BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 1749 (Cy.181)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061749w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1749 (Cy.181)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 4 Gorffennaf 2006 
  Yn dod i rym 5 Gorffennaf 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi[1].

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Rheoliadau Optegol" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[
2].

Diwygiadau i'r Rheoliadau Optegol
     2. Yn rheoliad 19 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)—

Diwygiadau i'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol
    
3. —(1) Yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Optegol (codau llythrennau talebau a gwerth taleb ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth tabl ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir ar ei gyfer yng ngholofn (2) o'r tabl isod yn ei le.

(1) (2)
Swm blaenorol Swm newydd
£32.90 £33.70
£50.00 £51.20
£73.10 £74.90
£165.00 £169.10
£56.80 £58.20
£72.20 £74.00
£93.60 £95.90
£181.40 £185.90
£169.00 £173.20
£48.00 £49.20

    (2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Optegol (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bychain ac arbennig a theclynnau cymhleth)—

    (3) Yn lle Atodlen 3 i'r Rheoliadau Optegol (gwerth talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 newydd a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Darpariaeth Drosiannol
    
4. Dim ond o ran taleb a gafodd ei derbyn neu ei defnyddio yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol ar 5 Gorffennaf 2006 neu ar ôl hynny y bydd y symiau newydd a fewnosodir gan reoliadau 2 a 3 yn gymwys.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Gorffennaf 2006



ATODLEN 3
Rheoliad (3)(3)


Atodlen 3 i'r Rheoliadau Optegol fel y'i hamnewidir gan y Rheoliadau hyn









EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("y Rheoliadau Optegol") sy'n darparu ar gyfer gwneud taliadau drwy gyfrwng system dalebau o ran costau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 19 i gynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at gost ailosod un lens gyffwrdd ac i gynyddu uchafswm y cyfraniad drwy daleb tuag at gost trwsio ffrâm.

Mae rheoliad 3 a'r Atodlen yn diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir at drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.5% yw graddfa'r cynnydd yn y talebau yn y Rheoliadau hyn.

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gosod cost ar fusnes.


Notes:

[1] 1977 p.49.back

[2] O.S. 1997/818, fel y'i ddiwygiwyd.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091379 5


 © Crown copyright 2006

Prepared 12 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061749w.html