BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1715 (Cy.177)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
27 Mehefin 2006 | |
|
Yn dod i rym |
30 Mehefin 2006 | |
CYNNWYS
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 59(2), (3) a (4), 60(6), 63(5) a (6), 65(3) a (4), 83(2), (3) a (4), 84(6), 87(5) a (6), 232(3) a (7), 250(2), 258(2)(b), (5) a (6), 259(2)(c) o Ddeddf Tai 2004[1], a pharagraffau 3 a 6(1)(c) o Atodlen 14 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 30 Mehefin 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unrhyw HMO[2]yng Nghymru, ac eithrio bloc o fflatiau a gafodd ei drosi y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo, ac i unrhyw dŷ [3] yng Nghymru y mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys iddo[4].
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Tai 2004.
Personau yr ystyrir eu bod yn ffurfio aelwyd unigol at ddibenion adran 254 o'r Ddeddf: cyflogeion
3.
—(1) Pan fo—
(a) person ("person A") yn meddiannu llety i fyw mewn adeilad neu ran o adeilad; a
(b) mae person arall ("person B") ac unrhyw aelod o deulu person B sy'n byw gyda person B yn meddiannu llety i fyw yn yr un adeilad neu'r un rhan ohono,
dim ond os mai'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) yw eu hamgylchiadau y mae'r personau hynny i'w hystyried fel petaent yn ffurfio aelwyd unigol.
(2) Yr amgylchiadau yw—
(a) mae person A yn gwneud gwaith neu'n cyflawni gwasanaeth o natur ddomestig yn unig i berson B neu i aelod o'r fath o deulu person B;
(b) mae llety byw person A yn cael ei gyflenwi gan berson B neu aelod o'r fath o deulu person B fel rhan o'r gydnabyddiaeth am wneud y gwaith neu am gyflawni'r gwasanaeth; ac
(c) nid yw person A yn talu unrhyw rent na chydnabyddiaeth arall o ran y llety byw (heblaw gwneud y gwaith neu gyflawni'r gwasanaeth).
(3) Mae gwaith a wneir fel arfer neu wasanaeth a gyflawnir fel arfer gan unrhyw un o'r rhai a ganlyn i gael ei ystyried yn waith neu'n wasanaeth o natur ddomestig at ddibenion paragraff (2)(a)—
(a) au pair;
(b) mamaeth;
(c) nyrs;
(ch) gofalwr;
(d) dysgodres;
(dd) gwas, gan gynnwys morwyn, bwtler, cogydd neu lanhawr;
(e) gyrrwr;
(f) garddwr;
(ff) ysgrifenydd; neu
(g) cynorthwywr personol.
(4) Pan fo person A a person B i gael eu hystyried fel petaent yn ffurfio aelwyd unigol o dan baragraff (1) mae unrhyw aelod o deulu person A sy'n meddiannu'r llety byw gyda pherson A i gael ei ystyried fel petai yn ffurfio aelwyd unigol gyda pherson A, person B ac unrhyw aelod o deulu person B sy'n byw gyda pherson B at ddibenion adran 254 o'r Ddeddf.
Personau eraill yr ystyrir eu bod yn ffurfio aelwyd unigol at ddibenion adran 254 o'r Ddeddf
4.
—(1) Os yw person sy'n derbyn gofal a gofalwr y person hwnnw yn meddiannu'r un llety byw yn yr un adeilad neu ran o adeilad, ystyrir eu bod yn ffurfio aelwyd unigol at ddibenion adran 254 o'r Ddeddf os yw'r gofalwr yn darparu gofal o dan gytundeb lleoli oedolion yn unol â'r Rheoliadau Cynlluniau Rheoli Oedolion (Cymru) 2004, a bod y person sy'n derbyn gofal yn derbyn y gofal hwnnw[5].
(2) Os yw person a rhiant maeth y person hwnnw yn meddiannu'r un llety byw yn yr un adeilad neu ran o adeilad, ystyrir eu bod yn ffurfio aelwyd unigol at ddibenion adran 254 o'r Ddeddf os yw'r person hwnnw yn cael ei leoli gyda'r rhiant maeth o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003[6].
(3) Mae i'r term "cytundeb lleoli oedolion" ("adult placement agreement") yr ystyr a roddir i'r ymadrodd hwnnw yn Rheoliad 2 o'r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).
Personau sydd i'w trin fel petaent yn meddiannu mangre fel eu hunig breswylfod neu eu prif breswylfod at ddibenion adran 254 o'r Ddeddf
5.
—(1) Mae'n rhaid ymdrin â pherson fel pe bai yn meddiannu adeilad neu ran o adeilad fel ei brif breswylfod neu ei unig breswylfod at ddibenion adran 254 o'r Ddeddf os yw'r person hwnnw—
(a) yn weithiwr mudol neu'n weithiwr tymhorol—
(i) â'i feddiannaeth o'r adeilad neu ran o'r adeilad yn cael ei rhoi yn rhannol mewn cydnabyddiaeth o gyflogaeth y person yn y Deyrnas Unedig, p'un ai a oes taliadau eraill yn daladwy o ran y feddiannaeth honno ai peidio; a
(ii) os yw'r adeilad neu ran o adeilad yn cael ei ddarparu gan gyflogwr y person, neu ar ei ran, neu gan asiant neu gyflogai i gyflogydd y person; neu
(b) yn geisiwr lloches neu'n ddibynnydd ceisiwr lloches y darparwyd llety iddo o dan adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 [7] gyda'r llety hwnnw yn cael ei gyllido yn rhannol neu'n gyfangwbl gan y Gwasanaeth Cenedlaethol i Geiswyr Lloches[8].
(2) Yn y rheoliad hwn—
(a) "gweithiwr mudol" ("a migrant worker") yw—
(i) person sy'n wladolyn o Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Ewropeaidd Economaidd neu'r Swisdir sydd wedi ymgymryd â gweithgaredd fel person cyflogedig yn y Deyrnas Unedig o dan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar Ryddid Symudiad i Weithwyr o Fewn y Gymuned[9], fel y'i ymestynwyd gan Gytundeb yr AEE neu gan Gytundeb y Swisdir; neu
(ii) unrhyw berson sydd â phermit sy'n dangos, yn unol â'r rheolau mewnfudo, fod y person a enwir yn gymwys, er nad yw'n ddinesydd Prydeinig, i gael mynediad i'r Deyrnas Unedig at ddibenion cymryd cyflogaeth;
(b) ystyr "Cytundeb AEE" ("EEA Agreement") yw'r cytundeb ar yr Ardal Ewropeaidd Economaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
(c) ystyr "Cytundeb y Swisdir" ("Switzerland Agreement") yw'r cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Aelod-wladwriaethau o'r naill ran a'r Conffederasiwn Swisaidd o'r rhan arall ar Ryddid Symudiad Personau a lofnodwyd yn Luxemborg ar 21 Mehefin 1999 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
(ch) ystyr "gweithiwr tymhorol" ("seasonal worker") yw person sy'n gwneud gwaith o natur dymhorol i gyflogwr neu sy'n ymgymryd â chyflogaeth o natur dymhorol—
(i) y mae ei natur yn dibynnu ar dreigl y tymhorau ac sy'n ail ddigwydd ohono'i hun bob blwyddyn; a
(ii) nad yw yn para yn hwy nag wyth mis;
(d) ystyr "rheolau mewnfudo" ("immigration rules") yw'r rheolau a osodir fel y crybwyllir am y tro yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971[10]; ac
(dd) mae i "ceisiwr lloches" yr ystyr a roddir i'r ymadrodd "asylum seeker" yn Adran 94 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.
Adeiladau nad ydynt yn HMOs at ddibenion y Ddeddf (ag eithrio Rhan 1)
6.
—(1) Mae adeilad o ddisgrifiad a bennir at ddibenion paragraff 3 o Atodlen 14 i'r Ddeddf (adeiladau a reoleiddir ag eithrio o dan y Ddeddf nad ydynt yn HMOs at ddibenion y Ddeddf (ac eithrio Rhan 1)) os yw ei feddiannaeth yn cael ei reoleiddio gan unrhyw un o'r deddfiadau a restrir yn Atodlen 1 neu oddi tani.
(2) Y nifer o bersonau a bennir at ddibenion paragraff 6(1)(c) o Atodlen 14 i'r Ddeddf yw dau.
Ceisiadau am drwyddedau o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf
7.
—(1) Rhaid i gais am drwydded o dan adran 63 (cais am drwydded HMO) neu 87 (cais am drwydded i dy Rhan 3) o'r Ddeddf ("cais") gynwys datganiad yn y ffurf a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2.
(2) Rhaid i geisydd roi fel rhan o'r cais—
(a) yr wybodaeth a geir ym mharagraff 2 o atodlen 2; a
(b) yr wybodaeth sy'n ymwneud â deiliad arfaethedig y drwydded neu reolwr arfaethedig yr HMO neu'r tŷ a bennir ym mharagraff 3 o Atodlen 2.
(3) Rhaid i geisydd—
(a) roi gyda'r cais ddatganiadau wedi'u cwblhau a'u llofnodi yn y ffurf a bennir ym mharagraff 4 o Atodlen 2; a
(b) llofnodi'r cais.
(4) Os yw'r ceisydd yn arfaethu i berson arall ddal y drwydded, rhaid i'r ceisydd a deiliad arfaethedig y drwydded ill dau gydymffurfio â'r gofynion ym mharagraff (3).
(5) Rhaid i'r ceisydd roi'r wybodaeth a ganlyn ynglŷn â'r cais i bob person perthnasol—
(a) ei enw, ei gyfeiriad, ei rif ffôn ac unrhyw gyfeiriad e-bost neu rif ffacs sydd ganddo;
(b) enw, cyfeiriad, Rhif ffôn ac unrhyw gyfeiriad e-bost neu rif ffacs sydd gan ddeiliad arfaethedig y drwydded (os nad y ceisydd yw deiliad y drwydded);
(c) math y cais drwy gyfeirio at a yw'n cael ei wneud o ran HMO y mae'n rhaid ei drwyddedu o dan Ran 2 neu o ran tŷ y mae'n rhaid ei drwyddedu o dan Ran 3 o'r Ddeddf;
(ch) cyfeiriad yr HMO neu'r tŷ y mae'r cais yn ymwneud ag ef;
(d) enw a chyfeiriad yr awdurdod tai lleol y mae'r cais yn cael ei wneud iddo; ac
(dd) y dyddiad y gwneir y cais arno, neu y byddir yn ei wneud arno.
(6) Nid oes dim ym mharagraff (5) yn rhwystro ceisydd rhag rhoi copi o'r cais, na gwybodaeth arall ynglŷn â'r cais, i berson perthnasol.
(7) Rhaid i awdurdod tai lleol ad-dalu yn llawn unrhyw ffi a dalwyd gan y ceisydd mewn perthynas â chais cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol wedi i'r awdurdod ddod i wybod, parthed yr adeg y talwyd y ffi—
(a) yn achos cais am drwydded o dan Ran 2 o'r Ddeddf, nad oedd y tŷ yn HMO, neu nad oedd yn HMO yr oedd yn ofynnol i'w drwyddedu; neu
(b) yn achos cais am drwydded o dan Ran 3 o'r Ddeddf, bod y tŷ yn dŷ nad oedd yn ofynnol i'w drwyddedu o dan ran 2 neu 3 o'r Ddeddf.
(8) Mae paragraff (7) yn gymwys p'un ai a roddodd yr awdurdod tai lleol, yn unol â'r cais, drwydded i'r HMO neu'r tŷ pan nad oedd yn ofynnol i'w drwyddedu ai peidio.
(9) At ddibenion y rheoliad hwn "person perthnasol" ("relevant person") yw unrhyw berson (ac eithrio person y mae paragraff (10) yn gymwys iddo)—
(a) sydd, ac y mae hynny'n hysbys i'r ceisydd,—
(i) yn berson gydag ystad neu ddiddordeb yn yr HMO neu'r tŷ y gwneir y cais yn ei gylch, neu
(ii) yn berson sy'n rheoli neu sydd â rheolaeth dros yr HMO neu'r ty hwnnw (ac nad yw'n cwympo o fewn is-baragraff (i)); neu
(b) os yw'r ceisydd yn cynnig yn y cais y dylai'r drwydded gynnwys amodau sy'n gosod cyfyngiad neu rwymedigaeth ar unrhyw berson (ac eithrio deiliad y drwydded), y person hwnnw[11].
(10) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw denant o dan les ag iddi gyfnod heb ddod i ben o dair blynedd neu lai.
Safonau rhagnodedig ar gyfer penderfynu ar addasrwydd tŷ ar gyfer amlfeddiannaeth gan uchafswm nifer penodol o aelwydydd neu o bersonau
8.
Y safonau a ragnodir at ddibenion adran 65 o'r Ddeddf (profion parthed addasrwydd HMO ar gyfer amlfeddiannwyr) yw'r rheini a nodir yn Atodlen 3.
Y gofynion cyhoeddi mewn perthynas â dynodiadau o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf
9.
—(1) Rhaid i awdurdod tai lleol y mae'n ofynnol iddo o dan adran 59(2) neu 83(2) o'r Ddeddf gyhoeddi hysbysiad dynodi ardal at ddibenion Rhan 2 neu 3 o'r Ddeddf wneud hynny yn y dull a ragnodir gan baragraff (2).
(2) O fewn 7 niwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd y dynodiad ei wneud neu ei gadarnhau rhaid i'r awdurdod tai lleol—
(a) gosod yr hysbysiad ar hysbysfwrdd cyhoeddus mewn un neu mewn mwy nag un adeilad dinesig o fewn yr ardal ddynodedig, neu, os nad oes unrhyw adeiladau o'r fath o fewn yr ardal ddynodedig, mewn adeiladau o'r fath wedi eu lleoli y tu allan i'r ardal ddynodedig ond sydd agosaf ati;
(b) cyhoeddi'r hysbysiad ar wefan yr awdurdod tai lleol; ac
(c) trefnu iddo gael ei gyhoeddi mewn o leiaf ddau bapur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal ddynodedig neu o'i hamgylch.
(3) O fewn 2 wythnos ar ôl i'r dynodiad gael ei wneud neu ei gadarnhau rhaid i'r awdurdod tai lleol anfon copi o'r hysbysiad at—
(a) unrhyw berson a ymatebodd i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ganddo o dan adran 56(3) neu 80(9) o'r Ddeddf;
(b) unrhyw sefydliad sydd, o fewn gwybodaeth resymol yr awdurdod tai lleol—
(i) yn cynrychioli diddordebau landlordiaid neu denantiaid o fewn yr ardal ddynodedig; neu
(ii) yn cynrychioli asiantaethau rheoli, asiantaethau ystad neu asiantaethau gosod tai o fewn yr ardal ddynodedig; ac
(c) pob sefydliad o fewn ardal yr awdurdod tai lleol y mae'r awdurdod tai lleol yn gwybod neu yn credu ei fod yn darparu cyngor ar faterion landlord a thenant, gan gynnwys—
(i) canolfannau cyfraith;
(ii) canolfannau cyngor ar bopeth;
(iii) canolfannau cyngor ar dai; a
(iv) unedau personau digartref.
(4) Yn ychwanegol at yr wybodaeth y cyfeirir ati yn adran 59(2)(a), (b) ac (c) neu 83(2)(a), (b) ac (c), rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) disgrifiad byr o'r ardal ddynodedig;
(b) enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost—
(i) yr awdurdod tai lleol a wnaeth y dynodiad;
(ii) y fangre lle gellir archwilio'r dynodiad; a
(iii) y fangre lle gellir cael ceisiadau am drwyddedau a chyngor cyffredinol ynddynt;
(c) datganiad sy'n cynghori unrhyw landlord, unrhyw berson sy'n rheoli eiddo neu unrhyw denant sydd o fewn yr ardal ddynodedig i geisio cyngor gan yr awdurdod tai lleol ar y mater a yw'r dynodiad yn effeithio ar eu heiddo; ac
(ch) rhybudd o ganlyniadau methu â thrwyddedu eiddo y mae'n ofynnol i'w drwyddedu, gan gynnwys y sancsiynau troseddol.
Y gofynion cyhoeddi mewn perthynas â dirymu dynodiadau o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf
10.
—(1) Rhaid i awdurdod tai lleol y mae'n ofynnol iddo o dan adran 60(6) neu 84(6) o'r Ddeddf gyhoeddi hysbysiad dirymu dynodiad ardal at ddibenion Rhan 2 neu 3 o'r Ddeddf wneud hynny yn y dull a ragnodir gan baragraff (2).
(2) O fewn 7 niwrnod ar ôl dirymu dynodiad rhaid i'r awdurdod tai lleol—
(a) gosod hysbysiad ar hysbysfwrdd cyhoeddus mewn un neu mewn mwy nag un adeilad dinesig o fewn yr ardal ddynodedig, neu, os nad oes unrhyw adeiladau o'r fath o fewn yr ardal ddynodedig, mewn adeiladau o'r fath wedi eu lleoli y tu allan i'r ardal ddynodedig ond sydd agosaf ati;
(b) cyhoeddi'r hysbysiad ar wefan yr awdurdod tai lleol; ac
(c) trefnu i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi mewn o leiaf ddau bapur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal ddynodedig neu o'i hamgylch yn y Rhif yn nesaf o'r papurau newydd hynny.
(3) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) disgrifiad byr o'r ardal y mae'r dynodiad sy'n cael ei ddirymu yn ymwneud â hi;
(b) crynodeb o'r rhesymau dros y dirymiad;
(c) y dyddiad pryd y daw'r dirymiad yn effeithiol;
(ch) enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost—
(i) yr awdurdod tai lleol a ddirymodd y dynodiad; a
(ii) y man(nau) lle gellir archwilio'r dirymiad.
Cofrestrau o drwyddedau
11.
—(1) Mae'r manylion a ganlyn wedi eu rhagnodi ar gyfer pob cofnod mewn cofrestr a sefydlwyd ac sy'n cael ei chynnal o dan adran 232(1)(a) o'r Ddeddf o ran trwydded a roddir o dan Ran 2 (HMOs) neu 3 (trwyddedu dethol) o'r Ddeddf—
(a) enw a chyfeiriad deiliad y drwydded;
(b) enw a chyfeiriad y person sy'n rheoli'r HMO neu'r tŷ trwyddedig;
(c) cyfeiriad yr HMO neu'r tŷ trwyddedig;
(ch) disgrifiad byr o'r HMO neu'r tŷ trwyddedig;
(d) crynodeb o amodau'r drwydded;
(dd) dyddiad cychwyn y drwydded a chyfnod ei pharhâd;
(e) gwybodaeth gryno ar unrhyw fater yn ymwneud â thrwyddedu'r HMO neu'r ty sydd wedi cael ei gyfeirio at dribiwnlys eiddo preswyl neu at y Tribiwnlys Tiroedd; a
(f) gwybodaeth gryno ar unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlysoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (e) sy'n ymwneud â'r HMO neu'r tŷ trwyddedig, ynghyd â'r cyfeirnod a roddwyd i'r achos gan y tribiwnlys.
(2) Mae'r manylion ychwanegol a ganlyn wedi eu rhagnodi ar gyfer pob cofnod mewn cofrestr a sefydlwyd ac sy'n cael ei chynnal o dan adran 232(1)(a) o'r Ddeddf o ran trwydded a roddir o dan Ran 2 o'r Ddeddf—
(a) nifer y lloriau sy'n ffurfio'r HMO;
(b) nifer yr ystafelloedd yn yr HMO trwyddedig sy'n darparu—
(i) lle cysgu; a
(ii) lle byw;
(c) yn achos HMO trwyddedig sydd yn fflatiau—
(i) nifer y fflatiau sy'n hunangynhaliol; a
(ii) nifer y fflatiau sydd heb fod yn hunangynhaliol;
(ch) disgrifiad o amwynderau sy'n cael eu rhannu gan gynnwys nifer pob amwynder; a
(d) uchafswm y nifer o bersonau neu o aelwydydd y caniateir iddynt feddiannu'r HMO trwyddedig o dan amodau'r drwydded.
Cofrestrau o hysbysiadau eithrio dros dro
12.
Mae'r manylion a ganlyn wedi eu rhagnodi ar gyfer pob cofnod mewn cofrestr a sefydlwyd ac sy'n cael ei gynnal o dan adran 232(1)(b) o'r Ddeddf o ran hysbysiad eithrio dros dro a gyflwynwyd o dan adran 62 neu 86 o'r Ddeddf—
(a) enw a chyfeiriad y person sy'n hysbysu'r awdurdod tai lleol o dan adran 62(1) neu 86(1) o'r Ddeddf;
(b) cyfeiriad yr HMO neu'r tŷ y mae'r awdurdod tai lleol wedi cyflwyno'r hysbysiad eithrio dros dro mewn perthynas ag ef ac unrhyw gyfeirnod a roddwyd iddo gan yr awdurdod tai lleol;
(c) crynodeb o effaith yr hysbysiad;
(ch) manylion unrhyw hysbysiadau eithrio dros dro blaenorol a gafodd eu cyflwyno mewn perthynas â'r un HMO neu dy am gyfnod sy'n union cyn yr hysbysiad eithrio dros dro cyfredol;
(d) datganiad o'r camau penodol y mae'r person y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn bwriadu eu cymryd gyda golwg ar sicrhau nad yw'n ofynnol bellach i drwyddedu'r HMO neu'r tŷ;
(dd) y dyddiad pryd y cyflwynodd yr awdurdod tai lleol y rhybudd eithrio dros dro arno a'r dyddiad pan fydd y rhybudd yn peidio â bod mewn grym;
(e) gwybodaeth gryno ar unrhyw fater yn ymwneud â thrwyddedu'r HMO neu'r tŷ sydd wedi cael ei gyfeirio at dribiwnlys eiddo preswyl neu at y Tribiwnlys Tiroedd; ac
(f) gwybodaeth gryno ar unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlysoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (e) sy'n ymwneud â'r HMO neu'r tŷ trwyddedig, ynghyd â'r cyfeirnod a roddwyd i'r achos gan y tribiwnlys.
Cofrestrau o orchmynion rheoli
13.
—(1) Mae'r manylion a ganlyn wedi eu rhagnodi ar gyfer pob cofnod mewn cofrestr a sefydlwyd ac sy'n cael ei chynnal o dan adran 232(1)(c) o'r Ddeddf o ran gorchymyn rheoli a wneir o dan adran 102 neu 113 o'r Ddeddf—
(a) cyfeiriad yr HMO neu'r tŷ y mae'r gorchymyn yn ymwneud ag ef ac unrhyw gyfeirnod a roddwyd iddo gan yr awdurdod tai lleol;
(b) disgrifiad byr o'r HMO neu'r tŷ;
(c) y dyddiad pryd y daw'r gorchymyn i rym;
(ch) crynodeb o'r rhesymau dros wneud y gorchymyn;
(d) crynodeb o delerau'r gorchymyn a'r math o orchymyn a wnaed;
(dd) gwybodaeth gryno ar unrhyw gais yn ymwneud â'r HMO neu'r tŷ sydd wedi cael ei wneud i dribiwnlys eiddo preswyl neu i'r Tribiwnlys Tiroedd; ac
(e) gwybodaeth gryno ar unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlysoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (dd) sy'n ymwneud â'r HMO neu'r tŷ trwyddedig, ynghyd â'r cyfeirnod a roddwyd i'r achos gan y tribiwnlys.
(2) Mae'r manylion ychwanegol a ganlyn wedi eu rhagnodi ar gyfer pob cofnod mewn cofrestr a sefydlwyd ac sy'n cael ei chynnal o dan adran 232(1)(c) o'r Ddeddf o ran gorchymyn rheoli a wneir o dan adran 102 neu 113 o'r Ddeddf—
(3) Mae'r manylion a ganlyn wedi eu rhagnodi ar gyfer pob cofnod mewn cofrestr a sefydlwyd ac sy'n cael ei chynnal o dan adran 232(1)(c) o'r Ddeddf o ran gorchymyn rheoli annedd wag a wneir o dan adran 113(1) neu 136(1) neu (2) o'r Ddeddf—
(a) cyfeiriad yr annedd[12] y mae'r gorchymyn yn ymwneud ag ef ac unrhyw gyfeirnod a roddwyd iddo gan yr awdurdod tai lleol;
(b) disgrifiad byr o'r annedd;
(c) y dyddiad pryd y daw'r gorchymyn i rym;
(ch) crynodeb o'r rhesymau dros wneud y gorchymyn;
(d) crynodeb o delerau'r gorchymyn;
(dd) gwybodaeth gryno ar unrhyw fater yn ymwneud â'r annedd sydd wedi cael ei wneud i dribiwnlys eiddo preswyl neu i'r Tribiwnlys Tiroedd; ac
(e) gwybodaeth gryno ar unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlysoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (dd) sy'n ymwneud â'r annedd, ynghyd â'r cyfeirnod a roddwyd i'r achos gan y tribiwnlys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[13]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mehefin 2006
ATODLEN 1Rheoliad 6(1)
ADEILADAU NAD YDYNT YN HMOS AT UNRHYW DDIBEN YN Y DDEDDF (AC EITHRIO RHAN 1)
Y deddfiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 6(1) yw—
(a) adrannau 87, 87A, 87B, 87C ac 87D o Ddeddf Plant 1989[14];
(b) adran 43(4) o Ddeddf Carcharau 1952[15];
(c) Adran 34 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002[16];
(ch) Rheolau Canolfannau Hyfforddi Diogel 1998[17];
(d) Rheolau Carcharau 1999[18];
(dd) Rheolau Sefydliad Troseddwyr Ifanc 2000[19];
(e) Rheolau Canolfan Gadw 2001[20];
(f) Rheoliadau Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys (Mangreoedd a Gymeradwyir) 2001 [21];
(ff) Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[22];
(g) Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002[23]); ac
(ng) Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003[24]).
ATODLEN 2Rheoliad 7(1), (2) a (3)
CYNNWYS CEISIADAU O DAN ADRANNAU 63 AC 87 O'R DDEDDF
1.
Ffurf y datganiad a grybwyllir yn rheoliad 7(1) yw:
"
Rhaid i chi roi gwybod yn ysgrifenedig i bersonau penodol eich bod wedi gwneud y cais hwn neu roi copi ohono iddynt. Y personau y mae'n angenrheidiol iddynt wybod amdano yw—
Unrhyw forgeisai ar yr eiddo sydd i'w drwyddedu
Unrhyw berchennog ar y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef (os nad chi yw hwnnw) h.y. y rhydd-ddeiliad ac unrhyw brif brydleswyr y gwyddoch amdanynt
Unrhyw berson arall sy'n denant neu'n ddeiliad prydles hir ar yr eiddo neu ar unrhyw ran ohono (gan gynnwys unrhyw fflat) y gwyddoch amdano ag eithrio tenant statudol neu denant arall sydd â'i brydles neu ei denantiaeth am lai na thair blynedd (gan gynnwys tenantiaeth cyfnod)
Deiliad arfaethedig y drwydded (os nad chi yw hwnnw)
Yr asiant rheoli arfaethedig (os oes un) (os nad chi yw hwnnw)
Unrhyw berson nad yw wedi cytuno i ymrwymo i unrhyw amodau mewn trwydded os rhoddir un.
Rhaid i chi ddweud wrth bob un o'r personau hyn—
Eich enw, eich cyfeiriad, eich Rhif ffôn a'ch cyfeiriad e-bost neu'ch Rhif ffacs (os oes gennych un)
Enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost neu rif ffacs (os oes un) deiliad arfaethedig y drwydded (os nad chi fydd hwnnw)
P'un ai cais am drwydded HMO o dan Ran 2 yntau cais am drwydded tŷ o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 2004 yw hwn
Cyfeiriad yr eiddo y mae'r cais yn ymwneud ag ef
Enw a chyfeiriad yr awdurdod tai lleol y bydd y cais yn cael ei wneud iddo
Y dyddiad y cyflwynir y cais arno.".
2.
—(1) Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 7(2)(a) yw—
(a) enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost—
(i) y ceisydd;
(ii) deiliad arfaethedig y drwydded;
(iii) y person sy'n rheoli'r HMO neu'r tŷ;
(iv) y person sydd â rheolaeth o'r HMO neu'r tŷ; a
(v) unrhyw berson sydd wedi cytuno i ymrwymo i amod a geir yn y drwydded;
(b) cyfeiriad yr HMO neu'r tŷ y gwneir y cais amdano;
(c) brasamcan o gyfnod gwreiddiol adeiladu'r HMO neu'r tŷ (gan ddefnyddio'r categorïau cyn 1919, 1919-45, 1945-64, 1965-80 ac ar ôl 1980);
(ch) math yr HMO neu'r tŷ y gwneir y cais amdano, gan gyfeirio at un o'r categorïau a ganlyn—
(i) tŷ mewn meddiannaeth unigol;
(ii) tŷ mewn amlfeddiannaeth;
(iii) fflat mewn meddiannaeth unigol;
(iv) fflat mewn amlfeddiannaeth;
(v) tŷ a droswyd yn fflatiau hunangynhaliol ac nad yw'n cynnwys dim ond fflatiau o'r fath;
(vi) bloc o fflatiau a adeiladwyd yn bwrpasol; neu
(vii) arall;
(d) manylion HMOs eraill neu dai eraill sydd wedi eu trwyddedu o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf y mae deiliad arfaethedig y drwydded yn dal trwydded iddynt p'un ai a ydynt yn ardal yr awdurdod tai lleol y gwneir y cais iddo neu yn ardal unrhyw awdurdod tai lleol arall;
(dd) yr wybodaeth a ganlyn ynglŷn â'r HMO neu'r tŷ y gwneir y cais amdano—
(i) nifer y lloriau sy'n ffurfio'r HMO neu'r tŷ ac ar ba lefelau y mae'r lloriau hynny;
(ii) nifer yr unedau gosod ar wahân;
(iii) nifer yr ystafelloedd preswyliadwy (ac eithrio ceginau);
(iv) nifer yr ystafelloedd ymolchi a'r ystafelloedd cawod;
(v) nifer y toiledau a'r basynau ymolchi;
(vi) nifer y ceginau;
(vii) nifer y sinciau;
(viii) nifer yr aelwydydd sy'n meddiannu'r HMO neu'r tŷ;
(ix) nifer y bobl sy'n meddiannu'r HMO neu'r tŷ;
(x) manylion ynglŷn â'r offer diogelu rhag tân, gan gynnwys nifer a lleoliadau larymau tân;
(xi) manylion ynglŷn â llwybrau dianc rhag tân a hyfforddiant arall diogelu rhag tân a roddir i feddiannwyr;
(xii) datganiad bod y dodrefn a ddarperir o dan delerau unrhyw denantiaeth neu drwydded yn yr HMO neu'r tŷ yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion diogelwch a geir mewn unrhyw ddeddfiad; ac
(xiii) datganiad bod unrhyw offer nwy yn yr HMO neu'r tŷ yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion diogelwch a geir mewn unrhyw ddeddfiad.
3.
—(1) Yr wybodaeth a grybwyllir yn rheoliad 7(2)(b) yw—
(a) manylion o unrhyw droseddau heb eu disbyddu a all fod yn berthnasol i ffitrwydd deiliad arfaethedig y drwydded i ddal trwydded, neu i ffitrwydd y rheolwr arfaethedig i reoli'r HMO neu'r tŷ, ac, yn benodol, unrhyw gollfarn o'r fath am unrhyw drosedd yn ymwneud â thwyll neu anonestrwydd o fath arall neu drais neu gyffuriau neu unrhyw drosedd a restrir yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003[25];
(b) manylion o unrhyw ddyfarniad gan lys neu dribiwnlys o gamwahaniaethu anghyfreithlon gan ddeiliad arfaethedig y drwydded neu gan y rheolwr arfaethedig ar sail rhyw, lliw, hil, tras ethnig neu genedligol neu anabledd wrth redeg unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad ag ef;
(c) manylion o unrhyw doriad gan ddeiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig o unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud â thai, iechyd y cyhoedd, iechyd yr amgylchedd neu gyfraith landlord a thenant sydd wedi arwain at achos sifil neu achos troseddol sydd wedi arwain at wneud dyfarniad yn erbyn deiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig;
(ch) gwybodaeth am unrhyw HMO neu dŷ y mae deiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig yn berchen arno neu wedi bod yn berchen arno neu'n ei reoli neu wedi bod yn ei reoli ac sydd wedi bod yn ddarostyngedig i—
(i) gorchymyn rheolaeth dan adran 379 o Ddeddf Tai 1985[26] yn y pum mlynedd yn union cyn dyddiad y cais; neu
(ii) unrhyw weithredu gorfodaeth priodol a ddisgrifir yn adran 5(2) o'r Ddeddf;
(d) gwybodaeth am unrhyw HMO neu dŷ y mae deiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig yn berchen arno neu wedi bod yn berchen arno neu'n ei reoli neu wedi bod yn ei reoli y gwrthododd awdurdod tai lleol roi trwydded iddo o dan adran 2 neu 3 o'r Ddeddf, neu y dirymodd awdurdod tai lleol drwydded arno o ganlyniad i dorri amodau'r drwydded gan ddeiliad y drwydded; ac
(dd) gwybodaeth am unrhyw HMO neu dŷ y mae deiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig yn berchen arno neu wedi bod yn berchen arno neu'n ei reoli neu wedi bod yn ei reoli a fu'n ddarostyngedig i orchymyn rheoli terfynol o dan y Ddeddf.
4.
Ffurf y datganiad a grybwyllir yn rheoliad 7(3)(a) yw—
Yr wyf/yr ydym yn datgan bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais hwn yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth/ein gwybodaeth. Yr wyf/yr ydym yn deall fy mod/ein bod yn cyflawni trosedd os rhoddaf/os rhoddwn unrhyw wybodaeth i awdurdod tai lleol mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau o dan unrhyw un o Rannau 1 i 4 o Ddeddf Tai 2004 sydd yn anwir neu'n gamarweiniol ac y gwn/y gwyddom ei fod yn anwir neu'n gamarweiniol neu fy mod/ein bod yn ddi-hid p'un ai a yw'n anwir neu'n gamarweiniol ai peidio.
Yr wyf/yr ydym yn datgan fy mod/ein bod wedi cyflwyno hysbysiad o'r cais hwn i'r personau a ganlyn, sef yr unig bersonau y gwn/y gwyddom amdanynt ei bod yn ofynnol eu hysbysu fy mod/ein bod wedi gwneud y cais hwn:
Enw
|
Cyfeiriad
|
Disgrifiad o ddiddordeb y person yn yr eiddo neu yn y cais
|
Dyddiad cyflwyno
|
|
|
|
|
ATODLEN 3Rheoliad 8
SAFONAU RHAGNODEDIG AR GYFER PENDERFYNU AR ADDASRWYDD HMO I'W FEDDIANNU GAN UCHAFSWM NIFER PENODOL O AELWYDYDD NEU O BERSONAU
Gwresogi
1.
Rhaid i bob uned o lety byw mewn HMO gynnwys cyfarpar sy'n gallu cynhesu'r fan yn ddigonol.
Cyfleusterau ymolchi
2.
—(1) Os nad yw'r cyfan neu rai o'r unedau yn y llety i fyw mewn HMO yn cynnwys cyfleusterau bathio a thoiled at ddefnydd unigol pob aelwyd unigol—
(a) os oes pedwar neu lai o feddiannwyr yn rhannu'r cyfleusterau hynny mae'n rhaid bod yno o leiaf un ystafell ymolchi gyda bath sefydlog neu gawod a thoiled (a all fod wedi ei leoli yn yr ystafell ymolchi);
(b) os oes pump neu fwy o feddiannwyr yn rhannu'r cyfleusterau hynny mae'n rhaid bod yno—
(i) un toiled ar wahân gyda basyn golchi dwylo gyda chefnfwrdd priodol ar gyfer pob pum meddiannydd sy'n rhannu; a
(ii) o leiaf un ystafell ymolchi (a gaiff gynnwys toiled) sydd â bath sefydlog neu gawod ar gyfer pob pum meddiannydd sy'n rhannu.
(2) Rhaid i bob bath, cawod a basynau golchi dwylo mewn HMO fod wedi ei gyfarparu â thapiau sy'n darparu cyflenwad digonol o ddŵr oer a dŵr poeth yn barhaus.
(3) Rhaid i bob ystafell ymolchi mewn HMO fod wedi ei chynhesu a'i hawyru yn ddigonol.
(4) Rhaid i bob ystafell ymolchi a thoiled mewn HMO fod o faint a dyluniad addas.
(5) Rhaid i bob bath, toiled a basyn golchi dwylo mewn HMO fod yn addas at y diben.
(6) Rhaid i bob ystafell ymolchi a thoiled mewn HMO fod wedi ei leoli'n addas yn y llety i fyw yn yr HMO neu mewn perthynas ag ef.
Ceginau
3.
Pan fo'r cyfan neu rai o'r unedau byw o fewn yr HMO heb fod yn cynnwys unrhyw gyfleusterau ar gyfer coginio bwyd—
(a) mae'n rhaid bod yna gegin, mewn lleoliad addas mewn perthynas â'r llety i fyw, a bod ei dyluniad, ei maint a'r offer sydd ynddi yn gyfryw â'u bod yn ddigonol i alluogi'r rheini sy'n rhannu'r cyfleusterau i storio, i baratoi ac i goginio bwyd;
(b) mae'n rhaid i'r offer a ganlyn fod yn y gegin, a rhaid iddo fod yn addas at y diben a rhaid bod digon ohono ar gyfer nifer y rhai sy'n rhannu'r cyfleusterau—
(i) sinciau â byrddau traenio;
(ii) cyflenwad digonol o ddŵr oer a dŵr poeth parhaus i bob sinc a gyflenwir;
(iii) gosodiadau neu offer ar gyfer coginio bwyd;
(iv) socedi trydan;
(v) arwynebeddau gwaith ar gyfer paratoi bwyd;
(vi) cypyrddau ar gyfer storio bwyd neu daclau cegin neu daclau coginio;
(vii) oergelloedd gydag adran rewi ddigonol (neu, os nad yw'r adran rewi yn ddigonol, digon o rewgelloedd ar wahân);
(viii) cyfleusterau priodol i gael gwared â gwastraff; a
(ix) ffaniau echdynnu priodol, blancedi diffodd tân a drysau rhag tân.
Unedau o lefydd i fyw lle nad yw'r amwynderau sylfaenol yn cael eu rhannu
4.
—(1) Pan fo uned o le i fyw yn cynnwys cyfleusterau cegin at ddefnydd aelwyd unigol yn unig, ac nad oes unrhyw gyfleusterau cegin eraill ar gael i'r aelwyd honno, mae'n rhaid darparu yn yr uned honno—
(a) teclynnau ac offer digonol ar gyfer coginio bwyd;
(b) sinc ag iddi gyflenwad digonol o ddŵr oer a dŵr poeth parhaus;
(c) arwynebeddau gwaith ar gyfer paratoi bwyd;
(ch) digon o socedi trydan;
(d) cwpwrdd i storio taclau cegin a llestri; ac
(dd) oergell.
(2) Os nad oes yna gyfleusterau ymolchi digonol sy'n cael eu rhannu yn cael eu darparu mewn uned o lety i fyw fel a ddisgrifir ym mharagraff 2, rhaid darparu ystafell wedi'i dylunio a'i hawyru'n ddigonol gyda thoiled a bath neu gawod sefydlog sy'n cyflenwi digon o ddŵr oer a dŵr poeth parhaus at ddefnydd meddiannwyr yr uned honno'n unig naill ai—
(a) o fewn y llety i fyw; neu
(b) yn rhesymol o agos i'r llety i fyw.
Cyfleusterau rhagofalon tân
5.
Rhaid darparu cyfleusterau ac offer rhagofalon tân priodol o'r math, o'r nifer ac yn y lleoliadau lle'r ystyrir bod eu hangen.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau parthed nifer o faterion amrywiol sy'n ymwneud â darpariaethau'r Ddeddf Tai ("y Ddeddf") sef: Rhan 2 (trwyddedu HMOs), Rhan 3 (trwyddedu dethol), Penodau 1 a 2 o Ran 4 (gorchmynion rheoli) ac adran 254 (ystyr HMO) o'r Ddeddf. Maent yn—
pennu'r amgylchiadau pan fo personau i gael eu hystyried yn ffurfio aelwyd unigol at ddibenion penderfynu a yw adeilad yn HMO o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau yn adran 254 o'r Ddeddf (rheoliadau 3 a 4);
darparu bod gweithwyr mudol, gweithwyr tymhorol a cheiswyr lloches i gael eu trin fel petaent yn meddiannu mangre benodol fel eu hunig breswylfa neu eu prif breswylfa (rheoliad 5);
pennu disgrifiad o adeiladau nad ydynt yn HMOs at ddibenion y Ddeddf (ac eithrio Rhan 1) (rheoliad 6 ac Atodlen 1);
gwneud darpariaeth ynglŷn â cheisiadau am drwyddedau o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf, gan gynnwys yr wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi gyda chais (rheoliad 7 ac Atodlen 2);
pennu'r safonau sydd i'w cymhwyso wrth benderfynu ar addasrwydd tŷ ar gyfer amlfeddiannaeth i'w drwyddedu o dan Ran 2 o'r Ddeddf (rheoliad 8 ac Atodlen 3);
pennu'r dull y mae'n rhaid i ddynodiadau o ardaloedd o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf, a dirymiadau o ddynodiadau o'r fath, gael eu cyhoeddi (rheoliadau 9 a 10); ac yn
pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn y cofrestrau sy'n cael eu dal gan awdurdodau tai lleol o drwyddedau a roddir o dan Adran 2 neu 3, ac o hysbysiadau eithrio dros dro sy'n eithrio tŷ rhag drwyddedaeth, ac o orchmynion rheolaeth (rheoliadau 11, 12 a 13).
Mae arfarniad rheoliadol o'r effeithiau y bydd y Rheoliadau hyn yn eu cael ar gael oddi wrth Yr Uned Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn: 02920825111; e-bost [email protected]).
Notes:
[1]
2004 p.34. Mae'r pwerau a roddir gan adrannau 59(2), (3) a (4), 60(6), 63(5) a (6), 65(3) a (4), 83(2), (3) a (4), 84(6), 87(5) a (6), 232(3) a (7), 250(2), 258(2)(b), (5) a (6), 259(2)(c) o'r Ddeddf a pharagraffau 3 a 6(1)(c) o Atodlen 14 iddi yn arferadwy, o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o 'appropriate national authority' yn adran 261(1).back
[2]
Am ystyr "HMO" gweler adrannau 77 a 254 i 259 o'r Ddeddf.back
[3]
Am ystyr tŷ ("house") gweler adran 99 o'r Ddeddf.back
[4]
Gweler adran 79(2) o'r Ddeddf.back
[5]
O.S. 2004/1756 (Cy.188).back
[6]
O.S. 2003/237 (Cy.35).back
[7]
1999 p.33.back
[8]
Adran o fewn y Swyddfa Gartref yw'r Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches.back
[9]
O.J.L.257, 19 Hydref 1968, fel y'i diwygiwyd gan EEC 312/76 (O.J. L.39, 14 Chwefror 1976) ac EEC 2434/92 (O.J.L.245, 26 Awst 1992).back
[10]
1971 p.77.back
[11]
Am amodau trwydded gweler adrannau 67 a 90 o'r Ddeddf, ac, yn benodol, adrannau 67(5) a 90(6).back
[12]
Am ystyr annedd (""dwelling"") gweler adran 132(4)(a) a (b) o'r Ddeddf.back
[13]
1998 c.38.back
[14]
1989 p.41.back
[15]
1952 p.52.back
[16]
2002 p.41.back
[17]
O.S. 1998/472, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/3005.back
[18]
O.S. 1999/728, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1794, 2000/2641, 2002/2116, 2003/3301, 2005/869 a 2005/3437.back
[19]
O.S. 2000/3371, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/2117, 2005/897 a 2005/3438.back
[20]
O.S. 2001/238. Mae adran 66(4) o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 yn darparu bod y cyfeiriad at ganolfan gadw i'w ddarllen fel cyfeiriad at ganolfan symud ymaith fel y'i diffinir yn Rhan VIII o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.back
[21]
O.S. 2001/850.back
[22]
O.S. 2002/324 (Cy.37) wedi'i ddiwygio gan O.S. 2002/2622 (Cy.254), 2002/2935 (Cy.277), 2003/947 (Cy.128), 2003/1004 (Cy.144), 2004/1016 (Cy.133), 2004/1314 (Cy.139), 2004/1756 (Cy.188), 2004/2414 (Cy.222), 2005/1541, 2005/2929 (Cy.214) a 2005/3302 (Cy.256).back
[23]
O.S. 2002/327 (Cy.40) wedi'i ddiwygio gan O.S. 2002/2622 (Cy.254), 2005/774 (Cy.64), 2005/1541 and 2005/2929 (Cy.214).back
[24]
O.S. 2003/781 (Cy.92) wedi'i ddiwygio gan O.S. 2004/1016 (Cy.113), 2005/1541 a 2005/2929 (Cy. 214).back
[25]
2003 p.42.back
[26]
1985 (p.68).back
English version
ISBN
0 11 091369 8
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
10 July 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061715w.html