BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 1717 (Cy.179)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061717w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1717 (Cy.179)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 28 Mehefin 2006 
  Yn dod i rym 16 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) (Diwygio) 2006. Deuant i rym ar 16 Hydref 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Diwygio'r prif Reoliadau
     3. —(1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â pharagraffau (2) a (3).

    (2) Yn lle pob cyfeiriad at "the Countryside Council" rhodder "the National Assembly".

    (3) Yn rheoliad 2(1)—

Trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau
     4. Mae pob hawl a rhwymedigaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gytundeb yr ymrwymwyd ynddo yn unol â rheoliad 3 o'r prif Rheoliadau, yr oedd gan y Cyngor Cefn Gwlad hawl iddi neu oedd yn ddarostyngedig iddi yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyfeiriadau at ddarpariaethau â Rhif yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750 / 1999
    
5. Dylid dehongli pob cyfeiriad yn y prif Reoliadau at ddarpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/ 1999[10] yn unol ag Erthygl 74 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/ 2004.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mehefin 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1176) "y prif Reoliadau", er mwyn rhoi effaith i drosglwyddo cyfrifoldeb am weinyddu cynllun amaeth-amgylchedd Tir Gofal (Land in Care) "Cynllun Tir Gofal", oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd trosglwyddo'r cyfrifoldeb yn effeithiol o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Sefydlwyd y cynllun Tir Gofal o dan y prif Reoliadau ac mae bellach yn gweithredu o fewn fframwaith Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257 / 1999 ar gymorth i ddatblygu gwledig o dan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (O.J. L160, 26.6.1999, t.80) ("Rheoliad y Cyngor") a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817 / 2004 gan osod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (O.J. L231, 30.6.2004, t.24).

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith i drosglwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw drwy ddarparu bod pob cyfeiriad at "Countryside Council" yn y prif Reoliadau yn cael eu disodli gan "the National Assembly" (Rheoliad 3(2)).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau ynghylch cytundebau'r cynllun Tir Gofal yr ymrwymwyd ynddynt gan y Cyngor Cefn Gwlad o dan y prif Reoliadau, i'r Cynulliad Cenedlaethol (Rheoliad 4).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn diweddaru'r cyfeiriadau yn y prif Reoliadau at offerynnau Cymunedol penodol a ddiwygiwyd neu a ddisodlwyd ers i'r prif Reoliadau ddod i rym. (Rheoliadau 3 (3)(a) a 3(3)(b).

Gwneir mân ddarpariaethau a diwygiadau pellach gan Reoliad 3(3)(c), 3(3)(ch) a Rheoliad 5.

Paratowyd arfarniad rheoliadol o ran y Rheoliadau hyn sydd ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2005/2766.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1999/1176.back

[4] 1990 p.43.back

[5] O.J. Rhif L231, 30/6/2004, t.24.back

[6] O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.70.back

[7] O.J. Rhif L090, 27.3.2004, t.1.back

[8] O.J. Rhif L091, 30.3.2004, t.1.back

[9] O.J. Rhif L379, 24.12.2004, t.1.back

[10] O.J. Rhif L214, 13.8.1999, t.31.back

[11] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091371 X


 © Crown copyright 2006

Prepared 10 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061717w.html