peidio, wedi'i fodloni fod y parti neu bartner y parti yn cael cymorth o unrhyw fath a grybwyllir yn rheoliad 5(2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Deddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mehefin 2006
Nid oes ffi i'w thalu os yw seiliau apêl yn erbyn gorchymyn rheoli yn cynnwys methiant i ddelio â thaliad sy'n delio â materion penodedig, er enghraifft, taliad o renti dros ben.
Mae Rheoliad 5 yn darparu y bydd yr apelydd neu'r ceisydd dan rwymedigaeth i dalu'r ffi ac yn darparu ar gyfer gosod y ffi o'r neilltu os yw'r apelydd neu'r ceisydd neu bartner yr apelydd neu'r ceisydd yn derbyn budd-dâl penodedig.
Mae Rheoliad 6 yn gosod yr amgylchiadau pan gaiff y tribiwnlys orchymyn i un parti i apêl neu gais ad-dalu unrhyw ffioedd a dducpwyd o dan reoliad 3 gan barti arall.
Mae arfarniad rheoliadol wedi cael ei wneud mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Uned y Sector Breifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111; e-bost [email protected]).
[3] 1992 p.4; diwygiwyd gan Ddeddf Credydau Treth 2002 (p.21), adrannau 60 ac Atodlen 6. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[4] 1995 p.18; diwygiwyd gan Ddeddf Pensiynwyr a Diwygio Lles 1999 (p. 30), adrannau 59 ac 88 ac Atodlenni 7 a 13.back
[7] Gweler adran 11(3), (4) a (6) o Ddeddf Credydau Treth 2002.back
[8] Gweler adran 8 o Deddf Credydau Treth 2002.back