BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (Cymru) 2006 Rhif 1702 (Cy.164)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061702w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1702 (Cy.164)

TAI, CYMRU

Rheoliadau System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 27 Mehefin 2006 
  Yn dod i rym 30 Mehefin 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2, 4 a 250(2)(a) o Ddeddf Tai 2004[1] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (Cymru) 2006 a deuant i rym ar y 30 Mehefin 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran mangreoedd preswyl yng Nghymru[
2].

Dehongli
     2. Yn y Rheoliadau hyn—

Disgrifiadau rhagnodedig o berygl posibl
    
3. —(1) Mae i berygl posibl ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion y Ddeddf os yw'r risg o niwed yn gysylltiedig â bod unrhyw un neu rai o'r materion neu'r amgylchiadau a restrir yn Atodlen 1 yn bodoli.

    (2) Yn Atodlen 1, oni nodir yn wahanol, cyfeiriad at fater neu amgylchiad yn yr annedd neu yn y tŷ amlfeddiannaeth o dan sylw, neu mewn unrhyw adeilad neu ar unrhyw dir yng nghyffiniau'r annedd neu'r tŷ amlfeddiannaeth, yw cyfeiriad at fater neu amgylchiad.

Perygl tân posibl a ragnodwyd
    
4. At ddibenion adran 10 o'r Ddeddf perygl posibl categori 1 a 2[3] yw perygl tân posibl a ragnodwyd os yw'r risg o niwed yn gysylltiedig â bod mewn cyffyrddiad â thân afreolus a mwg cysylltiedig.

Arolygiadau
     5. Rhaid i arolygydd—

Difrifoldeb peryglon posibl
    
6. —(1) Os bydd arolygydd, yn sgil arolygiad o fangreoedd preswyl o dan adran 4 o'r Ddeddf—

rhaid cyfrifo pa mor ddifrifol yw'r perygl posibl hwnnw yn unol â pharagraffau (2) i (4) o'r rheoliad hwn.

    (2) Rhaid i'r arolygydd asesu pa mor debygol ydyw, yn ystod y cyfnod o 12 mis yn cychwyn ar ddyddiad yr asesiad, i feddiannydd perthnasol ddioddef unrhyw niwed o ganlyniad i'r ffaith bod y perygl posibl hwnnw, yn dod o fewn un o'r ystod cymarebau tebygolrwydd a geir yng ngholofn 1 o Dabl 1.


Tabl 1
Colofn 1 Colofn 2
Ystod cymarebau tebygolrwydd Pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod
Llai tebygol nag 1 mewn 4200 5600
1 mewn 4200 hyd 1 mewn 2400 3200
1 mewn 2400 hyd 1 mewn 1300 1800
1 mewn 1300 hyd 1 mewn 750 1000
1 mewn 750 hyd 1 mewn 420 560
1 mewn 420 hyd 1 mewn 240 320
1 mewn 240 hyd 1 mewn 130 180
1 mewn 130 hyd 1 mewn 75 100
1 mewn 75 hyd 1 mewn 42 56
1 mewn 42 hyd 1 mewn 24 32
1 mewn 24 hyd 1 mewn 13 18
1 mewn 13 hyd 1 mewn 7.5 10
1 mewn 7.5 hyd 1 mewn 4 6
1 mewn 4 hyd 1 mewn 2.5 3
1 mewn 2.5 hyd 1 mewn 1.5 2
Mwy tebygol nag 1 mewn 1.5 1

    (3) Rhaid i'r arolygydd asesu o ba un o'r pedwar dosbarth o niwed (a nodir yn Atodlen 2) y mae meddiannydd perthnasol yn fwyaf tebygol o ddioddef yn ystod y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (2).

    (4) Rhaid i'r arolygydd—


Tabl 2
Colofn 1 Colofn 2
Ystod canrannau posibilrwydd Pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR)
O dan 0.05% 0%
0.5 hyd 0.15% 0.1%
0.15% hyd 0.3% 0.2%
0.3% hyd 0.7% 0.5%
0.7% hyd 1.5% 1%
1.5% hyd 3% 2.2%
3% hyd 7% 4.6%
7% hyd 15% 10%
15% hyd 26% 21.5%
26% hyd 38% 31.6%
Dros 38% 46.4%

    (5) Pan fydd yr arolygydd wedi asesu pa mor debygol ydyw o dan baragraff (2) ac wedi asesu pa mor bosibl ydyw o dan baragraff (3) i bob niwed ddigwydd rhaid iddo fynegi difrifoldeb y perygl posibl hwnnw fel sgôr rifiadol a gyfrifir drwy ddefnyddio'r fformiwla ganlynol—

S1 + S2 + S3 + S4
Yn yr achos hwn—
    S1 = 10000 × (1/L) × O1

    S2 = 1000 × (1/L) × O2

    S3 = 300 × (1/L) × O3

    S4 = 10 × (1/L) × O4

    (6) At ddibenion y fformiwla ym mharagraff (5)—

    (a) L yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) yng ngholofn 2 o Dabl 1 sy'n cyfateb i'r ystod a gofnodwyd o dan baragraff (2);

    (b) O1 yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) a gofnodir o dan baragraff (4) mewn perthynas â niwed Dosbarth I;

    (c) O2 yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) a gofnodir o dan baragraff (4) mewn perthynas â niwed Dosbarth II;

    (ch) O3 yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) a gofnodir o dan baragraff (4) mewn perthynas â niwed Dosbarth III;

    (d) O4 yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod (RSPPR) a gofnodir o dan baragraff (4) mewn perthynas â niwed Dosbarth IV.

    (7) Yn y rheoliad hwn—

    os yw'r risg o niwed o dan sylw yn gysylltiedig â bod unrhyw un neu rai o'r materion neu'r amgylchiadau a restrir fel a nodir isod yn bodoli, ystyr "meddiannydd perthnasol" ("relevant occupier")—

    (a) ym mharagraff 1 o Atodlen 1, yw meddiannydd o dan 15 mlwydd oed;

    (b) ym mharagraff 2, 3 neu 6(a) o Atodlen 1, yw meddiannydd 65 mlwydd oed neu drosodd;

    (c) ym mharagraff 7 o Atodlen 1, yw meddiannydd o dan 3 blwydd oed;

    (ch) ym mharagraff 8 o Atodlen 1, yw meddiannydd 60 mlwydd oed neu drosodd sydd wedi bod mewn cyffyrddiad â radon ers ei enedigaeth;

    (d) ym mharagraff 11 o Atodlen 1, yw'r meddiannydd ei hun;

    (dd) ym mharagraff 17, 22, 23 neu 25 o Atodlen 1, yw meddiannydd o dan 5 mlwydd oed;

    (e) ym mharagraff 19, 20, 21, 24 neu 28 o Atodlen 1, yw meddiannydd 60 mlwydd oed neu drosodd;

    (f) ym mharagraff 26—

      (i) ac eithrio os gwrthdrawiad ydyw â nodweddion pensaernïol isel, yw meddiannydd o dan 5 mlwydd oed, a

      (ii) os gwrthdrawiad ydyw â nodweddion pensaernïol isel, yw meddiannydd 16 mlwydd oed neu drosodd;

    (ff) yn unrhyw baragraff arall o Atodlen 1, yw unrhyw feddiannydd; ac

    ystyr "RSPPR" yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol.

    (8) Wrth wneud asesiadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i arolygydd roi sylw i unrhyw ganllau a roddir am y tro o dan adran 9 o'r Ddeddf.

Bandiau rhagnodedig
    
7. At ddibenion y Ddeddf daw perygl posibl o fewn band a ddynodir gan lythyren yng ngholofn 1 o Dabl 3 pan fydd yn cyrraedd sgôr rifiadol a gyfrifir yn unol â rheoliad 6(5) ac sydd o fewn yr ystod sy'n cyfateb i'r llythyren honno yng ngholofn 2 o'r Tabl hwnnw.


Tabl 3
Colofn 1 Colofn 2
Band Ystod Sgôr Rifiadol
A 5000 neu fwy
B 2000 hyd 4999
C 1000 hyd 1999
D 500 hyd 999
E 200 hyd 499
F 100 hyd 199
G 50 hyd 99
H 20 hyd 49
I 10 hyd 19
J 9 neu lai

Categori o berygl posibl
    
8. At ddibenion y Ddeddf—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mehefin 2006



ATODLEN 1
Rheoliad 3(1)


Materion ac Amgylchiadau


Lleithder a thyfiant llwydni
     1. Bod mewn cyffyrddiad â gwiddon llwch mewn cartrefi, lleithder, tyfiant llwydni neu dyfiant ffwngaidd.

Oerfel gormodol
     2. Bod mewn cyffyrddiad â thymheredd isel.

Gwres gormodol
     3. Bod mewn cyffyrddiad â thymheredd uchel.

Asbestos a ffibrau mwynau a weithgynhyrchwyd
     4. Bod mewn cyffyrddiad â ffibrau asbestos neu ffibrau mwynau a weithgynhyrchwyd.

Bywleiddiaid
     5. Bod mewn cyffyrddiad â chemegolion a ddefnyddir i drin pren a thyfiant llwydni.

Carbon monocsid a chynhyrchion tanwydd hylosgi
     6. Bod mewn cyffyrddiad â'r canlynol—

    (a) carbon monocsid;

    (b) nitrogen diocsid;

    (c) sylffwr diocsid a mwg.

Plwm
     7. Amlyncu plwm.

Ymbelydredd
     8. Dod i gyffyrddiad ag ymbelydredd.

Nwy tanwydd nas hylosgwyd
     9. Bod mewn cyffyrddiad â nwy tanwydd nas hylosgwyd.

Cyfansoddion organig anweddol
     10. Dod i gyffyrddiad â chyfansoddion organig anweddol.

Gorboblogi a gofod
     11. Diffyg gofod digonol ar gyfer byw a chysgu.

Tresbaswyr yn dod i mewn
     12. Anawsterau wrth gadw'r annedd neu'r tŷ amlfeddiannaeth yn ddiogel rhag i bobl nas awdurdodir ddod i mewn.

Goleuo
     13. Diffyg golau digonol.

Sŵn
     14. Bod mewn cysylltiad â sŵn.

Hylendid domestig, pla a sbwriel
     15. —(1) Dyluniad, cynllun neu adeiladwaith gwael fel na ellir yn hawdd gadw'r annedd neu'r tŷ amlfeddiannaeth yn lân.

    (2) Bod mewn cyffyrddiad â phla.

    (3) Darpariaeth annigonol ar gyfer storio gwastraff tŷ a'i waredu'n hylan.

Diogelwch bwyd
     16. Darpariaeth annigonol o gyfleusterau ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd.

Hylendid personol, carthffosiaeth a draeniau
     17. Darpariaeth annigonol—

    (a) o gyfleusterau i gynnal hylendid personol da;

    (b) o garthffosiaeth a draenio.

Cyflenwad dŵr
     18. Cyflenwad annigonol o ddŵr sydd heb ei halogi, er mwyn ei yfed ac at ddibenion domestig eraill.

Cwympo yn gysylltiedig â baddonau etc
     19. Cwympo sy'n gysylltiedig â thoiledau, baddonau, cawodydd neu gyfleusterau ymolchi eraill.

Cwympo ar arwynebau gwastad etc
     20. Cwympo ar unrhyw arwyneb gwastad neu gwympo rhwng arwynebau pan na fydd y newid yn y lefel yn fwy na 300 milimetr.

Cwympo ar risiau etc
     21. Cwympo ar risiau, stepiau neu rampiau pan fydd y newid mewn lefel yn 300 milimetr neu'n fwy.

Cwympo rhwng lefelau
     22. Cwympo rhwng lefelau pan fydd y gwahaniaeth yn y lefelau yn 300 milimetr neu'n fwy.

Peryglon posibl gyda thrydan
     23. Bod mewn cyffyrddiad â thrydan.

Tân
     24. Bod mewn cyffyrddiad â thân afreolus a'r mwg sy'n gysylltiedig ag ef.

Fflamau, arwynebau poeth etc
     25. Bod mewn cyffyrddiad â'r canlynol—

    (a) tân neu fflamau a reolir;

    (b) pethau, hylifau neu anweddau poeth.

Taro yn erbyn neu mynd yn sownd
     26. Taro yn erbyn drysau, ffenestri neu nodweddion pensaernïol eraill, neu rannau o'r corff yn mynd yn sownd ynddynt.

Ffrwydradau
     27. Ffrwydrad yn yr annedd neu yn y tŷ amlfeddiannaeth.

Safle amwynderau a'u gweithrediad etc
     28. Safle, lleoliad a gweithrediad amwynderau, ffitiadau a chyfarpar.

Dymchwel strwythurol ac elfennau'n disgyn
     29. Yr annedd gyfan neu ran ohoni neu'r tŷ amlfeddiannaeth cyfan neu ran ohono yn dymchwel.



ATODLEN 2
Rheoliad 2


Dosbarthiadau o Niwed


Dosbarth I
     1. Niwed Dosbarth 1 yw unrhyw niwed eithafol y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—

    (a) marw o unrhyw achos;

    (b) canser yr ysgyfaint;

    (c) mesothelioma a thyfiannau malaen eraill;

    (ch) parlysu parhaol islaw'r gwddf;

    (d) niwmonia difrifol a rheolaidd;

    (dd) colli ymwybyddiaeth yn barhaol;

    (e) anafiadau o losgiadau 80% .

Dosbarth II
     2. Niwed Dosbarth II yw unrhyw niwed difrifol iawn y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—

    (a) clefyd cardio-resbiriadol;

    (b) asthma;

    (c) clefydau resbiriadol anfalaen;

    (ch) gwenwyno gan blwm;

    (d) sioc anaffylactig;

    (dd) cryptosporidiosis;

    (e) clefyd y llengfilwyr;

    (f) cnawdnychiant myocardaidd;

    (ff) trawiad ysgafn;

    (g) dryswch cronig;

    (ng) twymyn ddifrifol reolaidd;

    (h) colli llaw neu droed;

    (i) torasgwrn difrifol;

    (j) llosgiadau difrifol;

    (l) colli ymwybyddiaeth am ddyddiau.

Dosbarth III
     3. Niwed Dosbarth III yw unrhyw niwed difrifol y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—

    (a) anhwylderau'r llygad;

    (b) llid y ffroenau;

    (c) pwysedd gwaed uchel;

    (ch) anhunedd;

    (d) nam newroseicolegol;

    (dd) syndrom adeilad afiach;

    (e) dermatitis rheolaidd a chyson, gan gynnwys dermatitis drwy gyffyrddiad;

    (f) alergedd;

    (ff) llid y coluddion;

    (g) dolur rhydd;

    (ng) chwydu;

    (h) straen difrifol cronig;

    (i) trawiad ysgafn ar y galon;

    (j) canser malaen y croen ond un y gellir ei drin;

    (l) colli bys;

    (ll) torpenglog ac ergydwst difrifol;

    (m) clwyfau difrifol i'r pen neu i'r corff sy'n torri drwy'r cnawd;

    (n) llosgiadau difrifol i'r dwylo;

    (o) anafiadau straen neu ysigiad difrifol;

    (p) meigryn difrifol a rheolaidd.

Dosbarth IV
     4. Niwed Dosbarth IV yw unrhyw niwed cymedrol y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—

    (a) haint y nodau eisbilennol;

    (b) anghysur difrifol achlysurol;

    (c) tyfiannau diniwed;

    (ch) niwmonia ysgafn achlysurol;

    (d) torri bys;

    (dd) ergydwst ysgafn;

    (e) briwiau cymedrol i'r wyneb neu i'r corff;

    (f) cleisio difrifol i'r corff;

    (ff) peswch neu annwyd difrifol rheolaidd.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rhan 1 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn cyflwyno'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai ("HHSRS"), sef system ar gyfer asesu cyflwr tai ar sail tystiolaeth. Mae adrannau 2 a 4 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau i ragnodi disgrifiadau o beryglon posibl, y dull o asesu pa mor ddifrifol yw'r peryglon posibl, a'r modd y gwneir arolygiadau o fangreoedd preswyl ac i ba raddau y'u gwneir a hynny i weld a yw peryglon posibl categori 1 neu 2 yn bodoli. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd camau gorfodi os yw perygl posibl categori 1 yn bodoli ac yn caniatáu cymryd camau yn ôl disgresiwn os yw perygl categori 2 yn bodoli.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi disgrifiadau o beryglon posibl gan gyfeirio at fodolaeth materion neu amgylchiadau a restrir yn Atodlen 1. Mae'r materion a'r amgylchiadau hyn yn adlewyrchu proffiliau peryglon posibl a geir yn Atodiad D i'r arweiniad gweithredu a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 9(1)(a) o'r Ddeddf.

Mae adran 10 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ymgynghori â'r awdurdod tân ac achub dros yr ardal os yw camau gorfodi i'w cymryd o dan Ran 1 mewn perthynas â pherygl tân posibl a ragnodwyd. Mae rheoliad 4 yn rhagnodi perygl tân posibl at ddibenion adran 10 yn un lle y mae bod mewn cyffyrddiad â thân afreolus a mwg sy'n gysylltiedig ag ef yn arwain at risg posibl o niwed.

Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer y modd y mae mangreoedd i gael eu harchwilio o dan yr HHSRS ac i ba raddau y maent i gael eu harchwilio. Yn benodol, rhaid paratoi cofnod o'r arolygiad a'i gadw naill ai'n ysgrifenedig neu ar ffurf electronig.

Mae rheoliad 6 yn rhagnodi dull cyfrifo difrifoldeb peryglon posibl ac mae hwnnw i'w fynegi ar ffurf sgôr rifiadol.

Mae rheoliad 7 yn rhagnodi'r bandiau sy'n gymwys i ystod o sgoriau Rhif iadol ac mae rheoliad 8 yn darparu mai perygl posibl categori 1 yw un sy'n dod o fewn bandiau A, B neu C ac mai perygl posibl categori 2 yw un sy'n dod o fewn unrhyw fand arall.

Mae Atodlen 2 yn disgrifio pob dosbarth o niwed ac yn cynnwys enghreifftiau o bob dosbarth o niwed.


Notes:

[1] 2004 p.34.back

[2] Mae'r pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 4 o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" yn adran 261(1).back

[3] Gweler y diffiniad o berygl posibl categori 1 a chategori 2 yn adran 2(1) o'r Ddeddf.back

[4] 998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091366 3


 © Crown copyright 2006

Prepared 6 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061702w.html